Ar sail yr hyn rydym yn ei wybod am y coronafeirws (COVID-19), mae meddygon wedi cynghori bod y grŵp o unigolion a nodir yn y rhestr isod mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19). Dylai unigolion sy’n perthyn i’r grŵp hwn ddilyn y cyngor a’r canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a gyhoeddwyd ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru ond, wrth wneud hynny, dylent hefyd gadw mewn cof eu bod nhw mewn mwy o berygl.
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys y rhai sydd:
- yn 70 oed neu'n hŷn (waeth beth fo'r cyflyrau meddygol)
- dan 70 gyda chyflwr iechyd sylfaenol a restrir isod (h.y. unrhyw un sy'n cael cyfarwyddyd i gael pigiad ffliw fel oedolyn bob blwyddyn am resymau meddygol):
- clefydau anadlol cronig (tymor hir), megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), emffysema neu broncitis
- clefyd cronig y galon, megis methiant y galon
- clefyd cronig yn yr arennau
- clefyd cronig yr afu, megis hepatitis
- cyflyrau niwrolegol cronig, megis clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd
- diabetes
- problemau gyda'ch dueg – er enghraifft, anemia cryman-gell neu os tynnwyd eich dueg
- system imiwnedd wan o ganlyniad i gyflyrau megis HIV ac AIDS, neu feddyginiaethau megis tabledi steroid neu cemotherapi
- dros eich pwysau’n ddifrifol (Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu fwy)
- y rhai sy’n feichiog
Yr un yw’r cyngor ar gyfer y grŵp hwn ag ar gyfer y boblogaeth yn ehangach. Fodd bynnag, dylai’r grŵp hwn ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo yn ofalus.
Yn ogystal â hyn, mae adnodd asesu risg wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl sy’n gweithio i weld a ydynt mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau mwy difrifol os byddant yn dod i gysylltiad â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’n helpu unigolion i ystyried beth yn union yw eu ffactorau risg personol ar gyfer y coronfeirws (COVID-19) ac yn awgrymu sut i gadw’n ddiogel.
Ceir rhai cyflyrau clinigol sy’n golygu bod unigolion mewn mwy o berygl eto hyd yn oed o gael salwch a'u gwneud yn fwy agored i effeithiau mwyaf difrifol coronafeirws (COVID-19). Nodir y grwp hwn fel y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed. Byddant yn cael eu hychwanegu at y Rhestr Gwarchod Cleifion ac yn derbyn llythyrau gyda'r cyngor diweddaraf yn uniongyrchol.
Cymorth ehangach sydd i’w gael
Mae gwasanaeth ar gael os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, wedi cael ei effeithio gan y coronafeirws (COVID-19) ac angen rhagor o gymorth. Bydd hwn yn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth ynglŷn ag amrywiol faterion, o dalu biliau i ddod o hyd i rywle i fyw.