Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Mae’n rhaid cynnal adolygiad statudol o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 bob tair wythnos. Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf ar 7 Ionawr, a daethpwyd i’r casgliad y dylai Cymru barhau ar lefel rhybudd 4, lle mae wedi bod ers 20 Rhagfyr. Bydd mannau manwerthu nad ydynt yn hanfodol, lleoliadau lletygarwch, safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden yn parhau ynghau, ac mae’r neges glir fod yn rhaid i bobl 'aros gartref i achub bywydau' yn parhau yn ei lle ar gyfer pawb yng Nghymru.
Ar ôl y penderfyniad a wnaed yn gynharach yn yr wythnos i symud at ddysgu ar-lein ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, bydd y sefyllfa honno’n parhau, a byddwn, wrth edrych arni yn y dyfodol, yn dilyn yr un cylch adolygu tair wythnos. Byddwn yn ystyried sut i ymdrin ag ysgolion ar yr un pryd â’r adolygiad nesaf, a fydd yn cael ei gynnal erbyn 29 Ionawr. Oni bai bod gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o’r coronafeirws cyn yr adolygiad hwnnw, bydd ysgolion yng Nghymru yn parhau i gynnig darpariaeth ar-lein tan hanner tymor mis Chwefror. Bydd plant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol yn dal i gael dysgu wyneb yn wyneb.
Byddwn yn defnyddio'r wythnosau nesaf i weithio gyda'n gwyddonwyr, ein hundebau a'n hawdurdodau lleol i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'n gilydd yn ystod y cyfnod hwn i edrych ar yr holl bosibiliadau ar gyfer caniatáu i rai disgyblion ddychwelyd yn raddol, ac yn ddiogel, i’r ysgol, gan gynnwys y rheini sy'n astudio ar gyfer arholiadau a'r plant ieuengaf sy'n ei chael yn anos dysgu o bell.
Dyw ysgolion ddim wedi troi’n anniogel yn sydyn; nid ydynt yn peri mwy o risg i athrawon na myfyrwyr. Fodd bynnag, mae cadw ysgolion ar agor yn annog plant ac oedolion i gymysgu – y tu mewn a'r tu allan i gatiau'r ysgol – ar adeg pan fo nifer uchel o achosion o’r coronafeirws yn y gymuned, ac mae straen heintus iawn sy’n lledaenu'n gyflym.
Rydym yn ei gwneud yn glir bod yn rhaid i bob man arddangos gau. Byddant yn dal i gael rhoi trefniadau clicio a chasglu ar waith.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant a’r undebau llafur i adolygu ac i gryfhau mesurau mewn mannau manwerthu hanfodol, gan gynnwys archfarchnadoedd, ac mewn gweithleoedd agored. Mae angen diogelu i’r graddau mwyaf posibl y bobl hynny nad ydynt yn gallu gweithio gartref, a'r bobl y mae angen iddynt fynd yn bersonol i fannau manwerthu hanfodol, ac mae angen rhoi cymorth i bobl weithio gartref os oes modd iddynt wneud hynny. Byddwn yn cynnwys y gofynion hyn mewn rheoliadau lle bo angen ac yn edrych ar sut y gellir gwella camau gorfodi.
Rydym yn deall bod cadw’r cyfyngiadau yn heriol i bawb ond drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn ddiogelu'r GIG ac achub bywydau.