Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwybodaeth faint o arian sydd ar gael gan unigolion yn y sector aelwydydd ar gyfer gwario neu gynilo ar ôl i fesurau dosbarthiad incwm ddod yn weithredol ar gyfer 2020.

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2020. Mae’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod cynnar y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

  • Roedd incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn £17,592 y pen yn 2020, 82.1% o ffigur y DU, i fyny 0.9 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2019.
  • Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2020 y trydydd isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
  • Rhwng 2019 a 2020 gwelodd Cymru’r cynnydd canrannol mwyaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, i fyny 0.9%, o'i gymharu â gostyngiad o 0.2% ar gyfer y DU. Gwelwyd yr ail gynnydd uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr (i fyny 0.9%) (yn seiliedig ar ddata heb dalgrynnu).
  • Ers 1999, gwelodd Cymru’r trydydd cynnydd canrannol isaf  o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, cynnydd o 77.8%, o'i gymharu â 86.5% ar draws y DU.

Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Joshua Cruickshank

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.