Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd yr ystadegau ar y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru eu cyhoeddi gyntaf ar 14 Medi 2021. Cafodd yr ystadegau eu diwygio ar 17 Chwefror 2022 yn dilyn newid i’r fethodoleg oedd yn cyfrifo’r ganran o’r boblogaeth oedd yn gallu siarad Cymraeg. Mae hyn wedi golygu diwygiad bychain i’r ganran o’r boblogaeth tair oed neu hŷn sydd yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl ar gyfer 2019-20, a rhai diwygiadau i’r data ar gyfer 2013-15, mae’r holl ddiwygiadau wedi eu nodi gyda (r). Mae gwybodaeth pellach ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Mae’r dadansoddiad yn adrodd ynghylch pa mor aml y mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith, eu gallu yn yr iaith a phryd y bu iddynt ddechrau dysgu siarad yr iaith. Mae hefyd yn cynnwys data ar gyfer y dangosydd cenedlaethol am y defnydd o’r Gymraeg.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am oblygiadau hyn, a’r cyfyngiadau ar y data o’r herwydd (gan gynnwys diffyg amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol), yn yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi gweddill canfyddiadau’r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.

Prif bwyntiau

O’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru:

  • roedd 10% yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig eiriau, yr un ganran ag yn 2013-15 (Dangosydd Cenedlaethol)
  • roedd 10%(r) yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, gostyngiad o un pwynt canran ers 2013-15

O’r siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn yng Nghymru:

  • roedd dros hanner (56%) yn siarad yr iaith bob dydd (waeth beth fo lefelau eu rhuglder) o’i gymharu â 53% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, a bron i un ym mhob pump yn siarad yr iaith bob wythnos (19%, union yr un ganran ag yn 2013-15); roedd y cyfrannau hyn yn amrywio yn ôl oedran, ac ar ei uchaf ar gyfer y rhai 3 i 15 oed ac ar ei isaf ar gyfer y rhai 16 i 29 oed
  • roedd ychydig llai na’r hanner (48%) yn ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg, o’i gymharu â 47% yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, gyda’r ganran yn cynyddu yn ôl oedran, ar ei uchaf ar gyfer y rhai 65 oed neu hŷn ac ar ei isaf ar gyfer y rhai 3 i 15 oed
  • bu i 43% o siaradwyr Cymraeg ddechrau siarad yr iaith gartref yn blant ifanc, union yr un ganran ag yn 2013-15
  • mae dros ddau o bob tri yn cytuno (yn gryf neu’n tueddu i gytuno) bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o bwy ydyn nhw

Dangosyddion cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i ddyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg yn ystod yr un cyfnod.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae un o saith nod llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ymwneud â gweld y Gymraeg yn ffynnu. Mae ein cynnydd tuag at y nod hwn fel cenedl yn cael ei fesur gan ddau ddangosydd cenedlaethol:

  • Y ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn feunyddiol ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg
  • Y ganran o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg

Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, roedd 10% o bobl tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau (noder nad yw siaradwyr Cymraeg sy’n gallu dweud ychydig eiriau yn unig wedi’u cynnwys yma, ni waeth pa mor aml maen nhw’n siarad yr iaith). Mae hyn yr un ganran ag yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.

Mae Cymraeg 2050 yn nodi’n glir mai’r cyfrifiad yw’r ffynhonnell awdurdodol ar gyfer nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a dyma y byddwn yn ei ddefnyddio i fesur cynnydd yn erbyn yr uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nododd Cyfrifiad 2011 bod 19.0% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, neu oddeutu 562,000 o bobl. Cafodd Cyfrifiad 2021 ei gynnal yng Nghymru ym mis Mawrth 2021 ac mae disgwyl i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gyhoeddi holl ganfyddiadau’r Cyfrifiad, gan gynnwys am allu’r boblogaeth yn y Gymraeg, rhwng gwanwyn 2022 a gwanwyn 2023.

Er mai diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw gwybod rhagor am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith, mae hefyd yn cynnig amcangyfrif arall ar gyfer canran y siaradwyr Cymraeg. Yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, roedd 22% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 23%(r) yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Mae amcangyfrifon diweddaraf yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben mis Mawrth 2021 yn nodi bod 29.1% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Mae nifer o resymau posibl pam fod gwahaniaeth rhwng amcangyfrifon y cyfrifiad ac amcangyfrifon arolygon aelwydydd, gan gynnwys yr Arolwg Defnydd Iaith. Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad ac Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ar gael mewn bwletin sy’n rhoi canlyniadau manylach ar gyfer y Gymraeg yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth o 2001 i 2018.

Byddwn yn edrych ar y gwahaniaethau hyn, a chanfyddiadau llawn Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, mewn rhagor o fanylder mewn bwletinau ystadegol sydd i ddod.

Pa mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg?

Gofynnwyd i oedolion a plant a phobl ifanc tair oed neu hŷn pa mor aml maent yn siarad Cymraeg. Ynghyd â gwybodaeth am allu pobl i siarad Cymraeg, mae gwybodaeth am ba mor aml maent yn ei siarad yn cyfrannu at y darlun o hyfywedd yr iaith.

Mae’r siart isod yn dangos pa mor aml mae’r boblogaeth gyfan yn siarad Cymraeg, waeth beth fo lefelau eu rhuglder. Noder bod hyn ychydig yn wahanol i’r dangosydd cenedlaethol uchod, sydd ddim ond yn cynnwys y siaradwyr Cymraeg hynny sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl, sy'n gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg a’r rhai sy'n gallu siarad ychydig o Gymraeg.

Image
Mae'r siart gylch hon yn dangos bod 12% o'r boblogaeth tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd, 4% yn siarad Cymraeg bob wythnos, 4% yn llai aml a 1% byth yn siarad Cymraeg, er eu bod yn gallu. Ni all 78% o'r boblogaeth siarad Cymraeg, yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Roedd 12% o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae hyn yn cynrychioli tua 361,600 o bobl. Mae hyn yn dangos dim newid o’i gymharu ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.(r)

Arhosodd y ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob wythnos a’r rheini nad ydynt byth yn siarad Cymraeg yn gyson rhwng 2013-15 a 2019-20, yn 4% ac 1% yn y drefn honno. Bu gostyngiad o 1 pwynt canran yn y ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn llai aml na bob wythnos i 4% rhwng 2013-15 a 2019-20.

Image
Bu cwymp mawr yng nghanran y siaradwyr Cymraeg sy'n siarad Cymraeg bob dydd, o 63% yn 2004-06 i 53% yn 2013-15. Fodd bynnag, mae hyn wedi gweld cynnydd i 56% yn y cyfnod diweddaraf. Mae'r patrwm o ba mor aml mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith dros amser wedi bod yn weddol gyson yn y grwpiau sy'n siarad Cymraeg bob wythnos neu'n llai aml, ond mae canran y rhai nad ydynt byth yn siarad Cymraeg wedi cynyddu o 3% i 6% ers 2004-06.

Roedd dros hanner y siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd, a bron un ym mhob pump yn siarad yr iaith bob wythnos yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, yn debyg iawn i Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Roedd ychydig dros un ym mhob ugain o siaradwyr Cymraeg byth yn siarad yr iaith, yr un peth ag yn 2013-15. Mae’r niferoedd hyn yn cynnwys yr holl ymatebwyr sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg ni waeth beth fo’u gallu, o’r siaradwyr rhugl i’r rhai sydd yn gallu dweud ychydig o eiriau yn unig. 

Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy’n siarad yr iaith bob dydd wedi amrywio rhwng yr arolygon defnydd iaith, gan ostwng o 63% yn 2004-06 i 53% yn 2013-15, ond gan gynyddu i 56% yn 2019-20.

Mae’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth hefyd yn casglu gwybodaeth am ba mor aml y mae siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith. Nododd yr arolwg ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben 31 Mawrth 2021 fod 54% o’r siaradwyr Cymraeg tair oed neu hŷn yn siarad Cymraeg bob dydd, 17% yn siarad Cymraeg bob wythnos, 24% yn siarad Cymraeg yn llai aml a 5% byth yn siarad yr iaith. Mae’r canrannau hyn yn weddol debyg i’r Arolygon Defnydd Iaith.

Image
Mae'r siart yn dangos bod bod y ganran a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn weddol gyson rhwng grwpiau oed hŷn (30 oed neu'n hŷn) gan amrywio rhwng 53% a 55%.

Roedd canran y siaradwyr Cymraeg a oedd yn siarad yr iaith bob dydd yn weddol gyson rhwng y grwpiau oedran hŷn gan amrywio rhwng 53% a 55%.

Roedd y ganran o siaradwyr Cymraeg 3 i 15 oed a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd gryn dipyn yn uwch nag unrhyw grŵp oedran arall, gydag ychydig dros ddau ymhob tri (67%) yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae hyn, mae’n debyg, yn adlewyrchu’r ffaith eu bod yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn yr ysgol.

Roedd  45% o’r rhai 16 i 29 mlwydd oed oedd yn siarad Cymraeg bob dydd, cynnydd o 5 pwynt canran ers 2013-15. Ni wyddom pam mae amlder siarad y Gymraeg yn is ymhlith y grŵp 16 i 29 oed o’i gymharu â defnydd grwpiau oedran eraill. Un rheswm posibl yw bod hwn yn oedran â newid mawr ym mywydau unigolion, ble mae pobl ifanc yn symud i ffwrdd i fyw oddi cartref o bosibl, ac yn dechrau ym myd gwaith ac felly yn symud mewn cylchoedd cymdeithasol gwahanol ac efallai mwy amrywiol, fel yn y brifysgol neu’r gweithle.

Beth yw lefelau rhuglder siaradwyr Cymraeg?

Gofynnwyd i oedolion a plant a phobl ifanc tair oed neu hŷn roi eu disgrifiad gorau o’u gallu i siarad Cymraeg. Mae’r wybodaeth am ruglder yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o allu’r boblogaeth i siarad Cymraeg, gan wahaniaethu rhwng lefelau gallu’r unigolion hynny i siarad Cymraeg.

Mae’n bosibl bod ymatebwyr wedi dehongli eu rhuglder yn y Gymraeg mewn amryw o ffyrdd wrth ateb y cwestiwn hwn. Mae’n debygol fod nifer o ffactorau wedi effeithio ar eu hatebion, gan gynnwys hyder a thuedd i gymharu gallu ieithyddol personol â gallu ieithyddol siaradwyr Cymraeg eraill o’u cwmpas. Mae’n bosibl bod dau berson â’r un gallu i siarad Cymraeg wedi ateb y cwestiwn hwn yn wahanol. Mae hon yn broblem gyffredinol mewn astudiaethau ymchwil o’r fath sy’n gofyn i unigolion ddehongli rhuglder eu hunain.

Mae’r siart isod yn dangos rhuglder y boblogaeth gyfan yn y Gymraeg.

Image
Mae'r siart gylch yn dangos bod 10% o'r boblogaeth tair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl, 4% yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg, 5% yn gallu siarad ychydig o Gymraeg a 2% yn gallu dweud ychydig o eiriau yn unig. Ni all 78% o'r boblogaeth siarad Cymraeg, yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Roedd 10%(r) o’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Roedd hyn yn cynrychioli tua 311,700 o bobl.  Roedd 11% arall o’r boblogaeth yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg ond ddim yn rhugl.

Mae canran y rhai a nododd eu bod yn rhugl wedi aros yn weddol gyson ers yr arolygon defnydd iaith diwethaf. Roedd 12% yn rhugl yn 2004-06 ac 11% yn 2013-15.

Image
Mae'r ganran o siaradwyr Cymraeg sy'n gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg wedi aros yn weddol gyson dros y cyfnod o 2004-2006 i 2019-20, yn 20%. Bu cynydd o 16% yn 2004-06 i 24% yn 2019-20 yn y ganran o siaradwyr Cymraeg sy'n gallu siarad ychydig o Gymraeg, a chynnydd o 4% i 8% yn y ganran sydd yn gallu dweud ychydig o eiriau yn unig dros yr un cyfnod.

Roedd 48% o siaradwyr Cymraeg yn ystyried eu hunain yn rhugl yn Gymraeg yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, tra bo 20% yn gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg.

Mae canran y siaradwyr Cymraeg rhugl wedi gostwng 10 pwynt canran rhwng 2004-06 a 2019-20, o 58% i 48%. Mae’r ganran sy’n gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg wedi aros yn weddol gyson ymhob arolwg defnydd iaith, gan gyfrif am oddeutu un ymhob pum siaradwr Cymraeg bob tro. Mae cynnydd wedi bod yng nghanran y siaradwyr Cymraeg sy’n nodi eu bod yn gallu siarad ychydig o Gymraeg ers 2004-06, gan godi o 16% i 24% yn 2019-20. Gwelwyd cynnydd o 4% i 8% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg sy’n gallu dweud ychydig eiriau yn unig.

Image
Mae canran y siaradwyr Cymraeg sy'n ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg yn cynyddu yn gyffredinol yn ôl grwpiau oedran. Y rhai 3 i 15 oed sydd yn dangos y ganran isaf o siaradwyr Cymraeg rhugl, yn 43%, a'r rhai 65 neu hŷn sy'n dangos y ganran uchaf, 58%.

Roedd canran y siaradwyr Cymraeg sy’n ystyried eu hunain yn rhugl yn y Gymraeg yn cynyddu yn ôl grwpiau oedran. Roedd canran y siaradwyr Cymraeg sy’n rhugl ar ei hisaf ymhlith y grŵp oedran 3 i 15 oed, gyda 43% yn nodi eu bod yn rhugl. Mae hyn yn gynnydd o 7 pwynt canran ers 2013-15. Roedd canran y siaradwyr Cymraeg sy’n rhugl ar ei huchaf ymhlith y grŵp oedran 65 oed neu hŷn, gyda bron i dri ymhob pump ohonynt yn rhugl.

Mae cyswllt clir rhwng amlder siarad y Gymraeg a rhuglder. Mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad yr iaith yn fwy aml na’r rheini nad ydynt yn rhugl. Roedd 85% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn siarad Cymraeg bob dydd yn 2019-20, o’i gymharu â 84% yn 2013-15. Roedd 30% o siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl yn siarad Cymraeg bob dydd yn 2019-20, o’i gymharu â 26% yn 2013-15.

Pryd wnaeth siaradwyr Cymraeg ddechrau dysgu siarad yr iaith?

Gofynnwyd i oedolion a phlant a phobl ifanc tair oed neu hŷn ynghylch pryd y gwnaethant ddechrau dysgu siarad Cymraeg.

Un o amcanion strategol Llywodraeth Cymru yw annog a chefnogi trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd. Un o nodau’r Llywodraeth wrth geisio cyflawni hynny yw annog rhieni a gofalwyr sydd yn siarad Cymraeg i ddefnyddio eu Cymraeg â’u plant (gweler y polisi Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd). Fel rhan o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion Cymru 2013, mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA), ffordd o gynllunio a chyflenwi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob cyfnod addysg a hyfforddiant.

Mae’r siart isod yn dangos pryd y dechreuodd siaradwyr Cymraeg ddysgu siarad yr iaith.

Image
Mae'r siart gylch yn dangos bod y mwyafrif, 43%, o siaradwyr Cymraeg wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref, fel plant ifanc. Bu i 20% ddechrau dysgu siarad Cymraeg yn yr ysgol feithrin, 20% arall yn yr ysgol gynradd, 6% yn yr ysgol uwchradd a dechreuodd 11% ddysgu siarad Cymraeg fel oedolyn yn ôl Arolwg Defnydd Iaith 2019-20

Mae’r siart uchod yn dangos data ar gyfer y siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc, yn yr ysgol, ac fel oedolion. Dysgodd 43% o siaradwyr Cymraeg siarad yr iaith gartref yn blant ifanc, 20% mewn ysgol feithrin neu ddarpariaeth gofal plant, 20% yn yr ysgol gynradd a 6% yn yr ysgol uwchradd. Roedd 11% o siaradwyr Cymraeg wedi dysgu’r iaith fel oedolion neu’n rhywle arall, er enghraifft, ar gwrs dysgu Cymraeg a drefnwyd ganddynt eu hunain neu drwy’r gwaith.

Image
Mae'n dangos bod y rhai 3 i 15 oed yn fwy tebygol o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol na'r rhai hŷn, a'r rhai 65 neu hŷn yn fwy tebygol o fod wedi dysgu'r iaith gartref yn blant ifanc na'r rhai ieuengaf.

Roedd amrywiaeth sylweddol o ran pryd y dechreuodd siaradwyr Cymraeg ddysgu i siarad yr iaith yn ôl oedran, gyda’r rhai 3 i 15 oed yn llawer llai tebygol na’r rhai 65 oed neu hŷn o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc. Roedd 31% o siaradwyr Cymraeg 3 i 15 oed wedi dysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc, o’i gymharu â 69% o siaradwyr Cymraeg 65 neu hŷn.

Roedd y rhai 3 i 15 oed yn llawer fwy tebygol o fod wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn yr ysgol na’r rhai 65 oed neu hŷn (69% ar gyfer y rhai 3 i 15 oed, a 15% ar gyfer y rhai 65 oed neu hŷn). Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw’r newid sylweddol yn y sector addysg Gymraeg dros yr hanner can mlynedd diwethaf, gyda chynnydd cyffredinol yn nifer y disgyblion sydd yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd wedi eu hagor ledled Cymru.

Image
Mae'r siart far wedi'i stacio yn dangos bod caran y siaradwyr Cymraeg sydd wedi dysgu Cymraeg gartref yn blant ifanc wedi gostwng o 53% yn 2004-06 i 43% yn 2019-20.

Roedd Arolygon Defnydd Iaith 2013-15 a 2004-06 yn gofyn ble yn bennaf y dysgodd siaradwyr Cymraeg siarad yr iaith, tra roedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn gofyn pryd y dechreuodd siaradwyr Cymraeg ddysgu siarad yr iaith. Mae’n bosibl bod y newid yn y cwestiwn wedi effeithio ar sut oedd siaradwyr Cymraeg yn ymateb i’r cwestiwn, felly mae’n bwysig ystyried hyn wrth gymharu canfyddiadau arolwg 2019-20 â’r arolygon blaenorol. Mae’n bwysig nodi, felly, nad yw’n bosibl gwybod, o edrych ar y data, sawl person sydd wedi parhau i ddysgu’r Gymraeg o’r ysgol feithrin i’r ysgol gynradd ac uwchradd, er enghraifft.

Gwelwn yn y siart uchod fod canran y siaradwyr Cymraeg sydd wedi dechrau dysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc wedi gostwng ers 2004-06, o 53% yn 2004-06 i 43% yn 2013-15 a 2019-20, ond wedi cynyddu’n gyffredinol ar gyfer y rhai sydd wedi dechrau dysgu yn yr ysgol neu fel oedolyn neu rywle arall yn ystod yr un cyfnod.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn dangos bod siaradwyr Cymraeg sydd wedi dechrau dysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc yn llawer fwy tebygol o siarad yr iaith bob dydd neu fod yn rhugl yn y Gymraeg o’u cymharu â’r rheini sydd wedi dechrau dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol neu fel oedolyn neu rywle arall.

Hyder siaradwyr Cymraeg wrth siarad yr iaith

Gofynnwyd i siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn pa mor hyderus roeddent yn teimlo fel arfer wrth siarad yr iaith.

Image
Mae'r siart gylch yn dangos bod 40% o siaradwyr Cymraeg yn teimlo'n hyderus iawn fel arfer wrth siarad yr iaith, 24% yn eithaf hyderus, 23% ddim yn hyderus iawn, 11% ddim yn hyderus o gwbl a 3% yn dweud nad ydynt byth yn siarad Cymraeg.

Roedd bron i ddau o bob tri siaradwr Cymraeg 16 oed neu hŷn yn teimlo’n hyderus fel arfer wrth siarad yr iaith (40% yn hyderus iawn, a 24% yn eithaf hyderus).

Ymhlith siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn sy’n siarad yr iaith bob dydd, roedd 87% yn nodi eu bod yn teimlo’n hyderus fel arfer wrth siarad Cymraeg (68% yn hyderus iawn, a 20% yn eithaf hyderus). Mae hyn yn cymharu â 37% ar gyfer y siaradwyr Cymraeg hynny sy’n siarad yr iaith yn llai aml na bob dydd (8% yn hyderus iawn, a 29% yn eithaf hyderus). Noder nad ydy’r canrannau ar wahân o reidrwydd yr un peth â’r cyfanswm ymhob achos, gan ein bod ni’n talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Roedd bron i bob un siaradwr Cymraeg rhugl yn teimlo’n hyderus fel arfer wrth siarad yr iaith, gyda 77% yn hyderus iawn, a 21% yn eithaf hyderus. Mae hyn yn cymharu â 29% o siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl (1% yn hyderus iawn, a 28% yn eithaf hyderus).

O’r rhai sy’n teimlo’n hyderus fel arfer wrth siarad Cymraeg, mae’r rhan fwyaf (67%) wedi dechrau dysgu Cymraeg gartref yn blentyn ifanc.

Barn am y Gymraeg

Mae un o themâu Cymraeg 2050 yn ymwneud â chreu amodau addas ac amgylchedd lle gall y Gymraeg a’i siaradwyr ffynnu. Ychwanegwyd cwestiynau am farn siaradwyr Cymraeg am yr iaith at Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 er mwyn cael gwybod mwy am eu hagweddau tuag at y Gymraeg.

Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 yn cynnwys rhai cwestiynau am farn pobl tuag at y Gymraeg, gan gynnwys barn siaradwyr Cymraeg am yr iaith. Dyma’r tro cyntaf i’r arolwg defnydd iaith, fodd bynnag, gynnwys cwestiynau am farn siaradwyr Cymraeg am yr iaith.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno â datganiadau y byddai rhai yn eu gwneud am y Gymraeg.

Image
Mae'r siart far wedi'i stacio yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn sydd yn cytuno'n gryf, tueddu i gytuno, ddim yn cytuno nac yn anghytuno, tueddu i anghytuno neu'n anghytuno'r gryf gyda phum datganiad gwahanol y byddai rhai yn eu gwneud am y Gymraeg.

Cytunodd 90% o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn y dylai siaradwyr Cymraeg drosglwyddo’r iaith i’w plant (68% yn cytuno’n gryf, a 21% yn tueddu i gytuno). Noder nad ydy’r canrannau ar wahân o reidrwydd yr un peth â’r cyfanswm ymhob achos, gan ein bod ni’n talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Roedd 69% o siaradwyr Cymraeg hefyd yn cytuno gyda’r datganiad bod siarad Cymraeg yn rhan bwysig o bwy ydyn nhw (49% yn cytuno’n gryf, a 20% yn tueddu i gytuno).

Nododd 21% o siaradwyr Cymraeg eu bod yn anghytuno â’r datganiad na fydden nhw’n mynd allan o’u ffordd i ofyn am wasanaeth yn y Gymraeg (9% yn anghytuno’n gryf, a 12% yn tueddu i anghytuno).

Roedd 62% o siaradwyr Cymraeg yn cytuno bod ganddyn nhw ddigon o gyfleoedd i siarad Cymraeg (32% yn cytuno’n gryf, a 30% yn tueddu i gytuno).

Roedd mwy o siaradwyr Cymraeg wedi dewis ateb ‘ddim yn cytuno nac yn anghytuno’ i’r datganiad ynghylch eu bod yn fwy tebygol o brynu nwyddau ag enwau neu frandio Cymraeg nag a ddewisodd ateb unrhyw rai o’r datganiadau eraill felly. Nododd 40% nad oedden nhw’n cytuno nac yn anghytuno.

Gofynnwyd cwestiynau gwahanol i blant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg am eu barn ynghylch yr iaith. Nid yw’r canfyddiadau wedi eu cynnwys fan hyn oherwydd bod maint y sampl ar gyfer plant a phobl ifanc yn rhy fach i adrodd yn llawn arno.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw casglu gwybodaeth ynghylch pa mor aml, ble, pryd ac â phwy y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg, a chael gwybod mwy am eu gallu yn yr iaith. Rydym yn parhau i ystyried y cyfrifiad fel y brif ffynhonnell wybodaeth ynghylch sgiliau’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn y Gymraeg, ond mae’r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth i ni am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn barhad o ymchwil a wnaed ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn 2013-15. Bu Arolygon Defnydd Iaith yn 2004 i 2006 hefyd, a gynhaliwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cafodd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ei gynnal fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 14 Mawrth 2020.

Datblygwyd yr holiaduron a ddefnyddiwyd ar gyfer arolwg 2019-20 gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr ystadegau am y Gymraeg. Nid oedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu newid ers Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai cwestiynau newydd, er enghraifft, ynglŷn â barn siaradwyr Cymraeg am yr iaith, a hyder siaradwyr Cymraeg wrth siarad yr iaith.

Roedd dau fath o holiadur, un ar gyfer oedolion (16 oed neu hŷn) ac un ar gyfer plant a phobl ifanc (3 i 15 oed). Cafodd yr holiadur i blant a phobl ifanc ei gwblhau gan y rhiant neu warcheidwad, neu gan y person ifanc os oedd yn dymuno cwblhau’r holiadur. Roedd modd cwblhau’r holiaduron yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ceir copïau o'r ddau holiadur ar dudalen we deunydd yr arolwg.

Cyfradd ymateb yr arolwg oedd 47%, h.y. o’r holl siaradwyr Cymraeg a gafodd eu hadnabod yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 47% o’r rheini wedi cwblhau a dychwelyd yr holiadur. Mae hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd ymateb o 44% yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.

Mae rhagor o wybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar ein gwefan. Bydd gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 (gan gynnwys gwybodaeth bellach am gyfraddau derbyn, dychwelyd ac ymateb yr arolwg) yn adroddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 unwaith y byddant ar gael.

Newid i’r ffordd o gyfrifo gallu’r boblogaeth yn y Gymraeg

Mae’r arolygon defnydd iaith blaenorol, a chanlyniadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, wedi cyfrifo gallu’r boblogaeth gyfan yn y Gymraeg yn seiliedig ar y rhai sydd wedi ateb eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr arolwg defnydd iaith, a’r rhai sydd wedi nodi nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg Cenedlaethol (neu yn yr Arolwg Byw yng Nghymru ar gyfer Arolwg Defnydd Iaith 2004-06).

Fodd bynnag, mae nifer fechan iawn o bobl sydd wedi nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn yr Arolwg Cenedlaethol wedyn yn nodi nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg yn yr arolwg defnydd iaith. Rydym bellach wedi newid y ffordd o gyfrifo gallu’r boblogaeth gyfan yn y Gymraeg i gynnwys yr ymatebwyr hynny, ac wedi diwygio ein canlyniadau cychwynnol, yn ogystal â chymariaethau â data o Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Yn anffodus ni ellir ailadrodd y fethodoleg ar gyfer data 2004-06. Mae'r newidiadau fel a ganlyn:

Gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran y boblogaeth tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn 2019-20, o 11% i 10%

Gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran y boblogaeth tair oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg yn 2013-15, o 24% i 23%

Gostyngiad o un pwynt canran yng nghanran y boblogaeth tair oed neu hŷn sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn 2013-15, o 13% i 12%

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Yn dilyn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr arolwg defnydd iaith dilynol rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2021, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-21. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd, yn ystod mis Mawrth 2020. Yr hyn a gyflwynir yma, felly, yw canfyddiadau naw mis cyntaf yr arolwg, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Mae canlyniadau’r arolwg yn seiliedig ar sampl o ychydig dros 2,200 o siaradwyr Cymraeg. Roedd maint sampl Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 bron yn 7,200 o bobl. Gan fod maint sampl 2019-20 yn llai na’r hyn a gynlluniwyd, nid yw’n bosibl dadansoddi canlyniadau’r arolwg yn ôl awdurdod lleol fel a wnaed yn yr arolygon blaenorol. Byddwn yn archwilio’r posibilrwydd o gyhoeddi data islaw lefel Cymru mewn bwletinau ystadegol sydd i ddod.

Elfen atodol o Arolwg Cenedlaethol Cymru oedd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Gofynnwyd i oedolion, a ddewiswyd ar hap, i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru a nodi pob aelod o’u haelwyd oedd yn gallu siarad Cymraeg. Yna cafodd pob siaradwr Cymraeg gopi o holiadur yr Arolwg Defnydd Iaith i’w lenwi a’i ddychwelyd drwy’r post. Yn sgil y pandemig, bu’n rhaid i Arolwg Cenedlaethol Cymru newid ei ddull gweithredu o gyfweld pobl wyneb yn wyneb i gasglu data dros y ffôn oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Yn ogystal â’r newid yn y dull o gasglu data Arolwg Cenedlaethol Cymru, nid oedd modd cael rhifau ffôn ar gyfer samplau newydd, felly penderfynwyd ail-gysylltu gyda chyn-ymatebwyr Arolwg Cenedlaethol Cymru er mwyn ei gwneud yn bosibl cynnal yr arolwg. Nid oedd modd, felly, nodi rhagor o siaradwyr Cymraeg, felly bu’n rhaid i’r Arolwg Defnydd Iaith ddirwyn i ben ym mis Mawrth 2020.

Serch hynny, oherwydd fod yr arolwg hwn wedi cael ei gynnal yn y cyfnod cyn y cyfyngiadau ledled y Deyrnas Unedig yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19) ddiwedd mis Mawrth 2020, mae’r arolwg yn darparu llinell sylfaen amserol ar gyfer y defnydd o’r Gymraeg cyn cyfnod y pandemig. Byddwn ni’n ystyried pryd y dylem gynnal Arolwg Defnydd Iaith pellach maes o law, yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau arolwg a oedd yn edrych ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg ers dechrau cyfnod y pandemig. Gofynnwyd i grwpiau hysbys gwblhau’r arolwg, a oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, p’un a oedden nhw wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, ein bwriad yw cyhoeddi canfyddiadau gweddill yr arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol. Byddwn hefyd yn archwilio’r posibilrwydd o gyhoeddi unrhyw ddata islaw lefel Cymru, os yw maint y sampl yn caniatáu hynny.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan fraich reoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu p’un a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd os nad ydynt yn glynu at y safonau uchaf, a gellir adennill y dyfarniad pan fo’r safonau yn cael eu hadfer.

Cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2016.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud gwelliannau, fel ymgynghori ymhellach â’n defnyddwyr am eu hanghenion mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Llio Owen
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 278/2021(R)