Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol i Gymru
Dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir cenedlaethol i Gymru fel sy'n ofynnol gan adrannau (10) (8) a (10) (3) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Adroddiad Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Yng Nghymru rydym yn gwneud pethau'n wahanol.
Mae gennym gyfraith yng Nghymru sy'n ein helpu ni i gyd i weithio gyda'n gilydd i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a'n diwylliant.
Er mwyn ein pobl, er mwyn ein planed. Ar gyfer nawr, ac ar gyfer ein dyfodol.
Ei henw yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae 7 nod llesiant cysylltiedig ar gyfer Cymru, sef:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Dangosyddion cenedlaethol
O dan adran 10(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd.
Rhaid mynegi dangosydd cenedlaethol fel gwerth neu nodwedd y gellir ei fesur yn feintiol neu'n ansoddol yn erbyn canlyniad penodol. Gellir ei fesur dros unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol a gall fod yn fesuradwy mewn perthynas â Chymru neu ag unrhyw ran ohoni.
Mae rhagor o fanylion am y gofynion ar gael ar ein tudalennau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dylai’r 50 dangosydd cenedlaethol a gyhoeddwyd ac a osodwyd gerbron Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2021 gael eu darllen gyda'r ddogfen gwybodaeth dechnegol am ddangosyddion cenedlaethol (Llesiant Cymru: disgrifiadau technegol dangosyddion cenedlaethol a dolenni data) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae hon yn cynnwys gwybodaeth dechnegol atodol am bob dangosydd gan gynnwys o ble y daw'r data; y dadgyfuno arfaethedig yn ôl nodwedd warchodedig (fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010) ac ardal, a data cyd-destunol i helpu i ddadansoddi’r dangosydd dros amser.
O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Y "dangosyddion cenedlaethol”:
- Canran y genedigaethau byw sengl â phwysau geni islaw 2,500g
- Disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig
- Canran yr oedolion sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw
- Lefelau llygredd nitrogen deuocsid (NO2) yn yr aer
- Canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw
- Mesur o ddatblygiad plant bach
- Sgôr 9 pwynt cyfartalog disgyblion wedi’i chapio, gan gynnwys y bwlch rhwng y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys
- Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol
- Gwerth Ychwanegol Gros am bob awr a weithir (o’i gymharu â chyfartaledd y DU)
- Incwm Gwario Gros Aelwydydd, y pen
- Canran y busnesau sydd wrthi’n arloesi
- Capasiti (mewn MW) yr offer ynni adnewyddadwy sydd wedi’i osod
- Crynodiad carbon a deunydd organig mewn pridd
- Ôl troed byd-eang Cymru
- Swm y gwastraff a gynhyrchir ac na chaiff ei ailgylchu, y pen
- Canran y bobl sydd mewn cyflogaeth, sydd ar gontractau parhaol (neu ar gontractau dros dro, ac nad ydynt yn ceisio gwaith parhaol) ac sy’n ennill o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol
- Gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd
- Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU: wedi’i mesur ar gyfer plant, pobl o oedran gweithio a phobl o oedran pensiwn
- Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol
- Cyfran y cyflogeion y pennir eu cyflog drwy gydfargeinio
- Canran y bobl sydd mewn cyflogaeth
- Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
- Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol
- Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gyrraedd/cael at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt
- Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio
- Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw
- Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch
- Canran y bobl sy’n gwirfoddoli
- Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
- Canran y bobl sy’n unig
- Canran yr anheddau sydd heb beryglon
- Nifer yr unedau eiddo (cartrefi a busnesau) sydd mewn perygl uchel a chanolig o lifogydd sy’n deillio o afonydd a’r môr
- Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol
- Nifer yr aelwydydd y llwyddwyd i’w hatal rhag bod yn ddigartref am bob 10,000 o aelwydydd
- Canran y bobl sy’n bresennol neu sy’n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn
- Canran y bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd ac yn gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o’r iaith
- Nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg
- Canran y bobl sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos
- Canran yr amgueddfeydd ac archifau sy’n dal casgliadau archifol/treftadaeth sy’n cyrraedd safonau achredu’r DU
- Canran yr asedau amgylchedd hanesyddol dynodedig sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
- Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru
- Allyriadau nwyon tŷ gwydr sydd i’w priodoli i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru
- Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru
- Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru
- Canran y cyrff dŵr wyneb a’r cyrff dŵr daear sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan
- Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru
- Canran y bobl sydd â hyder yn y system gyfiawnder
- Canran y siwrneiau a wneir ar droed, ar feic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus
- Canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau mewn perthynas â thai
- Statws cynhwysiant digidol
Cerrig milltir cenedlaethol
O dan adran (10)(3) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol a fyddai, ym marn Gweinidogion Cymru, yn helpu i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.
Wrth osod carreg filltir, rhaid i Weinidogion Cymru bennu:
- y meini prawf ar gyfer penderfynu a yw'r garreg filltir wedi'i chyflawni (drwy gyfeirio at y gwerth neu'r nodweddion a ddefnyddir i fesur y dangosydd), a
- erbyn pryd y mae’r garreg filltir i'w chyflawni.
Mae rhagor o fanylion am y gofynion ar gael ar ein tudalennau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Y cerrig milltir cenedlaethol:
Dangosydd cenedlaethol | Carreg filltir genedlaethol |
---|---|
2. Disgwyliad oes iach adeg geni gan gynnwys y bwlch rhwng y bobl fwyaf a lleiaf difreintiedig | Cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050 |
3. Canran yr oedolion sydd â llai na dau ymddygiad iach o ran eu ffordd o fyw | Cynyddu canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach o ran eu ffordd o fyw i fwy na 97% erbyn 2050. |
5. Canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy o ran eu ffordd o fyw | Cynyddu canran y plant sydd â dau ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050 |
8. Canran yr oedolion â chymwysterau ar y gwahanol lefelau yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol | Bydd gan 75% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymwysterau ar lefel 3 neu uwch erbyn 2050 |
Bydd canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau yn 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050 | |
10. Incwm Gwario Gros Aelwydydd, y pen | Gwella Incwm Gwario Gros Aelwydydd, y pen, yng Nghymru erbyn 2035 ac ymrwymo i osod targed twf ymestynnol ar gyfer 2050 |
14. Ôl troed ecolegol Cymru | Dim ond ei chyfran deg o adnoddau'r byd y bydd Cymru'n ei defnyddio erbyn 2050 |
17. Gwahaniaeth cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd | Dileu'r bwlch cyflog o ran rhyw, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050 |
18. Tlodi incwm o’i gymharu â chanolrif y DU | Lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy’n golygu mai hwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny, erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050 |
21. Canran y bobl sydd mewn cyflogaeth | Dileu'r bwlch rhwng cyfradd gyflogaeth Cymru a chyfradd y DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu nifer y bobl o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n cyfranogi yn y farchnad lafur |
22. Canran y bobl sydd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, wedi’i mesur ar gyfer gwahanol grwpiau oedran | Bydd o leiaf 90% o’r rhai 16-24 oed oedd mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050 |
28. Canran y bobl sy’n gwirfoddoli | Cynyddu canran y bobl sy'n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy’n gwirfoddoli |
29. Sgôr lles meddyliol cymedrig | Gwella lles meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch yn lles meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050. |
33. Canran yr anheddau â pherfformiad ynni digonol | Bydd perfformiad ynni pob cartref yng Nghymru yn ddigonol ac yn gost-effeithiol erbyn 2050 |
37. Nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg | Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 |
41. Allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru | Bydd allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn cyrraedd sero net erbyn 2050 |
44. Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru | Gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad yn amlwg erbyn 2050 |