Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r canllawiau hyn wedi cael eu datblygu i gyflwyno’r disgwyliadau a’r blaenoriaethau ar gyfer y dysgu mewn ysgolion a lleoliadau.

Mae’r canllawiau hyn yn cyflwyno cyfres gyffredin o flaenoriaethau dysgu i ysgolion ac i’r partneriaid sy’n eu cefnogi, yn ystod yr ymateb i COVID-19 ac wrth ini symud tuag adfer.

Mae staff yn gweithredu mewn amgylchiadau digynsail a heriol iawn ac maent wedi dangos eto allu ein proffesiwn addysg i wynebu a chwrdd â heriau sylweddol.

Bwriad y canllaw hyn yw tawelu meddwl a chefnogi ysgolion ac ymarferwyr wrth iddynt geisio mynd i'r afael ag anghenion pob dysgwr.

Mae’r heriau hyn yn golygu bod angen i ysgolion addasu sut maent yn cynllunio’r cwricwlwm er mwyn gallu bod yn hyblyg ac ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau a galluogi dysgwyr i wneud cynnydd. Felly, mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyfres lefel uchel o ddisgwyliadau ar gyfer ysgolion a lleoliadau i ddatblygu dulliau dysgu a cheisio cau’r bwlch rhwng ein dysgwyr ar yr un pryd â chodi’r disgwyliadau i bawb. Wrth i ysgolion a lleoliadau ddatblygu dulliau o ddarparu dysgu yn yr ysgol a’r tu allan, byddant yn gallu defnyddio’r canllawiau dysgu cyfunol a chanllwaiau ffrydio byw. Mae’r canllawiau hyn yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa wrth iddi newid.

Rydym yn gwybod y bydd amrywiaeth eang o effeithiau ar ddysgwyr ac y byddant yn amrywio yn ôl anghenion unigolion; e.e. dysgwyr mewn ysgolion a lleoliadau cyfrwng Cymraeg pan na chaiff y Gymraeg ei siarad gartref. O’r herwydd, rydym yn nodi un dull gweithredu yma i hyrwyddo cynnydd dysgu i bob dysgwr, gan ddisgwyl i hyn gael ei addasu a’i ddatblygu yn ôl anghenion a heriau pob
ysgol a phob dysgwr.

Mae ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) ochr yn ochr â’n nodau lles wedi amlygu'r rhan hollbwysig sydd gan ein hysgolion a’n lleoliadau i’w chwarae i fynd i’r afael ag anghenion bob dysgwr. Nid oes modd gadael neb ar ôl.  Rydym yn canolbwyntio o hyd ar iechyd a lles dysgwyr fel rhagofyniad ar gyfer dysgu, ond mae hefyd yn golygu mwy o gynllunio manwl ar gyfer dysgu a chynnydd i’r tymor canolig a hwy.

Mae ysgolion a lleoliadau’n parhau i chwarae rhan hollbwysig drwy gefnogi cymunedau lleol, rhieni a gofalwyr yn ein hymgyrch i gadw’n ddiogel a dal ati i ddysgu. Mae ein cenhadaeth genedlaethol a’n system addysg ar bob lefel yn dal i ganolbwyntio ar gefnogi ein holl blant a phobl ifanc i wireddu eu potensial a llwyddo drwy'r cyfnod eithriadol hwn.

Sut beth fydd y dysgu?

Bu angen i ddull dysgu o bell ac ar y safle ysgol neu leoliad addasu i’r newidiadau mewn amgylchiadau rydym wedi eu hwynebu mewn ymateb i COVID-19. Dylai ysgolion parhau i ddatblygu dull o ddysgu sy’n ddigon hyblyg i addasu i sefyllfaoedd gwahanol yn ogystal â lefelau gwahanol o ddysgu yn yr ysgol a dysgu yn y cartref neu mewn man arall. Yn yr un modd, wrth i ni symud tuag at adferiad, bydd angen i ysgolion a lleoliadau ymateb i fylchau mewn dysgu oherwydd COVID yn ogystal â sicrhau bod dysgwyr yn datblygu ymhellach. Mae'r tarfu presennol a'r adferiad yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a lleoliadau flaenoriaethu dysgu allweddol: penderfynu pa ddysgu sy'n hanfodol i'w dysgwyr a'u cynnydd yn yr amser sydd ganddynt.

Yng nghyd-destun yr ansicrwydd hwn, mae angen cyfres eang o egwyddorion y gellir ac y dylid eu gweithredu ni waeth beth yw’r senario. Ein nod yw darparu eglurder, ffocws a chyfeiriad ar gyfer dysgu yng nghyd-destun yr ysgol/lleoliad ac yng nghyd-destun y cartref neu mewn man arall, gyda’r hyblygrwydd i ysgolion addasu i amrywiaeth o senarios. Mae hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn cael profiadau cydlynol, cyson a chydgysylltiedig o ddysgu, yn hytrach na gofynion sy’n gwrthdaro, ailadrodd diangen neu ddiffyg cysylltiad rhwng y ddau gyd-destun. Bydd ystyriaethau ychwanegol ar gyfer dysgwyr penodol, gan gynnwys ein dysgwyr ieuengaf a dysgwyr sy'n wynebu rhwystrau i ddysgu. Yn achos dysgwyr sy'n paratoi ar gyfer cymwysterau rydym eisoes yn darparu cymorth ychwanegol fel y rhaglen safonau Recriwtio, Adfer a Chodi ac rydym yn datblygu cyfres o adnoddau dysgu ar gyfer cymwysterau CBAC. Ond bydd angen darparu cymorth ychwanegol o fewn ysgolion a cholegau i gefnogi lles a dilyniant dysgwyr.

Blaenoriaethau ar gyfer dysgu

Yn gryno, wrth ystyried eu dull o ddysgu, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y canlynol:

Sut i flaenoriaethu dysgu:

  • Beth yw’r diben dysgu? dylai pob dysgu fod â phwrpas clir mewn golwg, yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i ddysgwyr nawr ac yn y tymor hwy

Sut dylai dysgwyr symud ymlaen? Sut mae asesu'r dysgu hyn? dylai dysgwyr symud ymlaen yn ystyrlon drwy gydol y cyfnod hwn. Dylid dylunio’r dysgu i gefnogi ymestyn dyfnder a soffistigeiddrwydd y dysgu dros amser. Rydym yn annog defnyddio asesu er mwyn helpu’r dysgwyr i symud ymlaen i’r camau nesaf yn eu dysgu.Yr hyn y dylai dysgu ei gynnwys:

  • iechyd a lles: dylai’r dysgu gefnogi lles meddyliol, emosiynol, corfforol a chymdeithasol y dysgwyr ar yr un pryd â chydnabod pwysigrwydd chwarae a dysgu yn yr awyr agored gan gynnwys cyfleoedd yn y cartref ar gyfer hyn.
  • llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol: dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu ac i ddefnyddio’r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm
  • dysgu eang a chytbwys: dylai dysgwyr gael profiadau dysgu sy’n ymestyn dros gwricwlwm eang ac sy’n cynnwys cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth eang ac amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau. Ni ddylid gwrthod mynediad i ddysgwyr at bynciau cyfan y byddent fel arall yn cael mynediad a iddynt.

Cyd-gynllunio dysgu:

  • partneriaeth gyda rhieni, gofalwyr a dysgwyr: dylai ysgolion ddatblygu dealltwriaeth ac iaith gyffredin gyda rhieni, gofalwyr a dysgwyr; gall hyn helpu i osod sylfaen ar gyfer y dysgu a chefnogi’r profiadau dysgu, yn ogystal â darparu adborth adeiladol ar y dysgu o bell

Diben

Yn gryno:

  • dylai fod diben clir i’r holl ddysgu, gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i ddysgwyr nawr ac yn y tymor hwy
  • wrth i ysgolion ac ymarferwyr ddatblygu eu blaenoriaethau a'u ffocws ar gyfer y dysgu, dylent wedyn geisio sicrhau bod y dysgu yn ymgyrraedd tuag at y rhain
  • dylai'r dysgu gydnabod sefyllfa pob dysgwr  yn sgil y tarfu a datblygu camau dysgu clir er mwyn ymateb i hynny.

Mae addasu'r dysgu’n golygu bod angen i ysgolion ac ymarferwyr ddeall eu blaenoriaethau ar gyfer y dysgu ac anghenion eu dysgwyr. Wrth feddwl am y blaenoriaethau a’r ffocws ar gyfer y dysgu, efallai y bydd ysgolion a lleoliadau eisiau ystyried pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru fel ffordd o gyfleu ein dyheadau ar gyfer pob dysgwr yng Nghymru.

Wrth i ysgolion ac ymarferwyr ddatblygu eu blaenoriaethau a'u ffocws ar gyfer y dysgu, dylent wedyn geisio sicrhau bod y dysgu yn ymgyrraedd tuag at y rhain. Fel rhan o hynny dylid ystyried y blaenoriaethau allweddol ar gyfer y dysgu a amlinellir yn y canllawiau hyn, ond efallai bydd ysgolion a lleoliadau hefyd yn dymuno ystyried:

  • ein gweledigaeth – pa wybodaeth, sgiliau ac ymagweddau rydym am i ddysgwyr eu datblygu?
  • pa heriau sy’n wynebu dysgwyr a sut gallwn eu helpu i’w goresgyn?
  • sut gallwn ni sicrhau bod dysgwyr yn dod yn eu blaenau? Beth mae cynnydd yn ei olygu? Ydy ein disgwyliadau’n ddigon uchel?

Cefnogi cynnydd trwy asesu

Yn gryno, dylai dysgwyr symud ymlaen yn ystyrlon drwy gydol y cyfnod hwn. Dylid dylunio’r dysgu i gefnogi ymestyn dyfnder a soffistigeiddrwydd y dysgu dros amser. Dylid canolbwyntio’r asesu er mwyn helpu’r dysgwyr i symud ymlaen i’r camau nesaf yn eu dysgu.

Cynnydd

Er gwaethaf y tarfu a fu oherwydd COVID-19 ac wrth ini symud tuad at adferiad rydym yn disgwyl y dylai’r holl ddysgwyr barhau i wneud cynnydd ystyrlon. Mae hyn yn hollbwysig i addysg tymor hir dysgwyr a’u lles gydol oes. Wrth i ddysgwyr ddod yn eu blaenau, maent yn datblygu dealltwriaeth sy’n fwy soffistigedig o gysyniadau a dylai defnyddio gwybodaeth, sgiliau a dysgu eu cefnogi i wneud hyn. Mae’n bwysig gweld cynnydd yn y cyd-destun hwn: dyfnhau dealltwriaeth a defnyddio gwybodaeth a sgiliau, yn hytrach na dim ond rhoi sylw i ragor o bynciau neu gynnwys gwahanol.

Mae’r rhaglenni astudio cyfredol yn cefnogi ymarferwyr i bennu beth ddylai fod yn gamau nesaf i’w dysgwyr. Efallai byddant hefyd eisiau defnyddio’r egwyddorion cynnydd a’r disgrifiadau o ddysgu sydd yng nghanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru i gefnogi hyn.

Bydd dysgwyr yn dod yn eu blaenau ar adegau gwahanol a dylid herio a chefnogi pob unigolyn yn briodol i symud ei ddysgu ymlaen, gan ystyried unrhyw rwystrau rhag dysgu sydd angen sylw.

Asesu

Diben asesu yw cefnogi pob dysgwr unigol i ddod yn ei flaen ar gyflymder priodol, gan sicrhau bod y dysgwr yn cael ei herio a’i gefnogi’n briodol. Wrth i ddysgwyr barhau i ddysgu mewn cyd-destunau gwahanol, ni ddylai’r asesu ganolbwyntio ar ‘brofi’ mewn ymdrech i ‘ddal i fyny’ a rhoi sylw i bopeth a fyddai wedi cael sylw cyn COVID19. Dylai helpu i ddatblygu darlun cyfannol o’r dysgwr – ei gryfderau, sut mae’n dysgu a’r meysydd i’w datblygu – er mwyn ei alluogi i baratoi i ddysgu a chytuno ar y camau nesaf. Mae asesu’n rhan annatod o’r broses ddysgu, gydag ymarferwyr yn gweithio gyda dysgwyr i helpu i adnabod eu cryfderau, y meysydd i’w datblygu a’r camau nesaf yn y dysgu.

Dylai dysgu ar draws ehangder y cwricwlwm ddefnyddio ystod eang o ddulliau asesu, gan greu darlun cyfannol o ddatblygiad y dysgwr. Bydd ymarferwyr gyda phlant iau yn parhau i ddefnyddio arsylwadau i asesu’r cynnydd mewn dysgu drwy weithgareddau sy’n seiliedig ar chwarae. Mae hi’n bwysig bod yr arsylwadau’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau sydd efallai wedi datblygu mewn ffordd gadarnhaol ac annisgwyl yn ystod y cyfnod hwn ac nid oes angen canolbwyntio ar y ‘dysgu a gollwyd’. 

Drwy weithio gyda grwpiau o ddysgwyr yn yr ysgol neu’r lleoliad, bydd ymarferwyr yn treulio amser gydag unigolion ac yn datblygu eu dealltwriaeth o'r ffordd maent yn dysgu. Bydd hyn golygu eu bod yn gallu cefnogi eu cynnydd wrth iddynt barhau i ddysgu yn yr ysgol neu’r lleoliad, yn ogystal â gartref neu mewn mannau eraill. Wrth gynllunio eu dull dysgu, bydd ymarferwyr hefyd yn addasu ac yn datblygu i sicrhau bod yr asesu yn rhan hanfodol o gefnogi dysgwyr pan na fyddant yn bresennol yn yr ysgol neu’r lleoliad.

Mae asesiadau personol ar-lein ar gael drwy gydol y flwyddyn ysgol i ysgolion gael ffyrdd hyblyg o gasglu gwybodaeth am sgiliau darllen a rhifedd eu dysgwyr. Maent wedi cael eu dylunio i gefnogi cynnydd ac i ymgysylltu dysgwyr er mwyn iddynt ddeall lle maent arni ar eu taith ddysgu. O’r herwydd, caiff ymarferwyr eu hannog i ddefnyddio’r asesiadau hyn, ar adeg maen nhw’n meddwl sy’n briodol, i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol gan eu helpu i ddod o hyd i’r camau nesaf yn eu dysgu.

Rhoddir adborth ar eu sgiliau darllen a rhifedd i’r dysgwyr drwy eu cyfrifon Hwb. Mae’r adborth hwn yn gallu helpu cynnydd unigolion yn y sgiliau trawsgwricwlaidd hyn, ac mae’n helpu dysgwyr i ddeall eu cryfderau a'r camau nesaf posibl.

Iechyd a lles

Yn gryno:

  • dylai dysgu gefnogi lles meddyliol, emosiynol, corfforol a chymdeithasol dysgwyr
  • dylai dysgu gydnabod pwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored
  • mae lles yn gwbl hanfodol i alluogi dysgu bob dysgwr – os na fydd dysgwyr o unrhyw oed yn teimlo’n gyfforddus, yn saff ac yn ddiogel, ni fyddant yn dysgu’n effeithiol.

Dylai ymarferwyr barhau i ganolbwyntio ar gefnogi lles fel sylfaen ar gyfer y dysgu.

Lles meddyliol ac emosiynol

I nifer o ddysgwyr, bydd cymryd rhan mewn profiadau dysgu ystyrlon yn cefnogi eu lles meddyliol; bydd hyn yn eu helpu i deimlo synnwyr o ddiben, cynnydd a'u bod yn mwynhau’r dysgu.

Mae cyfathrebu a sgwrsio yn gallu cynnig cymorth pwysig. Bydd sgyrsiau ynghylch sut mae dysgwyr yn teimlo yn parhau i fod yn hollbwysig. Dylai’r staff annog y dysgwyr i drafod eu cwestiynau a’u pryderon.

Dylai’r holl ddysgwyr gael mynediad at amrywiaeth o offer a chymorth ar gyfer eu lles meddyliol ac emosiynol yn yr ysgol. Yn yr un modd â chyn y pandemig, bydd cefnogaeth arbenigol bwrpasol ar gael i’r dysgwyr penodol hynny y mae angen y gefnogaeth honno arnynt, a bydd cefnogaeth gyffredinol ar gael i gefnogi dysgwyr yn fwy cyffredinol i ddeall eu lles eu hunain a meithrin gwytnwch yn ogystal â mecanweithiau ymdopi i reoli heriau COVID-19. Dylai ysgolion ystyried sut y gellid defnyddio dulliau gweithredu gwaith ieuenctid neu gymorth bugeiliol cyffredinol.

Cydberthnasau a lles cymdeithasol

Mae lleoliadau addysg yn llefydd cymdeithasol ac felly’n chwarae rhan hollbwysig wrth i’w dysgwyr ddatblygu synnwyr o ymberthyn ac ymgysylltiad. Mae hyn yn digwydd drwy lawer o ryngweithio drwy gydol y dydd mewn ysgol neu mewn lleoliad ac nid dim ond yn yr ystafell ddosbarth.

Dylai ymarferwyr sicrhau bod dysgwyr yn cael amser, lle a gweithgareddau strwythuredig i gynnal cydberthnasau gyda dysgwyr eraill a gyda staff.

Lles corfforol

Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried sut y gall dysgwyr fwynhau gweithgareddau i gefnogi eu hiechyd corfforol a deall a datblygu ymddygiadau iach. Dylid rhoi pwyslais arbennig ar fwynhad gan fod hyn yn eu cefnogi i ddatblygu arferion iechyd cadarnhaol. Mae hyn yn cynnwys mwynhau gweithgareddau corfforola deall pwysigrwydd deiet cytbwys, iach a'u helpu i gael gafael ar fwyd a’i fwynhau fel rhan o hyn. Efallai fod y pandemig wedi effeithio ar fynediad dysgwyr at y rhain. Efallai fod eu harferion cysgu wedi newid hefyd.

Chwarae ar gyfer bob dysgwr

Dylai ymarferwyr gydnabod rôl bwysig chwarae i ddysgwyr o bob oed. Mae hyn yn hollbwysig i’w datblygiad, eu lles a'u cymdeithasoli.

Dylai’r holl ddysgwyr gael cyfleoedd i chwarae a lle’n bosibl i gymdeithasu drwy weithgareddau wedi’u strwythuro a chwarae heb ei strwythuro.

Dysgu yn yr awyr agored

Dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod dysgwyr yn treulio cymaint o amser â phosibl yn yr awyr agored. Mae manteision corfforol, meddyliol ac addysgol pwysig i hyn ac mae hefyd yn helpu i frwydro yn erbyn trosglwyddo COVID-19.

Mae sefydliadau ar gael sy’n gallu cefnogi ysgolion a lleoliadau wrth ystyried dysgu yn yr awyr agored ac mae ystod eang o adnoddau ar gael. Mae cymorth ar gael i ysgolion ac i leoliadau drwy Hwb, yn ogystal â drwy Gyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn www.walescouncilforoutdoorlearning.org/hafan/, gan gynnwys eu canllawiau Dysgu Awyr Agored o Ansawdd Rhagorol (Y Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored, 2018).

Llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol

Yn gryno:

  • dylai dysgwyr gael cyfleoedd i ddatblygu ac i ddefnyddio’r sgiliau hyn ar draws y cwricwlwm
  • mae'r sgiliau hyn yn hanfodol – maent yn datgloi dysgu ac yn caffael gwybodaeth
  • dylai’r cyfleoedd fod yn rhai go iawn – mae’n bwysig bod y sgiliau hyn yn cael eu gwreiddio mewn dysgu ehangach arall, yn hytrach na cheisio eu gosod ar wahân i ddysgu ehangach.

Dylai dysgu barhau i gyfrannu at godi safonau mewn llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Y sgiliau hyn yw’r sylfaen ar gyfer pob dysgu ac maent yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu datgloi gwybodaeth a sgiliau ar draws y cwricwlwm.

Bydd cymhwysedd digidol, datrys problemau a chreadigrwydd yn helpu dysgwyr i ddysgu drwy ddulliau digidol. Bydd cefnogi cymhwysedd digidol dysgwyr yn arbennig yn bwysig o ran hwyluso mynediad at ddysgu y tu allan i'r ysgol.

Bydd datblygu a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau hyn yn hollbwysig yn ystod y cyfnod hwn. Pan nad oedd dysgwyr yn yr ysgol efallai eu bod wedi colli cyfleoedd i ddatblygu a defnyddio’r sgiliau hyn a all effeithio ar eu parodrwydd i ddysgu.

Dylai dull o ddysgu wedi'i addasu mewn ysgolion ddarparu cyfleoedd go iawn i ddatblygu a defnyddio sgiliau llythrennedd a rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd hyn wedi’i wreiddio yn yr holl ddysgu ar draws cwricwlwm eang a chytbwys. Gall ymarferwyr ddefnyddio amrywiaeth eang o bynciau, gweithgareddau ac adnoddau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau. Mae’n bwysig bod y sgiliau hyn yn cael eu gwreiddio mewn dysgu ehangach arall, yn hytrach nag eu gosod ar wahân.

Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn cyflwyno un dull cyffredin gan gefnogi ysgolion ac ymarferwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd rheolaidd i ddatblygu, ymestyn a defnyddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd hyn.

Dylai hyn gynnwys cyfleoedd i wneud y canlynol yn ystod yr amser dysgu i:

  • ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
  • defnyddio sgiliau rhifedd a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn
  • defnyddio ystod o dechnolegau i weithredu, cyfathrebu a gwneud synnwyr o'r byd.

Dysgu eang a chytbwys

Yn gryno:

  • dylai dysgwyr gael profiadau dysgu sy’n ymestyn dros gwricwlwm eang ac sy’n cynnwys cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth eang ac amrywiaeth o wybodaeth a sgiliau sydd wedyn yn arwain at ragor o ddyfnder 
  • mae'n hollbwysig bod y dysgu yn tynnu ar ystod o ddisgyblaethau ac na chollir rhai disgyblaethau. Ni ddylid gwrthod mynediad i ddysgwyr at rhai bynciau y byddent fel arall yn cael mynediad a iddynt.

Er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr yn llawn, a’u helpu i ddatblygu ac ehangu’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, mae angen i ddysgwyr feithrin gwybodaeth a chael phrofiadau eang a dwfn. Drwy gydol y tarfu a achoswyd gan COVID-19, mae hi’n hanfodol na chaiff hyn ei golli.

Mae’n bwysig bod y dysgu yn parhau i ddarparu ehangder, gan ddefnyddio pynciau, parthau, disgyblaethau a thestunau gwahanol. Ni ddylid colli meysydd fel y celfyddydau creadigol; mae’n gallu cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth fel creadigrwydd ac arloesi, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu. Efallai y bydd ysgolion a lleoliadau hefyd am ddefnyddio canllawiau Cwricwlwm i Gymru ar themâu trawsbynciol a sgiliau sy'n rhan annatod o'r pedwar diben. Wrth i ddysgwyr ddatblygu ac arbenigo, mae hi’n bwysig bod ysgolion yn parhau i ddarparu cyfres eang a chytbwys o ddewisiadau sy’n cefnogi llwybrau dysgu unigolion. Dylai ysgolion fod mor uchelgeisiol â phosibl wrth gynnig dewisiadau.

Dylai ysgolion a lleoliadau hefyd barhau i gefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn paratoi dysgwyr i fod yn rhan o Gymru ddwyieithog.

Partneriaeth gyda rhieni, gofalwyr a dysgwyr

Yn gryno, dylai ysgolion ddatblygu dealltwriaeth gyffredin ac iaith gryno glir gyda rhieni/gofalwyr a dysgwyr. Gall hyn helpu i fod yn sylfaen i’r dysgu a chefnogi'r profiadau dysgu.

Dysgwyr

Mae ymgysylltiad gweithredol rheolaidd rhwng y dysgwr a’r ymarferydd wrth galon y broses ddysgu ac mae’n arbennig o bwysig wrth i ddysgwyr barhau i ddysgu mewn mannau gwahanol a chymryd mwy o berchnogaeth dros eu dysgu o ganlyniad i hynny.

Dylid cefnogi dysgwyr i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am eu dysgu, gan gymryd rhan mewn deialog a chyfathrebu ag ymarferwyr ynghylch yr hyn maen nhw’n ei ddysgu, sut maen nhw’n dysgu a’u cynnydd gyda’r dysgu. Bydd angen lefelau gwahanol o gefnogaeth ar ddysgwyr er mwyn cyfrannu at y broses ddysgu gan ddibynnu ar eu cyd-destun nhw. Fodd bynnag, mae dysgu y tu allan i’r ysgol neu’r lleoliad yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i ysgwyddo perchnogaeth o’u dysgu.

Rhieni a gofalwyr

Mae hi’n hanfodol bod rhieni a gofalwyr yn cymryd rhan yn y dysgu er mwyn datblygu profiadau dysgu sy’n cynnwys dysgu yn yr ysgol ac y tu allan iddi. Dylai rhieni a gofalwyr sy’n ymgysylltu â dysgwyr o bob oed helpu i gyfnerthu'r dysgu a wneir yn yr ysgol. Bydd yn rhaid i ysgolion ddatblygu dealltwriaeth i rieni, gofalwyr a dysgwyr er mwyn deall eu rôl yn y broses hon. Dylai’r cyfathrebu bob amser fod yn glir, yn gryno ac yn effeithiol. 

Dylai ysgolion ac ymarferwyr ystyried:

  • sut bydd yr ysgolion neu’r lleoliadau yn cefnogi rhieni a gofalwyr i ddeall ac i ymgysylltu â dysgu eu plentyn gartref
  • rhoi gwybod i deuluoedd pa mor bwysig yw bod dysgwyr yn rhannu eu profiadau dysgu yn ystod y cyfnod hwn
  • tawelu meddyliau plant a rhieni a gofalwyr. Bydd nifer o deuluoedd yn poeni am roi plant mewn risg ac mae gan ysgolion ran i’w chwarae drwy dawelu eu meddwl. Dylai’r cyfathrebu fod yn ffeithiol, yn glir ac yn seiliedig ar y dystiolaeth a’r canllawiau diweddaraf
  • sut dylid cyflwyno adborth ar ddysgu, gan ganolbwyntio ar gefnogi’r dysgwr i symud ymlaen drwy ei gysuro, cydnabod yr ymdrech a’r hyn sydd wedi cael ei gyflawni, a chytuno ar y camau nesaf.

Y gofynion deddfwriaethol

Mae gofynion cwricwlwm sylfaenol Cymru, yn ogystal â'r trefniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrin nas cynhelir, wedi’u diwygio fel rhan o ddeddf y Coronafeirws 2020, yn amodol ar adolygiadau misol. Rhaid i ysgolion wneud pob ymdrech resymol i gyflawni eu dyletswyddau cwricwlwm. Mae hyn yn golygu y dylai ysgolion wneud popeth o fewn eu gallu rhesymol i addysgu i ddyletswyddau llawn y cwricwlwm. Os nad yw ysgolion wedi bodloni eu gofynion cwricwlwm ar ôl cymryd pob cam rhesymol, yna ystyrir eu bod wedi cyflawni eu dyletswyddau deddfwriaethol. Rhaid adolygu a diweddaru'r hysbysiadau hyn yn fisol.

Datblygu cyfuniad o ddysgu yn yr ysgol a dysgu tu allan i’r ysgol

Beth bynnag fo lefel y gweithrediadau, bydd angen i ysgolion a lleoliadau feddwl yn ofalus sut dylid defnyddio’r amser sy’n cael ei dreulio yn yr ysgol neu’r lleoliad. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd yr amser cyswllt yn werthfawr ac yn bwysig. Dylai ymarferwyr feddwl am y cydbwysedd a’r berthynas rhwng yr amser dysgu yn yr ysgol a’r dysgu mewn mannau eraill, gan ddefnyddio'r amser cyswllt yn ofalus ac yn effeithiol a meddwl sut gall yr amser gartref neu mewn man arall gefnogi’r broses o lunio cysylltiadau a chyfnerthu’r dysgu. Dylent ystyried amrywiaeth eang o ddulliau addysgegol sy’n defnyddio dysgu yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol mewn ffordd effeithiol i rymuso dysgwyr. Gall amser dysgu gartref gynnwys ymarfer sgiliau a dyfnhau’r wybodaeth sydd wedi cael ei chyflwyno yn ystod yr amser cyswllt ond gallai hefyd gynnwys meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth newydd. Gall eu cyfnod gartref hefyd ganiatáu i’r dysgwyr hyn ymchwilio, paratoi a meddwl cyn archwilio a chyfnerthu cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau yn ystod yr amser cyswllt. Dylent geisio cefnogi’r sgiliau hyn yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol. Dylai ymarferwyr bob amser geisio datblygu sgiliau digidol yng nghyd-destun dysgu ehangach yn hytrach na cheisio eu haddysgu ar eu pen eu hunain.

Wrth ddatblygu’r profiadau dysgu hyn, dylai ysgolion a lleoliadau ystyried canllawiau ar ddysgu cyfunol.

Ymateb i sefyllfaoedd gwahanol

Mae cryn ansicrwydd yn wynebu’r system addysg wrth i ni baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae hawl y CCUHP i addysg yn berthnasol yn ddieithriad, ni waeth beth yw’r senario neu’r rhwystrau rhag dysgu sy’n wynebu unigolion. Ni fydd rhagor o gyfyngiadau symud, na chyfnod arall o ddysgu cyfunol yn rhyddhau awdurdodau lleol o’u dyletswydd i ddarparu addysg addas. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai y bydd angen gweithredu’r ddyletswydd yn wahanol i rai dysgwyr am gyfnodau.

Os dychwelir at gyfyngiadau symud yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, neu os bydd angen rhyw fath o ddysgu cyfunol, bydd yr eithriadau canlynol yn berthnasol o ran cyswllt a hyd y dysgu.

  • Dylid cysylltu’n rheolaidd â’r holl ddysgwyr i ‘ailgydio’ – byddai hyn yn gyfle i holi ynghylch diogelwch a lles y dysgwr yn ogystal â thrafod eu profiad dysgu ac ystyried cefnogaeth ychwanegol bosibl.
  • Dylai’r holl ddysgwyr gael yr un cyfnod dysgu ag y byddent yn ei gael petaent yn yr ysgol neu’r lleoliad, hyd yn oed os yw rhywfaint o’r dysgu’n cael ei wneud gartref neu mewn man arall. Bydd eithriadau i weithredu’r disgwyliad hwn; fodd bynnag dyma fydd y man cychwyn i bob dysgwr.

Paratoi dull gweithredu

Yn gryno:

  • gall ysgolion ddefnyddio dulliau'r Cwricwlwm i Gymru i helpu i addasu a dod yn fwy hyblyg i newidiadau mewn amgylchiadau yn ystod COVID-19, ond mae hyn yn wahanol i waith paratoi ehangach ysgolion ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. 
  •  dros amser dylai’r dysgu geisio cyd-fynd yn well ag egwyddorion ag ethos y Cwricwlwm i Gymru.

Wrth i ysgolion ddechrau meddwl am ddysgu ac addysgu ar gyfer y tymor a’r flwyddyn ysgol nesaf, bydd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn cynnig cefnogaeth ddefnyddiol. Mae'r tarfu diweddar wedi amlygu nawr yn fwy nag erioed y dylai addysg dysgwyr fod yn seiliedig ar y pedwar diben. Bydd ymarferwyr yn datblygu ac yn newid eu dulliau mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid. Mae’r pedwar diben yn rhoi ffocws canolog ar gyfer y dysgu a’r addysgu byddant yn ei ddatblygu. Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys nifer o’r atebion i hyblygrwydd, ymreolaeth a heriau’r dyfodol am gryn amser eto; mae’r cwricwlwm wedi cael ei ddatblygu gydag ymarferwyr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae mwy o hyblygrwydd yn un o’i brif egwyddorion. Ni ddylid gweld y cwricwlwm newydd fel baich ychwanegol, ond dylid ei weld fel ateb pwysig i nifer o’r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Fel ystyriaeth dymor hir, bydd angen i ysgolion a lleoliadau wrth gwrs ystyried sut byddant yn paratoi ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm newydd. Rydym wedi cyhoeddi Cwricwlwm i Gymru: y Daith i 2022, sy'n nodi disgwyliadau a dulliau arfaethedig a byddwn yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu'r Cwricwlwm i nodi'r cymorth y gall ysgolion ei ddisgwyl.

Canllawiau i gyfnodau penodol: y Cyfnod Sylfaen

Mae dychwelyd at weithrediadau’n arbennig o arwyddocaol i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar sydd ar gam hollbwysig yn eu datblygiad gwybyddol (sy’n cefnogi eu dull o ddysgu). Dylai ysgolion a lleoliadau nas cynhelir sicrhau bod y datblygiad hwn yn cael ei gefnogi’n llawn, ac ystyried y goblygiadau i’w dysgu yn nes ymlaen. Mae ethos, dull gweithredu ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen yn dal yn hollbwysig, ac mae modd eu defnyddio gyda’r holl ddysgwyr yn y blynyddoedd cynnar ac yng Nghyfnod Allweddol 2.

Gall ymarferwyr ystyried cyfuniad o ddulliau sy’n cynnwys datrys problemau, meddwl yn greadigol ac yn feirniadol; yn ogystal â hynny mae modd addasu’r ddarpariaeth i sicrhau bod y plant yn gallu cael gafael ar ystod o brofiadau dysgu. Mae gweledigaeth glir ar gyfer dysgu ac arwyddocâd yr amgylchedd dysgu yn hollbwysig er mwyn cael profiadau sy’n caniatáu i blant iau ddefnyddio, ymestyn a chyfnerthu eu sgiliau. Dylid ystyried sut y gall rhieni a gofalwyr cael eu cefnogi i ymgysylltu yn nysgu eu plentyn gartref, er mwyn helpu sicrhau mynediad at brofiadau dysgu cyfoethog mewn amgylchedd o ddysgu cyfunol.

Ar gyfer unrhyw gymeriant newydd o blant 3 oed dylai ysgolion wneud darpariaeth yn yr un ffordd ag y maent ar gyfer eu plant eraill. Rydym yn cydnabod y gall cymorth fod yn fwy cyfyngedig a chyffredinol nes bod ymarferwyr yn cael cyfle i gwrdd â phob plentyn yn bersonol ac asesu eu hanghenion datblygu.

Canllawiau i gyfnodau penodol: Ysgolion uwchradd

Ysgolion uwchradd

Mae hi’n bwysig bod ysgolion uwchradd yn parhau i ddarparu ystod o ddysgu a’u bod yn parhau i gynnig cyfleoedd i arbenigo, ac ni ddylai’r ymateb i COVID-19 atal dysgwyr rhag cael gafael ar y cyfleoedd hyn. Dylai ysgolion fod mor uchelgeisiol â phosibl yn yr hyn byddant yn ei gynnig, gan gynnwys o fewn a thuag at arbenigeddau TGAU. Bydd angen hyblygrwydd arnynt er mwyn rheoli hyn.Mae'n bwysig bod dysgu yn denu pob dysgwr ac yn darparu cyfleoedd clir ar gyfer cynnydd ac ymestyn.

Wrth gwrs, mae llawer o ddysgwyr hŷn yn gallu cymryd rhan mewn dysgu mewn amrywiaeth o ffyrdd gydag annibyniaeth gynyddol. Dylai ysgolion barhau i hyrwyddo dysgu cadarnhaol drwy ddulliau digidol, gan fod hyn yn gallu cefnogi dulliau o ddatrys problemau a llythrennedd digidol.ond dylai ddarparu ystod eang o brofiadau dysgu sy'n cefnogi lles ac yn cefnogi cynnydd.

Cymwysterau

Gwnaethom gyhoeddi y byddai arholiadau TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru yn cael eu canslo ar 10 Tachwedd 2020 a chadarnhawyd y byddai dull asesu a reolir gan athrawon yn cael ei weithredu ar 16 Rhagfyr 2020. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar fanteisio i'r eithaf ar y cyfle i addysgu a dysgu, rheoli'r baich llwyth gwaith ar athrawon, a darparu dull asesu cyson ledled Cymru.

Bydd ein dull o ymdrin â chymwysterau ac asesu yn parhau i adlewyrchu ac ymateb i’r sefyllfa COVID-19 a phrofiadau dysgu i gefnogi lles a chynnydd dysgwyr. Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod dysgwyr ym mlynyddoedd arholiadau yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant ac addysg bellach/uwch.

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 138 KB.

Maint Ffeil 138 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.