Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol i bawb yng Nghymru a gwarchod pobl hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir a chwmpas y canllawiau

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer pawb, gan gynnwys plant. Mae'n rhoi cyngor ar fesurau cadw pellter cymdeithasol y dylem i gyd fod yn eu cymryd i leihau rhyngweithio cymdeithasol rhwng pobl er mwyn lleihau trosglwyddo coronafeirws (COVID-19). Fe'i bwriedir i'w ddefnyddio mewn sefyllfaoedd lle mae pobl yn byw yn eu cartrefi eu hunain, gyda neu heb gefnogaeth ychwanegol gan ffrindiau, teulu a gofalwyr. Os ydych yn byw mewn lleoliadau gofal preswyl - mae canllawiau ar gael yn lleoliadau gofal preswyl.

Rydym yn cynghori'r rhai sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o coronafeirws (COVID-19) i fod yn arbennig o ofalus wrth ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys y rhai sydd:

Nodwch: mae rhai cyflyrau clinigol sy'n rhoi pobl mewn risg uwch fyth o salwch difrifol o COVID-19. Os ydych chi yn y categori hwn, byddwch wedi cael cyngor ar y mesurau llymach ('gwarchod') y dylech eu cymryd er mwyn cadw'ch hun ac eraill yn ddiogel.

Y bobl sydd yn y grŵp hwn yw'r rhai a allai fod mewn perygl penodol oherwydd problemau iechyd cymhleth megis:

  • pobl sydd wedi cael trawsblaniad organ ac yn aros ar feddyginiaeth gwrthimiwnedd parhaus
  • pobl â chanser sy'n cael cemotherapi neu radiotherapi
  • pobl â chanserau'r gwaed neu fêr esgyrn fel lewcemia sydd ar unrhyw gam o'r driniaeth
  • pobl â chyflyrau difrifol ar y frest fel ffibrosis systig neu asthma difrifol (sy'n gofyn am dderbyniadau i'r ysbyty neu gyrsiau o dabledi steroid)
  • pobl â chlefydau difrifol ar systemau'r corff, megis clefyd difrifol yr arennau (dialysis)

Beth yw cadw pellter cymdeithasol?

Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol yn gamau y gallwch eu cymryd i leihau rhyngweithio cymdeithasol rhwng pobl. Bydd hyn yn helpu i leihau trosglwyddo coronafeirws (COVID-19).

Dyma sut i gadw pellter cymdeithasol:

  • Osgoi cysylltiad â rhywun sydd â symptomau coronafeirws (COVID-19). Mae'r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel neu beswch newydd a pharhaus neu newid i neu golli’r gallu i arogli neu flasu.
  • Osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus nad yw'n hanfodol, pan fo hynny'n bosibl.
  • Gweithio o gartref, lle bo hynny'n bosibl. Dylai eich cyflogwr eich cefnogi i wneud hyn. Cyfeiriwch at y canllawiau i gyflogwyr i gael rhagor o wybodaeth.
  • Osgoi casglu mewn grwpiau mawr neu grwpiau bychain mewn ardlaoedd cyhoeddus gan nodi bod tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden a lleoliadau tebyg ar gau ar hyn o bryd, gan bod heintiau yn lledaenu'n gyfym mewn manau caeedig lle mae pobl yn ymgasglu.
  • Osgoi aduniadau gyda ffrindiau a theulu. Cadw mewn cysylltiad gan ddefnyddio technoleg o bell fel ffôn, y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Defnyddio gwasanaethau ffôn neu ar-lein i gysylltu â'ch meddyg teulu neu wasanaethau hanfodol eraill.

Dylai pawb geisio dilyn y mesurau mewn ffordd ymarferol.

Rydym yn eich cynghori'n gryf i ddilyn y mesurau uchod gymaint ag y gallwch, ac i gyfyngu'n sylweddol ar eich rhyngweithio wyneb yn wyneb â ffrindiau a theulu os yn bosibl, yn enwedig os ydych dros 70 oed, bod gyda chi gyflwr iechyd sylfaenol neu'ch bod chi'n feichiog.

Mae'r cyngor hwn yn debygol o fod ar waith am rai wythnosau.

Golchi dwylo a hylendid anadlol

Mae egwyddorion cyffredinol y gallwch eu dilyn i helpu i atal firysau anadlol rhag lledaenu, gan gynnwys:

  • golchi'ch dwylo yn amlach - gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo pan fyddwch yn cyrraedd adref neu’n cyrraedd y gwaith, pan fyddwch chi'n chwythu'ch trwyn, yn tisian neu’n pesychu, yn bwyta neu’n trin bwyd
  • osgoi cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn a'ch ceg heb olchi eich dwylo
  • osgoi bod mewn cysylltiad agos â phobl sydd â symptomau
  • defnyddio hances pan fyddwch yn pesychu neu disian, yna rhoi’r hances mewn bin a golchi eich dwylo
  • glanhau a diheintio gwrthrychau ac arwynebau a gyffyrddir yn aml yn eich cartref

Beth ddylech chi ei wneud os byddwch chi'n datblygu symptomau coronafeirws (COVID-19)

Mae'r un canllawiau yn berthnasol i'r boblogaeth gyffredinol â'r rhai sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o ganlyniad i coronafeirws (COVID-19). Os ydych chi'n datblygu symptomau COVID-19 (tymheredd uchel neu beswch newydd a pharhaus neu newid i neu golli’r gallu i arogli neu flasu), waeth pa mor ysgafn yw'r symptomau hyn, arhoswch gartref am 7 diwrnod. Os ydych chi'n byw gyda phobl eraill a bod gennych chi neu un ohonyn nhw symptomau coronafeirws, yna mae'n rhaid i bob aelod o'r cartref aros gartref a pheidio â gadael y tŷ am 14 diwrnod. Mae'r cyfnod o 14 diwrnod yn cychwyn o'r diwrnod pan aeth y person cyntaf yn y tŷ yn sâl. Gallwch ddod o hyd i’r canllawiau llawn yn hunanynysu: canllawiau aros gartref.

Sut alla i gael cymorth gyda bwydydd a meddyginiaethau os ydw i'n lleihau fy nghysylltiadau cymdeithasol?

Gofynnwch i deulu, ffrindiau a chymdogion eich cefnogi chi a defnyddiwch wasanaethau ar-lein. Os nad yw hyn yn bosibl, mae’r sector cyhoeddus, busnesau, elusennau a’r cyhoedd yn barod i helpu’r rhai sydd wedi’u cynghori i aros gartref. Mae’n bwysig siarad ag eraill a gofyn iddynt eich helpu chi i wneud trefniadau ar gyfer danfon bwyd, meddyginiaethau a gwasanaethau a chyflenwadau hanfodol, a gofalu am eich iechyd meddwl a chorfforol a’ch llesiant.

Os ydych yn derbyn cymorth gan sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol, er enghraifft, os ydych yn derbyn gofal drwy’r awdurdod lleol neu’r system gofal iechyd, bydd hyn yn parhau fel arfer.  Gofynnir i’ch darparwr gofal iechyd neu gymdeithasol gymryd rhagofalon ychwanegol i wneud yn siŵr eich bod chi wedi’ch amddiffyn. Mae cyngor ar gyfer gofalwyr ffurfiol ar gael yn y canllawiau Darpariaeth Gofal yn y Cartref.

Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych apwyntiadau yn yr ysbyty neu gyda’ch meddyg teulu yn ystod y cyfnod hwn?

Rydym yn cynghori pawb i gael mynediad at gymorth meddygol o bell, lle bynnag y bo’n bosibl. Fodd bynnag, os oes gennych apwyntiad yn yr ysbyty neu apwyntiad meddygol wedi’i drefnu yn ystod y cyfnod hwn, siaradwch â’ch meddyg teulu neu glinigydd i sicrhau eich bod yn parhau i dderbyn y gofal sydd ei angen arnoch ac ystyried a allai apwyntiadau gael eu gohirio.

Beth yw’r cyngor a roddir i ymwelwyr, gan gynnwys y rheiny sy’n darparu gofal ar eich cyfer?

Dylech gysylltu â’ch ymwelwyr cymdeithasol rheolaidd fel ffrindiau a theulu a rhoi gwybod iddynt eich bod yn lleihau cyswllt cymdeithasol ac na ddylent ymweld â chi yn ystod y cyfnod hwn, oni bai eu bod yn darparu gofal hanfodol ar eich cyfer.  Mae gofal hanfodol yn cynnwys pethau fel helpu i’ch ymolchi, helpu i’ch gwisgo neu baratoi prydau bwyd.

Os ydych yn derbyn gofal cymdeithasol neu ofal iechyd rheolaidd gan sefydliad, naill ai drwy eich awdurdod lleol neu wedi’i dalu amdano gennych chi eich hun, dylech roi gwybod i’ch darparwyr gofal eich bod yn lleihau cyswllt cymdeithasol ac yn cytuno ar gynllun i barhau â’ch gofal.

Os ydych chi’n derbyn gofal hanfodol gan ffrindiau neu aelodau o’r teulu, siaradwch â’ch gofalwyr am ragofalon ychwanegol y gallan nhw eu cymryd i’ch cadw chi’n ddiogel. Gallai’r canllawiau hyn fod yn ddefnyddiol i chi Darpariaeth Gofal yn y Cartref.

Mae hefyd yn syniad da siarad â’ch gofalwyr am yr hyn sy’n digwydd pe bai un ohonynt yn dechrau teimlo’n anhwylus.  Os oes angen help arnoch o ran gofal ond nad ydych yn siŵr gyda phwy y dylech gysylltu, neu nad oes gennych deulu neu ffrindiau a allai eich helpu, gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol a ddylai allu eich helpu.

Beth yw’r cyngor a roddir os ydw i’n byw gyda pherson sy’n agored i niwed?

Os ydych yn byw mewn tŷ gyda pherson sy’n agored i niwed, cyfeiriwch at ein canllawiau hunanynysu: aros gartref.

Sut ydych chi’n gofalu am eich llesiant meddyliol?

Yn naturiol, gallai lleihau cyswllt cymdeithasol fod yn ddiflas neu’n rhwystredig i chi. Gallai eich hwyl neu’ch teimladau gael eu heffeithio a gallai wneud i chi deimlo’n isel, yn bryderus neu achosi problemau cysgu a gallech weld eisiau bod yn yr awyr agored gyda phobl eraill.

Ar adegau fel hyn, gall fod yn hawdd arfer â phatrymau ymddygiad afiach a allai wneud i chi deimlo’n waeth yn y pen draw. Mae pethau syml y gallwch chi eu gwneud a allai helpu, er mwyn sicrhau eich bod yn defnyddio’ch corff a’ch meddwl yn ystod y cyfnod hwn, fel:

  • Chwilio am syniadau ar gyfer ymarfer corff, y mae modd i chi eu gwneud gartref ar wefan y GIG
  • Treulio amser yn gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau – gallai hyn gynnwys darllen, coginio, diddordebau eraill yn y tŷ neu wrando ar eich hoff sianel radio neu wylio eich hoff raglenni teledu
  • Ceisio bwyta prydau cytbwys ac iach, yfed digon o ddŵr, a cheisio osgoi ysmygu, alcohol a chyffuriau
  • Cadw eich ffenestri ar agor er mwyn cael awyr iach, a chael golau naturiol os gallwch chi, neu fynd allan i’r ardd Gallwch hefyd fynd allan i gerdded os ydych yn aros dros 2 fetr (3 cham) oddi wrth bobl eraill. Gweler y canllawiau gadael y cartref i wneud ymarfer corff o ran beth y gallwch neu na allwch wneud.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Pa gamau y gallwch chi eu cymryd i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn?

Cael cymorth gan ffrindiau, teulu a rhwydweithiau eraill yn ystod y cyfnod hwn. Ceisio cadw mewn cysylltiad â’r rhai o’ch amgylch dros y ffôn, drwy’r post neu ar-lein. Gadewch i bobl wybod sut yr hoffech gadw mewn cysylltiad â nhw ac ymgorfforwch hynny i’ch trefn ddyddiol. Mae hyn hefyd yn bwysig wrth ofalu am eich llesiant meddyliol ac mae’n bosibl y byddwch yn ei gweld yn ddefnyddiol siarad â nhw am sut rydych yn teimlo.

Cofiwch ei bod yn iawn rhannu eich pryderon â phobl rydych yn ymddiried ynddyn nhw ac, wrth wneud hynny, efallai y byddwch yn rhoi cymorth iddyn nhw hefyd. Fel arall, gallwch ddefnyddio llinell gymorth a argymhellir gan y GIG.

Beth yw’r cyngor ar gyfer gofalwyr anffurfiol?

Os ydych yn gofalu am rywun sy’n agored i niwed, mae rhai camau hawdd y gallwch chi eu cymryd i’w amddiffyn ac i leihau’r risg mae’n ei hwynebu ar yr adeg hon. Sicrhewch eich bod yn dilyn cyngor ar hylendid da, fel:

  • golchi’ch dwylo wrth gyrraedd a’u golchi yn aml, gan ddefnyddio dŵr a sebon am o leiaf 20 eiliad, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo.
  • gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn gyda hances neu’ch llawes (nid eich dwylo) wrth beswch neu disian.
  • rhowch yr hancesi a ddefnyddiwyd yn y bin yn syth a golchwch eich dwylo ar ôl hynny.
  • Peidiwch ag ymweld â’r unigolyn os nad ydych yn teimlo’n iawn a gwnewch drefniadau eraill ar gyfer ei ofal.
  • darparwch wybodaeth ynghylch pwy ddylai’r unigolyn ei ffonio os nad yw’n teimlo’n iawn, sut i ddefnyddio gwasanaeth ar-lein GIG 111 Cymru ar coronafeirws a sicrhewch fod rhif GIG 111 Cymru wedi’i arddangos yn glir.
  • gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ffynonellau cymorth gwahanol y gellir eu defnyddio a chael mynediad at gyngor pellach ar greu cynllun wrth gefn ar Carers UK
  • edrychwch ar ôl eich llesiant a’ch iechyd corfforol eich hun yn ystod y cyfnod hwn. Mae rhagor o wybodaeth ar y mater ar gael ar Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhannu’r dudalen hon