Y data a'r dadansoddiad diweddaraf ar dlodi yng Nghymru.
Yn y casgliad hwn
Mesurau tlodi
Tlodi incwm cymharol
Ystadegau ar bobl mewn aelwyd lle mae incwm yn llai na 60% o ganolrif y DU. Dadansoddir yn ôl nodweddion megis oedran, statws economaidd a math o deulu.
Tlodi parhaus
Ystadegau ar bobl mewn tlodi parhaus yng Nghymru, hynny yw, mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf 3 allan o’r 4 blynedd yn olynol.
Amddifadedd materol ac incwm isel
Data ar blant mewn amddifadedd materol ac incwm isel a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru, yn seiliedig ar Arolwg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae amddifadedd materol yn cyfeirio at anallu hunan-gofnodedig o unigolion neu gartrefi i fforddio nwyddau a gweithgareddau penodol.
Arolwg Cenedlaethol Cymru
Data sy'n cwmpasu lles a chyllid gan gynnwys amddifadedd materol, budd-daliadau, dyled a thlodi bwyd.
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yn graddio ardaloedd bach o Gymru yn ôl amddifadedd. Cyfrifir MALlC o wyth maes (neu fath) gwahanol o amddifadedd, pob un wedi'i lunio o ystod o wahanol ddangosyddion, sydd hefyd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ardaloedd bach a daearyddiaethau mwy.
Tlodi tanwydd
Amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd nad ydynt yn gallu fforddio cadw eu cartref wedi’i wresogi'n ddigonol, ar gyfer awdurdodau lleol.