Mae addysg yn newid
Arolwg Cwricwlwm i Gymru 2024 ar gyfer rhieni, gofalwyr a dysgwyr
Rydym yn awyddus i glywed gan rieni, gofalwyr a phlant 4-14 oed am eich profiadau o addysg yng Nghymru. Rydym yn cynnal arolwg a fydd yn rhoi tystiolaeth ddefnyddiol i ni i wella'r arweiniad a'r cymorth a roddwn i ysgolion wrth gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r arolwg yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.
Ar ddiwedd yr arolwg, gofynnir i rieni a gofalwyr a ydynt am gael eu cynnwys mewn raffl i ennill taleb siopa gwerth £100. I gael eich cynnwys, bydd angen i chi gwblhau'r arolwg a darparu’ch henw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
Am y cwricwlwm cenedlaethol
Cyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol am y tro cyntaf yn 1988; oes cyn siopa ar-lein, cyn Google a chyn y Cwmwl. Bellach, mae gwaith yn wahanol, mae technoleg yn wahanol, ac mae cymdeithas yn newid.
Bydd cwricwlwm newydd, wedi’i wneud yng Nghymru gan athrawon, partneriaid, ymarferwyr a busnesau ac wedi'i lunio gan y syniadau gorau o bob cwr o'r byd.
Bydd yn eu cymhwyso gyda safon uchel o lythrennedd a rhifedd, ac yn eu paratoi i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i fod yn ddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol – dinasyddion Cymru a dinasyddion y byd.
Mae ein cwricwlwm wedi’i wneud yng Nghymru gan athrawon, partneriaid, ymarferwyr a’r gymuned ehangach, wedi'i lunio gan y syniadau gorau o bob cwr o'r byd.
Mae asesu yn rhan o ddysgu dyddiol bob plentyn a byddant yn gweithio gyda'u hathrawon i ddeall pa mor dda y maent yn gwneud.
Cyflwynir y cwricwlwm newydd yn raddol, felly erbyn 2026 bydd pob dysgwr yn dysgu trwy’r Cwricwlwm i Gymru.
Canllaw i Cwricwlwm i Gymru newydd
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r cwricwlwm newydd mewn ffordd syml.
Bydd ysgolion yn symud ymlaen gyda chynllunio eu cwricwlwm yn seiliedig ar y gyfres o Ganllawiau Cwricwlwm
Sut gallai hyn edrych mewn ysgolion?
Duwedodd athrawon, disgyblion a rhieni Ysgol Bro Edern wrthym am eu profiadau o ddatblygu'r cwricwlwm yn eu hysgol.
Beth yw barn Llywodraethwyr Ysgol?
Y Pennaeth a rhiant-Lywodraethwr yn siarad am y newidiadau yn Ysgol Bontnewydd.