Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n crynhoi gwybodaeth ar y nifer o enedigaethau a marwolaethau a stoc mentrau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW/PAYE ar gyfer 2021.

Ar 24 Ionawr 2023, cafodd y tablau StatsCymru ar gyfer busnesau oedd wedi eu geni, marw a mentrau gweithredol yn ôl diwydiant eu diweddaru i gynnwys y data diweddaraf (2021).

Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn ar gyfer 2021. Mae cymariaethau gyda'r flwyddyn flaenorol yn debygol o gael eu heffeithio gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Prif bwyntiau

Cyfanswm nifer y mentrau a oedd yn weithredol yng Nghymru yn ystod 2021 oedd 105,815. Roedd hyn yn gynnydd o 3,725 o fentrau (3.6%) ar 2020.

Gwelwyd 13,945 o fentrau’n cael eu geni yng Nghymru yn ystod 2021, sy'n gyfradd1 o 13.2%. Cyfradd geni busnesau'r DU oedd 12.4%.

Roedd y gyfradd genedigaethau busnes ar gyfer Cymru ar ei uchaf ers dechrau cofnodion yn 2010. Mae hyn yn dilyn y gyfradd genedigaethau busnes isaf ers 2012 yn 2020 (11.2%). Mae'n debygol bod pandemig COVID-19 wedi cyfrannu at hyn.

Bu 12,145 o fentrau farw yng Nghymru yn ystod 2021, sef cyfradd1 o 11.5%. Cyfradd marw busnesau'r DU oedd 11.1%.

Y gyfradd oroesi 5 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2016 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2021 yng Nghymru oedd 40.3%, ychydig yn uwch na chyfradd oroesi’r DU o 38.4%.  Yn Ngogledd Iweddon oedd y gyfradd oroesi 5 mlynedd uchaf (47.3%) ac yn Nwyrain Lloegr yr oedd yr isaf (33.9%).

Y gyfradd oroesi 1 mlynedd i fentrau a anwyd yn 2020 ac a oedd yn parhau'n weithredol yn 2021 yng Nghymru oedd 92.5%, ychydig yn is na chyfradd oroesi'r DU o 92.9%. Cymru oedd â'r drydedd gyfradd goroesi isaf ers 1 mlynedd ymhlith 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr. Yn Nwyrain Canolbarth Lloegr cafwyd y gyfradd oroesi uchaf (93.8%), tra bod yr isaf yn Ne Ddwyrain Lloegr (90.9%).

Dengys data ychwanegol yn ôl diwydiant a gyhoeddwyd yn Ionawr 2023

  • Roedd y diwydiant adeiladu yn parhau i fod â’r nifer fwyaf o fentrau gweithredol (15,960) yng Nghymru yn 2021
  • Yn y sector Trafnidiaeth a storio gwelwyd y mwyaf o fentrau’n cael eu geni yn 2021 (2,585).

Nodi

Cyfrifir cyfraddau fel canran o stoc.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Joe Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.