Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’r fersiwn ddiwygiedig hon o’r Rhaglen Lywodraethu yn ymgorffori’r Cytundeb Cydweithio. Y Prif Weinidog a’r Cabinet llawn fydd yn gyfrifol am yr ymrwymiadau sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ein hamcanion llesiant, oherwydd bydd angen cydlynu ac integreiddio’r rhain ar y lefel uchaf ar draws y llywodraeth gyfan.

Bydd y Gweinidogion yn cymryd cyfrifoldeb uniongyrchol dros yr ymrwymiadau sy’n weddill. Rhoddir yr un pwys ar y ddwy set o ymrwymiadau – gwahaniaethir rhwng y ddwy er mwyn adlewyrchu sut y dyrennir y cyfrifoldeb, ac nid er mwyn adlewyrchu pwysigrwydd cymharol yr ymrwymiadau na’r flaenoriaeth a roddir i bob un.

Yn y meysydd hynny sydd wedi’u cynnwys yn y Cytundeb Cydweithio, bydd Gweinidogion yn gweithio gyda Phlaid Cymru o dan delerau’r Cytundeb.

Rhaglen lywodraethu 2021 i 2026

Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel

Byddwn yn:

  • Sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd.
  • Darparu triniaethau a ohiriwyd yn sgil y pandemig.
  • Darparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
  • Diwygio gofal sylfaenol, gan ddod â gwasanaethau meddygon teulu, fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, y gymuned a’r trydydd sector at ei gilydd.
  • Blaenoriaethu buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella dulliau ataliol, mynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dull dim drws anghywir o ddarparu cymorth iechyd meddwl.
  • Cyflwyno gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed ‘o fewn cyrraedd’ mewn ysgolion ledled Cymru.
  • Cyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol i helpu pobl sy’n teimlo’n ynysig.
  • Adolygu cynllunio llwybr cleifion a chyllid hosbisau. z Datblygu cynllun gweithredu HIV i Gymru.
  • Cyflwyno cod ymarfer statudol ar gyfer darparu gwasanaethau awtistiaeth.

Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed

Byddwn yn:

  • Talu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal a, chan weithio gyda phartneriaid cymdeithasol drwy’r Fforwm Gwaith Teg, ystyried camau pellach tuag at sicrhau cydnabyddiaeth a gwobrwyo cydradd i weithwyr gofal.
  • Cynyddu prentisiaethau ym maes gofal a recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg.
  • Sefydlu grŵp arbenigol i gynghori erbyn mis Ebrill 2022 ar y camau gweithredu ymarferol ar gyfer cyflenwi gwasanaeth gofal cenedlaethol sy’n rhad ac am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen.
  • Deddfu i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ymhellach.
  • Cefnogi datblygiadau tai arloesol i ddiwallu anghenion gofal.
  • Ariannu gofal plant i fwy o deuluoedd lle mae rhieni mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyrion gwaith.
  • Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg.
  • Parhau i gefnogi ein rhaglenni Dechrau’n Deg blaenllaw.
  • Atal teuluoedd rhag chwalu drwy ariannu gwasanaethau eirioli i rieni y mae eu plant mewn perygl o ddod yn rhan o’r system ofal.
  • Darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar gyrion y system ofal.
  • Ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal.
  • Dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.
  • Ariannu gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu mor agos at eu cartrefi â phosibl ac yng Nghymru lle bynnag y bo hynny’n ymarferol.
  • Cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel ‘rhiant corfforaethol’.

Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Byddwn yn:

  • Cyflwyno’r Warant i Bobl Ifanc, gan roi i bawb o dan 25 oed y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.
  • Creu 125,000 o brentisiaethau pob oed.
  • Rhoi sail ddeddfwriaethol i’r bartneriaeth gymdeithasol drwy’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
  • Defnyddio’r rhwydwaith newydd o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl i helpu i gau’r bwlch rhwng pobl anabl a gweddill y boblogaeth sy’n gweithio.
  • Cryfhau ein Contract Economaidd.
  • Cefnogi cynigion TUC Cymru i aelodau undeb ddod yn Gynrychiolwyr Gwyrdd yn y gweithle.
  • Cefnogi’r gwaith o greu Banc Cymunedol i Gymru.
  • Datblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru yn ganolfan fyd‑eang i dechnolegau llanw sy’n dod i’r amlwg.
  • Galluogi canol ein trefi i ddod yn fwy ystwyth yn economaidd drwy helpu busnesau i weithio’n gydweithredol, cynyddu eu cynnig digidol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi lleol.
  • Ceisio targed o 30% ar gyfer gweithio o bell.

Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl

Byddwn yn:

  • Lansio Cynllun Buddsoddi 10 mlynedd newydd yn Seilwaith Cymru gyfer economi ddi‑garbon.
  • Darparu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru ac uwchraddio ein seilwaith digidol a chyfathrebu.
  • Creu sylfaen ddeddfwriaethol fodern ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru.
  • Codi’r gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu cwmnïau bysiau trefol newydd.
  • Deddfu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau preifat a mynd i’r afael â phroblemau croesffiniol.
  • Rhoi ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru ar waith.
  • Adeiladu ar lwyddiant ein cynllun teithio am ddim i bobl hŷn ac edrych ar sut y gall prisiau teg annog teithio integredig.
  • Gweithio tuag at ein targed newydd o 45% o deithiau drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040, gan bennu nodau mwy ymestynnol lle bo hynny’n bosibl.
  • Bwrw ymlaen ag adroddiad Comisiwn Burns ar gyfer Casnewydd.
  • Datblygu cronfa prif ffyrdd newydd i wella atyniad a bioamrywiaeth ardaloedd wrth ymyl prif lwybrau trafnidiaeth Cymru.
  • Creu system newydd o gymorth ffermio a fydd yn cynyddu pŵer amddiffynnol natur drwy ffermio, gan werthfawrogi anghenion penodol ffermydd teuluol yng Nghymru a chydnabod y broses o gynhyrchu bwyd lleol sy’n ecolegol gynaliadwy.
  • Cyflwyno cyfnod pontio i’r cynllun cymorth ffermio newydd, gan gynnwys parhau â thaliadau sefydlogrwydd, y tu hwnt i dymor y Senedd bresennol.

Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

Byddwn yn:

  • Comisiynu cyngor annibynnol a fydd yn ymchwilio i lwybrau posibl tuag at sero net erbyn 2035.
  • Mynd ar drywydd datganoli’r pwerau sydd eu hangen i’n helpu i gyrraedd sero net, gan gynnwys rheoli Ystad y Goron yng Nghymru.
  • Gweithio tuag at sefydlu Corff Llywodraethu Amgylcheddol, dyletswydd statudol a thargedau ar gyfer diogelu ac adfer bioamrywiaeth.
  • Deddfu i ddiddymu’r defnydd o blastigau untro sydd yn aml yn cael eu taflu fel sbwriel.
  • Cyflwyno cynllun cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr i gymell busnesau i leihau gwastraff.
  • Creu Coedwig Genedlaethol i ymestyn o’r Gogledd i’r De.
  • Manteisio ar botensial economaidd, diwylliannol a hamdden y Goedwig Genedlaethol gan adeiladu ar ein cynnydd tuag at greu diwydiant coed cynaliadwy.
  • Datblygu Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.
  • Sicrhau diogelwch tomenni glo drwy gyflwyno deddfwriaeth i ddelio â gwaddol canrifoedd o fwyngloddio, gan gryfhau pwerau’r awdurdodau lleol i sicrhau bod y cyhoedd a’r amgylchedd yn cael eu diogelu.
  • Cyflwyno Deddf Aer Glân i Gymru, yn gyson â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac ehangu’r ddarpariaeth o fonitro ansawdd aer.
  • Dynodi Parc Cenedlaethol newydd i gwmpasu Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
  • Cefnogi 80 o ganolfannau ailddefnyddio ac atgyweirio yng nghanol trefi.
  • Cynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio am danwydd ffosil yng Nghymru, ar dir ac yn nyfroedd Cymru, gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael inni.
  • Ehangu trefniadau i greu neu wella mannau gwyrdd yn sylweddol.

Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi

Byddwn yn:

  • Ariannu hyd at 1,800 o staff tiwtora ychwanegol yn ein hysgolion.
  • Adeiladu ar Raglen Gwella Gwyliau’r Haf.
  • Parhau i fodloni’r cynnydd yn y galw am Brydau Ysgol Am Ddim sy’n deillio o’r pandemig ac adolygu’r meini prawf cymhwysedd, gan ymestyn yr hawl cyn belled ag y mae adnoddau yn caniatáu ac i bob plentyn ysgol gynradd o leiaf.
  • Buddsoddi yn amgylchedd dysgu ysgolion cymunedol, cydleoli gwasanaethau allweddol, a sicrhau ymgysylltiad cryfach â rhieni a gofalwyr y tu allan i oriau traddodiadol.
  • Ymchwilio i ddiwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol.
  • Datblygu model cynaliadwy ar gyfer darpariaeth athrawon cyflenwi sydd â gwaith teg yn ganolog iddo.
  • Gwella’r trefniadau ar gyfer addysgu hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth a chymhlethdod, fel rhan fandadol o’r cwricwlwm newydd.
  • Mynd â’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) drwy’r Senedd.
  • Datblygu strategaeth arloesi genedlaethol newydd, sy’n seiliedig ar genhadaeth, i’w gweithredu ar draws y llywodraeth a chan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
  • Cynyddu’r cyfleoedd i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig gymryd rhan yn Rhwydwaith Seren.

Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Byddwn yn:

  • Gweithredu ac ariannu’r ymrwymiadau a wnaed yn ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.
  • Edrych ar ddeddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog ar sail rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, anabledd, a ffurfiau eraill ar wahaniaethu.
  • Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n cael arian cyhoeddus yn mynd i’r afael â gwahaniaethau cyflog.
  • Treialu dull o ymdrin â’r Incwm Sylfaenol.
  • Sicrhau bod hanes a diwylliant ein cymunedau Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu cynrychioli’n briodol drwy fuddsoddi ymhellach yn ein sector diwylliannol a’n rhwydwaith amgueddfeydd.
  • Sicrhau bod ein system trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n fwy hygyrch i bobl anabl.
  • Parhau â’n partneriaeth gref â mudiadau gwirfoddol ar draws ein holl gyfrifoldebau.
  • Rhoi targedau ar waith ynghylch Cyllidebu ar sail Rhyw.
  • Cryfhau’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref.

Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu

Byddwn yn:

  • Sefydlu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol.
  • Cyflwyno deddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.
  • Deddfu i gryfhau a chynyddu ein darpariaeth mewn addysg Gymraeg.
  • Symleiddio’r broses ar gyfer gweithredu Safonau’r Gymraeg.
  • Gweithredu safonau’r Gymraeg ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus; rheoleiddwyr yn y sector iechyd; cyrff cyhoeddus sydd newydd eu sefydlu a chwmnïau dŵr; a dechrau’r gwaith o weithredu safonau ar gymdeithasau tai.
  • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhagor o leoedd, gan gynnwys gweithleoedd.
  • Creu Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.
  • Ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru a darparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau i wella’r cyfryngau a newyddiaduraeth yng Nghymru.
  • Mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu.
  • Ymgysylltu â sector y celfyddydau, y sector diwylliant a’r sector treftadaeth i ddatblygu strategaeth ddiwylliant newydd.
  • Buddsoddi yn ein theatrau a’n hamgueddfeydd, gan gynnwys ymrwymo i Theatr Clwyd, sefydlu’r Amgueddfa Bêl-droed a’r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol.
  • Cefnogi’r cais i nodi tirwedd lechi’r Gogledd-orllewin fel Safle Treftadaeth y Byd.
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer Amgueddfa’r Gogledd.
  • Hyrwyddo mynediad cyfartal at chwaraeon a chefnogi athletwyr ifanc a thalentog a chlybiau llawr gwlad.

Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

Byddwn yn:

  • Adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon-isel newydd i’w rhentu.
  • Sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i gefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy.
  • Diwygio cyfraith tai a gweithredu argymhellion y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd yn sylfaenol er mwyn canolbwyntio ar atal ac ailgartrefu’n gyflym.
  • Cyhoeddi Papur Gwyn i gyflwyno cynigion ar gyfer yr hawl i gartrefi digonol, gan gynnwys rhenti teg a ffyrdd newydd o sicrhau bod cartrefi’n rhai y gall pobl ar incwm lleol eu fforddio.
  • Bwrw ymlaen â chamau i osod terfyn ar nifer yr ail gartrefi, dod â rhagor o gartrefi o dan berchnogaeth gyffredin a thrwyddedu llety gwyliau.
  • Cefnogi tai cydweithredol, mentrau a arweinir gan y gymuned, ac ymddiriedolaethau tir cymunedol.
  • Creu strategaeth ddiwydiannol sy’n seiliedig ar bren a all ddatblygu a chynnal cynhyrchu a phrosesu gwerth uchel i bren Cymru.
  • Datgarboneiddio rhagor o gartrefi drwy ôl-osod, gan ddarparu swyddi o safon, hyfforddiant ac arloesedd a defnyddio cadwyni cyflenwi lleol.
  • Ystyried ble y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.
  • Sicrhau bod gan bob rhanbarth yng Nghymru ddull effeithiol ac atebol yn ddemocrataidd o ddatblygu economïau’r dyfodol.
  • Parhau i adolygu trefniadau gweithio mewn partneriaethau rhanbarthol gyda phartneriaid lleol.
  • Gwneud 20mya yn derfyn cyflymder diofyn mewn ardaloedd preswyl.
  • Gwahardd parcio ar y palmant, ble bynnag y bo modd.

Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Byddwn yn:

  • Sefydlu comisiwn sefydlog annibynnol i ystyried dyfodol cyfansoddiadol Cymru.
  • Cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd, yn seiliedig ar 80 i 100 o Aelodau; system bleidleisio sydd yr un mor gyfrannol – neu’n fwy cyfrannol – â’r un bresennol a chyflwyno cwotâu rhywedd wedi’u pennu mewn cyfraith.
  • Hyrwyddo a chefnogi gwaith y Comisiwn Cyfansoddiadol ar gyfer y DU gyfan sy’n cael ei sefydlu gan Blaid Lafur y DU.
  • Sefydlu Academi Heddwch yng Nghymru.
  • Ceisio diwygio’r dreth gyngor i sicrhau system decach a mwy graddoledig.
  • Diwygio etholiadau llywodraeth leol i leihau’r diffyg democrataidd.
  • Rhoi rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol gwerth £65 miliwn ar waith.
  • Ailfywiogi ein perthynas efeillio ledled yr UE drwy Gronfa Gefeillio Pobl Ifanc.

Amcanion llesiant

Mae Cymru’n unigryw gan iddi wneud addewid y byddwn yn diogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yn ogystal â mynd i’r afael â heriau heddiw.

Roedd y Rhaglen Lywodraethu wreiddiol a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 yn nodi’r 10 amcan llesiant yr ydym yn gweithio tuag at eu cyflawni y tymor hwn, yn ogystal ag amlinellu’r camau yr ydym yn eu cymryd i wireddu’r nodau hyn. Bydd cyflawni’r amcanion hyn yn sicrhau ein bod yn cyfrannu i’r eithaf tuag at gyflawni pob un o’r amcanion llesiant.

Mae’r Rhaglen Lywodraethu ddiwygiedig ac estynedig hon yn cynnal ein hymrwymiad i’r 10 amcan llesiant.

Bydd yr amcanion hyn yn ein galluogi i wireddu Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy, gan fynd i’r afael â’r heriau hynod y mae Cymru yn eu hwynebu a chreu sylfaen gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol allu adeiladu arni. Nid yw maint ein hymrwymiad i’r amcanion hyn wedi newid.

Un peth sydd wedi newid yn y Rhaglen Lywodraethu hon, fodd bynnag, yw’r camau ymarferol yr ydym yn eu cymryd i fynd ati i gyflawni’r amcanion – rydym wedi ehangu’r camau hynny ac wedi mireinio rhai ohonynt hefyd.

Bydd y camau diwygiedig, fel y’u nodir yn y ddogfen hon, yn caniatáu inni ysgogi rhagor o gynnydd yn erbyn yr amcanion a chyflawni canlyniadau gwell i bobl Cymru, heddiw ac yn y dyfodol. Cymerwyd agwedd radical a blaengar wrth gynllunio’r camau er mwyn mynd i’r afael â’r heriau dybryd sydd o’n blaenau, gan sicrhau y byddwn yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl ym mhob cwr o Gymru.

Dyma’r deg amcan llesiant:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.

Addewidion maniffesto

Mae’r llywodraeth hon hefyd yn ymroddedig i gyflawni ar gyfres o weithgareddau sy’n perthyn i bortffolios unigol. Gweinidogion y Portffolios fydd yn arwain ar yr ymrwymiadau hyn a byddant yn gweithio gyda Phlaid Cymru pan fo’r meysydd hyn yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

  • Parhau i ariannu bwrsariaeth y GIG.
  • Cadw presgripsiynau yn rhad ac am ddim yng Nghymru.
  • Parhau i ddarparu cyfarpar diogelu personol yn rhad ac am ddim i staff iechyd a gofal. 
  • Ariannu gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru. 
  • Sefydlu Gweithrediaeth Genedlaethol y GIG.
  • Canolbwyntio ar ofal diwedd oes.
  • Buddsoddi mewn technoleg newydd, a’i chyflwyno, i gefnogi cyngor a thriniaethau cyflym ac effeithiol. 
  • Ymchwilio i weld sut y gellir ymestyn y model noddfa, gan gynnwys drwy dreialu cyfleusterau penodol sydd wedi’u lleoli mewn cymunedau, i helpu i gefnogi pobl ifanc sydd mewn argyfwng, gan gynnwys gyda’r hwyr neu ar benwythnosau.
  • Cyflwyno e-bresgripsiynu a chefnogi datblygiadau sy’n galluogi canfod clefydau’n fanwl gywir drwy ddeallusrwydd artiffisial.
  • Buddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ledled Cymru. 
  • Sefydlu tair Academi Dysgu Dwys newydd i wella profiadau a chanlyniadau cleifion.
  • Mynd i’r afael â’r stigma a brofir gan y rhai sy’n byw gyda HIV.
  • Creu Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol i Gymru.
  • Capio costau gofal cymdeithasol dibreswyl ar yr uchafswm cyfredol o £100 yr wythnos.
  • Cynnal y terfyn cyfalaf (ar gyfer gofal) ar £50,000.
  • Lansio Fframwaith Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol.
  • Cryfhau’r cymorth i ofalwyr drwy gronfa caledi Covid yn 2021.
  • Ariannu cynllun seibiant byr i helpu gofalwyr.
  • Datblygu mwy na 50 o hybiau cymunedol lleol i gydleoli gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a gwasanaethau eraill.
  • Ariannu swydd bwrpasol ym mhob awdurdod lleol i hyrwyddo gwaith i wneud Cymru yn genedl sydd o blaid pobl hŷn.
  • Gwella’r rhyngwyneb rhwng gofal iechyd parhaus a Thaliadau Uniongyrchol.
  • Cyflwyno bwndeli babanod i fwy o deuluoedd.
  • Parhau i gefnogi a chynnal hawliau plant a phobl ifanc ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches.
  • Cefnogi ein cynllun Maethu Cymru cenedlaethol.

Yr Economi

  • Ehangu’r defnydd o brentisiaethau gradd a phrentisiaethau a rennir.
  • Bwrw ymlaen â’n Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi ar gyfer Cymru.
  • Cryfhau Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol.
  • Ehangu Cyfrifon Dysgu Personol.
  • Adeiladu ar lwyddiant Cronfa Ddysgu Undebau Cymru.
  • Ymgyrchu i ddatganoli’r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch, sydd wedi’i thanariannu, i Gymru.
  • Ehangu cronfeydd cyfalaf tymor hir Banc Datblygu Cymru.
  • Cynyddu’r defnydd o gyfranddaliadau ecwiti mewn cymorth busnes.
  • Adeiladu ar ein gwaith ar yr Economi Sylfaenol a datblygu Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol i gefnogi busnesau lleol.
  • Darparu mwy o gymorth i bryniant gan weithwyr a cheisio dyblu nifer y busnesau sy’n eiddo i weithwyr.
  • Cyflawni ein rhaglen Y Cymoedd Technoleg 10-mlynedd gwerth £100m.
  • Gweithio gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a llywodraeth leol ar strwythurau sefydliadol tymor hwy posibl ar gyfer Arfor a’r Cymoedd, ac ariannu cam dau rhaglen Arfor.
  • Helpu meysydd allweddol o’n heconomi, fel awyrofod a dur, i arloesi, tyfu a lleihau eu hôl troed carbon.
  • Gweithredu i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg.
  • Darparu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd 2022.
  • Sicrhau bod hanes pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael ei adlewyrchu’n briodol yn ein sectorau diwylliannol a threftadaeth, gan 
  • gynnwys yn ein Hamgueddfeydd Cenedlaethol. 
  • Buddsoddi yn ein cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf.
  • Buddsoddi mewn cyfleusterau newydd fel caeau 4G.
  • Sefydlu Corff Sgiliau Creadigol.
  • Ystyried sefydlu Cronfa Ymchwil a Datblygu Diwydiannau Creadigol.
  • Helpu busnesau i weithio ar y cyd i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol, gan gynnwys gwasanaethau cyflenwi a logisteg lleol.
  • Mynnu bod Cymru yn cael ei chyfran deg o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r Gronfa Codi’r Gwastad, fel y’i gelwir, gan Whitehall.
  • Dadlau dros gysylltiadau economaidd ac ymchwil agosach â’r UE.
  • Cadw swyddfa Llywodraeth Cymru ym Mrwsel.
  • Gweithredu ein Cynllun Allforio newydd.

Newid hinsawdd

  • Cynnig cefnogaeth i ddatblygu cofrestr o adeiladau gwag a helpu busnesau bach i symud i siopau gwag.
  • Datblygu hybiau gweithio o bell newydd mewn cymunedau.
  • Pwyso ar Lywodraeth y DU am gyfran deg i Gymru o fuddsoddiad hanfodol mewn seilwaith rheilffyrdd ac Ymchwil a Datblygu.
  • Rhoi pwerau newydd i Trafnidiaeth Cymru i integreiddio rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn well.
  • Datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd.
  • Cyflwyno gwerth £800m o gerbydau newydd ar gyfer ein rheilffyrdd a sicrhau bod 95% o deithiau trên ar drenau newydd erbyn 2024.
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer metro yn y Gogledd a Bae Abertawe.
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer estyniadau amlfoddol i’n rhwydweithiau Metro, fel system drafnidiaeth integredig ar gyfer Coridor y Gogledd Orllewin ac ar draws cymoedd y De.
  • Gan weithio gyda Trafnidiaeth Cymru, ymchwilio i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y Gogledd a’r De, gan gynnwys ystyried sut i ddiogelu coridorau teithio posibl ar arfordir y Gorllewin.
  • Pwyso ar Lywodraeth y DU i drydaneiddio prif reilffordd y Gogledd.
  • Datblygu’r Ganolfan Ragoriaeth Rheilffordd Fyd-eang yn Nyffryn Dulais.
  • Archwilio opsiynau i weithwyr gymryd cyfran berchnogol yn ein hasedau trafnidiaeth cenedlaethol.
  • Buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau a chwblhau prosiectau seilwaith bysiau newydd mawr.
  • Ehangu teithio hyblyg sy’n ymateb i’r galw ledled Cymru.
  • Archwilio estyniadau i Fy Ngherdyn Teithio ar gyfer teithio rhatach i bobl ifanc.
  • Gweithio i wneud y fflyd cerbydau bws a thacsi yn fflyd allyriadau sero erbyn 2028.
  • Gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i hyrwyddo cerdded a beicio.
  • Cefnogi mentrau cymdeithasol newydd arloesol fel caffis trwsio ar gyfer cynnal a chadw beiciau a chynlluniau ailgylchu beiciau.
  • Datblygu Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol newydd.
  • Gweithio gydag ysgolion i hyrwyddo Teithio Llesol a Diogelwch ar y Ffyrdd.
  • Adeiladu dyfodol cynaliadwy i’n porthladdoedd a’n meysydd awyr allweddol.
  • Sefydlu bwrdd perfformiad trafnidiaeth newydd.
  • Moderneiddio grantiau trafnidiaeth.
  • Buddsoddi mewn opsiynau teithio sy’n annog trafnidiaeth gyhoeddus ac yn cefnogi cerdded a beicio.
  • Cefnogi arloesedd mewn technoleg ynni adnewyddadwy newydd.
  • Cefnogi cymunedau i greu 30 o goetiroedd newydd a chysylltu ardaloedd cynefinoedd.
  • Cryfhau’r amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol.
  • Ariannu mesurau ychwanegol i amddiffyn o leiaf 45,000 o gartrefi rhag llifogydd.
  • Rheoli llifogydd mewn modd sy’n seiliedig ar natur ym mhob dalgylch afon mawr i ehangu cynefinoedd gwlyptiroedd a choetiroedd.
  • Comisiynu adolygiad annibynnol o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol gaeaf 2020-21.
  • Gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gellir lleihau’r tebygolrwydd o lifogydd mewn cartrefi, busnesau a seilwaith 
  • erbyn 2050.
  • Deddfu i gryfhau’r gofynion ar gyfer defnyddio systemau draenio cynaliadwy sy’n darparu cynefin i fywyd gwyllt.
  • Dechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden, gan gryfhau’r gwaith o fonitro ansawdd dŵr.
  • Sefydlu cynllun wedi’i dargedu i hyrwyddo gwaith adfer cynefinoedd morwellt a morfa heli ar hyd ein harfordir.
  • Dwyn ynghyd rwydwaith o sefydliadau ar gyfer her dim gwastraff, sy’n seiliedig ar leoedd, i gefnogi newid diwylliannol mewn busnesau a 
  • chymunedau.
  • Gweithio tuag at greu Ynni Cymru, cwmni ynni o dan berchnogaeth gyhoeddus i Gymru.
  • Ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru i lefel dros 100MW erbyn 2026.
  • Gorfodi moratoriwm ar ganiatâd yn achos pob cyfleuster llosgi mawr.
  • Parhau i wella cartrefi presennol, gan ein helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, creu swyddi mawr eu hangen, cyfleoedd hyfforddi a chadwyni cyflenwi.
  • Diwygio’r system diogelwch adeiladau bresennol, gan gynnwys ail gam Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.
  • Ymchwilio i ddichonolrwydd cyflwyno morgeisi awdurdodau lleol.
  • Deddfu i weithredu ar argymhellion Comisiwn y Gyfraith mewn perthynas â diwygio lesddaliadau.
  • Sicrhau bod taliadau ystad am fannau agored cyhoeddus a chyfleusterau cyhoeddus yn cael eu talu mewn ffordd sy’n deg.
  • Defnyddio’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i roi mwy o sicrwydd i rentwyr a datblygu cynllun cenedlaethol sy’n cyfyngu rhent i lefelau lwfans tai lleol i deuluoedd a phobl ifanc sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.
  • Sicrhau bod landlordiaid Rhentu Doeth Cymru yn ymateb yn gyflym i gwynion am hiliaeth a throseddau casineb ac yn cynnig cymorth priodol.
  • Datblygu uwchgynlluniau ar gyfer trefi a’r stryd fawr.
  • Grymuso cymunedau i fod â mwy o ran mewn cynlluniau adfywio lleol.
  • Datblygu cyfleusterau ailgylchu cymunedol yng nghanol trefi a hyrwyddo cyfleusterau atgyweirio ac ailddefnyddio i annog siopa diwastraff.
  • Creu mwy o fannau gwyrdd cymunedol yng nghanol trefi.
  • Addasu mannau cyhoeddus ar gyfer digwyddiadau awyr agored, marchnadoedd, gwerthwyr stryd, parciau dros dro a pharciau bach.

Y Gymraeg ac Addysg

  • Cryfhau’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.
  • Buddsoddi mwy nag £1.5 biliwn yng ngham nesaf Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.
  • Gydag awdurdodau lleol, trawsnewid amgylcheddau dysgu, datblygu ysgolion carbon sero net ac agor cyfleusterau ysgolion ar gyfer cymunedau lleol.
  • Adolygu Addysg Oedolion i gynyddu nifer yr oedolion sy’n dysgu yng Nghymru.
  • Sicrhau bod darpariaeth gwnsela ychwanegol ar gael drwy gydol tymor nesaf y Senedd.
  • Cefnogi ysgolion ac athrawon i gyflwyno ein Cwricwlwm i Gymru sy’n arwain y byd.
  • Ehangu cyfran y gweithlu addysg sy’n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Ysgogi cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob lleoliad addysg.
  • Sefydlu a gweithredu un continwwm dysgu Cymraeg.
  • Lleihau biwrocratiaeth ddiangen i gefnogi arweinwyr ysgolion.
  • Gweithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd.
  • Ehangu dysgu ieithoedd tramor modern yn ein hysgolion.
  • Buddsoddi yn y Grant Datblygu Disgyblion.
  • Amddiffyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer dysgwyr ifanc.
  • Cynnal ein hymrwymiad i ddarparu brecwast am ddim i bob disgybl ysgol gynradd.
  • Penodi gweinidog ar lefel Cabinet i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynigion Bwrdd Ieuenctid Cymru.
  • Deddfu ar gyfer fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau ieuenctid yng Nghymru.
  • Cefnogi rôl ddemocrataidd awdurdodau lleol yn y ddarpariaeth addysg.
  • Hyrwyddo parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd mewn addysg Gymreig.
  • Diwygio cymwysterau ac ehangu’r amrediad o gymwysterau galwedigaethol a ddyfeisiwyd yng Nghymru.
  • Archwilio sut y gall mwy o ffedereiddio gefnogi arweinyddiaeth addysg ledled Cymru.
  • Archwilio sut i gryfhau cymunedau dysgu proffesiynol.
  • Ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a chynyddu’r cyllid ar eu cyfer.
  • Ehangu’r Rhaglen Drochi i Ddisgyblion.
  • Cyflwyno prosiect peilot a fydd yn cymell siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgolion i helpu gydag addysgu Cymraeg mewn ysgolion.
  • Cynnig ysgolion haf ym mhob prifysgol yng Nghymru ar gyfer dysgwyr sylfaen Seren, ac ehangu partneriaethau presennol a sefydlu cynlluniau peilot mewn sefydliadau eraill yng Nghymru.
  • Mynd i’r afael ag argymhellion y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd.

Cyllid a Llywodraeth Leol

  • Peidio â chymryd mwy mewn cyfraddau treth incwm Cymru oddi ar deuluoedd Cymru cyhyd ag y bydd effaith economaidd coronafeirws yn parhau, o leiaf.
  • Datblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol pellach i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu gwarchod.
  • Cryfhau ymreolaeth ac effeithiolrwydd llywodraeth leol i’w gwneud yn fwy llwyddiannus wrth ddarparu gwasanaethau.
  • Lleihau’r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol.
  • Newid y fframwaith perfformiad ar gyfer llywodraeth leol er mwyn galluogi gwell arloesi, tryloywder a pherchnogaeth leol.
  • Ystyried sut y gellir gosod targedau ystyrlon i gynyddu faint y mae sector cyhoeddus Cymru yn ei gaffael o Gymru gan ddechrau gyda dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus.
  • Hyrwyddo prynu cynhyrchion a gwasanaethau o Gymru.
  • Ymchwilio i weld sut y gallai sefydlu Ysgol Lywodraethu Genedlaethol gyfrannu at yr egwyddor o Wasanaeth Cyhoeddus Cymru’n Un.
  • Comisiynu tystiolaeth i ddeall y rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus datganoledig ac anghenion gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y dyfodol.
  • Ystyried ffyrdd newydd o fynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn cyllid, tyfu ein sylfaen drethu ac ystyried goblygiadau cyllidol unrhyw argymhellion gan y Comisiwn Cyfansoddiadol.

Cyfiawnder Cymdeithasol

  • Ehangu’r gwaith ‘gwneud y gorau o incwm’ a’r Gronfa Gynghori Sengl.
  • Ymchwilio i’r seilwaith sy’n angenrheidiol i baratoi ar gyfer datganoli’r gwaith o weinyddu lles.
  • Datblygu argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg.
  • Ehangu’r ymgyrchoedd hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw’n Dawel’.
  • Sefydlu gwasanaeth cyfreithiol cydraddoldeb i ddarparu cefnogaeth ar arferion cyflogaeth annheg neu wahaniaethol.
  • Ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru.
  • Mynd i’r afael yn llawn ag argymhellion yr Archwiliad Henebion ac Enwau Strydoedd.
  • Creu Uned Anghyfartalwch Hil ochr yn ochr ag Uned Data Cydraddoldeb i sicrhau sylfaen dystiolaeth gynhwysol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yn y llywodraeth.
  • Sicrhau bod elfennau cyfiawnder y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn gadarn a mynd i’r afael â’r materion hyn gyda’r heddlu a’r llysoedd.
  • Ehangu ein rhaglen Mynediad i Swydd Etholedig.
  • Gweithredu argymhellion Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru: Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru (2020-2023).
  • Cefnogi digwyddiadau Pride ledled Cymru drwy noddi Pride Cymru, sefydlu Cronfa Pride Cymru Gyfan a phenodi Cydlynydd Pride ar gyfer Cymru.
  • Defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar therapi trosi LHDTC+ sydd o fewn ein pŵer a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol.
  • Sbarduno cais i ddatganoli’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned Drawsryweddol.
    Gweithio gyda’r cwmnïau technoleg a llwyfannau’r cyfryngau i fynd i’r afael â throseddau casineb a chamwybodaeth.
  • Gwreiddio urddas mislif mewn ysgolion.
  • Ehangu ein darpariaeth mislif am ddim mewn cymunedau a’r sector preifat.
  • Cynnal ein cyllid i 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac ehangu eu nifer o 100.

Materion Gwledig a Gogledd Cymru

  • Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid.
  • Gwella’r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid i godi eu statws proffesiynol.
  • Gwneud teledu cylch cyfyng yn ofynnol ym mhob lladd-dy.
  • Gwahardd defnyddio maglau.
  • Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir.
  • Gwahardd difa moch daear i reoli lledaeniad TB mewn gwartheg.
  • Helpu ffermwyr a thirfeddianwyr gweithredol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i annog creu coetiroedd ar dir sy’n llai cynhyrchiol ac ymchwilio i ffyrdd o ddenu buddsoddiad ar gyfer creu coetiroedd sy’n sicrhau perchnogaeth a rheolaeth leol.
  • Gweithio gyda’r gymuned ffermio i weithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan dargedu’r gweithgareddau hynny yr ydym yn gwybod eu bod yn achosi llygredd.

Y Cyfansoddiad

  • Gweithio dros Deyrnas Unedig newydd a llwyddiannus, yn seiliedig ar ffederaliaeth bellgyrhaeddol.
  • Pwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygiad ffederal mwy trylwyr o’n cyfansoddiad a’n cysylltiadau rhynglywodraethol.
  • Herio Deddf Marchnad Fewnol y DU a’i hymosodiad ar ddatganoli a hyrwyddo hawliau’r Senedd i ddeddfu heb ymyrraeth mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru.
  • Ymdrechu i atal Llywodraeth Geidwadol y DU rhag defnyddio’r Ddeddf Marchnad Fewnol i ariannu ymyriadau nad ydynt yn cael eu cefnogi gan bobl Cymru.
  • Mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.
  • Datblygu set o Godau cyfraith Cymru.
  • Dadlau dros ddatganoli trethi’n glir ac yn sefydlog i Gymru.