Neidio i'r prif gynnwy

Data ar gyfer pobl ifanc yn ôl oedran, rhyw, rhanbarth ac awdurdod lleol ar gyfer Ebrill 2021 i Fehefin 2022.

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi’r ystadegau sydd ar gael ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Y ffynhonnell ddiffiniol ar gyfer y wybodaeth hon yw’r datganiad ystadegol blynyddol cyntaf (SFR), Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg ac yn y farchnad lafur (a gyhoeddwyd ar 18 Hydref 2022 hefyd).

Yn ogystal, mae’r datganiad hwn yn darparu ystadegau manylach, ond llai cadarn yn ystadegol, o’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol i ddefnyddwyr. Mae amcangyfrifon yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth wedi dod yn fwyfwy anwadal yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae gwahaniaethau cynyddol rhwng amcangyfrifon yr Arolwg ac amcangyfrifon y Datganiadau Ystadegol Cyntaf. 

Dylid nodi mai amcangyfrifon yw pob ffynhonnell. Mae ein canllaw ar ddeall y ffynonellau gwahanol o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru’n darparu rhagor o wybodaeth.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Pobl ifanc heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET): Ebrill 2021 i Fehefin 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 19 KB

ODS
19 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jonathan Ackland

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.