Neidio i'r prif gynnwy

Gall teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 ac sy’n cael rhai budd-daliadau penodol wneud cais am: 

Pwy sy'n gymwys 

Gall teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 ac sy’n cael rhai budd-daliadau penodol wneud cais am:

  • £125 i bob dysgwr a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
  • £200 i’r dysgwyr hynny sy'n cychwyn ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda’r chostau uwch sy’n gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd) a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol 

Gall rhieni a gofalwyr dim ond gwneud un cais y flwyddyn ysgol ar gyfer pob plentyn.

Nid yw derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn rhoi hawl awtomatig i'ch plentyn i'r Grant Hanfodion Ysgol: 

  • Rhaid i ddysgwyr fod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (eFSM) sy'n destun prawf modd. 
  • Nid yw dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau diogelu trosiannol yn gymwys. 
  • Mae pob plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol yn gymwys i gael y grant.  

Rydym hefyd yn annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu disgresiwn i ddarparu'r grant i blant nad oes gan eu rhieni/gofalwyr hawl i arian cyhoeddus. 

Ar gyfer beth mae'r grant 

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu i dalu costau: 

  • gwisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau 
  • gweithgareddau ysgol, gan gynnwys dysgu offeryn cerdd, cit chwaraeon ac offer arall ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol 
  • hanfodion ystafell ddosbarth, gan gynnwys beiros, pensiliau a bagiau ysgol 

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â'r awdurdod lleol lle mae eich plentyn yn mynd i'r ysgol. 

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ

Efallai y bydd mwy o help a chyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol ar gael drwy'r Grant Hanfodion Ysgol. Hyd yn oed os yw'ch plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, mae angen i chi wirio eich cymhwysedd i gael y cymorth ehangach.