Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru
Heddiw, bydd Cymru yn cychwyn ar daith gyffrous er mwyn creu un dull gweithredu o ansawdd uchel ar gyfer addysg a gofal plentyndod cynnar, sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Byddwn yn diwygio darpariaeth gofal y blynyddoedd cynnar er mwyn sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
Mae profiadau plentyndod yn allweddol wrth lywio ein dyfodol, ac maent yn hollbwysig er mwyn mynd ymlaen i fyw bywyd iach, ffyniannus a llawn. Yn anffodus, erbyn iddynt gyrraedd tair oed, rydym yn gwybod bod plant sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig yn gallu bod cymaint â blwyddyn y tu ôl i’w cyfoedion.
Mae'r bwlch cyrhaeddiad yn lledu erbyn i blant gyrraedd oedran ysgol. Mae'r bylchau hyn yn cynyddu’n gyson dros amser a bydd effaith hyn yn parhau gydol oes.
Byddwn yn mynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn ac yn mynd ati i gau’r bwlch. Mae sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael yr un gefnogaeth o ran addysg a gofal plentyndod cynnar, a honno’n gefnogaeth o safon, yn allweddol i hyn.
Yng Nghymru, mae gennym eisoes ddarpariaeth gofal plant ardderchog ar draws y blynyddoedd cynnar, a chynnig addysg gynnar sydd wedi'i hen sefydlu ac sy'n uchel ei pharch ar gyfer plant tair a phedair oed yn y Cyfnod Sylfaen.
Bydd ein dull gweithredu newydd mewn perthynas ag addysg a gofal plentyndod cynnar yn cael ei adeiladu ar y sylfeini hyn, gyda'r nod craidd y dylai pob plentyn gael profiad dysgu a gofal ysgogol o safon uchel mewn unrhyw leoliad addysg a gofal, a hynny yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog. Mae'r math o leoliad y maent yn ei fynychu yn amherthnasol cyhyd â’u bod yn cael eu cefnogi a'u meithrin yn ôl eu hangen.
Er mwyn rhoi datblygiad plant wrth wraidd addysg a gofal plentyndod cynnar, mae angen inni sicrhau bod ein hegwyddorion o ran safon y ddarpariaeth yn glir i bawb sy'n gweithio gyda phlant ac yn sail i’r ddarpariaeth ym mhob lleoliad yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn gwybod bod dod o hyd i ddarpariaeth gofal plant briodol yn dipyn o her i rai teuluoedd, yn enwedig os ydynt yn byw mewn rhai ardaloedd penodol neu’n gweithio oriau afreolaidd. Mae ar Gymru angen system hygyrch a hyblyg. Bydd y system gymorth newydd yn ymateb i amgylchiadau unigol, gan ganolbwyntio ar y lleoliadau sydd yn y sefyllfa orau i gyflenwi deilliannau o ansawdd i’r plant.
Byddwn yn parhau i gydweithio ag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod addysg gynnar yn cael ei chynnig mewn ystod ehangach o leoliadau. Rydym yn buddsoddi mewn atebion arloesol sy’n caniatáu i fwy o rieni a phlant gael gwell mynediad at addysg gynnar a gofal plant sy’n addas i’w hamgylchiadau ac yn bodloni eu hanghenion.
Mae ar Gymru hefyd angen system sy'n hygyrch ac yn hyblyg i rieni, plant a darparwyr. Gall fod yn anodd i rieni ddeall pa ddarpariaeth sydd ar gael a lle y gellir cael gafael ar y ddarpariaeth honno.
Dywed rhieni wrthym eu bod yn gwerthfawrogi dewis o ran y lleoliad y gallant ei ddefnyddio i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Ond mewn rhai ardaloedd, cyfyngir ar rieni o ran ble y gallant gael addysg gynnar a gofal plant. Ein nod yw sicrhau y gall pob darparwr ddewis pa wasanaethau y maent yn eu cynnig, gan roi dewis llawn ac agored i rieni o ran ble i gael y gwasanaethau hynny.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y ddarpariaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, neu anableddau corfforol, lle y gall yr angen am gymorth arbenigol gyfyngu ymhellach ar y gofal sydd ar gael. Rydym am ei gwneud yn haws i rieni a darparwyr gael y cymorth sydd ei angen arnynt i sicrhau y gall plant ag anghenion ychwanegol gael addysg a gofal plentyndod cynnar heb anghydraddoldeb.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael addysg gynnar yn y Gymraeg, Saesneg, neu'n ddwyieithog, yn unol â'u hanghenion. Yng nghyd-destun Cymraeg 2050, mae angen i ni gynyddu nifer y darparwyr Cymraeg a dwyieithog yn y blynyddoedd cynnar, er mwyn sicrhau y gall rhieni gael mynediad i addysg a gofal plentyndod cynnar yn eu dewis iaith.
Nid mater o ostwng yr oedran ysgol gorfodol yw hyn, nac anfon plant i'r ysgol yn syth o'r crud. Ni fyddwn ychwaith yn disgwyl i ddarparwyr gofal plant ymgymryd â rôl athrawon. Byddwn yn canolbwyntio ar gydnabod gwerth, sgiliau a phrofiadau'r ddau, a'u dwyn ynghyd.
Bydd hyn yn newid uchelgeisiol a sylweddol. Nid newid bach mo hwn, ond gweddnewidiad sy’n mynd i ddigwydd yn raddol dros y degawd nesaf.
Yn y tymor byr, byddwn yn datblygu fframwaith ansawdd sy'n rhoi sail gadarn i'r egwyddorion, a fydd yn cefnogi addysg a gofal plentyndod cynnar ac yn nodi'r gofynion ar gyfer ansawdd ar draws y sector. Bydd yn cael ei ddefnyddio gan ymarferwyr fel arweiniad i'r ddarpariaeth, gan rieni i ddeall y ddarpariaeth, a chan arolygwyr i asesu'r ddarpariaeth. Dyma’r edefyn aur a fydd yn cysylltu'r holl elfennau yn y system â'i gilydd.
Wrth i ni fynd ati i roi'r dull gweithredu ar waith, byddwn yn ychwanegu at ein llwyddiant a’n cryfderau ac yn sicrhau bod yr holl leoliadau sy'n rhoi gofal i blant o dan bump oed yn gweithio i'r un egwyddorion sylfaenol, gyda’r un ffocws ar ddatblygiad y plentyn, a'r un uchelgais - sef darparu gwasanaeth o safon uchel.