Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Dirprwy Weinidog

Yng Nghymru, rydym am sicrhau'r gorau i'n plant – pob un ohonynt, ni waeth beth fo'u cefndir, o ble y maent yn dod na ble y maent yn byw. Rydym am i bob un ohonynt gael y dechrau gorau mewn bywyd ac i fynd ymlaen i fyw'r bywyd y maent yn dymuno ei fyw.

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r rhan y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae i wneud Cymru yn lle gwych i'n plant a'n pobl ifanc dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Yn dilyn etholiad y senedd yn 2021, y gwnaeth llawer o bobl ifanc 16 oed a throsodd bleidleisio ynddo, gwnaethom gyhoeddi ein Rhaglen Lywodraethu.

Mae hon yn ddogfen sy'n esbonio i bawb yng Nghymru beth y byddwn yn ei wneud dros y pum mlynedd y byddwn yn llywodraethu, i wireddu'r addewidion a wnaed gennym yn yr etholiad. Mae'n cynnwys llawer o syniadau ac ymrwymiadau i gefnogi plant a phobl ifanc.

Mae'r cynllun rydych wrthi'n ei ddarllen yn esbonio'r gwaith cymhleth y bydd angen i weinidogion Llywodraeth Cymru ei wneud gyda'i gilydd i droi'r syniadau a'r ymrwymiadau hyn yn gamau gweithredu. Mae hefyd yn dangos rhywfaint o'r gwaith rydym eisoes wedi ei wneud ac yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023.

Rwy'n ddiolchgar, yn arbennig, i'r plant a'r bobl ifanc a fynegodd eu barn am y blaenoriaethau yn ystod cyfnod llunio'r cynllun hwn. Bydd eich cyfraniad, nid yn unig at y gwaith o lunio'r cynllun, ond hefyd ei gyflawni, yn hanfodol i'w lwyddiant.

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Ein huchelgais

Rydym am i Gymru fod yn lle gwych i blant a phobl ifanc dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo, nawr ac yn y dyfodol.

Yr hyn rydym yn ei gredu

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac i roi sylw iddo ym mhob penderfyniad a wnawn.

Credwn fod gan bob un o'n plant a'n pobl ifanc yr hawl i wneud y canlynol:

  • Cael y dechrau gorau mewn bywyd
  • Cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a'u mwynhau, a chael yr addysg orau bosibl i feithrin eu gwybodaeth a'u creadigrwydd a'u galluogi i wireddu eu potensial
  • Mwynhau ffyrdd iach o fyw a chael eu diogelu rhag niwed, camdriniaeth, esgeulustod a gwahaniaethu
  • Gallu chwarae a chael hwyl
  • Cael eu trin â pharch a chael rhywun i wrando arnynt
  • Byw mewn cartref a chymuned sy'n lle braf i dyfu i fyny ynddo
  • Cael y cymorth ariannol a materol sydd ei angen arnynt

Ein blaenoriaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru

Cyhoeddodd gweinidogion Cymru eu Rhaglen Lywodraethu ar ôl iddynt gael eu hethol yn 2021. Mae'n cynnwys rhestr o rai o'r pethau pwysig y byddant yn eu gwneud dros blant a phobl ifanc (yn ogystal ag oedolion) cyn yr etholiad nesaf yn 2026.

Yn seiliedig ar ein credoau, rydym yn gwneud llawer o waith i gefnogi plant a phobl ifanc, er mwyn gwireddu ein huchelgais a chyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Gall rhywfaint o'r gwaith hwn gael ei wneud yn annibynnol gan un gweinidog. Mae gwaith arall yn fwy cymhleth, ac mae angen dau weinidog neu fwy i gydweithio. Mae rhywfaint o'r gwaith mor gymhleth fel bod angen i'r holl weinidogion gydweithio, fel un Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â sefydliadau eraill fel awdurdodau lleol, y GIG a'r sector gwirfoddol. 

Mae'r tudalennau nesaf yn dweud wrthych am y gwaith rydym yn ei wneud a rhai o'r pethau y dywedodd plant a phobl ifanc wrthym pan wnaethom ofyn iddynt am eu barn.

Dros y pedair blynedd nesaf, bydd gweinidogion Cymru yn cydweithio i gyflawni'r blaenoriaethau canlynol:

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd, gan gynnwys gwasanaethau blynyddoedd cynnar da a chymorth i rieni neu ofalwyr. Dylai gael ei gefnogi gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac wrth iddo symud rhyngddynt.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn parhau i wella gwasanaethau blynyddoedd cynnar
  • Byddwn yn cynnig gwasanaethau blynyddoedd cynnar i fwy o blant a theuluoedd
  • Byddwn yn cynnig mwy o wasanaethau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg
  • Byddwn yn cefnogi plant gartref, mewn gofal plant ac yn yr ysgol, ac yn eu helpu wrth iddynt symud rhyngddynt
  • Byddwn yn cynnig help a chymorth i rieni a gofalwyr
  • Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd dysgu sy'n seiliedig ar chwarae mewn lleoliadau gofal plant ac ysgolion

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Rydym am fwy o leoedd, a rhai gwell, lle gallwn chwarae'n ddiogel.

Mae angen gwneud mwy i adnabod a helpu teuluoedd mewn angen.

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei drin yn deg mewn addysg. Dylent gael eu cefnogi i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn sicrhau bod addysg yn brofiad cadarnhaol i bob plentyn a pherson ifanc
  • Byddwn yn rhoi'r help ychwanegol sydd ei angen ar bob plentyn a pherson ifanc i oresgyn rhwystrau a gwireddu ei botensial
  • Byddwn yn sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg i bob plentyn a pherson ifanc
  • Byddwn yn paratoi ac yn cefnogi pobl ifanc yn well pan fyddant yn symud o'r ysgol i (hunan) gyflogaeth, hyfforddiant neu addysg barhaus

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Dylai plant a phobl ifanc gael eu hannog a'u cefnogi, pa beth bynnag yw eu hincwm (teuluol).

Ni ddylai neb golli allan ar addysg oherwydd y ffordd mae'n edrych, ei allu, ei ddiwylliant na'i gefndir ethnig.

Mae angen lle diogel ar bob plentyn a pherson ifanc i ddysgu ynddo.

Blaenoriaeth: Dylai pob person ifanc gael ei gefnogi ar ei daith drwy addysg, hyfforddiant a (hunan) gyflogaeth, ac wrth iddo symud rhyngddynt.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn sicrhau bod gan bob person ifanc dros 16 oed o leiaf un opsiwn bob amser: addysg, hyfforddiant neu (hunan) gyflogaeth
  • Byddwn yn cefnogi dewis pobl ifanc
  • Byddwn yn gwella'r cymorth i bobl ifanc wrth iddynt symud drwy'r opsiynau hyn
  • Byddwn yn annog defnyddio a dysgu Cymraeg yn yr ysgol, y coleg, y brifysgol a'r gweithle
  • Byddwn yn gwella addysg a hyfforddiant fel y gall mwy o bobl ifanc ennill cymhwyster (uwch)

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Mae angen mwy o gymorth arnom yn yr ysgol a'r coleg i'n helpu i ddewis llwybrau gyrfa a dod o hyd i swyddi.

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei gefnogi i deimlo'n gryf yn feddyliol ac yn emosiynol.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn ystyried iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn
  • Byddwn yn cefnogi ymgyrchoedd i wella lles pob plentyn a pherson ifanc
  • Byddwn yn gwella'r gallu i gael gafael ar gymorth lefel isel ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn ogystal â gwasanaethau arbenigol pan fo angen

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Mae lles meddyliol ac iechyd meddwl yn bwysig oherwydd gallant gael effaith enfawr ar y dewisiadau rydym yn eu gwneud ac, felly, ar weddill ein bywyd.

Mae angen mwy o gymorth iechyd meddwl lefel isel hygyrch nawr fel na fydd angen meddygon a nyrsys iechyd meddwl arnom maes o law.

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael ei gefnogi i gael cyfle teg mewn bywyd

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Ni fyddwn yn gadael neb ar ôl wrth inni symud tuag at Gymru lanach, cryfach a thecach
  • Byddwn yn gweithio i atal tlodi ac i gefnogi plant a phobl ifanc mewn cartrefi incwm isel
  • Byddwn yn gwella'r cymorth i blant a phobl ifanc y mae angen help ychwanegol arnynt i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial
  • Byddwn yn gweithio i roi diwedd ar bob math o wahaniaethu, bwlio, aflonyddu a thrais

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Yn aml, ni all plant a phobl ifanc ag incwm (teulu) isel gymryd rhan mewn gweithgareddau y tu allan i'r ysgol. Mae angen cymorth arnom fel na fyddwn yn colli allan ar y cyfleoedd hyn.

Mae cymorth ar gael mewn ysgolion i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mwy difrifol, ond nid yw'r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol llai difrifol na phlant o gymunedau ethnig leiafrifol yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc fyw mewn cartref da a diogel.

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal plant, pobl ifanc a theuluoedd rhag profi digartrefedd
  • Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n profi digartrefedd yn cael cartref da a diogel

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Dylid sicrhau bod fflat neu gartref, yn hytrach na hostel, ar gael i bobl ifanc sy'n gadael gofal.

Blaenoriaeth: Dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cymorth sydd ei angen arnynt i aros gyda'u teuluoedd neu ailymuno â nhw, lle y bo'n bosibl

Beth mae hyn yn ei olygu:

  • Byddwn yn cefnogi teuluoedd sy'n wynebu cyfnod anodd
  • Byddwn yn diogelu plant a phobl ifanc rhag niwed ac yn helpu teuluoedd i aros gyda'i gilydd, lle y bo'n bosibl
  • Byddwn yn gwella ein gofal a'n cymorth i blant a phobl ifanc na allant aros gyda'u teulu am gyfnod byr neu hirach.
  • Byddwn yn helpu teuluoedd na allant fyw gyda'i gilydd i gadw mewn cysylltiad ac i aduno, lle y bo'n ddiogel gwneud hynny.

Dywedodd plant a phobl ifanc:

Os bydd pethau'n anodd gartref, rydym am i benderfyniadau gael eu gwneud gyda ni, nid drosom ni.

Ein gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc

Mae'r tudalennau nesaf yn dweud wrthych am rywfaint o'r gwaith rydym wedi ei wneud o’r blaen a'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud dros y 12 mis nesaf.

Nid yw hon yn rhestr o bopeth rydym wedi ei wneud neu y byddwn yn ei wneud i gefnogi plant a phobl ifanc. Byddwn yn mynd ar drywydd gwaith arall.

Byddwn yn diweddaru'r rhestr hon bob blwyddyn, fel y gallwch weld yr hyn rydym wedi ei gyflawni a'r hyn y byddwn yn canolbwyntio arno nesaf.

Bob blwyddyn, byddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc cyn diweddaru'r cynllun hwn.

Y dechrau gorau mewn bywyd

Yr hyn rydym wedi ei wneud:

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:

Ysgol a Choleg

Yr hyn rydym wedi ei wneud:

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:

  • Rhoi'r Cwricwlwm newydd i Gymru ar waith ym mis Medi 2022
  • Dechrau ystyried diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol
  • Cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ysgol a'r coleg, yn ogystal â gartref ac yn y gymuned – Cymraeg 2050
  • Annog ysgolion i ddysgu mwy o Gymraeg – Cymraeg 2050
  • Sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg yn fwy hygyrch a theg i bob plentyn a pherson ifanc – Cymraeg 2050
  • Talu am brydau ysgol am ddim i fwy o ddisgyblion
  • Parhau i chwalu'r rhwystrau i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol neu namau – Rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol
  • Cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i aros mewn addysg am gyfnod hirach, i gael canlyniadau gwell ac i ennill cymhwyster
  • Rhoi gwell cymorth i bobl ifanc sy'n gadael yr ysgol i gael swydd, hyfforddiant neu addysg barhaus

Meithrin sgiliau a chael swydd

Yr hyn rydym wedi ei wneud:

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:

Iechyd corfforol, iechyd meddwl a lles emosiynol

Yr hyn rydym wedi ei wneud:

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:

Cymdeithas deg, cenedl garedig

Yr hyn rydym wedi ei wneud:

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:

  • Adeiladu cartrefi preswyl i blant ag anghenion cymhleth yng Nghymru, fel y gallant aros yn lleol
  • Parhau i weithio ac ymgysylltu â darparwyr preifat gofal preswyl a gofal maeth i blant ynghylch y newid i system gofal ddi-elw yng Nghymru
  • Parhau i brofi dulliau newydd o ymdrin â thai i bobl ifanc agored i niwed drwy'r Gronfa Arloesi ar gyfer Pobl Ifanc Ddigartref
  • Gwella bywydau'r rheini â nodweddion gwarchodedig drwy gyfres o gynlluniau gweithredu sy'n ystyried hil, nam, rhywedd a LHDTC+.
  • Datblygu cynlluniau i helpu i ddiogelu merched ifanc rhag cam-drin domestig, aflonyddu a thrais rhywiol.
  • Parhau i gyflawni'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru gan sicrhau dull ailsefydlu sy'n canolbwyntio ar y teulu cyn rhyddhau unigolyn

Yr argyfwng hinsawdd a natur

Yr hyn rydym wedi ei wneud:

Yr hyn rydym yn bwriadu ei wneud yn 2022-2023:

  • Gwahardd plastig untro
  • Cyflawni ein cynllun Rhwydweithiau Natur
  • Parhau â'n rhaglenni addysg amgylcheddol, Maint Cymru ac Eco-sgolion er mwyn rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc ddylanwadu ar yr hyn sy'n digwydd nesaf
  • Dechrau creu Coedwig Genedlaethol i Gymru
  • Gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo teithio llesol a diogelwch ar y ffyrdd
  • Gostwng y terfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl i 20mya
  • Cyhoeddi dogfen am gymryd camau ar y cyd i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd

Sut y byddwn yn ymddwyn

Byddwn yn:

  • Parchu hawliau plant, mabwysiadu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar hawliau plant, a chyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • Gweithio'n galed i wireddu ein huchelgais a chyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer holl blant a phobl ifanc Cymru, mewn ffordd sy'n adlewyrchu ac yn ystyried y canlynol:
    • pwy ydynt
    • ble yng Nghymru y maent yn byw
    • statws economaidd-gymdeithasol
    • hil, ethnigrwydd a diwylliant
    • cyfeiriadedd rhywiol
    • iaith gyntaf
    • ffydd a chred
    • namau, anghenion dysgu ychwanegol a niwroamrywiaeth
    • hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant rhywedd
    • p'un a ydynt yn byw gyda'u rhieni, gofalwyr, mewn cartref neu ar eu pen eu hunain
    • p'un a ydynt yn rhieni neu'n ofalwyr eu hunain
    • p'un a ydynt mewn cysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid
  • Sicrhau bod tegwch, cydraddoldeb, cynhwysiant, gwrth-hiliaeth a gwrth-wahaniaethu yn rhan o'n holl waith. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig cymorth gwahanol a/neu fwy o gymorth i'r plant a'r bobl ifanc hynny y mae angen help gwahanol a/neu fwy o help arnynt i oresgyn rhwystrau a gwireddu eu potensial.
  • Hybu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein holl waith er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050
  • Canolbwyntio ar blant a phobl ifanc fel pobl gyflawn, yn hytrach nag ar rannau o'u bywydau neu eu hamgylchiadau (cyfannol)
  • Gweithio ar sail y gred bod gan bob person, teulu a chymuned gryfderau y gellir adeiladu arnynt (seiliedig ar asedau)
  • Gweithio gyda phobl a sefydliadau sy'n helpu ac yn cefnogi plant a phobl ifanc (cydweithredol)

Sut y byddwch yn gwybod ein bod yn gwneud cynnydd

Mae gweinidogion Cymru wedi gosod naw carreg filltir y maent am i Gymru eu cyflawni.

Erbyn 2050:

  • Bydd o leiaf 99% o blant yn dangos dau ymddygiad iach neu fwy
  • Bydd 75% o'r oedolion o oedran gweithio yn meddu ar gymhwyster lefel 3 neu uwch
  • Bydd canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu'n is
  • Dim ond ei chyfran deg o adnoddau'r byd y bydd Cymru yn ei defnyddio
  • Bydd y bwlch rhwng cyflogau mewn perthynas â rhywedd, anabledd ac ethnigrwydd wedi'i gau
  • Bydd y bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r gyfradd gyflogaeth yn y DU wedi'i gau, a bydd ffocws ar waith teg a chynyddu presenoldeb grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur
  • Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • Bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru
  • Bydd Cymru yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net

Bob blwyddyn, byddwn yn mesur ac yn adrodd ar sut mae'r camau gweithredu yn y cynllun hwn yn ein helpu i gyflawni'r naw carreg filltir genedlaethol hyn.

Sut y gallwch helpu

Gwyddom fod plant a phobl ifanc yn helpu ei gilydd a'u cymunedau ledled Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud mwy.

Mae llawer o bethau y gall Llywodraeth Cymru a gweinidogion eu gwneud i gefnogi plant a phobl ifanc.

Mae llawer o bobl eraill yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac yn eu helpu a'u cefnogi bob dydd, fel rhieni, gofalwyr, ffrindiau, athrawon, gweithwyr ieuenctid, hyfforddwyr chwaraeon, meddygon, nyrsys, ymwelwyr iechyd ... gormod o lawer i'w rhestru yma!

Hoffem ofyn i bawb wneud y canlynol:

  • Ymuno â ni yn ein huchelgais i wneud Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo
  • Penderfynu sut y byddwch yn troi'r uchelgais honno yn gamau gweithredu
  • Cydweithio i wella gwasanaethau lleol a chanlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd

Dywedodd plant a phobl ifanc:

  • “Dylai pawb deimlo cyfrifoldeb a chyfrannu os yw gweinidogion Cymru am lwyddo i sicrhau newid.”

Sut y byddwn yn eich cynnwys

Byddwn yn:

  • Gwrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau
  • Siarad â phlant, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd tuag at wireddu ein huchelgais a chyflawni ein blaenoriaethau
  • Ymateb i adborth gan blant a phobl ifanc. Gweler ein manylion cyswllt.