Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd fframwaith penderfyniadau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cam nesaf i addysg a gofal plant ar 15 Mai fel dogfen weithio i gynghori ar ffyrdd o newid sut roedd ysgolion a darparwyr eraill yn gweithredu dros amser er mwyn ymateb i COVID-19. Roedd hwn yn ailadrodd pum egwyddor allweddol y Gweinidog Addysg, sef:

  • diogelwch, a lles meddyliol, emosiynol, a chorfforol dysgwyr a staff
  • parhau i gyfrannu at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â lledaeniad COVID-19 
  • ennyn hyder rhieni a gofalwyr, staff a dysgwyr – ar sail tystiolaeth a gwybodaeth – fel y gallant flaengynllunio
  • y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig
  • cysondeb â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, rhoi canllawiau ar waith i gefnogi mesurau megis ymbellhau, rheoli presenoldeb a chamau diogelu ehangach.

Mae’r egwyddorion hyn yn hollbwysig nid yn unig i gynyddu gweithrediadau ysgolion dros y cyfnod hwn, ond maent hefyd yn arwydd o’r blaenoriaethau ar gyfer y system dros y misoedd nesaf.

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ar 9 Gorffennaf 2020 y byddai’r holl ddysgwyr yn dychwelyd i’r ysgol yn nhymor yr hydref. Mae Grŵp Cynghori Technegol Cymru (TAG), sy’n rhoi cyngor gwyddonol a thechnegol i’r Llywodraeth yn ystod argyfyngau, yn argymell y dylai ysgolion ‘gynllunio i agor ym mis Medi, gyda 100% o ddisgyblion yn gorfforol bresennol ar safleoedd ysgolion, cyn belled â bod lefelau COVID-19 yn parhau i ostwng yn gyson yn y gymuned’.

Gwyddom fod y risg y bydd plant yn mynd yn ddifrifol wael ar ôl cael COVID-19 yn isel iawn. Mae’r dystiolaeth bresennol yn awgrymu bod ‘haint SARS-CoV-2 yn fwy ysgafn ymysg plant nag oedolion: mae’r rhan fwyaf o’r plant sy’n cael eu heintio yn dangos symptomau ysgafn neu’n asymptomatig, ac ychydig iawn sy’n datblygu clefyd difrifol neu sy’n peryglu bywyd’.

Diben y canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru â darpariaeth breswyl. Mae canllawiau manwl i bob ysgol a lleoliad mewn cysylltiad â’r trefniadau gweithredol y dylid eu hystyried yn gyffredinol, ac sy’n berthnasol i bob dysgwr o fis Medi 2020 ymlaen, wedi’u darparu yn y Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â’r Canllawiau ar ddysgu mewn ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cyngor penodol ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais. Mae’r cyngor hwn yn darparu gwybodaeth atodol sy’n ymwneud â’r cymorth i grwpiau sy’n agored i niwed a dan anfantais.

Hefyd, dylai ysgolion ddilyn y canllawiau ‘Cadw dysgwyr yn ddiogel’, sy’n dal yn berthnasol i bob ysgol yng Nghymru. Bydd fersiwn wedi’i diweddaru o’r canllawiau hyn yn cael ei chyhoeddi yn yr hydref.

Mae’r canllawiau yn y ddogfen hon yn ychwanegol at y canllawiau cyffredinol, a dylid darllen y ddwy ddogfen ochr yn ochr â’i gilydd. Nid yw’r canllawiau hyn yn disodli unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol mewn cysylltiad ag iechyd a diogelwch, cyflogaeth neu gydraddoldeb. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a dylid taro golwg ar y wefan hon yn rheolaidd er mwyn cael gwybod am unrhyw ddiweddariadau.

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer ysgolion preswyl (boarding schools) ac ysgolion preswyl i blant ag anghenion arbennig (residential schools) sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn ysgol annibynnol. Nid yw’n ymwneud ag addysg bellach nac addysg uwch. Mae canllawiau ar gyfer y sector hwn ar gael yn y Canllawiau i gefnogi darparwyr addysg uwch ac addysg bellach yng Nghymru yn sgil y coronafeirws.  

Mae’n bwysig bod pob ysgol annibynnol, fel cyflogwr, yn parhau i gydymffurfio â’i rhwymedigaethau presennol gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag unigolion â nodweddion gwarchodedig perthnasol. Mae’r canllawiau’n cynnwys canllawiau anstatudol i’w hystyried wrth gydymffurfio â’r rhwymedigaethau cyfredol hyn. Wrth ystyried sut dylid defnyddio’r canllawiau hyn, dylai ysgolion feddwl am weithwyr asiantaeth, contractwyr (gan gynnwys cwmnïau bysiau) a phobl eraill, yn ogystal â’u gweithwyr.

Rhaid i’r holl weithgareddau sy’n ymwneud ag ailagor llety preswyl ddilyn y canllawiau ar iechyd y cyhoedd fel y pennir gan y Prif Swyddog Meddygol. Mae’r Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref yn nodi’r cyngor ar iechyd y cyhoedd y mae’n rhaid i ysgolion ei ddilyn i leihau’r risgiau o drosglwyddo COVID-19. Mae hefyd yn cynnwys y broses y dylid ei dilyn os bydd unrhyw un yn datblygu symptomau COVID-19 yn yr ysgol. Mae’r canllawiau’n darparu set o egwyddorion i helpu ysgolion a lleoliadau i wneud hyn, ac i leihau’r risgiau maes o law. Rhaid i’r holl weithleoedd a safleoedd sydd ar agor i’r cyhoedd gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â COVID-19, a dylid ystyried a dilyn y canllawiau hyn hefyd.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru adnoddau sy’n cynnwys cyngor ar iechyd y cyhoedd ar gyfer sut mae helpu i atal feirysau fel y rheini sy’n achosi COVID-19 rhag lledaenu, drwy sicrhau hylendid dwylo ac anadlol da.

Mae’r canllawiau atodol hyn gan Lywodraeth Cymru wedi cael eu rhannu ag Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, Cyngor Ysgolion Annibynnol Cymru, a’r Gymdeithas Ysgolion Preswyl.

Paratoi’r ysgol breswyl ar gyfer ailagor

Mae ystyriaethau penodol i ysgolion preswyl annibynnol sy’n bwriadu croesawu dysgwyr preswyl yn ôl ar gyfer tymor yr hydref. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ddysgwyr sy’n cyrraedd o dramor yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a’r Swyddfa Gartref. Dylid cyfeirio at wefannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar gyfer y gofynion hunanynysu cyfredol i bobl sy’n cyrraedd Cymru o dramor. Mae’r cyngor hwn yn newid yn rheolaidd ac felly dylai darparwyr bob amser wneud yn siŵr bod ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i’w disgyblion preswyl.

Yn yr un modd â’r holl ysgolion, wrth gynllunio ar gyfer y dysgwyr yn dychwelyd, rhaid canolbwyntio’n bennaf ar iechyd a lles dysgwyr, staff ac ymwelwyr. Gan ystyried hyn, bydd yr holl ysgolion eisoes wedi cynnal asesiadau risg penodol ar sail eu hamgylchiadau unigol nhw. Bydd angen i’r asesiadau risg fod wedi ystyried y canlynol:

  • cyfanswm y dysgwyr
  • anghenion unigol pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anghenion penodol
  • lefelau staffio
  • capasiti pob tŷ preswyl
  • y cymysgedd o ystafelloedd cysgu a rennir a chyfleusterau gwely unigol, a chyfleusterau cymunol a rennir.

Bydd ysgolion eisoes wedi paratoi ar gyfer yr addasiadau sylweddol a’r ystyriaethau eraill i’w galluogi i ailagor eu cyfleusterau preswyl. Mae cyngor i bob lleoliad ar gael yn y Canllawiau gweithredol ar gyfer ysgolion a lleoliadau o dymor yr hydref.

Asesiadau risg

Mae canllawiau manwl ar gynnal asesiadau risg ar gyfer pob lleoliad ar gael yn y canllawiau gweithredol.

Mae’r canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais yn darparu cyngor i ysgolion sy’n rhoi cymorth i ddysgwyr ag anghenion addysgol arbennig.

Fel y cyflogwr, mae gan berchnogion ysgolion annibynnol ddyletswydd i ddiogelu eu staff a dysgwyr rhag niwed. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i gymryd pob cam rhesymol i leihau risgiau COVID-19 yn llety preswyl yr ysgol, yn enwedig mewn cysylltiad â dysgwyr sy’n cyrraedd o dramor.

Fel rhan o’r gwaith cynllunio, mae’n ofyniad statudol i ysgolion gynnal asesiadau risg addas a digonol, gan eu hadolygu a’u diweddaru fel y byddent ar gyfer peryglon eraill sy’n gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, a rhoi mesurau ar waith i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Mae hwn yn ddull seiliedig ar risgiau o nodi a gweithredu mesurau synhwyrol i reoli’r risgiau. Dylai’r asesiad ystyried pa fesurau sydd angen eu gweithredu i ddiogelu iechyd a diogelwch yr holl staff, myfyrwyr, ymwelwyr, dysgwyr a chontractwyr. Bydd ffactorau penodol i’r safle yn dylanwadu ar y rhain, a dylent adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd hyd yma a’r arferion maent wedi’u datblygu eisoes. Bydd hyn yn gyfle i ystyried y risgiau ychwanegol a’r mesurau rheoli i’w rhoi ar waith ar gyfer dychwelyd i gapasiti llawn yn ystod tymor yr hydref. Gan weithio gyda’u cynghorydd iechyd a diogelwch a’u hundebau llafur, dylai ysgolion hefyd adolygu a diweddaru eu hasesiadau risg ehangach ac ystyried yr angen am reolaethau diwygiedig perthnasol gan ystyried goblygiadau COVID-19.

Mesurau diogelu

Ar ôl asesu’r risgiau, dylai ysgolion fynd ati i’r graddau sy’n rhesymol bosibl i weithio drwy’r mesurau a nodir yn y canllawiau gweithredol, gan eu mabwysiadu mewn ffordd sy’n mynd i’r afael â’r risgiau a nodwyd yn eu hasesiad ac sy’n gweithio i’w hysgol.

Dylai ysgolion weithio gyda staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr er mwyn bod yn glir ynghylch sut bydd y trefniadau diwygiedig yn gweithio’n ymarferol, a chael trefniadau gweithredol ar waith i fonitro bod y rheolaethau:

  • yn effeithiol
  • yn gweithio yn ôl y bwriad
  • yn cael eu diweddaru’n briodol gan ystyried unrhyw faterion sy’n codi a newidiadau yn y cyngor ar iechyd y cyhoedd.

Bydd dilyn y canllawiau gweithredol yn lleihau’r risgiau yn yr ysgol yn effeithiol ac yn creu amgylchedd sy’n fwy diogel yn ei hanfod.

Symptomau COVID-19

Mae’n hollbwysig bod staff ysgolion preswyl yn cadw symptomau COVID-19 mewn cof, dim ots pa mor ysgafn ydynt.

Dylai unrhyw un yng nghymuned yr ysgol sydd â’r symptomau uchod hunanynysu am y cyfnod priodol a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu, a gwneud cais am brawf cyn gynted â phosibl. Dylai aelodau o’u haelwyd hefyd hunanynysu am y cyfnod a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu, o’r adeg maent yn datblygu symptomau am y tro cyntaf. Bydd y cyfweliad olrhain cysylltiadau yn sefydlu pwy sy’n cael ei asesu fel cyswllt.

Os bydd disgybl neu aelod o staff yn datblygu symptomau, boed nhw’n aros yn yr ysgol ai peidio, bydd angen i ysgolion nodi’r unigolion eraill yn yr ‘aelwyd’ neu’r aelwyd estynedig a fydd yn gorfod hunanynysu am y cyfnod a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, cyd-ddisgyblion preswyl sy’n rhannu ystafell gysgu, ystafell ymolchi neu gegin; ac aelodau o staff.

Dylai staff preswyl gadw llygad am unrhyw arwydd o gynnydd yn nhymheredd dysgwr, ac o dwymyn.

Ar 4 Awst 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd gyngor newydd a oedd yn cynghori y dylai unrhyw un sy’n hunanynysu oherwydd COVID-19 gysylltu ag 111 neu eu meddyg teulu:

  • os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod
  • os ydynt yn fyr o wynt neu’n taflu i fyny
  • os yw blinder yn eu hatal rhag cyflawni eu gweithgareddau dydd i ddydd arferol.

Atal a rheoli heintiau yn effeithiol

Ym mhob lleoliad addysg, mae atal COVID-19 rhag lledaenu yn golygu delio â throsglwyddo uniongyrchol (er enghraifft wrth ddod i gysylltiad agos â phobl sy’n tisian ac yn peswch) a throsglwyddo anuniongyrchol (drwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig). Dylid defnyddio amrywiaeth o ddulliau a chamau gweithredu i gyflawni hyn. Gellir ystyried hyn yn hierarchaeth o reolaethau sydd, pan fyddant yn cael eu rhoi ar waith, yn creu system sy’n fwy diogel yn ei hanfod lle mae’r risg o drosglwyddo heintiau yn is o lawer. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol.

  • Lleihau’r cyswllt gydag unigolion sy’n sâl drwy sicrhau bod y rheini sydd â symptomau COVID-19, neu sy’n byw gyda rhywun sydd â’r symptomau, ddim yn dod i’r ysgol ac yn hunanynysu os ydynt yn ddisgybl preswyl.
  • Sicrhau bod cyfleusterau ar gael i’r holl staff a dysgwyr allu golchi eu dwylo’n rheolaidd. Dylid golchi dwylo gyda dŵr sy’n rhedeg a sebon am o leiaf 20 eiliad. Dylai’r staff hefyd sicrhau bod y dysgwyr yn cael eu hatgoffa o dechnegau golchi dwylo effeithiol. Dylid golchi dwylo yn rheolaidd gan gynnwys:
  • wrth gyrraedd ac wrth adael yr ysgol neu’r lleoliad
  • cyn ac ar ôl trin bwyd
  • cyn ac ar ôl trin gwrthrychau a chyfarpar sydd efallai wedi cael eu defnyddio gan eraill
  • os bu unrhyw gyswllt corfforol, gan gynnwys cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn neu eich ceg eich hun â dwylo heb eu golchi
  • ar ôl i bobl chwythu eu trwyn, disian neu beswch.

Dylid rhoi’r flaenoriaeth i olchi dwylo yn hytrach na defnyddio hylif diheintio dwylo ac ni ddylid defnyddio hylif diheintio dwylo yn lle golchi dwylo. Efallai y bydd angen darparu hylif diheintio dwylo sydd ag o leiaf 60 y cant ohono’n alcohol os nad yw’n ymarferol golchi dwylo. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, mannau cyffredin fel mynedfeydd yr ysgol. Wrth osod hylif diheintio dwylo, dylai hyn ystyried diogelwch y dysgwyr.

  • Wrth beswch neu disian, dylai dysgwyr a staff orchuddio eu ceg a’u trwyn gyda hances bapur, neu eu llawes neu eu penelin os nad oes hances ar gael (nid eu dwylo). Dylid rhoi hancesi papur yn y bin yn syth, a golchi dwylo’n syth wedyn.
  • I’r graddau sy’n bosibl, dylid eu hannog i beidio â chyffwrdd eu hwyneb, yn enwedig wrth ddefnyddio hances bapur neu benelin i beswch neu disian.
  • Dylai ysgolion sicrhau bod help ar gael i ddysgwyr sy’n ei chael hi’n anodd golchi eu dwylo’n annibynnol. Dylai ymarferwyr ystyried sut mae annog dysgwyr ifanc i ddysgu ac ymarfer yr arferion hyn.
  • Dylid cyfnewid cyn lleied â phosibl o wrthrychau rhwng unigolion, gan gynnwys staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr.
  • Dylid cyfyngu ar yr adnoddau sy’n cael eu rhannu rhwng, yn hytrach nag o fewn aelwydydd (fel gemau bwrdd, cylchgronau a llyfrau, byrbrydau ac ati).
  • Glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml yn rheolaidd, gan ddefnyddio cynnyrch safonol fel glanedyddion a channydd.
  • Lleihau cysylltiadau a chadw pellter, i’r graddau mwyaf posibl – cyfrifoldeb yr ysgolion fydd penderfynu ar y ffordd orau o wneud hyn, oherwydd bydd yn wahanol i bob lleoliad, ond yn gyffredinol bydd yn golygu gofyn i ddysgwyr aros mewn grwpiau ar wahân penodol ac i gadw pellter rhwng unigolion.
  • Dylai staff hefyd fod yn ymwybodol o’r amgylchedd ffisegol a sut mae modd rheoli hwn i gefnogi iechyd a lles dysgwyr a staff, er enghraifft drwy gadw ffenestri ar agor i gael awyr iach a goleuni naturiol yr haul. Pan fo’n bosibl dylid cynyddu llif yr aer a’r awyru.
  • O ran y defnydd o gyfleusterau perthnasol gan grwpiau allanol, neu ymwelwyr yn ystod digwyddiadau’r ysgol, dylid parhau i ddilyn y cyngor ar iechyd y cyhoedd.

Glanhau’n amlach, gan gynnwys glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml

Dylai ysgolion ddilyn y cyngor glanhau diweddaraf ar gyfer lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd. Ymysg y pwyntiau i’w hystyried a’u gweithredu mae paratoi amserlen glanhau sy’n sicrhau bod y glanhau’n cael ei wella’n gyffredinol a’i fod yn cynnwys: 

  • glanhau’r holl ystafelloedd gwely, ystafelloedd ymolchi, ceginau ac ardaloedd eraill a rennir yn drwyadl yn amlach ar ôl i wahanol grwpiau eu defnyddio
  • glanhau arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn rheolaidd yn amlach nag arfer
  • pan fo’n bosibl, darparu toiledau ar wahân ar gyfer gwahanol grwpiau cyswllt. Lle nad yw hyn yn bosibl, defnyddio hylif diheintio dwylo cyn mynd i mewn i’r toiled
  • sicrhau bod toiledau’n cael eu glanhau’n rheolaidd. Rhaid annog y dysgwyr i olchi eu dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled
  • darparu hyfforddiant priodol i’r holl staff ar reoli llety preswyl yn ddiogel, i adlewyrchu’r newidiadau mae COVID-19 wedi’u hachosi
  • cysylltu â rhieni a gofalwyr i roi cyngor iddynt ar bolisïau’r ysgol a fydd wedi cael eu diweddaru yn sgil COVID-19
  • darpariaeth i ynysu dysgwyr neu staff symptomatig, a neilltuo mannau ynysu addas i ofalu am ddysgwyr sy’n dangos symptomau a/neu’n cael canlyniad positif.

Er mai osgoi trosglwyddo COVID-19 yw’r flaenoriaeth o hyd, dylai’r personél priodol mewn ysgolion ystyried lles emosiynol dysgwyr sydd angen hunanynysu, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn agored i niwed o ganlyniad i faterion iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys unigolion sydd o bosibl wedi gorfod treulio cyfnodau niferus yn ynysu yn eu gwlad eu hun, ac wedyn yn y DU hefyd.

Ymgysylltu â dysgwyr a’u teuluoedd, a’u cefnogi

Hanfod cynyddu gweithrediadau’n effeithiol o fis Medi ymlaen fydd yr ymddiriedaeth sydd gan rieni, gofalwyr a dysgwyr bod y llety preswyl yn yr ysgol yn ddiogel. Mae hyn yn berthnasol i’r holl ddysgwyr a’u teuluoedd, ond mae’n debygol o fod yn fwy arwyddocaol i ddysgwyr o dramor, yn ogystal â rhieni a gofalwyr dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais, a allai fod â phryderon iechyd penodol neu bryderon eraill ynglŷn â dychwelyd i’w llety yn yr ysgol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhai dysgwyr anghenion addysgol arbennig (AAA) neu BAME yn bryderus ynglŷn â risgiau canfyddiadol dal COVID-19, neu oblygiadau hynny.

Mae deall anghenion penodol dysgwyr unigol a’r rhwystrau maent yn eu hwynebu, a mynd ati i fynd i’r afael â nhw a darparu sicrwydd drwy esbonio’r mesurau diogelu sy’n cael eu rhoi ar waith, yn hanfodol.

Dylai ysgolion sy’n cynnig llety preswyl roi sicrwydd i rieni/gofalwyr ynghylch y mesurau maent yn eu cymryd i leihau’r risgiau. Gallai hyn gynnwys rhoi gwybodaeth iddynt am y canlynol:

  • trefniadau iechyd a diogelwch, gan gynnwys yr arferion o ran golchi dwylo a hylendid anadlol da yn y llety
  • trefniadau mynediad, er enghraifft i therapi adlamu neu sesiynau yn y pwll hydro
  • y trefniadau glanhau sydd ar waith drwy’r ysgol ar ôl defnyddio cyfarpar penodol a/neu adnoddau
  • y defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan staff a dysgwyr, a’r trefniadau ar gyfer dysgwyr a fydd yn cael trafferth defnyddio PPE
  • trefniadau gofal personol, gan gynnwys, er enghraifft, newid a bwydo
  • trefniadau ar gyfer ymweld â gweithwyr proffesiynol.

Diogelu

Bydd amgylchedd cartref a phrofiadau dysgwyr wedi bod yn wahanol yn ystod y cyfyngiadau symud a dylid atgoffa’r holl staff o’u dyletswyddau diogelu yn y canllawiau diogelu statudol ar gyfer lleoliadau addysg Cadw dysgwyr yn ddiogel a gyda Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Bydd rôl y person diogelu dynodedig yn hollbwysig, a dylai’r holl staff a dysgwyr gael gwybod pwy yw’r person diogelu dynodedig a sut mae cysylltu â nhw. Bydd cadw pellter cymdeithasol/corfforol yn golygu ei bod hi’n anoddach cael gafael ar oedolyn y mae rhywun yn ymddiried ynddynt, neu’r person diogelu dynodedig, felly dylai ysgolion a lleoliadau ystyried sut gall dysgwyr siarad yn breifat. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw anstatudol i atgoffa ymarferwyr sy’n gweithio ar draws asiantaethau o’u cyfrifoldebau i ddiogelu dysgwyr a’u cefnogi i ymateb i bryderon am ddysgwyr sydd mewn perygl. Mae’r canllaw hwn yn gysylltiedig â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a dylid ei ddefnyddio gyda nhw.

Cadw pellter cymdeithasol

Yn achos oedolion, mae cadw pellter a lleihau’r amser maent yn ei dreulio mewn cyswllt wyneb yn wyneb yn lleihau’r risg o drosglwyddo’r haint. Mae’n gyngor cryf ar iechyd y cyhoedd bod oedolion yn cadw pellter o ddau fetr rhwng ei gilydd a rhwng hwythau a dysgwyr. Rydym yn gwybod na fydd hyn bob tro’n bosibl, yn enwedig wrth weithio gyda dysgwyr iau, ond os gall oedolion wneud hyn i’r graddau mwyaf posibl, bydd hynny’n helpu. Yn benodol, dylent osgoi cyswllt wyneb yn wyneb agos a lleihau’r amser a dreulir yn nes nag un metr at unrhyw un. Yn yr un modd, ni fydd hyn yn bosibl wrth weithio gyda llawer o ddysgwyr sydd ag anghenion cymhleth neu y mae angen gofal cyswllt agos arnynt. Dylid darparu cymorth addysgol a gofal y dysgwyr hyn gyda mesurau lliniaru priodol ar waith, fel PPE, yn unol â’r canllawiau ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais.

Dylid cefnogi’r dysgwyr sy’n ddigon hen i gadw pellter o ddau fetr ac i beidio â chyffwrdd y staff na’u cyfoedion pan fydd hynny’n bosibl. Efallai na fydd hyn yn bosibl i rai dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth ac mewn rhai ysgolion lle nad oes digon o le ar gael. Serch hynny, bydd lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio mewn cyswllt wyneb yn wyneb a gwneud addasiadau bach i’r ystafell ddosbarth i gefnogi cadw pellter lle bo’n bosibl, o fudd i ddysgwyr ac i staff. Dylai’r ystyriaethau gynnwys gosod seddi’r dysgwyr ochr yn ochr ac yn wynebu ymlaen, yn hytrach nag wyneb yn wyneb neu’n wynebu’r ochr, a gallai olygu symud celfi diangen o ystafelloedd dosbarth i wneud mwy o le. Bydd ysgolion yn rhoi’r mesurau hyn ar waith pan fydd modd, hyd yn oed rhywfaint o’r amser, yn helpu.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog nad oes rhaid i blant oedran cynradd neu iau gadw pellter o ddau fetr, ar y cyfan, oddi wrth ei gilydd neu oedolion, a hynny o 3 Awst 2020 ymlaen.

Mewn amgylchiadau lle mae plant ifanc yn cymysgu, efallai na fydd hi’n ymarferol ceisio cadw pellter o ddau fetr drwy’r amser (rhwng plant, neu rhwng plant ac oedolion hyd yn oed). Mae hyn yn rhannol oherwydd ei bod hi’n anoddach i blant iau ddeall y cysyniad o gadw pellter corfforol, ac yn rhannol oherwydd y bydd y cymorth priodol gan ofalwyr yn golygu cyswllt agosach yn aml.

I blant ifanc (oedran cynradd neu iau), mae’n llai hanfodol beth bynnag i geisio cadw pellter o ddau fetr rhyngddynt drwy’r amser, neu rhwng yr oedolion ac unrhyw oedolion y tu allan i’w haelwyd neu aelwyd estynedig. Mae astudiaethau wedi canfod bod plant ifanc yn llai tebygol o drosglwyddo’r feirws, boed hynny i blant eraill neu i oedolion, ac mae’n ymddangos bod y feirws yn cael effaith ysgafnach ar blant nag oedolion ar y cyfan. 

Fodd bynnag, oherwydd bod plant ifanc yn dal yn gallu trosglwyddo’r feirws, dylai rhieni a gofalwyr plant ifanc barhau i arfer synnwyr cyffredin a chymryd gofal, yn enwedig i annog eu plant i ddilyn y mesurau hylendid dwylo a chael cyn lleied o gyswllt agos â phosibl, lle bo modd.

Ond mae’n bwysig iawn bod plant hŷn ac oedolion ifanc yn parhau i gadw pellter cymdeithasol a dilyn y mesurau eraill i’w cadw’n ddiogel.

Serch hynny, rydym yn cydnabod y bydd rhai achosion mewn ysgolion preswyl lle bydd hi’n anodd disgwyl rhai dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr drwy’r amser. Yn yr achosion hyn, dylai staff fynd ati i sicrhau bod rhywfaint o bellter yn cael ei gadw rhwng dysgwyr a staff, ac ystyried defnyddio grwpiau cyswllt bach, cyson (mae’r canllawiau ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais yn cynnwys mwy o wybodaeth).

Mewn ysgolion uwchradd, yn enwedig yn y grwpiau oedran hŷn yng Nghyfnod Allweddol 4 a 5, mae’n debyg y bydd angen i’r grwpiau cyswllt fod yn grwpiau blwyddyn er mwyn i’r ysgolion allu cyflwyno’r ystod lawn o bynciau’r cwricwlwm ac i ddysgwyr gael addysg arbenigol. Os oes modd cyflawni hyn gyda grwpiau bach, argymhellir hynny.

Yn yr ysgol gynradd, ac ym mlynyddoedd iau’r ysgol uwchradd (Cyfnod Allweddol 3), efallai y bydd ysgolion yn gallu cyflwyno grwpiau llai a fydd yr un maint â dosbarth llawn. Caiff hynny ei argymell os yw’n bosibl, oherwydd byddai hyn yn lleihau nifer y bobl y byddai gofyn iddynt hunanynysu petai rhywun yn y grŵp yn mynd yn sâl gyda COVID-19.

Fel y nodir yn y canllawiau gweithredol, dylai ysgolion asesu eu hamgylchiadau ac os nad yw grwpiau maint dosbarth yn gydnaws â chynnig ystod lawn o bynciau neu reoli’r logisteg ymarferol yn yr ysgol a’r cyffiniau, mae modd ystyried gweithredu grwpiau cyswllt maint grŵp blwyddyn (neu grwpiau hanner blwyddyn). Beth bynnag fydd maint y grŵp, dylid eu cadw ar wahân i grwpiau eraill lle bo modd a dylid annog y dysgwyr hŷn i gadw pellter yn y grŵp. Os bydd ysgolion yn gallu gwneud hynny dylent gymryd camau i sicrhau bod grwpiau gwahanol yn rhyngweithio cyn lleied â phosibl â’i gilydd ac yn rhannu ystafelloedd a mannau cymdeithasol cyn lleied â phosibl os oes modd. Wrth ddefnyddio grwpiau mwy, mae’r mesurau eraill o’r system rheolaethau yn dod yn bwysicach fyth; er mwyn lleihau’r risgiau trosglwyddo a lleihau nifer y dysgwyr a’r staff y gallai fod angen iddynt hunanynysu. Rydym yn cydnabod na fydd dysgwyr iau yn gallu cadw pellter cymdeithasol, ac mae hi’n dderbyniol iddynt beidio â chadw pellter yn eu grŵp yn gyffredinol.

Os nad oes modd osgoi cymysgu rhwng grwpiau, dylai ysgolion ac ymarferwyr ddilyn y broses dull o gyfrifo a rheoli risg i leihau’r risg o drosglwyddo rhwng grwpiau cyswllt.

Mae hi’n bwysig bod ysgolion a lleoliadau’n cael yr hyblygrwydd i reoli ac i ymateb i risgiau mewn ffordd briodol.

Bydd angen help a pharatoadau arbennig ar rai dysgwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) gyda’r newidiadau i’r drefn. Dylai athrawon a chydlynwyr anghenion addysgol arbennig gynllunio i ddiwallu’r anghenion hyn.

Pan fydd dysgwr yn mynychu mwy nag un lleoliad yn rheolaidd ar sail ran-amser, er enghraifft oherwydd ei fod wedi’i gofrestru’n ddeuol, dylai ysgolion weithio drwy’r system o reolaethau ar y cyd, a fydd yn golygu eu bod yn gallu mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a nodwyd.

Gweithdrefnau gadael

Os yw cynllun y llety preswyl wedi cael ei newid, a bod y mynedfeydd a’r allanfeydd yn wahanol, dylid ystyried gweithdrefnau gadael mewn argyfwng os bydd tân neu ddigwyddiad arall.

Bydd angen i ddysgwyr a staff gael pen eu ffordd o ran unrhyw gynllun newydd. Bydd angen defnyddio arwyddion clir i nodi unrhyw newidiadau. Rhaid i’r arwyddion hyn fod yn glir ac yn hawdd i blant eu deall, er mwyn galluogi cynifer o ddysgwyr â phosibl i’w deall.

Er mai’r flaenoriaeth mewn argyfwng fydd gadael yr adeilad yn gyflym ac yn ddiogel, dylid cadw pellter cymdeithasol priodol rhwng unigolion a grwpiau i’r graddau mwyaf posibl. Dylid cynnwys hyn fel rhan o’r asesiad risg ar gyfer y llety preswyl.

Dylid adolygu’r trefniadau gadael ar gyfer dysgwyr ag anghenion cymhleth neu anableddau yng ngoleuni unrhyw newidiadau a wneir. Bydd arwyddion gweledol priodol yn arbennig o bwysig i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Aelwydydd yn yr ysgol breswyl

Mae’n gyffredin yn y DU erbyn hyn i ystyried y llety preswyl mewn ysgol yn ‘aelwyd’. Mae canllawiau ar gael i esbonio beth a olygir gan aelwyd ac ynysu mewn aelwyd estynedig.

Os ydych yn rhannu cegin neu ystafell ymolchi â phobl eraill, mae’n bosibl eich bod mewn perygl uwch o ledaenu neu o gael y coronafeirws. Mae pobl sy’n byw mewn llety a rennir yn ystod y pandemig yn cael eu trin fel un aelwyd. Mae hyn at ddibenion diogelu iechyd. Mae hyn yn golygu, os bydd unrhyw un sy’n byw yn eich llety a rennir ac sy’n rhannu cyfleusterau â chi yn dangos symptomau’r coronafeirws neu fod angen iddynt hunanynysu, bydd angen i bawb hunanynysu, gan ddilyn y canllawiau i aelwydydd â choronafeirws posibl. Bydd angen i berchennog yr ysgol benderfynu a ddylid trin yr ysgol breswyl gyfan fel un aelwyd, neu fwy nag un. Er enghraifft, pan fydd y ddarpariaeth breswyl wedi’i rhannu dros fwy nag un adeilad ar wahân, efallai y bydd yr ysgol yn dymuno eu trin fel aelwydydd gwahanol.

Gallai aelwydydd o’r fath gynnwys aelodau perthnasol o’r staff preswyl. Pan fydd yr aelwydydd wedi’u sefydlu, dylai pob un ddilyn y canllawiau cadw pellter cymdeithasol priodol ar gyfer dysgwyr hŷn a staff, yn enwedig gydag unrhyw ddysgwr neu aelod o staff y tu allan i’w haelwyd. Gall yr aelwydydd hyn rannu ardaloedd awyr agored cyffredin ar gyfer rhai gweithgareddau. Byddai hyn hefyd yn lleihau’r angen am ynysu ehangach pe bai unrhyw unigolyn yn datblygu symptomau.

Sut mae grwpio dysgwyr

Mae sefydlu a chynnal grwpiau ar wahân yn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint, drwy gyfyngu ar nifer y dysgwyr a’r staff a fydd yn cael cyswllt â’i gilydd i ddim ond y rheini a fydd yn y grŵp hwnnw. Mae cynnal grwpiau bach na fyddant yn cymysgu yn ei gwneud hi’n gynt ac yn haws, os bydd achos positif, i adnabod y rheini y gallai fod angen iddynt hunanynysu a chadw’r nifer hwnnw mor isel â phosibl.

Dylid trefnu dysgwyr preswyl mewn grwpiau bach sy’n aros ar wahân i grwpiau eraill yn yr ysgol. Gallai’r grwpiau hyn gynnwys aelodau perthnasol o’r staff preswyl a dylai pob grŵp gadw at y canllawiau cadw pellter cymdeithasol priodol, yn enwedig gydag unrhyw ddysgwr neu aelod o staff y tu allan i’w haelwyd. Gall y grwpiau rannu ardaloedd cyffredin ar gyfer rhai gweithgareddau, ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol priodol. Byddai hyn hefyd yn lleihau’r angen am ynysu ehangach pe bai unrhyw unigolyn yn datblygu symptomau.

Yn ystod y dydd, dylai ysgolion preswyl fabwysiadu’r un arferion ar gyfer cadw grwpiau dysgwyr preswyl ar wahân ag y maent ar gyfer dysgwyr dydd. Bydd amgylchiadau pob lleoliad yn amrywio rhywfaint.

Dysgwyr preswyl hyblyg

Dylai ysgolion ystyried a ddylid rhoi caniatâd i ddysgwyr preswyl adael safle’r ysgol yn ystod eu hamser rhydd, gan ystyried yr angen i leihau’r rhyngweithiadau diangen ag eraill oddi ar safle’r ysgol. Bydd hi’n arbennig o bwysig ystyried, yn ofalus, y gweithdrefnau iechyd sydd ar waith ar gyfer dysgwyr preswyl hyblyg a dysgwyr preswyl sydd i fod i ddychwelyd adref ar y penwythnos neu yn ystod y gwyliau. Dylid ystyried y ffactorau hyn fel rhan o’ch asesiadau risg.

Yn yr ystafell fwyta ac yn ystod amser rhydd y dysgwyr

Efallai y bydd ysgolion preswyl yn dymuno ystyried y dulliau posibl canlynol o leihau’r rhyngweithiadau yn ystod amser bwyd ac amser rhydd y dysgwyr. Bydd y trefniadau penodol yn dibynnu ar gynllun yr ysgol unigol.

  • Sicrhau bod y canllawiau ar hylendid dwylo yn cael eu dilyn yn drylwyr, yn enwedig lle mae bwyd yn cael ei baratoi, ei drin neu ei fwyta.
  • Lle bo’n bosibl, cynyddu faint o le sydd ar gael i fwyta neu wasgaru’r amseroedd prydau, a bod y dysgwyr yn bwyta mewn grwpiau aelwyd bach. Efallai y bydd y dull priodol yn dibynnu ar nifer y dysgwyr yn y llety preswyl.
  • Mynnu bod dysgwyr dros 11 oed yn cadw pellter cymdeithasol lle bo’n bosibl neu fod dysgwyr iau yn aros yn eu grwpiau bach yn ystod yr amseroedd rhydd, gan gadw pellter cymdeithasol yn gyffredinol i’r graddau mwyaf posibl, gan roi trefniadau goruchwylio priodol ar waith i hwyluso hyn.
  • Os yw’r tywydd yn caniatáu, defnyddio’r amgylchedd awyr agored cymaint â phosibl ar gyfer amser bwyd ac amser rhydd y dysgwyr.

Dysgwyr o dramor

Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth gyfredol am deithio. Hefyd mae canllawiau penodol i bobl sy’n dychwelyd i Gymru eu dilyn, fel y nodir isod. Mae’r canllawiau hyn yn gallu newid ar fyr rybudd, felly rhaid i ddarparwyr wneud yn siŵr bod ganddynt yr wybodaeth fwyaf cyfredol sy’n berthnasol i’w dysgwyr preswyl.

Dylai ysgolion wybod am bolisïau’r wlad wreiddiol ynghylch teithio, cwarantin a chanllawiau eraill, yn ogystal â’r disgwyliadau diwylliannol. Efallai y bydd rhai gwladolion yn disgwyl gwisgo gorchuddion wyneb, er enghraifft.

Lle bo’n bosibl, dylai’r ysgol godi dysgwyr rhyngwladol o’r maes awyr, gan osgoi’r angen i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd angen cynnal asesiadau risg trylwyr cyn ymrwymo i’r gweithgaredd hwn.

Yn dibynnu ar y cyngor teithio a’r cyngor ar iechyd y cyhoedd ar yr adeg briodol, caiff ysgolion ofyn i ddisgyblion preswyl o dramor ddychwelyd yn gynnar ar gyfer tymor yr hydref er mwyn cyflawni unrhyw gyfnod cwarantin gofynnol (gweler isod). Gallai hyn gynnwys dysgwyr mewn ysgolion preswyl sy’n dod o deuluoedd y lluoedd arfog ac mae eu rhieni/gofalwyr yn gwasanaethu dramor.

A oes modd defnyddio tai preswyl fel parthau cwarantin?

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 yn nodi’r gofynion i deithwyr o wledydd penodol hunanynysu am gyfnod cwarantin. Mae’r gofynion hyn yn gyson â rhai Llywodraeth y DU.

Mae’r rhestr o deithwyr sydd wedi’u heithrio o’r gofynion hunanynysu yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Os yw dysgwyr yn dod i’r DU o wlad lle mae’n rhaid iddynt fynd i gwarantin ar ôl cyrraedd, mae’n debygol y bydd modd defnyddio’r tŷ preswyl fel y parth cwarantin, gan mai dyna fydd eu prif fan preswylio. Byddai dysgwyr yn mynd yn syth i’r tŷ preswyl ac yn hunanynysu am y cyfnod gofynnol. Efallai y bydd angen i’r ysgol fabwysiadu trefniant dychwelyd yn raddol i ddysgwyr, i’w caniatáu i ynysu mewn ystafelloedd cysgu.

Os felly, bydd angen rhwydwaith cymorth ar y dysgwyr o dramor sydd dan gwarantin – hynny yw staff ysgol i ddarparu bwyd, meddyginiaeth ac unrhyw gyflenwadau eraill.

O ran yr ysgolion sy’n gallu sicrhau rhieni/gofalwyr y gellir ystyried tŷ preswyl â digon o gyfarpar yn llety at ddibenion cwarantin yn unol â’r canllawiau iechyd y cyhoedd, byddant mewn sefyllfa dda i dderbyn dysgwyr o dramor gan wybod y byddant yn cael gofal diogel yn yr ysgol. 

Defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE)

Dylai’r defnydd o PPE gan staff mewn llety preswyl fod yn seiliedig ar asesiad clir o’r risg, gan ystyried pob lleoliad unigol ac anghenion y dysgwr unigol.

Mae cyngor ar gael ar wefan Cymru Iach ar Waith. Mae’r canllawiau gweithredol yn darparu arweiniad clir ar ddefnyddio PPE mewn gwahanol sefyllfaoedd ym myd addysg, ac mae gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnwys gwybodaeth am PPE mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, a lleoliadau nad ydynt yn rhai gofal iechyd. 

O ran defnyddio PPE gyda rhai dysgwyr, yn enwedig y rhai ag anghenion addysgol arbennig, dylai’r ysgol ystyried hynny’n ofalus ac asesu’r risg. Dylid cyfeirio at y canllawiau ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais.

O ganlyniad i anghenion unigol rhai dysgwyr, efallai y bydd angen defnyddio mathau penodol o PPE ar wahanol adegau o’r diwrnod ac ar gyfer gwahanol weithgareddau. Rhaid i leoliadau esbonio’n glir beth yw’r trefniadau y cytunwyd arnynt o ran y defnydd o PPE ar gyfer pob dysgwr unigol. Dylai hyn fod wedi’i nodi yn eu cynllun dysgu unigol i wneud yn siŵr bod yr holl staff yn ymwybodol a bod y defnydd o PPE yn gyson ar gyfer dysgwyr unigol gan yr holl staff.

Mae lles y dysgwyr yn hollbwysig wrth ystyried a ddylai staff neu ddysgwyr hŷn wisgo gorchudd wyneb ai peidio. Mae’n bosibl y bydd rhai unigolion yn cael trafferth gwisgo gorchudd wyneb yn unol â’r cyfarwyddiadau, er enghraifft rhai dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig. Ni ddylai’r unigolion hyn eu gwisgo oherwydd gallai gynyddu’r risg o drosglwyddo yn anfwriadol.

Mae’r rhestr isod yn nodi pryd y gallai fod angen defnyddio cyfarpar diogelu personol.

Amheuaeth o COVID-19

  • Dylid gwisgo menyg, ffedogau a masgiau llawfeddygol atal hylif os bydd plentyn neu berson ifanc yn mynd yn sâl gyda symptomau COVID-19 ac y bydd angen gofal personol uniongyrchol ar y plentyn neu’r person ifanc.
  • Dylid hefyd gwisgo cyfarpar diogelu’r llygaid os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny.
  • Dylid gwisgo menyg a ffedogau wrth lanhau’r ardaloedd lle mae rhywun yr amheuir bod COVID-19 arno wedi bod.

 Gofal personol

  • Dylid parhau i wisgo menyg a ffedogau wrth ddarparu gofal personol i blentyn neu i berson ifanc. Mae hyn yn gallu cynnwys gofal ymarferol personol fel ymolchi, defnyddio’r toiled neu gymorth cyntaf a rhai gweithdrefnau clinigol fel cymorth bwydo.
  • Dylid hefyd gwisgo masgiau llawfeddygol atal hylif a chyfarpar diogelu’r llygaid os bydd asesiad risg yn pennu bod risg y bydd rhywbeth yn sblasio i’r llygaid er enghraifft drwy beswch, poeri neu daflu i fyny.
  • Dylid defnyddio menyg, gynau sy’n atal hylif, masgiau FFP3 a chyfarpar diogelu’r llygaid wrth ymgymryd â thriniaethau sy’n cynhyrchu aerosolau fel sugno.
  • Dylid defnyddio menyg a ffedogau wrth lanhau cyfarpar neu arwynebau y mae’n bosibl eu bod wedi cael eu halogi gan hylifau o’r corff fel poer neu secretiadau anadlol.

Defnyddio gorchudd wyneb at ddibenion iechyd

Mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi bod yn glir nad oes llawer o dystiolaeth i gefnogi gwisgo gorchuddion wyneb anfeddygol yn eang yn y gymuned, heblaw ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn sefyllfaoedd lle mae’n anodd dilyn y mesurau cadw pellter cymdeithasol a hylendid. Nid ydynt yn cymryd lle mesurau llawer mwy effeithiol fel cadw pellter cymdeithasol, fel sy’n briodol i oedran a dealltwriaeth, a hylendid dwylo.

Mae gorchuddion wyneb anfeddygol yn cael eu hargymell i staff pan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, er enghraifft gyda dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau. 

Mae meddwl am les y dysgwyr yn hollbwysig wrth ystyried a ddylai staff neu ddysgwyr hŷn wisgo gorchudd wyneb ai peidio. Ni ddylai neb na fyddant efallai’n gallu defnyddio gorchudd wyneb yn unol â’r cyfarwyddiadau (e.e. dysgwyr ifanc neu’r rheini sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau) wisgo gorchudd o’r fath gan y gallai hynny gynyddu’r risg o drosglwyddo’r haint.

Mae’r cyngor ar orchuddion wyneb yn cael ei adolygu’n rheolaidd a bydd yn dilyn y cyngor gwyddonol diweddaraf bob amser.

Gorchuddion wyneb a’r goblygiadau i ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel

Dylid ystyried yn ofalus effaith gwisgo gorchudd wyneb ar ddysgwyr byddar neu ddysgwyr sydd wedi colli eu clyw i unrhyw lefel, gan fod cyfathrebu i lawer o bobl fyddar yn dibynnu’n rhannol ar allu gweld wyneb rhywun yn glir. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar wedi darparu rhywfaint o awgrymiadau ar gyfer cyfathrebu, a allai fod yn ddefnyddiol i staff yn hyn o beth.

Mae’r canllawiau ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed yn nodi nifer o ystyriaethau penodol mewn perthynas â dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig.

Profi, Olrhain, Diogelu

Profi, Olrhain, Diogelu yw dull Llywodraeth Cymru o brofi ac olrhain cysylltiadau er mwyn ein helpu i fyw gyda COVID-19 wrth i waith fynd rhagddo i ddod o hyd i driniaethau mwy effeithiol, a brechlyn. Bydd y strategaeth yn galluogi Cymru i ddechrau cymryd rhan mewn gweithgareddau normal eto, yn raddol ac yn ddiogel.

Mae’r canllawiau gweithredol yn cynnwys mwy o fanylion am y strategaeth, ond yn gryno ei nod yw diogelu iechyd pobl, ac mae’n gweithio drwy wneud y canlynol:

  • profi pobl â symptomau COVID-19, gan ofyn iddynt hunanynysu oddi wrth eu teulu ehangach, eu ffrindiau a’u cymuned wrth aros am ganlyniad
  • olrhain y bobl sydd wedi dod i gysylltiad agos ag unrhyw un sy’n cael canlyniad positif, gan fynnu eu bod yn cymryd rhagofalon drwy hunanynysu am y cyfnod a nodir yn y canllawiau ar hunanynysu
  • diogelu pobl eithriadol o agored i niwed neu’r rhai sy’n wynebu mwy o risg o ran y feirws, gan ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth, yn enwedig os byddant yn datblygu symptomau neu wedi cael eu nodi fel cyswllt drwy’r broses olrhain cysylltiadau.

Mae’r canllawiau penodol i leoliadau addysg ar y profion antigen (swab) a gwrthgyrff (gwaed) ac olrhain cysylltiadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae amrywiaeth bellach o wybodaeth am brofi ac olrhain cysylltiadau yng Nghymru hefyd ar gael.

Trafnidiaeth

Mae’r canllawiau ar drafnidiaeth i ysgolion wedi’u darparu yn y canllawiau gweithredol. I’r rhan fwyaf o ddysgwyr, bydd y trefniadau teithio a roddir ar waith i’r holl ddysgwyr yn briodol. Ond i rai dysgwyr, yn enwedig y rhai ag anghenion addysgol arbennig, bydd ystyriaethau ychwanegol. Mae fersiwn ddiweddaraf y canllawiau gweithredol yn cydnabod hyn ac yn darparu rhagor o gyngor.

Adnodd asesu risg COVID-19 Cymru gyfan ar gyfer y gweithlu

Mae Adnodd asesu risg COVID-19 Cymru gyfan ar gyfer y gweithlu wedi cael ei ddylunio i gael ei ddefnyddio gan yr holl staff iechyd a gofal cymdeithasol y credir eu bod yn eithriadol o agored i niwed neu’n wynebu mwy o risg, dim ots beth yw eu hethnigrwydd. Mae’r adnodd yn rhoi sylw i ffactorau risg unigol.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i addasu’r adnodd hwn i gefnogi gweithleoedd addysg. Cyn y gwaith hwnnw, mae modd defnyddio’r adnodd i helpu aelodau o staff i ystyried eu statws iechyd a lles eu hunain, ac mae’n helpu gweithwyr a chyflogwyr i adnabod, i asesu ac i drafod y risgiau a’r camau mae modd eu cymryd i’w lliniaru.

Cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf a’r cwestiynau cyffredin am addysg a COVID-19 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae rhai cwestiynau cyffredin am reoliadau’r coronafeirws ar gael, a gallwch ein dilyn ar Twitter hefyd:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

Mae cyngor ar COVID-19 ar gael ar wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yn ogystal â hynny, mae Estyn wedi cyhoeddi adroddiad ar ymateb ysgolion annibynnol yn ystod pandemig COVID-19. Mae’r adroddiad yn cyflwyno sawl cameo sy’n rhoi proffil o’r gwaith a wnaed mewn perthynas ag addasu’r dysgu, cefnogi’r broses pontio, datblygu sgiliau dysgwyr a sefydlu arferion i helpu i leihau pryder.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 167 KB.

Maint Ffeil 167 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.