Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg blynyddol o oriau ac enillion
Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.
Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ond yn cynnwys cyflogai ac yn eithrio incwm a enillir o hunangyflogaeth, pensiynau a ffynonellau eraill.
Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Mae'r pandemig wedi arwain at nifer o gymhlethdodau sy'n ei gwneud yn anodd dehongli data enillion. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi blog yn esbonio hyn. O ganlyniad, mae’r amcangyfrifon ar gyfer 2020, 2021 a 2022 ychydig yn fwy ansicr na'r arfer.
Prif bwyntiau
Enillion wythnosol amser llawn
Roedd canolrif enillion wythnosol gros oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £598.1 ym mis Ebrill 2022, sef 93.5% o gyfartaledd y DU cyfan (£640.0). Canolrif enillion wythnosol gros yng Nghymru oedd yr wythfed uchaf o'r 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
Cynyddodd enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer oedolion amser llawn sy'n gweithio yng Nghymru 6.1% rhwng 2021 a 2022, o'i gymharu â chynnydd o 4.1% rhwng 2020 a 2021.
Cynyddodd y DU 5.0% dros y flwyddyn. Cymru oedd â'r pedwerydd newid canrannol mwyaf uchaf ymhlith 12 gwlad y DU a rhanbarthau Lloegr.
Enillion yn seiliedig ar breswylfa
Bu cynnydd o 5.4% (i £603.5) dros y flwyddyn yn enillion canolrif gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2022 roedd y lefel yn 94.3% y cant o gyfartaledd y DU.
Bwlch Tâl Rhyw
Mae'r gwahaniaeth tâl (amser llawn) ar gyfer rhywedd yng Nghymru yn un o'r dangosyddion lles cenedlaethol. Mae carreg filltir genedlaethol wedi'i gosod ar gyfer y dangosydd cenedlaethol hwn sef dileu'r bwlch cyflog. Gweler y nodiadau am ragor o wybodaeth.
Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gôr amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2022 yn 6.1% yng Nghymru ac 8.3% yn y DU. Yng Nghymru ehangodd y bwlch 1.7 pwynt canran ac yn y DU ehangodd 0.6 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Dros y tymor hirach, mae'r duedd ar gyfer gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau ar sail canolrif fesul awr yn llawn amser (ac eithrio goramser) wedi gweld gostyngiad cyffredinol ers i'r gyfres amser ddechrau.
Roedd bwlch cyflog rhwng y rhywiau bob awr (ac eithrio goramser) ar gyfer holl weithwyr ym mis Ebrill 2022 yn 11.4% yng Nghymru a 14.9% yn y DU. Yng Nghymru fe wnaeth y bwlch leihau 0.2 pwynt canran ac yn y DU, mae wedi lleihau 0.2 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod fel arfer yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2022 yn -3.5% yng Nghymru, gan ehangu 1.7 pwynt canran o gymharu a’r flwyddyn flaenorol. Y blwch ar gyfer y DU oedd -2.8%. Gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol.
Nodiadau
Esboniad am y gwahaniaeth yn amcangyfrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng gweithwyr llawn-amser a holl weithwyr
Mae amcangyfrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn cael ei gyfrifo fel cyfran wahaniaethol dau amcangyfrif canolrif, pwyntiau canol y data, un ar gyfer benywod ac un ar gyfer gwrywod. Mae cyfansoddiad y gweithluoedd gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn eithaf gwahanol, gyda mwy o fenywod yn gweithio rhan amser na dynion (42% o gymharu â 12% yn ôl eu trefn - ffynhonnell: Arolwg o’r Llafurlu, Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2017, Tabl EMP04). Gan fod enillion gweithwyr rhan amser yn dueddol o fod yn llai, ar gyfartaledd, nag enillion gweithwyr llawn amser, mae hyn yn golygu bod menywod yn fwy tebygol o dderbyn cyfraddau tal is fesur awr. Y ffaith hon sy’n gymorth i egluro pam fod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer holl weithwyr llawn amser a rhan amser yn fwy na’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer gweithwyr llawn amser yn unig.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn disodli’r 46 o ddangosyddion cenedlaethol a osodwyd yn mis Mawrth 2016, ac mae’r datganiad hwn yn cynnwys y dangosydd cenedlaethol canlynol:
- (17) Y gwahaniaeth cyflog ar sail rhyw, anabledd ac ethnigrwydd
Bydd setiau data ar StatsCymru yn cael eu diweddaru yn dilyn y cyhoeddiad hwn.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.