"Pan ti’n siarad gyda fi, ti’n goleuo fy meddwl ac yn helpu fy ymennydd i dyfu..."
Mae ymennydd dy blentyn yn anhygoel!
Mae'n tyfu o hyd ac yn gwneud cysylltiadau newydd. Pan fyddi di'n chwarae, gwrando a siarad gyda dy blentyn, rwyt ti’n ei helpu i ddysgu siarad ac yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd. Mae gennym ni lawer o offer, tips a chyngor i dy helpu i gael dy blentyn i siarad.
Bydd y pethau bach rwyt ti’n eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth mawr, nawr ac yn y dyfodol.
Dilynwch ni ar Facebook
Edrych ar ein tudalen Facebook am y cynnwys diweddaraf. Mae yno gyngor gan arbenigwyr, a'r cyfle i gysylltu â rhieni eraill.
Darllena fi...
Gwylia fi...
O cyn iddo gael ei eni nes iddo dyfu i fyny, galli di gael effaith gadarnhaol ar dy blentyn. Gwylia’r fideos hwyliog hyn i weld ein deg tip gwych i gael dy blentyn i siarad...
Chwilio am fwy?
Dilyna’r dolenni i rai o'n hoff adnoddau a gwefannau. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i dy gefnogi i helpu dy blentyn i ddysgu siarad.
Canllawiau i ymarferwyr
Amrywiaeth o adnoddau, awgrymiadau a chyngor i chi eu rhannu â rhieni i'w helpu i ddeall pwysigrwydd eu rôl o ran cael eu plant bach i siarad.