Canllawiau gweithredol i ysgolion a lleoliadau pan fydd cyfyngiadau ar niferoedd dysgwyr ar lefel rhybudd 4
Sut mae ysgolion a darparwyr eraill yn gallu gwneud eu safleoedd yn ddiogel i staff a dysgwyr pan fydd cyfyngiadau ar niferoedd dysgwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb gweithredol
Mae’r canllawiau hyn ar gyfer ysgolion, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion ac ysgolion a lleoliadau annibynnol yn ystod lefel rhybudd 4, os oes angen iddynt symud i ddysgu o bell a darparu addysg ar y safle i ddysgwyr agored i niwed, plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n gwneud arholiadau neu asesiadau hanfodol am resymau iechyd a diogelwch neu resymau sy’n ymwneud â chyfraddau trosglwyddo cenedlaethol.
Bydd ysgolion a lleoliadau yn gyfarwydd â llawer o’r canllawiau hyn o’r ‘Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau’ a gyhoeddwyd eisoes (cyhoeddwyd gyntaf ar 13 Gorffennaf 2020) a’r ‘Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau (Fersiwn 5)’ dymor yr hydref (cyhoeddwyd gyntaf ar 1 Medi 2020). Bydd ysgolion a lleoliadau hefyd yn gyfarwydd â gweithio mewn system o reolaethau a mesurau lliniaru ers dechrau tymor yr hydref.
Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth newydd am y canlynol:
- mesurau lliniaru – gorchuddion wyneb, adnodd e-Bug
- asesiadau risg – cydnabod pwysigrwydd adolygu asesiadau risg i fod yn addas i’r amgylchiadau presennol a’r rhestr wirio ategol
- presenoldeb – gan gynnwys cadarnhad o bwy ddylai fod yn bresennol a sut y dylid cofnodi presenoldeb
- profi
- y gweithlu – gan gynnwys cyngor i’r rheini sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
- prydau ysgol am ddim – parhau i ddarparu £19.50 y dysgwr
- ymweliadau addysgol – cadarnhad na ddylid cynnal ymweliadau yn ystod y cyfnod hwn
- gwisg ysgol – rhoi rhywfaint o hyblygrwydd o ran gwisg ysgol yn ystod y cyfnod hwn
Cyflwyniad
Yn ystod y sesiwn briffio i’r wasg ddydd Gwener 8 Ionawr 2021, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod yn gwneud penderfyniadau am ysgolion a cholegau yn unol â’r cylch adolygu tair wythnos i sicrhau bod modd mynd yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted ag y gallwn wneud hynny.
Ar 29 Ionawr, cyhoeddodd y Prif Weinidog os bydd nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng dros yr wythnosau nesaf, ein bwriad fyddai gweld disgyblion ysgolion cynradd yn dychwelyd fesul cam ac mewn modd hyblyg o 22 Chwefror. Os oes digon o hyblygrwydd, byddwn yn dod â niferoedd bach o ddysgwyr uwchradd a cholegau yn ôl ar yr un pryd. Bydd dysgwyr agored i niwed, plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr sy’n gwneud arholiadau neu asesiadau hanfodol yn parhau i gael dysgu wyneb yn wyneb, a dylai ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion aros ar agor lle bo hynny’n bosibl. Mae hyn yn adeiladau ar ddatganiad y Gweinidog Addysg, a oedd yn cynnwys y diweddaraf am y trefniadau ar gyfer cymwysterau ac asesiadau.
Fel y gwyddoch, mae bod yn yr ysgol yn hanfodol i addysg a lles plant a phobl ifanc. Mae colli addysg yn niweidiol i ddatblygiad gwybyddol ac academaidd plant a phobl ifanc, yn enwedig plant agored i niwed a’r rhai mwyaf difreintiedig. Dyna pam rydym wedi’i gwneud yn flaenoriaeth genedlaethol bod lleoliadau addysg a gofal plant yn parhau i weithredu gyda chyn lleied o darfu â phosibl yn ystod brigiad o achosion o COVID-19.
Ein bwriad yw i fwy o ddysgwyr ddychwelyd i’r ysgol o 22 Chwefror. Tra bydd dysgwyr yn dychwelyd fesul cam ac mewn modd hyblyg, nid yw hyn yn awgrymu nad yw ysgolion a cholegau yn lleoedd diogel; nid ydynt yn peri risg uwch i athrawon na phlant. Gwyliwch y deunydd diweddaraf gan Heather Payne, Cadeirydd Is-grwp Cyngor Technegol Cymru ar gyfer Plant ac Addysg, sy’n esbonio’r dystiolaeth ddiweddaraf. Yn hytrach, mae hyn yn ymwneud â chyfyngu ar drosglwyddiad yn y gymuned. Pan mae ysgolion yn gweithredu’n llawn, gwyddom fod hyn yn annog plant ac oedolion i gymysgu y tu mewn a’r tu allan i glwydi’r ysgol, a’r bwriad yw osgoi hynny ar adeg pan mae achosion o’r coronafeirws yn uchel yn y gymuned a phan mae straen mwy heintus yn lledaenu’n gyflym. Rydym yn gweld pwysau mawr ar y GIG; felly nawr mae angen i ni ddefnyddio pob dull sydd ar gael i leihau cysylltiadau y tu allan i gartrefi lle bynnag y bo modd.
Ym mhob achos, rhaid parhau i gynnig darpariaeth addysg ar y safle i blant agored i niwed er mwyn diogelu eu lles, ac i blant gweithwyr hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau i weithredu. Mae hyn hefyd yn berthnasol i ysgolion annibynnol lle mae dysgwyr eisoes wedi teithio i'w llety preswyl.
Bydd dysgwyr eraill sydd eisoes wedi cyrraedd yr ysgol breswyl annibynnol yn cael addysg o bell yn eu tŷ preswyl. Ni ddylent fynd i mewn i’r adeilad addysg yn ddiangen. Dylai dysgwyr nad ydynt wedi dychwelyd i’w hysgol breswyl eto gael addysg o bell o’u cartrefi. Ni ddylent deithio’n ôl i’r ysgol yn ystod y cyfyngiadau symud lefel 4.
Mae posibilrwydd realistig bod heintio gyda straen newydd y feirws wedi ei gysylltu â risg uwch o farwolaeth o’i gymharu â heintio gyda’r amrywiolion oedd yn cylchredeg yn flaenorol yn y DU. Mae'r risg absoliwt o farwolaeth fesul achos yn parhau'n isel. Mae tystiolaeth gref hefyd yn parhau i fodoli, hyd yma, fod plant a phobl iau (dan 18 oed) yn llawer llai agored i gael clefyd clinigol difrifol na phobl hŷn.
Rydym yn gwybod bod hwn yn gallu bod yn amser anodd i redeg ysgol ac y bydd cyfraddau’r feirws yn peri pryder. Fodd bynnag, rhaid i ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod dysgwyr yn cael yr addysg orau yn ddiogel.
Wrth gwrs, mae’n hanfodol bod y dysgu’n parhau. Ochr yn ochr â’r canllawiau hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau dysgu wedi’u diweddaru a gosod disgwyliadau a blaenoriaethau ar gyfer dysgu. Maent yn darparu set gyffredin o flaenoriaethau ar gyfer dysgu drwy gydol yr ymateb i COVID-19 ac wrth i ni symud tuag at adfer.
Rhaid i ysgolion annibynnol barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003.
Cyngor ar iechyd y cyhoedd i leihau risgiau COVID-19
Mae’r system reoli a nodir yn yr adran hon yn darparu set o egwyddorion ar gyfer rheoli heintiau; os bydd ysgolion a lleoliadau yn dilyn y cyngor hwn ac yn defnyddio’r mesurau rheoli hyn i’r eithaf, byddant yn lleihau’r risgiau o drosglwyddo feirws i bob pwrpas. Mae pob elfen o’r system reoli yn hanfodol. Rhaid i bob ysgol ymdrin â’r holl elfennau allweddol, ond bydd y ffordd y mae gwahanol ysgolion yn gweithredu rhai o’r gofynion yn amrywio ar sail eu hamgylchiadau unigol.
Mae’r mesurau hyn yr un mor bwysig yn ystod y cyfnod lle mae presenoldeb wedi’i gyfyngu i blant agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol.
Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch, sy’n mynnu eu bod yn asesu risgiau ac yn rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith. Dylai ysgolion a gynhelir, ynghyd â’u hawdurdod lleol, adolygu eu hasesiadau risg iechyd a diogelwch yn drylwyr i sicrhau eu bod yn parhau i fynd i’r afael â’r risgiau a nodir yn y system reoli, y bydd ysgolion a lleoliadau bellach yn gyfarwydd â hi. Mae mesurau hanfodol yn cynnwys:
- gofyniad i bobl aros gartref a hunanynysu:
- os oes ganddynt symptomau COVID-19, p’un a ydynt yn teimlo’n sâl ai peidio,
- os ydynt wedi cael canlyniad positif, hyd yn oed os ydynt yn asymptomatig
- os ydynt wedi cael cyngor gan Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i wneud hynny
- os ydynt yn aelodau o aelwyd lle mae achos positif, hyd yn oed os yw’r achos hwnnw’n asymptomatig
- os ydynt yn gorfod hunanynysu am resymau sy’n ymwneud â theithio
- meithrin arferion hylendid dwylo ac anadlol da ymysg dysgwyr ac aelodau o staff
- sicrhau mesurau awyru priodol ar safle’r ysgol a pharhau â threfniadau glanhau trylwyr ychwanegol
- ymgysylltu’n weithredol â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
- ystyried yn ffurfiol sut mae lleihau cysylltiadau a chynyddu’r pellter corfforol a chymdeithasol rhwng y rheini sydd yn yr ysgol lle bo modd, a rhoi mesurau lliniaru priodol ar waith i leihau’r posibilrwydd o halogi i’r graddau mwyaf posibl o fewn yr hyn sy’n rhesymol ymarferol
Yn ystod yr amseroedd hyn pan fydd presenoldeb yn gyfyngedig ar y safle, bydd sut caiff y cysylltiad rhwng dysgwyr, rhwng dysgwyr a staff, a rhwng staff, ei leihau yn dal yn bwysig. Mae’r asedau ychwanegol yn darparu rhagor o wybodaeth am grwpiau cyswllt lefel 1 a lefel 2 a allai fod yn ddefnyddiol; fodd bynnag, yn ystod y cyfnod hwn pan fo llai yn bresennol, dylai cyswllt gynnwys:
- grwpio dysgwyr gyda’i gilydd mewn grŵp mor fach â phosibl
- osgoi cyswllt rhwng grwpiau ar wahân gymaint ag y bo modd, gan gynnwys yn ystod egwyliau
- trefnu dosbarthiadau gyda’r desgiau’n wynebu am ymlaen, un metr ar wahân, gan gydnabod na fydd hyn efallai’n bosibl nac yn briodol ym mhob ysgol a lleoliad
- staff i gadw pellter cymdeithasol oddi wrth y dysgwyr a’r staff eraill gymaint â phosibl
- gwneud y mwyaf o’r lle sydd ar gael
Mae Atodiad A yn cynnwys rhestr wirio sydd wedi cael ei datblygu i helpu ysgolion a lleoliadau wrth ymateb yn ystod yr amgylchiadau hyn; efallai fod gan eich ysgol/lleoliad restr wirio o’r fath yn barod.
Asesu risg
Rhaid i awdurdodau lleol, cyflogwyr ac ysgolion amddiffyn pobl rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu staff, dysgwyr ac eraill rhag COVID-19 yn y lleoliad.
Mae’n ofyniad cyfreithiol i ysgolion ailedrych ar eu hasesiadau risg a'u diweddaru, gan adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei ddysgu hyd yma a’r arferion maent eisoes wedi’u datblygu. Bydd hyn yn eu galluogi nhw i ystyried y risgiau ychwanegol a’r mesurau rheoli i’w rhoi ar waith. Gan weithio gyda chynghorydd iechyd a diogelwch eu hawdurdod lleol a’u hundebau llafur dylai ysgolion a lleoliadau hefyd adolygu a diweddaru eu hasesiadau risg ehangach ac ystyried yr angen am reolaethau diwygiedig perthnasol gan ystyried goblygiadau COVID-19. Dylai awdurdod lleol weithio gyda’i ysgolion a’i leoliadau i sicrhau bod yr ysgolion a’r lleoliadau yn rhoi mesurau rheoli call a chymesur ar waith sy’n dilyn yr hierarchaeth rheolaethau iechyd a diogelwch yn Atodiad A, er mwyn lleihau’r risg i’r lefel isaf sy’n rhesymol ymarferol heb effeithio’n negyddol ar les y dysgwyr a’r staff.
Dylai ysgolion a lleoliadau fod wedi ystyried y risgiau a’r mesurau rheoli ychwanegol sydd angen bod ar waith.
Dylai awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’u hysgolion a’u lleoliadau i ddilyn cyngor iechyd a diogelwch fod â threfniadau gweithredol ar waith i fonitro bod y mesurau rheoli:
- yn effeithiol
- yn gweithio yn ôl y bwriad
- yn cael eu diweddaru’n briodol gan ystyried unrhyw faterion sy’n codi a newidiadau yn y cyngor ar iechyd y cyhoedd
Drwy weithio gyda'u hysgolion a’u lleoliadau dylai awdurdodau lleol barhau i sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn cydymffurfio â’u cynlluniau diogelwch, a sicrhau na fydd unrhyw newidiadau a gyflwynir o ganlyniad i gydymffurfio â COVID-19 yn cael effaith negyddol ar eu cynlluniau diogelwch. Mae rhagor o arweiniad ar gael yn llawlyfr Llywodraeth Cymru a WECTU o’r enw Diogelu Ysgolion, dull gweithredu integredig mewn perthynas â diogelwch – Pecyn Cymorth i Benaethiaid (2017).
Y system reoli: mesurau diogelu
Ar ôl asesu’r risgiau, dylai ysgolion fynd ati i weithio drwy’r system reoli isod, gan fabwysiadu mesurau i’r graddau mwyaf posibl mewn ffordd sy’n rhoi sylw i’r risg a nodwyd yn eu hasesiad, sy’n gweithio i’w hysgol ac sy’n caniatáu iddynt gyflawni cwricwlwm eang a chytbwys i’r holl ddysgwyr sydd yn bresennol yn ystod y cyfnod hwn pan fo’n bosibl.
Os bydd ysgolion yn dilyn y canllawiau a nodir yma, byddant yn lleihau’r risgiau yn eu hysgol yn effeithiol ac yn creu amgylchedd sy’n fwy diogel yn ei hanfod.
System reoli
Dyma’r gyfres o gamau y mae’n rhaid i ysgolion eu cymryd. Maent wedi’u grwpio i gategorïau ‘atal’ ac ‘ymateb i unrhyw haint’ ac maent wedi’u hamlinellu mewn mwy o fanylder yn yr adrannau canlynol.
Atal
- Lleihau’r cyswllt rhwng pob unigolyn pan fo’n bosibl. I bob dysgwr, bydd y pwyslais ar greu grwpiau a sicrhau bod y grwpiau hynny yn cael eu cadw ar wahân, ac i ddysgwyr hŷn bydd y pwyslais hefyd ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol lle bynnag y bo’n bosibl.
- Os yw’r amgylchiadau yn caniatáu, yn ddelfrydol dylai staff sy’n gyfrifol am ddysgwyr iau aros gyda grwpiau penodedig yn hytrach na symud o un grŵp i’r llall. Dylai’r holl staff ddilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol/corfforol i’r graddau mwyaf posibl, fodd bynnag, rydym yn cydnabod na fydd hyn bob amser yn bosibl gyda dysgwyr iau.
- Sicrhau bod y staff, y dysgwyr a’r rhieni/gofalwyr yn deall yn iawn na chaiff unrhyw aelod staff na dysgwr sydd â symptomau COVID-19 posibl ddod i leoliad yr ysgol, ond bod yn rhaid iddo aros gartref a hunanynysu, trefnu prawf COVID-19 a rhoi gwybod i’r ysgol. Gan gefnogi’r Rheoliadau Diogelu Iechyd, dylai cyflogwyr ganiatáu neu alluogi unigolyn i hunanynysu os yw wedi cael canlyniad positif am COVID-19, yn byw mewn aelwyd lle mae gan aelod arall o'r aelwyd symptomau COVID-19 neu wedi cael canlyniad positif, neu fod y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi rhoi gwybod iddo ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19.
- Os bydd aelod staff neu ddysgwr yn mynd yn sâl yn lleoliad yr ysgol gyda symptomau COVID-19 posibl, dylid ei anfon adref ar unwaith i hunanynysu a threfnu prawf COVID-19. Hyd nes iddo adael lleoliad yr ysgol (yn achos dysgwr pan mae rhiant/gofalwr yn ei gasglu), dylid cadw’r cysylltiad rhyngddo â phob unigolyn arall yn y lleoliad i’r lefel isaf bosibl. Os oes modd, dylid sicrhau ei fod mewn ystafell arall hyd nes y bydd yn gadael y lleoliad.
- Golchi dwylo’n drwyadl yn amlach nag arfer am o leiaf 20 eiliad gyda dŵr a sebon, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael.
- Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’.
- Sicrhau mesurau glanhau gwell, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion a diheintyddion.
- Pan fydd angen, mewn amgylchiadau penodol (a nodir yn nes ymlaen yn y canllawiau), gwisgo cyfarpar diogelu personol priodol.
- Sicrhau awyru priodol pan fo’n bosibl.
Ymateb i unrhyw haint
- Ymgysylltu â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu.
- Rheoli achosion o COVID-19 yng nghymuned yr ysgol sy’n cael eu cadarnhau a rheoli unrhyw achosion drwy ddilyn cyngor y tîm diogelu iechyd lleol.
Mae’r canllawiau ar gyfer ysgolion preswyl annibynnol yn nodi’r camau y dylid eu cymryd os oes gan unrhyw un yn yr ysgol breswyl symptomau. Dylai’r person hwnnw hunanynysu am y cyfnod priodol a gwneud cais am brawf cyn gynted â phosibl. P’un a yw’n aros yn yr ysgol ai peidio, bydd angen i ysgolion nodi’r unigolion eraill yn yr ‘aelwyd’ neu gysylltiadau posibl hysbys a fydd yn gorfod hunanynysu am y cyfnod a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cyd-ddisgyblion preswyl sy’n rhannu ystafell gysgu, ystafell ymolchi neu gegin, ac aelodau o staff. Bydd llawer o blant yn elwa ar hunanynysu yn eu tŷ preswyl er mwyn i’w cymorth arferol allu parhau. Bydd eraill yn elwa mwy ar hunanynysu yn eu cartref.
Atal
1. Lleihau’r cyswllt gydag unigolion sydd â symptomau COVID-19 neu sy’n byw gyda rhywun sydd â’r symptomau (p’un a ydynt yn sâl ai peidio), a sicrhau nad ydynt yn mynd i’r ysgol
Dylai awdurdodau lleol, gan weithio gydag ysgolion a lleoliadau, sicrhau eu bod yn cyfathrebu’n glir:
- na ddylai dysgwyr, staff nac oedolion eraill sydd â symptomau COVID-19, neu sydd wedi cael canlyniad positif yn y 10 diwrnod diwethaf o leiaf, ddod i’r ysgol/lleoliad
- bod yn rhaid i unrhyw un sy’n datblygu symptomau COVID-19 yn ystod y diwrnod ysgol gael ei anfon adref ar unwaith
Mae’r dau gam hyn yn hanfodol i leihau’r risg mewn ysgolion a lleihau trosglwyddiad COVID-19 ymhellach.
Rhaid i bob ysgol ddilyn y broses hon a sicrhau bod yr holl staff yn gwybod amdani.
Os bydd unrhyw un yn yr ysgol yn mynd yn sâl gyda pheswch newydd a chyson neu dymheredd uchel, neu os bydd rhywun yn colli ei synnwyr arferol o flas neu arogl neu’n sylwi ar newid yn y synhwyrau hynny (anosmia), dylai’r ysgol barhau i ddilyn y trefniadau sydd ganddi ar waith. Rhaid i’r unigolyn gael ei anfon adref ar unwaith a’i gynghori i ddilyn canllawiau ar gyfer aelwydydd sydd â haint COVID-19 posibl neu wedi’i gadarnhau, h.y., dylai’r unigolyn ddechrau hunanynysu a threfnu i gael prawf COVID-19.
Dylai aelodau eraill o aelwyd yr unigolyn (gan gynnwys unrhyw frodyr a chwiorydd) hefyd ddechrau hunanynysu ac aros am ganlyniad y prawf i weld a yw’r aelod o’u haelwyd wedi cael canlyniad positif.
Os oes plentyn â symptomau COVID-19 yn aros i gael ei gasglu, dylid ei symud i ystafell lle gellir ei ynysu y tu ôl i ddrws caeedig os oes modd, gan ddibynnu ar ei oedran a’i anghenion, gyda goruchwyliaeth briodol gan oedolyn os oes angen. Yn ddelfrydol, dylid agor ffenestr ar gyfer awyru. Os nad oes modd ynysu’r plentyn, symudwch ef i ardal sydd o leiaf dau fetr oddi wrth bobl eraill.
Os oes angen i’r plentyn fynd i’r toiled wrth aros i gael ei gasglu, dylai ddefnyddio toiled ar wahân os oes modd. Rhaid glanhau a diheintio’r ystafell ymolchi gan ddefnyddio cynnyrch glanhau safonol cyn i unrhyw un arall ei defnyddio.
Yn ôl yr arfer, ffoniwch 999 mewn argyfwng – os oes rhywun yn ddifrifol wael, wedi cael anaf, neu fod ei fywyd mewn perygl. Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 ymweld â meddyg teulu, fferyllfa, canolfan gofal brys nac ysbyty fel arall.
Nid oes angen i unrhyw aelod o staff sydd wedi darparu gofal cyswllt agos i rywun sydd â symptomau fynd adref i hunanynysu, nac unrhyw aelod arall o staff na dysgwyr sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r person sydd â symptomau (hyd yn oed os yw’n gwisgo gorchudd wyneb), oni bai:
- fod y person â symptomau wedyn yn cael canlyniad positif
- eu bod yn datblygu symptomau eu hunain (os felly, dylent hunanynysu ar unwaith a threfnu i gael prawf)
- fod Profi, Olrhain, Diogelu yn gofyn iddynt wneud hynny
Rhaid i bawb olchi eu dwylo’n drwyadl am o leiaf 20 eiliad gyda sebon a dŵr sy’n llifo neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo ar ôl unrhyw gyswllt â rhywun sy’n sâl gyda symptomau COVID-19. Rhaid glanhau’r ardal o gwmpas y person sydd â symptomau ar ôl iddo adael er mwyn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint i bobl eraill. Edrychwch ar ganllawiau GOV.UK, COVID-19: canllawiau ar lanhau lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd y tu allan i’r cartref.
Y cyngor ar hyn o bryd yw nad oes angen sgrinio tymheredd. Gall rhieni/gofalwyr dysgwyr gadw llygad am arwyddion o dymheredd uchel. Ni fydd sgrinio yn dod o hyd i bob achos o COVID-19 a gallai’r broses o fesur tymheredd gynyddu risg y staff o drosglwyddo'r haint, yn ogystal â gwneud i’r dysgwyr boeni neu bryderu.
2. Golchi dwylo’n drylwyr yn amlach nag arfer
Mae hi’n hawdd lladd y feirws COVID-19 pan fydd ar y croen. Mae hyn yn dal yn wir am yr amrywiolyn newydd. Mae modd gwneud hyn gyda dŵr sy’n llifo a sebon neu hylif diheintio dwylo. Mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod dysgwyr yn golchi eu dwylo’n rheolaidd, gan gynnwys pan fyddant yn cyrraedd yr ysgol, pan fyddant yn dychwelyd ar ôl egwyl, pan fyddant yn newid ystafelloedd a chyn ac ar ôl bwyta. Bydd angen golchi dwylo’n rheolaidd ac yn drylwyr am gryn amser eto. Mae pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn cynnwys:
- ystyried a oes digon o gyfleusterau golchi dwylo neu ddiheintio dwylo ar gael yn yr ysgol er mwyn i’r holl ddysgwyr a staff allu golchi eu dwylo’n rheolaidd
- goruchwylio dysgwyr pan fyddant yn defnyddio hylif diheintio dwylo o ystyried y risgiau sydd ynghlwm wrth ei lyncu. Dylid parhau i helpu plant bach a dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth i olchi eu dwylo’n iawn. Gellir defnyddio clytiau glanhau sy’n addas i groen fel dewis arall
- ymgorffori’r arferion hyn yn niwylliant yr ysgol, gan osod disgwyliadau o ran ymddygiad i’w cefnogi, a helpu plant iau a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth i ddeall bod angen eu dilyn
- defnyddio peiriannau sebon awtomatig lle bo modd a sychu’r dwylo’n drylwyr, gan ddefnyddio tywelion papur os oes modd. Dylid osgoi peiriannau sychu dwylo pan fo’n bosibl. Dylid gwaredu tywelion papur mewn bin gyda chaead arno ac ni ddylid gadael iddo orlenwi. Dylid gwagio’r biniau yn aml ac yn ddyddiol
3. Sicrhau hylendid anadlol da drwy hyrwyddo’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’
Mae’r dull ‘ei ddal, ei daflu, ei ddifa’ yn dal yn bwysig iawn, felly mae’n rhaid i ysgolion sicrhau bod ganddynt ddigon o hancesi papur a biniau ar gael yn yr ysgol i helpu dysgwyr a staff i ddilyn y drefn hon. Yn yr un modd â golchi dwylo, rhaid i ysgolion sicrhau bod plant iau a’r rheini sydd ag anghenion cymhleth yn cael cymorth i wneud hyn yn iawn. Mae angen i’r holl ddysgwyr ddeall bod hyn bellach yn rhan o sut mae’r ysgol yn gweithredu. Mae gwefan e-Bug COVID-19 yn cynnwys adnoddau am ddim i ysgolion, gan gynnwys deunyddiau i annog hylendid dwylo ac anadlol da.
Bydd hi’n anodd i rai dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth gynnal hylendid anadlol cystal â’u cyfoedion, ee, y rheini sy’n poeri heb reolaeth neu’n defnyddio poer fel symbylydd synhwyraidd. Dylid ystyried hyn mewn asesiadau risg er mwyn cefnogi’r dysgwyr hyn a’r staff sy’n gweithio gyda nhw, ac nid yw hyn yn rheswm dros beidio â darparu addysg wyneb yn wyneb i’r dysgwyr hyn.
4. Glanhau’n well, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion
Dylai ysgolion a lleoliadau ddilyn y cyngor glanhau diweddaraf ar gyfer lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd. Mae pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn cynnwys:
- paratoi amserlen glanhau sy’n sicrhau bod y glanhau’n cael ei wella’n gyffredinol ac yn cynnwys:
- glanhau ystafelloedd/ardaloedd a rennir yn amlach ar ôl i wahanol grwpiau eu defnyddio
- glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd yn amlach nag arfer
- pan fo’n bosibl, darparu toiledau ar wahân ar gyfer gwahanol grwpiau cyswllt. Pan na fydd hyn yn bosibl, sicrhau bod hylif diheintio dwylo yn cael ei ddefnyddio cyn mynd i mewn i’r toiled a bod y toiledau’n cael eu glanhau’n rheolaidd. Rhaid annog y dysgwyr i olchi eu dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled
5. Lleihau’r cyswllt rhwng unigolion a chadw pellter cymdeithasol pan fo’n bosibl
Mae cael llai o gyswllt a chymysgu rhwng pobl yn lleihau’r tebygolrwydd o drosglwyddo COVID-19. Mae hyn yn parhau i fod yn bwysig ym mhob cyd-destun a rhaid i ysgolion a lleoliadau barhau i ystyried sut i weithredu hyn a gwneud popeth posibl i leihau cyswllt a chymysgu.
Yr egwyddor gyffredinol i’w dilyn yw lleihau faint o gyswllt fydd rhwng y plant a’r staff, yn ogystal â rhwng staff a staff, a chadw grwpiau cyswllt ar wahân lle bo hynny’n bosibl. Yn y cyfnod sydd ohoni, gyda llai yn bresennol, dylai ysgolion a lleoliadau gadw at y grwpiau cyswllt lle bynnag y bo’n bosibl. Hefyd, dylid cefnogi’r plant sy’n ddigon hen i gadw pellter ac i beidio â chyffwrdd y staff pan fydd hynny’n bosibl. Lle bynnag y bo modd, dylid defnyddio unrhyw ofod ychwanegol sydd ar gael lle mae llai o ddysgwyr i sicrhau’r pellter mwyaf posibl rhwng dysgwyr a rhwng staff a phobl eraill.
Nodir y pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu yn yr adrannau canlynol.
Sut i grwpio plant
Mae grwpiau cyson yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint drwy gyfyngu ar nifer y dysgwyr a’r staff a fydd yn cael cyswllt â’i gilydd i ddim ond y rheini a fydd yn y grŵp. Mae grwpiau wedi cael eu defnyddio hyd yma oherwydd fe gydnabyddir nad yw plant, yn enwedig y plant ieuengaf, yn gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth staff na’i gilydd, felly mae'r rhain yn fesur diogelu ychwanegol. Mae cynnal grwpiau cyswllt penodol na fyddant yn cymysgu yn ei gwneud hi’n gynt ac yn haws, os bydd achos positif, i adnabod y rheini y gallai fod angen iddynt hunanynysu a chadw’r nifer hwnnw mor isel â phosibl.
Dylid cadw pob grŵp ar wahân i grwpiau eraill lle bo modd a dylid annog y dysgwyr hŷn i gadw pellter o fewn grwpiau cyswllt. Os bydd ysgolion yn gallu gwneud hynny, dylent gymryd camau i sicrhau bod grwpiau cyswllt gwahanol yn rhyngweithio cyn lleied â phosibl â’i gilydd ac yn rhannu ystafelloedd a mannau cymdeithasol cyn lleied â phosibl. Rydym yn cydnabod na fydd plant iau yn gallu cadw pellter cymdeithasol, ac mae hi’n dderbyniol iddynt beidio â chadw pellter yn eu grŵp.
Nid yw’r dull gwahanu grwpiau na’r dull cadw pellter yn opsiynau ‘popeth neu ddim’ a byddant yn dal yn arwain at fanteision hyd yn oed os cânt eu gweithredu’n rhannol. Mae’n bosibl y bydd brodyr a chwiorydd mewn grwpiau gwahanol hefyd. Bydd ymdrechu i gadw’r grwpiau hyn ar wahân, yn rhannol o leiaf, a lleihau’r cyswllt rhwng y plant yn dal i arwain at fanteision o ran iechyd y cyhoedd gan fod hyn yn lleihau’r rhwydwaith posibl o bobl y gellid trosglwyddo’r haint iddynt yn uniongyrchol.
Os bydd yr amodau yn caniatáu, yn ddelfrydol dylai staff sy’n gyfrifol am ddysgwyr iau aros mewn grwpiau penodol yn hytrach na symud ar draws gwahanol grwpiau. Pan fydd angen i staff symud rhwng grwpiau, dylent geisio cadw eu pellter oddi wrth y dysgwyr a’r staff eraill gymaint ag y bo modd, a dau fetr oddi wrth oedolion eraill yn ddelfrydol. Unwaith eto, rydym yn cydnabod nad yw’n debygol y bydd hyn yn bosibl gyda phlant iau.
Mesurau yn yr ystafell ddosbarth
Mae cadw pellter rhwng pobl pan fyddant dan do a lleihau’r amser maent yn ei dreulio mewn cyswllt wyneb yn wyneb yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint. Mae cyngor iechyd cyhoeddus cryf y dylai staff mewn ysgolion uwchradd gadw pellter oddi wrth eu dysgwyr, gan aros o flaen y dosbarth, ac oddi wrth eu cydweithwyr pan fo hynny’n bosibl. Yn ddelfrydol, dylai oedolion gadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd, ac oddi wrth blant. Rydym yn gwybod na fydd hyn bob tro’n bosibl, yn enwedig wrth weithio gyda phlant iau, ond os gall oedolion wneud hyn pan fydd amgylchiadau’n caniatáu, bydd hynny’n helpu. Yn benodol, dylent osgoi cyswllt wyneb yn wyneb agos a lleihau’r amser a dreulir yn nes nag un metr at unrhyw un. Yn yr un modd, ni fydd hyn yn bosibl wrth weithio gyda llawer o ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth neu y mae angen gofal cyswllt agos arnynt. Dylid darparu cymorth addysgol a gofal y dysgwyr hyn yn yr un ffordd ag arfer.
Dylid cefnogi plant sy’n ddigon hen i gadw pellter ac i beidio â chyffwrdd y staff na'u cyfoedion pan fo hynny’n bosibl. Ni fydd hyn yn bosibl i’r plant ieuengaf a rhai plant sydd ag anghenion cymhleth, ac nid yw’n ymarferol mewn rhai ysgolion lle nad oes digon o le ar gael. Bydd ysgolion yn gwneud hyn pan fydd modd, a bydd hyd yn oed gwneud hyn rhywfaint o’r amser yn helpu.
Pan na fydd staff neu blant yn gallu cadw pellter, yn enwedig plant iau mewn ysgolion cynradd, mae modd lleihau’r risg hefyd drwy gadw dysgwyr mewn grwpiau llai.
Dylai ysgolion wneud mân addasiadau i’r ystafell ddosbarth i gefnogi cadw pellter pan fydd hynny’n bosibl. Dylai hynny gynnwys gosod seddi’r dysgwyr ochr yn ochr ac yn wynebu ymlaen, yn hytrach nag wyneb yn wyneb neu’n wynebu’r ochr, a gallai olygu symud celfi diangen o ystafelloedd dosbarth i wneud mwy o le.
Mesurau mewn mannau eraill
Dylid cadw grwpiau ar wahân, sy’n golygu y dylai ysgolion osgoi cynulliadau fel gwasanaethau boreol neu addoli ar y cyd gyda mwy nag un grŵp.
Dylid cadw grwpiau ar wahân a dylent symud cyn lleied â phosibl o amgylch safle’r ysgol. Er bod pasio ei gilydd yn gyflym yn y coridor neu’r maes chwarae yn risg isel, dylai ysgolion osgoi creu coridorau, mynedfeydd ac allanfeydd prysur. Dylai ysgolion hefyd ystyried amseroedd egwyl ac amseroedd cinio gwahanol (ac amser i lanhau arwynebau yn y neuadd fwyd rhwng grwpiau).
Dylai ysgolion hefyd gynllunio sut mae mannau a rennir i’r staff yn cael eu trefnu a’u defnyddio i helpu staff i gadw pellter oddi wrth ei gilydd. Dylid gwneud defnydd llai o ystafelloedd staff, er bod rhaid i’r staff gael egwyl ddigon hir yn ystod y dydd o hyd.
Defnyddio gorchudd wyneb at ddibenion iechyd
Nid yw gorchuddion wyneb yn cymryd lle mesurau llawer mwy effeithiol fel cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo. Pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud i ddefnyddio gorchudd wyneb, byddem yn annog unigolion i ddefnyddio gorchuddion wyneb y gellir eu hailgylchu/eu defnyddio fwy nag unwaith, ac i'w defnyddio’n gywir drwy orchuddio’r geg a’r trwyn, gan sicrhau hylendid dwylo cyn eu gwisgo a’u tynnu. Dylai ysgolion hefyd sicrhau bod digon o finiau gwastraff ar y safle i’r rheini sy’n defnyddio gorchuddion wyneb untro.
Dylai gorchuddion wyneb gynnwys tair haen fel y nodir gan Sefydliad Iechyd y Byd, ond nid oes angen iddynt fod yn fasgiau wyneb graddfa feddygol. Nid yw gorchuddion wyneb na feisorau yn gyfarpar diogelu personol (PPE) ac ni fyddent yn atal unigolyn rhag cael ei adnabod fel cyswllt agos gan Profi, Olrhain, Diogelu.
Yn ystod y cyfnod hwn, hyd yn oed gyda phresenoldeb is, dylid cadw pellter cymdeithasol lle bo modd. Os nad oes modd cadw pellter cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwn o bresenoldeb is, dylai dysgwyr a staff mewn ysgolion uwchradd wisgo gorchudd wyneb yn yr ystafell ddosbarth. Dylai oedolion a dysgwyr barhau i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob rhan o adeilad yr ysgol y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Yr eithriad i hyn yw yn ystod prydau bwyd a phan fyddant y tu allan, oni bai fod asesiad risg yr ysgol yn dangos bod angen mesurau ychwanegol, ee, ar iard ysgol lle mae nifer fawr o ddysgwyr mewn lle cymharol fach ac nad yw’r grwpiau cyswllt wedi’u gwahanu (fel pan fyddant yn aros i fynd i mewn i’r ysgol). Nid yw gwisgo a thynnu gorchuddion wyneb yn aml yn cael ei argymell oherwydd mae hyn yn gallu peri risg o halogi'r dwylo a’r wyneb; os yw’r dysgwyr y tu allan am gyfnod byr, efallai y bydd yn haws iddynt beidio â thynnu eu gorchuddion wyneb. Ni ddylai dysgwyr wisgo gorchuddion wyneb wrth redeg o gwmpas, chwarae pêl-droed neu chwarae gemau egnïol eraill.
Dylai dysgwyr mewn lleoliadau ac ysgolion uwchradd barhau i wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gludiant penodedig i’r ysgol. Nid yw hyn yn berthnasol i blant iau mewn ysgolion cynradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Os oes unrhyw un yn dymuno gwisgo gorchudd wyneb am resymau personol yn unrhyw le yn yr ysgol/lleoliad, dylid caniatáu iddynt wneud hynny. Gallai hyn helpu i gefnogi lles ehangach, lleihau pryder a rhoi sicrwydd ychwanegol i rai unigolion ochr yn ochr â mesurau lliniaru eraill.
Bydd gyrwyr tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat yng Nghymru yn medru hawlio pecyn am ddim o gyfarpar diogelu personol ansawdd uchel a deunyddiau glanhau cerbyd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw magu hyder gyrwyr a theithwyr wrth deithio’n ddiogel
Dylai pobl sy’n ymweld â lleoliad yr ysgol ddefnyddio gorchudd wyneb, gan gynnwys rhieni/gofalwyr wrth ddanfon a chasglu dysgwyr.
Bydd angen i ysgolion gyfathrebu’n gyflym ac yn glir â staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr bod y trefniadau newydd yn mynnu bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo mewn rhai amgylchiadau. Dylai ysgolion hefyd wneud yn siŵr bod arwyddion priodol ar y safle i sicrhau bod ymwelwyr a rhieni/gofalwyr yn ymwybodol ei bod yn ofynnol iddynt wisgo gorchuddion wyneb wrth ddod i mewn i safle’r ysgol.
Mae rhywfaint o bethau i’w hystyried o ran gorchuddion wyneb a allai beri risg neu niwed, gan gynnwys:
- y posibilrwydd y gallai’r feirws ymledu’n anfwriadol wrth wisgo neu dynnu gorchuddion wyneb
- yr angen am gyflenwad; eu gwisgo’n ddiogel; storio a gwaredu gorchuddion wyneb
- y risg o stigmateiddio neu fwlio’r rheini sydd ag eithriadau meddygol (yn enwedig dysgwyr niwroamrywiol)
- problemau i’r rheini sy’n dallen gwefusau
- effeithiau niweidiol ar ddysgu, cyfathrebu ac ymgysylltu’n emosiynol sy’n deillio o guddio nodweddion
Rhaid rhoi blaenoriaeth i fuddiannau cyffredinol y person ifanc yn yr amgylchiadau hyn ac ni ddylai wynebu'r risg o gael ei rwystro rhag mynd ar gludiant i neu o’r ysgol neu’r lleoliad, na rhag mynychu’r ysgol neu'r lleoliad os argymhellir gorchuddion wyneb. Efallai y bydd angen darparu gorchuddion wyneb i rai grwpiau o ddysgwyr nad ydynt efallai’n gallu eu cael drwy ddulliau eraill, os ydynt yn cael eu hargymell yn lleol.
Mae meddwl am les y dysgwyr yn hollbwysig wrth ystyried a ddylai staff neu ddysgwyr hŷn wisgo gorchudd wyneb ai peidio. Ni ddylai neb na fyddant efallai’n gallu defnyddio gorchudd wyneb yn unol â’r cyfarwyddiadau, ee dysgwyr ifanc neu’r rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau, wisgo gorchudd o’r fath gan y gallai hynny gynyddu’r risg o drosglwyddo’r haint. Dylid hefyd ystyried sut mae dysgwr yn debygol o ymateb i ddefnydd pobl eraill o orchuddion wyneb, yn ogystal ag unrhyw effaith bosibl ar ddatblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn enwedig yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae rhai amgylchiadau lle nad yw pobl yn gallu gwisgo gorchudd wyneb o bosibl. Byddwch yn ystyriol ac yn barchus o amgylchiadau o’r fath, gan gofio efallai fod rhai pobl yn llai abl i wisgo gorchudd wyneb ac efallai nad yw pobl eraill yn gallu gweld y rhesymau dros hyn. Efallai fod gan staff a dysgwyr esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb (er enghraifft):
- nid ydynt yn gallu rhoi gorchudd wyneb ymlaen na'i wisgo oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, neu oherwydd cyflwr neu nam
- maent yn cynorthwyo rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau pan mae angen iddynt gyfathrebu ac ni allant gael gafael ar orchudd wyneb clir
- maent yn dianc rhag bygythiad neu berygl ac nid oes ganddynt orchudd wyneb
Gorchuddion wyneb a’r goblygiadau i ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel
Dylid ystyried yn ofalus effaith gwisgo gorchudd wyneb ar ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel, gan fod cyfathrebu i lawer o bobl fyddar yn dibynnu’n rhannol ar allu gweld wyneb rhywun yn glir. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi darparu’r awgrymiadau canlynol ar gyfer cyfathrebu, a allai fod yn ddefnyddiol i staff yn hyn o beth.
Bydd y cyngor ar orchuddion wyneb yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf bob amser.
Ystyriaethau eraill
Yn ddibynnol ar y niferoedd sy’n mynd yno yn ystod y cyfnod hwn, dylai ysgolion ystyried amrywio neu addasu’r amseroedd dechrau a gorffen i gadw grwpiau ar wahân wrth iddynt gyrraedd a gadael yr ysgol. Ni ddylai addasu’r amseroedd dechrau a gorffen leihau faint o amser addysgu a geir yn gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd addasu’r amser dechrau’n golygu cywasgu/gwasgaru gwersi rhydd neu amser egwyl ond gan gadw'r un cyfnod o amser addysgu, neu gadw hyd y diwrnod yr un fath ond gan ddechrau a gorffen yn hwyrach er mwyn osgoi’r cyfnodau prysur. Dylai ysgolion ystyried sut maent am gyfleu hyn i rieni/gofalwyr a’u hatgoffa o’r broses y cytunwyd arni ar gyfer danfon a chasglu dysgwyr, gan gynnwys na cheir ymgynnull wrth giatiau’r ysgol na dod i’r safle heb apwyntiad.
Bydd angen help a pharatoadau arbennig ar rai dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gyda’r newidiadau i’r drefn. Dylai athrawon a chydlynwyr AAA gynllunio i ddiwallu’r anghenion hyn, ee, drwy ddefnyddio straeon cymdeithasol.
Mae athrawon cyflenwi, athrawon peripatetig a/neu staff dros dro eraill yn gallu symud rhwng ysgolion. Dylent sicrhau eu bod yn cael cyn lleied o gyswllt â phosibl ac yn cadw cymaint o bellter â phosibl oddi wrth staff a dysgwyr eraill. Dylai arbenigwyr, therapyddion, clinigwyr a staff cymorth eraill ar gyfer dysgwyr sydd ag AAA ddarparu ymyriadau yn yr un modd ag arfer ac yn unol ag asesiad risg y lleoliad. Dylai ysgolion:
- ystyried sut mae rheoli pobl eraill sy’n ymweld â’r safle, fel contractwyr
- sicrhau bod canllawiau’r safle ar gadw pellter cymdeithasol/corfforol a hylendid yn cael eu hegluro i ymwelwyr wrth iddynt gyrraedd neu cyn hynny
- sicrhau bod arwyddion yn cael eu defnyddio a’u dangos yn amlwg ar y safle
Lle bo hynny’n bosibl, dylai ymweliadau ddigwydd y tu allan i oriau’r ysgol. Dylid cadw cofnod o’r holl ymwelwyr oherwydd efallai y bydd angen yr wybodaeth hon rywbryd yn y dyfodol i gynorthwyo strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru.
Bydd angen i awdurdodau lleol, fel comisiynwyr addysg heblaw yn yr ysgol, fod yn dawel eu meddwl bod darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol wedi cydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch sy’n mynnu eu bod yn asesu risgiau ac yn rhoi mesurau rheoli cymesur ar waith. Pan fydd dysgwr yn mynychu mwy nag un lleoliad yn rheolaidd ar sail ran-amser, ee, oherwydd ei fod wedi’i gofrestru’n ddeuol mewn ysgol brif ffrwd a naill ai uned cyfeirio disgyblion, lleoliad addysg heblaw yn yr ysgol, neu ysgol arbennig, dylai’r lleoliadau weithio drwy’r system reoli ar y cyd, a fydd yn golygu eu bod yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a nodir a darparu cwricwlwm eang a chytbwys ar y cyd ar gyfer y dysgwr. Yn ystod y cyfnod hwn, gallai'r lleoliadau ystyried a fyddai’n bosibl darparu dysgu ar un safle.
Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod cyfarpar chwarae yn yr awyr agored yn cael ei lanhau’n amlach. Byddai hyn hefyd yn berthnasol i adnoddau a ddefnyddir dan do ac yn yr awyr agored gan ddarparwyr gofal cofleidiol. Mae’n dal i gael ei argymell na ddylai dysgwyr ddod â llawer o bethau gyda nhw i’r ysgol bob dydd. Dim ond hanfodion fel bocsys bwyd, bagiau, hetiau, cotiau, llyfrau, deunyddiau ysgrifennu a ffonau symudol dylid dod â nhw i’r ysgol. Mae’n iawn i ddysgwyr ac i staff fynd â llyfrau ac adnoddau eraill sy’n cael eu rhannu adref gyda nhw, er dylid osgoi unrhyw rannu diangen, yn enwedig pan na fydd hyn yn cyfrannu at addysg a datblygiad dysgwyr. Dylai rheolau tebyg ar olchi dwylo, glanhau’r adnoddau a chylchdroi fod yn berthnasol i’r adnoddau hyn.
Mewn perthynas â chyfarpar unigol sy’n cael ei ddefnyddio’n aml iawn, fel pensiliau a phinnau ysgrifennu, rydym yn argymell y dylai'r staff a’r dysgwyr gael eu heitemau eu hunain a pheidio â'u rhannu. Mae modd i’r grŵp cyswllt ddefnyddio a rhannu adnoddau yn yr ystafell ddosbarth, fel llyfrau a gemau; dylid glanhau’r rhain yn rheolaidd, ynghyd â’r holl arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Dylai adnoddau sy’n cael eu rhannu rhwng grwpiau cyswllt – fel cyfarpar chwaraeon, celf a gwyddoniaeth – gael eu glanhau’n rheolaidd ac yn drylwyr a bob tro rhwng grwpiau cyswllt, neu dylid eu cylchdroi i sicrhau na fyddant yn cael eu defnyddio ac na fyddant o fewn cyrraedd am gyfnod o 48 awr (72 awr ar gyfer plastigau) rhwng gwahanol grwpiau cyswllt.
Os bydd plant heb symptomau’n ymddwyn mewn ffordd a allai gynyddu faint o ddefnynnau sy’n cael eu trosglwyddo (fel brathu, cusanu neu boeri) neu os bydd angen gofal arnynt nad oes modd ei ddarparu heb gyswllt agos, dylent barhau i gael gofal yn yr un ffordd, gan gynnwys unrhyw drefn sydd eisoes yn bodoli o ran defnyddio cyfarpar diogelu personol.
Yn yr amgylchiadau hyn, i leihau’r risg o drosglwyddo COVID-19, nid oes angen unrhyw gyfarpar diogelu personol ychwanegol gan fod y rhain yn blant heb symptomau mewn lleoliad nad yw’n un gofal iechyd ac felly mae’r risg o drosglwyddo’r feirws yn isel iawn. Fodd bynnag, bydd angen lle ychwanegol a bydd angen glanhau arwynebau, gwrthrychau a theganau’n rheolaidd. Dylid cynyddu’r trefniadau glanhau ym mhob ysgol a lleoliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml.
Gwisgo cyfarpar diogelu personol lle bo angen
Mae cyfarpar diogelu personol (PPE) yn wahanol i orchudd wyneb a bydd yn bodloni’r safonau gofynnol i ddiogelu’r unigolyn. Bydd y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen yn dibynnu ar yr union dasgau sy’n cael eu gwneud a bydd yn amrywio rhwng gwahanol amgylcheddau gwaith.
Mae hi’n bwysig cofio bod tystiolaeth gref sy’n dangos mai cadw pellter cymdeithasol/corfforol, hylendid dwylo a hylendid anadlol (dal peswch neu disian mewn hances bapur a chuddio’r geg a’r trwyn gyda phenelin neu lawes) yw’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal y coronafeirws rhag lledaenu.
Felly nid oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol wrth gynnal gweithgareddau addysgol arferol mewn ystafell ddosbarth/lleoliadau ysgol.
Mae’r rhestr isod yn nodi pryd y gallai fod angen defnyddio cyfarpar diogelu personol.
Gweithgareddau arferol
- Nid oes angen cyfarpar diogelu personol wrth gynnal gweithgareddau addysgol arferol mewn ystafell ddosbarth neu leoliad ysgol.
Amheuaeth o COVID-19
- Dylid gwisgo menyg, ffedogau a masgiau llawfeddygol atal hylif os bydd plentyn neu berson ifanc yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 a bod angen gofal personol uniongyrchol ar y plentyn neu’r person ifanc.
- Dylid hefyd gwisgo cyfarpar diogelu’r llygaid os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid, er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny.
- Dylid gwisgo menyg a ffedogau wrth lanhau’r ardaloedd lle mae rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno wedi bod.
Gofal personol
- Dylid parhau i wisgo menyg a ffedogau wrth ddarparu gofal personol i blentyn neu i berson ifanc. Mae hyn yn gallu cynnwys gofal ymarferol personol fel ymolchi, defnyddio’r toiled neu gymorth cyntaf a rhai gweithdrefnau clinigol fel cymorth bwydo.
- Dylid gwisgo masgiau llawfeddygol atal hylif a chyfarpar diogelu’r llygaid (os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid, er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny).
- Dylid defnyddio menyg, gynau sy’n atal hylif, masgiau FFP3 a chyfarpar diogelu’r llygaid wrth ymgymryd â thriniaethau sy’n cynhyrchu aerosolau fel sugno.
- Dylid defnyddio menyg a ffedogau wrth lanhau cyfarpar neu arwynebau y mae’n bosibl eu bod wedi cael eu halogi gan hylifau o’r corff fel poer neu secretiadau anadlol. Mae canllawiau Gov.UK hefyd yn nodi y dylid gwisgo menyg a ffedog wrth lanhau ardaloedd lle mae rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno wedi bod.
Dylai staff mewn lleoliadau ddefnyddio cyfarpar diogelu personol ar sail asesiad clir o’r risg, gan ystyried pob lleoliad unigol ac anghenion y dysgwr unigol. Mae gan ysgolion, lleoliadau ac awdurdodau lleol brosesau asesu risg eisoes mewn lle a dylid defnyddio’r rhain i weld a oes angen defnyddio cyfarpar diogelu personol ai peidio. Ar ôl cynnal unrhyw asesiad risg, os daethpwyd i’r casgliad bod angen cyfarpar diogelu personol, dylai fod ar gael yn hawdd a dylai gael ei ddarparu gan y cyflogwr. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi darparu rhagor o wybodaeth.
Dylai’r holl staff ddeall sut mae gwisgo a thynnu cyfarpar diogelu personol yn y drefn iawn, gwaredu’r gwastraff yn ddiogel a defnyddio camau hylendid dwylo cywir i leihau’r risg o drosglwyddo'r haint ymlaen.
Ym mhob sefyllfa, dylid bob amser golchi dwylo cyn gwisgo cyfarpar diogelu personol ac ar ôl ei dynnu i ffwrdd. Dylai ysgolion a lleoliadau gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael cyfarpar diogelu personol ar gyfer yr uchod, a thrafod unrhyw ofynion hyfforddi perthnasol.
Sicrhau bod mannau a ddefnyddir yn cael eu hawyru’n dda
Yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bwysig sicrhau bod ysgolion a lleoliadau’n parhau i gael eu hawyru’n dda a bod amgylchedd addysgu cyfforddus yn cael ei gynnal.
Mae rhagor o gyngor ar hyn ar gael yng nghanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar aerdymheru ac awyru yn ystod y coronafeirws ac yng nghyngor Sefydliad Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu Siartredig (CIBSE) ar COVID-19.
Hefyd gellid awyru drwy amryw o fesurau ychwanegol, gan gynnwys:
- systemau awyru mecanyddol – dylid addasu’r rhain i gynyddu’r gyfradd awyru lle bynnag y bo modd, a’u gwirio i gadarnhau bod y gweithrediad arferol yn bodloni’r canllawiau cyfredol (os oes modd, dylid addasu’r systemau i awyr iach yn llawn neu, os nad oes modd gwneud hynny, dylid gweithredu’r systemau yn ôl yr arfer cyn belled â’u bod mewn un ystafell ac yn cael eu hategu gan gyflenwad aer awyr agored)
- awyru naturiol – agor ffenestri (mewn tywydd oerach, dylid agor ffenestri ddigon i sicrhau bod awyru cefndirol cyson, a’u hagor yn fwy llydan yn ystod egwyliau i lanhau’r aer yn y gofod). Gellir hefyd agor ffenestri’n fwy llydan cyn i ddysgwyr a staff addysgu gyrraedd ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Gall agor drysau mewnol hefyd helpu i gynyddu llif yr aer (cyn belled â’u bod nhw ddim yn ddrysau tân a’i bod yn ddiogel gwneud hynny)
- awyru naturiol – os oes angen, gellir agor drysau allanol hefyd (cyn belled â’u bod nhw ddim yn ddrysau tân a’i bod yn ddiogel gwneud hynny)
Er mwyn cynyddu’r gyfradd awyru awyr iach i sicrhau gwanhad, gallai ysgolion geisio gwneud y canlynol.
- Gwirio a yw’r dulliau awyru’n gweithio’n dda – ffenestri, gridiau, briciau aer – a’u bod heb eu rhwystro, gan wneud yn siŵr eu bod yn gweithio a nodi ardaloedd sydd wedi’u hawyru’n wael.
- Cael cyngor gan weithwyr proffesiynol cymwys ym maes gwresogi ac awyru.
- Dechrau awyru ystafelloedd cyn y diwrnod ysgol a chaniatáu i hynny barhau drwy gydol y dydd ac ar ôl i’r dosbarthiadau ddod i ben.
- Gosod unedau trin yr aer i sicrhau cymaint o awyr iach â phosibl wrth ei ailgylchu.
- Agor ffenestri a drysau i ddarparu awyru digonol gan gynnal tymheredd cyfforddus yn y gweithle (yn dibynnu ar sŵn a chyfyngiadau tân).
- Dweud wrth staff addysgu sut mae sicrhau’r awyru mwyaf effeithiol – ee agor y ffenestri uchaf – symud rhwystrau fel llenni/bleinds.
- Defnyddio ffaniau nenfwd neu ffaniau desg i atal pocedi o aer llonydd – dim ond lle mae’r ardal wedi’i hawyru’n dda.
- Awyru ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd eraill rhwng dosbarthiadau a defnyddiau, ee drwy agor pob drws (heblaw drysau tân) a ffenestr led y pen.
- Ystyried targed ar gyfer y capasiti uchaf mewn ystafelloedd llai er mwyn sicrhau gwanhad gwell.
- Ystyried defnyddio monitorau CO2 i nodi ardaloedd lle gellid wynebu heriau o ran sicrhau awyru digonol.
Dylid defnyddio gwres yn ôl yr angen i sicrhau bod lefel gyfforddus yn cael ei chynnal, yn enwedig mewn mannau y mae pobl yn eu defnyddio.
Ymateb i unrhyw haint
Ymgysylltu â’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu
Cafodd y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu, a gyhoeddwyd ar 13 Mai 2020, ei rhoi ar waith ar draws Cymru ar 1 Mehefin 2020.
Mae’r strategaeth hon yn nodi cam nesaf ein dull gweithredu i fynd i’r afael â’r coronafeirws: profi pobl sydd â symptomau yn y gymuned, olrhain y rheini sydd wedi cael cyswllt agos â phobl sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws, a diogelu teulu, ffrindiau a’n cymuned drwy hunanynysu. Ers mis Medi 2020, mae’r strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi bod yn cael ei chefnogi gan ap COVID-19 y GIG.
Mae Profi, Olrhain, Diogelu yn gweithio drwy:
- brofi pobl sydd â symptomau’r coronafeirws a gofyn iddynt ynysu oddi wrth deulu, ffrindiau a’u cymuned a chymryd prawf ac aros am ganlyniad. Gall pobl wneud cais am brawf eu hunain neu ar ran aelod o’u haelwyd sydd â symptomau. Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant, gan gynnwys plant dan 5 oed. Mae canllawiau Profi, Olrhain, Diogelu i staff ar sut mae gwneud cais am brawf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru
- os nad yw’r symptomau o ganlyniad i’r coronafeirws, sicrhau bod unigolion a’u cysylltiadau’n gallu dod â'u cyfnod o hunanynysu i ben a dychwelyd i’w trefn arferol ar unwaith pan fydd y canlyniad negatif yn hysbys
- olrhain y bobl sydd wedi cael cyswllt agos â’r bobl sydd wedi cael canlyniad positif am y feirws a mynnu eu bod yn hunanynysu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru am olrhain cysylltiadau a sut bydd yn gweithio
- darparu cyngor a chanllawiau yn enwedig os oedd y sawl sydd â symptomau neu ei gysylltiadau yn arfer bod yn y ‘grŵp gwarchod’ neu’r grŵp risg uwch
Drwy leihau’r trosglwyddo yn ein cymunedau, a drwy fynd ati’n gyflym i adnabod ac i ynysu’r rheini sydd mewn perygl o ddatblygu COVID-19 ar ôl cael cyswllt agos gydag unigolyn positif (ee cysylltiad hysbys neu aelod o’r teulu) byddwn yn cefnogi agor ysgolion, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar yn ehangach.
Mae cyflwyno’r cynnig i gael profion cyswllt dyddiol i gysylltiadau heb fod ar yr aelwyd, a phrofion canfod achosion rheolaidd ar gyfer staff ysgolion arbennig, ym mhob lleoliad gyda dysgwyr ym Mlwyddyn 7 neu uwch, yn ffordd arall o helpu’r holl ddysgwyr i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb ac o gadw plant a staff yn yr ysgol. Mae'r amrywiolyn newydd yn golygu ei bod yn iawn inni ailystyried yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ynghylch defnyddio profion cyswllt dyddiol mewn ysgolion ac felly byddwn yn ceisio cyngor a data pellach cyn y gall unrhyw brofion cyswllt dyddiol ddechrau.
Mae'r ysgolion a'r lleoliadau hynny sydd wedi optio i mewn i’r rhaglen brofi wedi derbyn canllawiau manwl ac os ydynt yn cael unrhyw broblemau gyda phrofion dylent gysylltu â ProfionAddAGP@llyw.cymru a fydd yn hapus i helpu.
Dylai ysgolion a lleoliadau atgyfnerthu’r negeseuon hyn ac yn benodol dylent atgoffa pawb sy’n cael prawf negatif nad yw hyn yn golygu bod modd iddynt lacio unrhyw fesurau atal haint a/neu os ydynt yn dangos unrhyw un o symptomau COVID-19 y dylent hunanynysu ar unwaith a threfnu prawf. Rhaid i’r rheini sy’n byw gyda rhywun sydd â symptomau neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19 hunanynysu hefyd. Lle bo hynny’n bosibl, byddai’n ddefnyddiol i ysgolion a lleoliadau gadw cofnod o unrhyw un sy’n dod i mewn i grwpiau cyswllt (ee timau ymyriadau). Gallai hyn fod yn llyfr syml ym mhob ystafell ddosbarth sy’n cofnodi unrhyw un sy’n dod i mewn o’r ‘tu allan’.
Rheoli achosion o COVID-19 sydd wedi’u cadarnhau yng nghymuned yr ysgol
Os ceir canlyniad positif, bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â’r sawl a gafodd y prawf i helpu i ganfod cysylltiadau posibl. Bydd ail swyddog olrhain cysylltiadau wedyn yn cysylltu â’r bobl hynny ac yn eu cynghori i hunanynysu ers y tro diwethaf iddynt ddod i gysylltiad â'r sawl a gafodd ganlyniad positif. Dim ond os ydynt yn datblygu symptomau y bydd angen i’r bobl hyn wneud y prawf. Os bydd clwstwr yn digwydd yn yr ysgol/lleoliad, bydd yr aelodau o’r clwstwr yn cael manylion unigolyn cyswllt penodol sy’n rheoli'r clwstwr yn Profi, Olrhain, Diogelu. Byddant yn gallu rhoi gwybod i’r unigolyn hwn am unrhyw achosion newydd neu godi unrhyw bryderon eraill fel nifer cynyddol o achosion posibl. Mae rhagor o ganllawiau ar olrhain cysylltiadau ar gael.
Nid yw canlyniad positif yn golygu bod angen cau’r safle felly. Mae'r broses o brofi ac olrhain cysylltiadau yn rhan o’r ‘normal newydd’ a phan fydd ysgolion a lleoliadau’n dilyn y canllawiau hyn yn ofalus, nid oes rheswm dros boeni. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Pan fydd dysgwyr agored i niwed yn hunanynysu, mae’n bwysig bod ysgolion yn rhoi systemau ar waith i gadw mewn cysylltiad â nhw, cynnig cymorth bugeiliol, a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael gafael ar gymorth addysg.
Ar sail cyngor y tîm diogelu iechyd, mae templed o lythyr wedi cael ei ddatblygu ar gyfer ysgolion i’w anfon at rieni a staff os oes angen.
Ni ddylai ysgolion a lleoliadau ofyn am dystiolaeth o ganlyniadau profion negatif na thystiolaeth feddygol arall cyn derbyn dysgwyr neu eu croesawu’n ôl ar ôl cyfnod o hunanynysu.
Adnabod clystyrau ac achosion lluosog o COVID-19
Gan adeiladu ar y Cynllun ar gyfer Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy i Gymru (2020) mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu cyngor penodol ynghylch rheoli ac ymchwilio i glystyrau ac achosion lluosog o COVID-19. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y ddogfen honno.
Ap COVID-19 y GIG
Mae staff a dysgwyr 16 oed a hŷn yn gymwys i ddefnyddio ap COVID-19 y GIG. Dylai ysgolion ddweud wrth ddysgwyr sy’n defnyddio’r ap am roi gwybod i aelod o staff os ydynt yn cael rhybudd eu bod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â symptomau.
Os bydd dysgwr yn cael hysbysiad gan yr ap, dylai roi gwybod i oedolyn dibynadwy – aelod o staff yr ysgol fel arfer. Dylai’r ysgol ddilyn ei gweithdrefnau COVID-19 yn yr un modd â phe bai’r dysgwr hwnnw wedi bod yn bresennol yn yr un dosbarth â dysgwr a oedd wedi dangos symptomau.
Nid oes angen i ysgolion ddiweddaru polisïau ar ddefnyddio ffonau symudol.
Gweithrediadau ysgol
Presenoldeb yn ystod y cyfnod hwn
Bydd ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn y sector a gynhelir a'r sector annibynnol yn parhau i fod ar agor i ddysgwyr agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol yn unig. Dylai pob dysgwr arall gael darpariaeth dysgu o bell. Ni ddylai dysgwyr sy’n hunanynysu fynd i’r ysgol. Cynghorir dysgwyr sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol i beidio â mynd i’r ysgol chwaith.
Dylai ysgolion a lleoliadau barhau i gofnodi presenoldeb ar y gofrestr a dylent fynd ar drywydd absenoldebau’r dysgwyr y disgwylir iddynt fod yn yr ysgol ond bod rhiant/gofalwr yn dymuno i’w plentyn fod yn absennol; rydym yn disgwyl i ysgolion awdurdodi’r absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn. Ni fydd absenoldeb yn cael ei gosbi.
Os nad yw dysgwr yn gallu dod i’r ysgol oherwydd ei fod yn hunanynysu, mae’n hanfodol bod yr ysgol yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â’r dysgwr o bell. Mae canllawiau dysgu ar gael i helpu ysgolion a lleoliadau i wneud hynny. Yn dilyn ymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru wedi dirymu Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 (a ddaeth i rym o 7 Awst 2020 ymlaen). O ganlyniad, nid yw’n ofynnol i ysgolion osod targedau ar gyfer y blynyddoedd i ddod nac adrodd ar y rhai a bennwyd yn flaenorol ar gyfer 2019 i 2020 ymlaen. Fodd bynnag, bydd y gwaith o gasglu data presenoldeb blynyddol yn parhau.
Dylai ysgolion gofnodi presenoldeb ac absenoldeb yn unol â’r codau canlynol. Codau dros dro yw [ a ; sydd wedi cael eu cyflwyno mewn ymateb i’r amgylchiadau newydd. Mae canllawiau ynghylch pryd y dylid eu defnyddio yn dilyn y crynodeb.
Pa god dylid ei ddefnyddio?
Cod | Ystyr | Categori ystadegol |
---|---|---|
/ | Yn bresennol yn yr ysgol yn y bore | Yn bresennol |
\ | Yn bresennol yn yr ysgol yn y prynhawn | Yn bresennol |
[ | Dysgu o bell oherwydd COVID-19. | Dim rhaid bod yn bresennol |
; | Salwch oherwydd COVID-19. | Absenoldeb awdurdodedig |
Y | Absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol oherwydd COVID-19. | Dim rhaid bod yn bresennol |
Mae’r holl godau eraill yn berthnasol yn unol â’r canllawiau ar bresenoldeb mewn ysgolion.
/\ (cod ar gyfer dysgwyr sy’n bresennol)
Dylid cofnodi bod yr holl blant a ddisgwylir ar gyfer y diwrnod hwnnw neu sydd mewn grŵp blaenoriaeth (plant gweithwyr hanfodol a phlant agored i niwed) yn bresennol / \ wrth gyrraedd yr ysgol neu’r lleoliad.
[ (cod dros dro ar gyfer dysgu o bell oherwydd COVID-19)
Mae hyn yn cynnwys dysgwyr unigol nad ydynt yn gallu dod i’r ysgol am resymau y mae’r ysgol yn eu deall ac wedi cytuno arnynt. Dylid eu cofnodi fel cod [.
Bydd y cod hwn yn berthnasol i ddysgwyr sy’n hunanynysu am resymau cysylltiedig â COVID-19 fel y nodir yn adran ataliol y canllawiau hyn. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr sydd â symptomau COVID-19; dysgwyr o’r un aelwyd â rhywun sydd â symptomau neu’n achos positif; neu ddysgwyr sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19, ac wedi cael ei hysbysu o hynny drwy’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Ni ddylid defnyddio’r cod hwn ar gyfer grwpiau o ddysgwyr y mae’r ysgol wedi rhoi cyfarwyddyd iddynt beidio â dod i mewn. Yn yr amgylchiadau hyn, dylid defnyddio cod Y.
Gallai’r cod hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer dysgwyr sydd â rhesymau meddygol neu iechyd sy’n eu hatal rhag dod i mewn yn gorfforol, neu efallai fod ganddynt amgylchiadau eithriadol fel cyfrifoldebau gofalu. Byddai hyn hefyd yn berthnasol pe bai llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi argymell bod dysgwyr eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn gwarchod.
Ni ddylid defnyddio’r cod hwn os yw’r dysgwr yn sâl a bod ganddo achos a gadarnhawyd o COVID-19. Yn yr achosion hyn, dylid defnyddio’r cod ;
Rhaid i ysgolion ymgysylltu â rhieni/gofalwyr i ddeall pam nad yw’r dysgwyr yn bresennol a sicrhau nad oes unrhyw bryderon ynghylch lles dysgwyr neu ddewisiadau cefnogaeth eraill y gellid eu trefnu er mwyn iddynt allu bod yn bresennol. Dylai’r ysgol neu’r lleoliad, a'r awdurdod lleol pan fo’n berthnasol, fynd ar drywydd unrhyw bryderon. Dylai’r ysgol adolygu’r sefyllfa gyda’r dysgwr a’r rhieni/gofalwyr yn rheolaidd er mwyn osgoi unrhyw absenoldeb hir.
Bydd y cod dros dro yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi ein casgliad data wythnosol anffurfiol ond bydd [ yn cael ei fapio i’r cod X ar gyfer casgliadau presenoldeb cynradd ac uwchradd statudol ac at ddibenion ystadegol.
; (cod ar gyfer achos a gadarnhawyd o COVID-19)
Dylid defnyddio cod ; os yw’r dysgwr wedi cael gwybod bod ganddo achos a gadarnhawyd o COVID-19. Ni fyddai hyn yn berthnasol oni bai fod ganddo ganlyniad prawf positif a bod yr ysgol wedi cael gwybod yn unol â hynny.
Mae’r cod dros dro ; at ddefnydd yr ysgol yn unig a dylai ysgolion atgoffa holl ddefnyddwyr SIMS o’u dyletswydd cyfrinachedd. Ni fydd y cod yn cael ei ddefnyddio i ddadansoddi proses casglu data wythnosol anffurfiol Llywodraeth Cymru ond bydd ; yn cael ei fapio i’r cod I.
Y (cod ar gyfer absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol)
Dylid defnyddio cod Y ar gyfer absenoldeb dan gyfarwyddyd yr ysgol, yn hytrach nag ar gyfer unigolion o dan god [, a bydd hefyd yn cynnwys dysgu o bell. Bydd hyn yn digwydd pan fydd yr ysgol yn nodi bod angen i ddysgwyr hunanynysu oherwydd bod achos wedi’i gadarnhau yn yr ysgol. Dylid defnyddio cod Y hefyd os bydd yr ysgol yn cau’n rhannol neu’n gyfan gwbl oherwydd COVID-19; mae hyn yn cynnwys pan nad oes gan yr ysgol ddigon o staff, neu pan fydd ysgol wedi cau oherwydd cyfyngiadau symud. Dylid defnyddio’r cod hwn hefyd i amrywio amseroedd dechrau pan nad yw’n ofynnol i ddysgwyr fod yn gorfforol bresennol yn yr ysgol. Ni ddylid defnyddio'r cod hwn ar gyfer diwrnodau HMS, y dylid eu cofnodi fel cod #.
Defnyddio codau absenoldeb awdurdodedig a phresenoldeb eraill
Yn unol â’n canllawiau ar godau presenoldeb ysgolion, bydd gwyliau teulu y mae’r pennaeth wedi cytuno arno a’i awdurdodi yn cael ei godio fel H, a bydd gwyliau estynedig y cytunwyd arno yn cael ei godio fel F. Bydd gwyliau teulu nad yw’r pennaeth wedi cytuno arno, neu sy’n hirach na’r hyn a gytunwyd, yn cael ei godio fel G. Ar ôl dychwelyd o’r gwyliau bydd gofyn i rai teuluoedd hunanynysu os ydynt wedi teithio o wlad nad yw wedi’i heithrio. Dylid cofnodi’r cyfnod hwn o hunanynysu yn unol â’r cod a ddefnyddir ar gyfer gwyliau’r teulu.
Pan fydd codau absenoldeb awdurdodedig a phresenoldeb penodol eraill yn fwy priodol, dylai ysgolion ddefnyddio’r rhain yn yr un modd ag arfer.
Cyngor Llywodraeth Cymru ar bresenoldeb staff a dysgwyr
Beth bynnag fo’r amgylchiadau, ni ddylai dysgwyr na staff ddod i’r ysgol a lleoliad os ydynt:
- yn teimlo’n sâl ac os oes ganddynt unrhyw un o’r symptomau COVID-19 a nodwyd
- wedi cael canlyniad positif am COVID-19
- yn byw mewn cartref gyda rhywun sydd â symptomau COVID-19 neu sydd wedi cael canlyniad positif am COVID-19
Gweithwyr hanfodol
Mae rhestr o’r rhieni/gofalwyr hynny a nodwyd fel gweithwyr hanfodol wedi cael ei chyhoeddi.
Rydym wedi cryfhau’r dyletswyddau ar gyfer awdurdodau lleol sy’n darparu ar gyfer plant gweithwyr hanfodol a dysgwyr agored i niwed gyda Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Rhaid i awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion annibynnol roi sylw i’r rhestr pan fyddant yn penderfynu pwy sy’n weithiwr hanfodol. Mae’r trefniadau hyn yn ymestyn i blant 3 oed a fyddai wedi cael lle mewn addysg ym mis Ionawr 2021.
Wrth benderfynu pwy sy’n weithwyr hanfodol, dylai awdurdodau lleol a pherchnogion ysgolion annibynnol ystyried y mathau o gyflogaeth a'r effeithiau cysylltiedig yn eu hardal. Dylai ysgolion a lleoliadau siarad â rhieni/gofalwyr i weld a yw eu gwaith yn hanfodol i’r ymateb i COVID-19 ac i benderfynu a oes angen i’w plant fynd i’r ysgol. Fodd bynnag, dylai rhieni/gofalwyr sy’n weithwyr hanfodol gadw eu plant gartref os oes modd gwneud hynny. Gwyddom y bydd gan bob ysgol nifer gwahanol o blant gweithwyr hanfodol sydd angen dod yno. Mae’n bwysig darparu addysg ar y safle i’r dysgwyr hyn.
Yn ôl y gyfraith, dim ond un rhiant/gofalwr sydd angen bod yn weithiwr hanfodol er mwyn bod yn gymwys i gael y ddarpariaeth. Er bod gan y plentyn hawl i gael lle, fodd bynnag, nid oes gwarant ohono.
Dysgwyr agored i niwed
Disgwylir i ysgolion a lleoliadau ganiatáu i blant a phobl ifanc agored i niwed ddod i mewn. Caiff rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc agored i niwed eu hannog yn gryf i dderbyn y lle. Os nad yw dysgwyr agored i niwed yn dod i mewn, dylai ysgolion wneud y canlynol:
- gweithio gyda’r awdurdod lleol a’r gweithiwr cymdeithasol (lle bo hynny’n berthnasol) i gysylltu â’r rhiant/gofalwr ynghylch y rheswm dros absenoldeb, gan drafod pryderon yr ysgol drwy ddefnyddio canllawiau ategol sy’n ystyried amgylchiadau’r plentyn a’i fuddion pennaf
- gweithio gyda’r awdurdod lleol, y gweithiwr cymdeithasol (lle bo hynny’n berthnasol) a phartneriaid perthnasol eraill i annog y plentyn neu’r person ifanc i fynychu darpariaeth addysgol, yn enwedig os yw’r gweithiwr cymdeithasol yn cytuno y byddai presenoldeb y plentyn neu’r person ifanc yn briodol
Gweithlu'r ysgol
Yn ystod yr amgylchiadau hyn, disgwylir i bawb weithio gartref lle bo hynny’n bosibl. Arweinwyr ysgolion sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y gweithlu sydd ei angen yn yr ysgol, gan ystyried y canllawiau diweddaraf ar gyfer y staff hynny sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol neu’n feichiog ers 28+ wythnos.
Dylai arweinwyr ysgolion egluro i'r staff pa fesurau y mae’r ysgol wedi’u rhoi ar waith i leihau’r risgiau. Rydym yn rhagweld y bydd glynu wrth y mesurau yn y canllawiau hyn yn rhoi’r sicrwydd angenrheidiol i staff fynd i’r ysgol.
Os yw staff yn bryderus, gan gynnwys y rheini a allai fod yn agored i niwed yn glinigol neu sy’n credu y gallent wynebu risg uwch o ganlyniad i’r coronafeirws, rydym yn argymell bod arweinwyr ysgolion yn trafod unrhyw bryderon sydd gan unigolion am eu hamgylchiadau penodol ac yn rhoi sicrwydd i staff am y mesurau diogelu sydd ar waith.
Staff sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol
Yn dilyn ailgyflwyno’r mesurau gwarchod, cynghorir na ddylai staff sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol fynd i’r gweithle. Dylai staff y nodwyd eu bod yn eithriadol o agored i niwed yn glinigol ddilyn y canllawiau a gyhoeddwyd. Dylai staff siarad â’u cyflogwyr am sut byddant yn cael eu cefnogi, gan gynnwys cymorth i weithio gartref. Dylai ysgolion barhau i dalu staff sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ar eu telerau arferol.
Gall y rheini sy’n byw gyda rhywun sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol barhau i fynd i’r gwaith lle nad oes modd gweithio gartref.
Staff sy’n agored i niwed yn glinigol
Gall staff sy’n agored i niwed yn glinigol barhau i fynd i’r ysgol lle nad os modd gweithio gartref. Pan fyddant yn yr ysgol, dylent ddilyn y mesurau lliniaru i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint.
Mae hyn yn cynnwys cymryd gofal arbennig i sicrhau hylendid anadlol a dwylo da, lleihau cyswllt a chadw pellter cymdeithasol yn unol â’r darpariaethau a nodir yn adran ‘atal’ y canllawiau hyn. Yn ddelfrydol, mae hyn yn golygu y dylai oedolion gadw pellter o ddau fetr oddi wrth bobl eraill a, lle nad yw hyn yn bosibl, dylid osgoi cyswllt wyneb yn wyneb a lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio o fewn un metr i bobl eraill. Er bod y risg o drosglwyddo rhwng plant ifanc ac oedolion yn debygol o fod yn isel, dylai oedolion barhau i ofalu eu bod yn cadw pellter cymdeithasol oddi wrth oedolion eraill, gan gynnwys plant hŷn a’r glasoed.
Gall pobl sy’n byw gyda’r rheini sydd mewn mwy o risg neu sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol fynd i’r gweithle ond dylent sicrhau eu bod yn cynnal arferion da o ran atal yn y gweithle ac yn y cartref.
Staff sy’n feichiog
Dylai staff weithio gartref os oes modd. Os nad oes modd gweithio gartref, dylai staff beichiog a’u cyflogwyr ddilyn y cyngor yn COVID-19: cyngor i weithwyr beichiog.
Mae menywod beichiog yn y categori risg uwch ac fe’u cynghorir yn gyffredinol i ddilyn y cyngor uchod, sy’n berthnasol i’r holl staff mewn ysgolion, a’r cyngor i’r cyhoedd, ond gan fod yn ymwybodol eu bod yn wynebu mwy o risg wrth wneud hynny. Dylai pob menyw feichiog gymryd gofal arbennig i olchi dwylo’n drylwyr yn aml a glanhau mannau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn eu cartref neu eu man gwaith, yn ogystal â dilyn y mesurau a nodir yn adran system reoli'r canllawiau hyn i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint. Ni chynghorir menywod beichiog i gael eu brechu yn erbyn COVID-19.
Dylai asesiad risg cyflogwr o'r gweithle eisoes ystyried unrhyw risgiau i weithwyr benywaidd o oedran geni plant ac, yn benodol, risgiau i famau newydd a beichiog (ee, yn sgil amodau gwaith, neu ddefnyddio cyfryngau ffisegol, cemegol neu fiolegol). Rhaid i unrhyw risgiau a nodir gael eu cynnwys a’u rheoli fel rhan o asesiad risg cyffredinol y gweithle. Fel rhan o’u hasesiad risg, dylai cyflogwyr ystyried a fyddai’n briodol addasu dyletswyddau a/neu hwyluso gweithio gartref er mwyn lliniaru risgiau.
Os bydd ysgol yn cael gwybod bod gweithiwr yn feichiog, yn bwydo ar y fron, neu wedi rhoi genedigaeth yn ystod y chwe mis diwethaf, dylai’r cyflogwr wirio asesiad risg y gweithle i weld a oes unrhyw risgiau newydd wedi codi. Os bydd risgiau’n cael eu nodi yn ystod y beichiogrwydd, yn y chwe mis cyntaf ar ôl geni’r babi, neu os yw’r gweithiwr yn dal i fwydo ar y fron, rhaid i’r cyflogwr gymryd camau synhwyrol priodol i’w lleihau, eu dileu neu eu rheoli.
Er ei bod yn ddyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i adolygu risgiau cyffredinol yn y gweithle yn rheolaidd, nid oes gofyniad i gynnal asesiad risg penodol ar wahân ar gyfer mamau newydd a mamau beichiog o reidrwydd. Fodd bynnag, gall asesiad helpu i nodi unrhyw gamau ychwanegol y mae angen eu cymryd i liniaru risgiau.
Dylai cyflogwyr fod yn ymwybodol y gallai menywod beichiog sy’n feichiog o 28 wythnos ymlaen, neu sydd â chyflyrau iechyd isorweddol yn ystod unrhyw gyfnod beichiogrwydd, fod mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID-19. Y rheswm am hyn yw – er nad yw menywod beichiog yn ystod unrhyw gyfnod beichiogrwydd mewn mwy o berygl o ddal y feirws nag unrhyw berson arall nad yw’n feichiog ac sydd mewn iechyd tebyg – mae’r menywod hynny sy’n feichiog o 28 wythnos ymlaen mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael ac o enedigaeth cyn-tymor, pe baent yn dal COVID-19.
Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer menywod beichiog sydd â chyflyrau iechyd isorweddol sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil COVID-19 (gweler y canllawiau diweddaraf Coronafeirws (COVID-19): cyngor i weithwyr beichiog ar GOV.UK).
Staff a allai fod mewn mwy o berygl o COVID-19 fel arall
Efallai y bydd rhai pobl â nodweddion penodol yn wynebu risg gymharol uwch o COVID-19. Dylai’r aelodau hyn o staff weithio gartref lle bo hynny’n bosibl, ond pan nad oes modd gwneud hynny, gall y staff fynd i’r ysgol ar yr amod bod y system reoli a nodir yn y canllawiau hyn ar waith. Mae’r rhesymau dros y gwahaniaethau’n gymhleth ac mae ymchwil barhaus yn cael ei wneud i ddeall a dehongli’r canfyddiadau hyn ar gyfer unigolion yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael.
Gall pobl sy’n byw gyda’r rheini a allai fod mewn risg gymharol uwch o COVID-19 fynd i’r gweithle lle nad oes modd gweithio gartref, ond dylent barhau i lynu wrth y mesurau lliniaru ac atal.
Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer y Gweithlu
Datblygwyd adnodd asesu risg COVID-19 ar gyfer y gweithlu i'w ddefnyddio mewn gweithleoedd iechyd a gofal cymdeithasol ac mae wedi'i addasu i'w ddefnyddio mewn lleoliadau addysg, gwaith ieuenctid, gofal plant a gwaith chwarae. Bwriedir ei ddefnyddio i asesu a yw staff mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau mwy difrifol. Mae gan yr awdurdod lleol a/neu'r ysgol/lleoliad fel y cyflogwr a/neu'r sefydliad gwirfoddol os ydych yn wirfoddolwr, ddyletswydd gofal i ddiogelu iechyd a diogelwch cyflogeion yn y gwaith, ac mae hyn yn cynnwys deall a ydynt mewn categori risg uwch mewn perthynas â COVID-19.
Mae’r pecyn cymorth yn hunanasesiad yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cefnogi ac yn grymuso staff i ystyried eu hiechyd a'u lles, a deall os yw eu risg bersonol o ddatblygu symptomau mwy difrifol os ydynt yn dod i gysylltiad â feirws COVID-19 yn isel, yn uchel neu'n uchel iawn.
Yn dilyn eu hunanasesiad dylai staff fod â hyder i drafod eu diogelwch yn y gwaith ac unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda'u rheolwr llinell ac ystyried y camau cywir i liniaru a rheoli'r risg honno a sicrhau bod staff mor ddiogel â phosibl.
Bydd ysgolion a lleoliadau am ystyried ceisio cyngor gan gynghorwyr iechyd a diogelwch yr awdurdod lleol ynglŷn â'i broses asesu risg straen. Efallai y bydd staff hefyd am ystyried yr angen am asesiad risg straen unigol, gan fod nifer o ffactorau'n ystyriaethau pwysig mewn perthynas â lles staff. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu asesiad risg straen generig i'w ddefnyddio
Cefnogi staff
Dylai cyrff llywodraethu ac arweinwyr ysgolion ystyried lles a chydbwysedd bywyd a gwaith staff (gan gynnwys y pennaeth). Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau eu bod wedi egluro’r mesurau maent yn bwriadu eu rhoi ar waith i’r holl staff, a chynnwys yr holl staff yn y broses honno.
Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd i ofalu am ei weithwyr, ac mae hyn yn ymestyn i’w hiechyd meddwl. Mae gan ysgolion a lleoliadau eisoes fecanweithiau i gefnogi lles staff a bydd y rhain yn arbennig o bwysig, oherwydd efallai y bydd rhai staff yn bryderus iawn ynghylch mynd i’r ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer lles dysgwyr a staff yn y sefyllfa bresennol.
Defnyddio staff
Efallai y bydd angen i ysgolion a lleoliadau newid y ffordd y maent yn defnyddio eu staff, a defnyddio staff presennol yn fwy hyblyg. Dylai rheolwyr drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i rolau staff â’r unigolion. Fodd bynnag, ni ddylai’r hyblygrwydd hwn arwain at weld unigolion yn gweithredu y tu hwnt i gwmpas eu rôl. Dylai rheolwyr drafod a chytuno ar unrhyw newidiadau i rolau staff gydag unigolion. Wrth gynllunio, mae’n bwysig osgoi unrhyw gynnydd diangen mewn llwyth gwaith na ellir ei reoli. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod dosbarthiadau a rolau mewn ystafelloedd dosbarth yn gweithredu ar eu llinell sylfaen staff arferol er gwaethaf absenoldebau.
Ar ôl edrych ar yr holl opsiynau uniongyrchol sydd ar gael, os oes gennych bryderon o hyd am eich capasiti o ran staff, rydym yn argymell y dylid trafod gyda’r awdurdod lleol.
Mae’n bwysig bod y gwaith cynllunio’n cynnwys yr angen i beidio â chynyddu pwysau'r llwyth gwaith yn ormodol ac yn ddiangen. Gallai hyn gynnwys adolygu'r arferion presennol yn hyn o beth.
Mae athrawon cyflenwi a gweithwyr dros dro eraill yn gallu symud rhwng ysgolion. Bydd disgwyl i staff cyflenwi ac ymwelwyr, fel athrawon peripatetig, gydymffurfio â threfniadau’r ysgol ar gyfer rheoli a lleihau risg. Dylai ysgolion sicrhau bod yr holl staff dros dro yn cael mynediad at yr wybodaeth am y trefniadau diogelwch sydd ar waith cyn gynted â phosibl ar ôl cadarnhau’r trefniant.
Er mwyn lleihau nifer y staff dros dro sy’n dod i mewn i adeiladau’r ysgol, a sicrhau’r gwerth gorau, efallai y bydd ysgolion am ddefnyddio aseiniadau hirach gyda staff cyflenwi, a chytuno ar isafswm oriau yn ystod y flwyddyn academaidd.
Diogelu
Rhaid i ysgolion barhau i ystyried y canllawiau diogelu statudol ar gadw dysgwyr yn ddiogel yn yr ysgol.
Dylai ysgolion adolygu eu polisi amddiffyn plant (dan arweiniad eu harweinydd diogelu dynodedig) i adlewyrchu’r newid i addysg o bell ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr.
Ni ddylid newid trefniadau diogelu amlasiantaeth lleol, sy’n dal yn gyfrifoldeb i’r tri phartner diogelu. Rydym yn disgwyl i bob partner diogelu lleol fod yn wyliadwrus ac yn ymatebol i bob bygythiad i ddiogelwch, a sicrhau bod plant a phobl ifanc agored i niwed yn ddiogel – yn enwedig gan y bydd mwy o blant a phobl ifanc yn dysgu o bell.
Arlwyo a phrydau ysgol am ddim
Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu £19.50 ychwanegol yr wythnos fesul dysgwr er mwyn i awdurdodau lleol allu parhau i ddarparu ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ond nad ydynt yn gallu bod yn bresennol oherwydd COVID 19 (mae hyn yn berthnasol p’un a yw hynny oherwydd bod eu hysgol ar gau neu oherwydd eu bod yn gwarchod neu’n hunanynysu). Gall awdurdodau lleol ddewis pa ddull darparu yw'r mwyaf addas i anghenion eu cymunedau (mae’r dewisiadau’n cynnwys parseli bwyd, talebau archfarchnadoedd neu daliadau uniongyrchol i gyfrifon banc rhieni/gofalwyr) ac rydym yn annog awdurdodau lleol i ystyried gweithredu nifer o systemau ar y cyd er mwyn sicrhau bod modd diwallu anghenion y teuluoedd mwyaf agored i niwed.
Bydd awdurdodau leol yn gallu hawlio gan gronfa caledi COVID-19 Llywodraeth Cymru am gostau ychwanegol cysylltiedig â dysgwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim ac sy’n gwarchod neu’n hunanynysu. Mae’r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn seiliedig ar lwfans wythnosol o £3.90 y dydd neu £19.50 yr wythnos fesul dysgwr.
Mae’r cyllid sydd ar gael yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd awdurdodau lleol, lle bo hynny’n bosibl, yn talu’r £2.50 cyntaf o unrhyw gostau a wynebir y diwrnod, fesul dysgwr (£12.50 yr wythnos), gyda Llywodraeth Cymru yn talu costau sy’n fwy na’r swm hwn hyd at uchafswm o £1.40 y diwrnod fesul dysgwr, neu £7.00 yr wythnos. Caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa i ofalu na roddir cyllid dwbl.
Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y bydd gan awdurdodau lleol gostau sefydlog sy’n gysylltiedig â darparu prydau ysgol am ddim. Ar y sail hon, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod y rhan fwyaf o’r cyllidebau ar gyfer prydau ysgol am ddim yn debygol o fod wedi’u hymrwymo. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn ei chael yn anodd bodloni ein disgwyliad, sef y bydd yn talu’r £2.50 cyntaf o unrhyw gostau a wynebir y diwrnod, fesul dysgwr. Yn yr achosion hyn, byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ymchwilio i weld a oes arbedion wedi’u gwneud yng nghyllidebau arlwyo ysgolion. Os nad yw hyn yn bosibl, a lle gall awdurdodau lleol ddangos nad oes modd gwrthbwyso’r gyllideb ymhellach, byddwn yn gwneud eithriadau rhesymol ac yn talu dros £1.40 y dysgwr, y diwrnod. Caiff awdurdodau lleol eu hatgoffa y bydd angen iddynt ddangos bod y trefniadau a sefydlwyd ganddynt ar gyfer darparu prydau ysgol am ddim yn cynrychioli’r gwerth gorau posibl am arian, gan ystyried unrhyw gyfyngiadau iechyd a diogelwch.
Darpariaeth arlwyo ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed sy’n mynd i’r ysgol
Pan fydd plant gweithwyr allweddol a phlant agored i niwed yn mynd i’r ysgol yn ystod y cyfnod hwn, bydd y sefyllfa o ran y ddarpariaeth arlwyo ar gyfer y dysgwyr hyn yn dibynnu ar a yw’r cyfleusterau arlwyo yn dal i fod ar gael yn yr ysgol dan sylw. Pan fydd cyfleusterau arlwyo ar agor, dylai dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, neu sy’n cael eu hamddiffyn wrth bontio, gael pryd o fwyd am ddim bob dydd y byddant yn bresennol. Bydd disgwyl i ddysgwyr eraill dalu am eu prydau o hyd.
Os nad yw’r cyfleusterau arlwyo’n weithredol a bod dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael darpariaeth amgen (talebau, parseli bwyd neu daliadau), gellir gofyn i bob dysgwr ddod â phecyn bwyd gyda nhw.
Mewn achosion lle mae plant sydd wedi derbyn talebau neu daliadau uniongyrchol yn dod i’r ysgol heb fwyd, heb arian ac yn llwglyd, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio eu disgresiwn i ddarparu ar gyfer y plant hyn. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol ddilyn eu gweithdrefnau arferol pan fydd hyn yn digwydd. Os nad oes modd osgoi cyllid dwbl a bod gweithdrefnau wedi cael eu dilyn, yna bydd hawliadau’n cael eu prosesu gan Lywodraeth Cymru.
Darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cyllid ar gyfradd o £19.50 yr wythnos fesul dysgwr, i ddarparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, hyd at ddiwedd tymor y Pasg 2021, gan gynnwys gwyliau’r Pasg. Gan na fydd cyllidebau awdurdodau lleol yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau’r ysgol, rhagwelir y bydd awdurdodau lleol yn hawlio’r swm llawn o £19.50 yr wythnos.
Ystadau
Dylid adolygu cynlluniau rheoli diogelwch tân a’u gwirio yn unol â newidiadau gweithredol.
Dylai ysgolion wirio’r canlynol:
- bod pob drws tân yn weithredol bob amser
- bod y system larwm tân a’r goleuadau argyfwng wedi’u profi a’u bod yn gwbl weithredol
Dylech gynnal ymarferion argyfwng yn ôl yr arfer (gan gadw pellter cymdeithasol a glynu at fesurau diogelwch eraill fel sy’n briodol).
Dylech wneud addasiadau i’ch dril tân er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol fel sy’n briodol. Cyfeiriwch at gyngor ar ddiogelwch tân mewn adeiladau ysgol newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli
Lle bo’r rheini sy’n bresennol mewn adeiladau wedi’u cyfyngu i blant agored i niwed a phlant gweithwyr hanfodol yn unig, neu os oes llai o bobl wedi bod yn eu defnyddio, mae dŵr yn gallu sefyll oherwydd diffyg defnydd, sy’n cynyddu’r perygl o glefyd y llengfilwyr. Mae cyngor ar hyn ar gael yng nghanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar risgiau clefyd y llengfilwyr yn ystod y coronafeirws.
Ymweliadau addysgol
Ni fydd unrhyw ymweliadau addysgol yn ystod y cyfnod hwn. Bydd y cyngor hwn yn cael ei adolygu’n gyson. Mae Cymdeithas Yswirwyr Prydain (ABI) wedi cynhyrchu gwybodaeth am oblygiadau yswiriant teithio yn dilyn brigiad COVID-19. Os oes gan ysgolion a lleoliadau unrhyw gwestiynau pellach am gwmpas eu hyswiriant neu os hoffent gael rhagor o sicrwydd, dylent gysylltu â’u darparwr yswiriant teithio.
Gwisg ysgol
Gall rhai ysgolion a lleoliadau deimlo ei bod yn briodol llacio eu polisi gwisg ysgol tra mai dim ond categorïau penodol o ddysgwyr sy’n bresennol, ac o ystyried bod siopau gwisg ysgol a siopau dillad cyffredinol wedi'u gorfodi i gau o dan lefel rhybudd 4. Penderfyniad i arweinwyr ysgolion yw hwn.
Atodiad A: Dull o gyfrifo a rheoli risg
Mae’r hierarchaeth hon o reolaethau yn ffordd o flaenoriaethu mesurau rheoli risg ar sail pa mor effeithiol yw gwahanol fathau o reolaethau i leihau risgiau. Dylid asesu mesurau lleihau risg yn ôl y flaenoriaeth yn yr hierarchaeth; ni ddylid neidio i’r mesur rheoli hawsaf ei roi ar waith. Mae mathau o reolaethau sy’n uwch yn yr hierarchaeth yn fwy effeithiol i leihau risgiau na’r rheolaethau sy’n is yn yr hierarchaeth.
Dylai rheolaethau fod yn ymarferol i’w rhoi ar waith ac, yn ddelfrydol, dylai fod yn hawdd eu cynnal dros amser.
Mae’n hollbwysig cofio mai pur anaml y bydd hi’n bosibl dileu’r risg yn llwyr. Dylai’r cyfuniad o reolaethau a gyflwynir geisio lleihau’r risg i lefel mor isel ag sy’n rhesymol ymarferol, gan flaenoriaethu ymyriadau strwythurol ac amgylcheddol dros rai unigol.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu ystyried risgiau trosglwyddo yn unig – mae hefyd angen cydbwyso’r rhain yn erbyn risgiau o ran iechyd, lles a dysgu yn ehangach. Yn y pen draw, mae angen hyblygrwydd ar ysgolion i ymateb i’r risgiau hyn yn ôl eu gallu.
Wrth ystyried cyswllt rhwng grwpiau cyswllt, byddem yn cynghori ysgolion i ystyried y canlynol:
- Dileu: ailgynllunio’r gweithgaredd er mwyn dileu’r risg neu gael gwared arni.
- Newid: newid y gweithgaredd am weithgaredd arall sy’n lleihau’r risg. Mae angen bod yn ofalus er mwyn osgoi cyflwyno peryglon newydd wrth newid y gweithgaredd.
- Rheolaethau peirianyddol: cynllunio mesurau sy’n helpu i reoli neu liniaru risg.
- Rheolaethau gweinyddol: nodi gweithdrefnau i wella diogelwch a’u rhoi ar waith.
- Ar ôl dilyn y broses hon, dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol pan fydd y canllawiau’n argymell hyn.