Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir, nodau a methodoleg

Ar 16 Mehefin 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru raglen gwerth £5 miliwn, o’r enw Haf o Hwyl, i gefnogi plant a phobl ifanc oed 0 i 25 i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliannol er mwyn adfer sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dyfarnwyd y gronfa i awdurdod lleol i ddarparu mynediad i weithgareddau er hybu lles cymdeithasol, emosiynol, corfforol a meddyliol pob plentyn a pherson ifanc. Yn ei dro, mae hyn yn rhan annatod o'u cefnogi i ymgysylltu eto â dysgu ac addysg, gan alluogi pob plentyn a pherson ifanc i gyrraedd eu llawn botensial ac yn greiddiol i ymadfer yn sgil pandemig COVID-19. Cyflwynwyd y rhaglen rhwng 1 Gorffennaf a 31 Medi 2021.

Cyflwynodd Ecorys werthusiad proses dulliau cymysg o'r rhaglen HoH. Nodau'r gwerthusiad oedd asesu'r rhaglen; sut y cafodd ei weithredu ar draws ALlau; deilliannau canfyddedig i'w gyfranogwyr a chywain dysgu i gyfeirio polisi ac arfer yn y dyfodol.

Casglwyd mewnwelediadau cyfoethog ac amrywiol o gyfweliadau ansoddol gyda 15 o uwch randdeiliaid, 19 o arweinwyr HoH awdurdodau lleol, a 27 o blant a phobl ifanc. Cafwyd amrywiaeth o safbwyntiau gan 969 o gyfranogwyr y rhaglen a 249 o ddarparwyr, a gwblhaodd arolwg ar-lein. Dadansoddwyd gwybodaeth reoli gan 409 o ddarparwyr. Trafodwyd canfyddiadau cynnar gydag arweinwyr a darparwyr awdurdodau lleol a chyd-ddatblygu'r casgliadau a'r argymhellion mewn digwyddiad bord gron rithwir.

Canfyddiadau

Cyrhaeddiad y rhaglen

Cyrhaeddwyd dros 67,500 o blant a phobl ifanc gan raglen HoH 2021 ledled Cymru. Cynigiodd bron i hanner yr holl ddarparwyr weithgareddau teuluol, ochr yn ochr â gweithgareddau i blant a phobl ifanc. Roedd cyrhaeddiad yn well ymhlith grwpiau oedran iau, gyda 70% o'r cyfranogwyr yn 5 i 11 oed. Dim ond 7% o'r cyfranogwyr oedd yn 16 i 25 oed. Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd gwybod sut i ymgysylltu orau â grŵp oedran hŷn.

Ceisiodd arweinwyr awdurdod lleol ddatblygu rhaglenni cynhwysol. Roedd cyrhaeddiad yn ôl ethnigrwydd yn alinio â'r boblogaeth genedlaethol, gyda 9% o gyfranogwyr y rhaglen yn Ddu, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig. Ar draws cyfranogwyr, roedd gan 5% anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac roedd pobl anabl yn cyfrif am 3%. Roedd darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael: Cyflwynwyd 43% o sesiynau HoH gydag agweddau dwyieithog a chyflwynwyd 11% o'r sesiynau yn unig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nododd arweinwyr awdurdodau lleol mewn rhai ardaloedd ddiffyg darpariaeth arbenigol ar gyfer y rhai sydd ag anghenion ychwanegol a'r Gymraeg.

Gweithrediad y rhaglen gan awdurdodau lleol

Adroddodd awdurdodau lleol fod yr arian yn cynnig ychwanegedd at ddarpariaeth busnes-fel-arfer. Yn fras, mabwysiadodd awdurdodau lleol un o dri model cyflwyno HoH. Roedd gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol fynediad agored a darpariaeth wedi'i thargedu (Model 1). Roedd gan rai awdurdodau lleol fynediad agored yn bennaf (Model 2) neu raglen wedi'i thargedu'n gyfan gwbl (Model 3). Roedd dulliau awdurdodau lleol yn dibynnu ar ddehongliad lleol o'r canllawiau, capasiti'r tîm, ac a oedd ganddynt gynnig haf presennol i adeiladu arno ai beidio.

Un her allweddol oedd yr amserlen fer rhwng cyhoeddi'r cyllid a dyddiad dechrau'r rhaglen. O ganlyniad, dechreuodd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol gyflwyno ar ddiwedd mis Gorffennaf 2021. Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol o blaid gweithio gyda darparwyr cymeradwy presennol er effeithlonrwydd ond roedd tystiolaeth bod rhai awdurdodau lleol wedi penodi darparwyr newydd. Esboniodd arweinwyr awdurdodau lleol mai prin oedd yr amser a'r gallu i sicrhau ansawdd. Derbyniodd y darparwyr wahanol lefelau o arweiniad, cymorth a hyfforddiant gan ddibynnu ar yr awdurdod lleol yr oeddent yn gweithio ynddo.

Ffactorau a fu’n ysgogi ac yn galluogi cyfranogwyr i fynychu

Nododd rhieni, plant a phobl ifanc dri ysgogydd allweddol i fynychu HoH: yn gyntaf, ei fod am ddim; yn ail, y cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau na fyddent fel arall yn gallu cael mynediad atynt; ac yn olaf, y cyfle i dreulio amser y tu allan i'r cartref a chwrdd â phobl. At hynny, roedd plant a phobl ifanc wedi'u hysgogi i fynychu gan y posibilrwydd o gael hwyl. Roedd cyfeillgarwch staff y darparwyr yn annog presenoldeb ymhellach. Roedd darparwyr o'r farn mai'r rhwystrau allweddol o ran presenoldeb cyfranogwyr i weithgareddau HoH oedd cludiant, rhesymau’n ymwneud â rhieni/gofalwyr a phryderon am COVID-19 neu hunan-ynysu.

Deilliannau a manteision y rhaglen

Dywedodd bron pob un (99%) o'r plant a'r bobl ifanc a gwblhaodd yr arolwg cyfranogwyr eu bod wedi cael hwyl yn mynychu gweithgareddau HoH. Cefnogwyd cyfranogwyr y rhaglen i ailymgysylltu â darpariaeth gymunedol a datblygu ystod o sgiliau personol a chymdeithasol ar ôl y cyfnodau clo. Roedd hefyd yn cefnogi lles corfforol a meddyliol cyfranogwyr.

Manteisiodd darparwyr ar fuddsoddiad ariannol y mae mawr ei angen ar ôl y cyfnodau clo. Gwnaethant ddatblygu perthynas â phlant a phobl ifanc newydd. Credai arweinwyr awdurdod lleol fod cymunedau'n teimlo'n gadarnhaol am y buddsoddiad ynddynt. Un deilliant anfwriadol posib yw bod HoH wedi codi disgwyliadau cymunedau lleol o gael rhaglen debyg y flwyddyn nesaf.

Casgliadau ac argymhellion

Bu cefnogaeth eang i'r rhaglen ar draws rhanddeiliaid cenedlaethol a lleol. Darparodd y rhaglen HoH amrywiaeth o gyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae, cymdeithasu a chael hwyl.

Argymhellodd uwch randdeiliaid, awdurdodau lleol a phlant a phobl ifanc gyllid parhaus i gefnogi adferiad i blant a phobl ifanc yn sgil COVID-19 yn y tymor hwy. Gwelodd arweinwyr awdurdod lleol botensial i adeiladu ar eu dysgu o raglen HoH 2021. Yn yr un modd, roedd darparwyr am adeiladu ar y berthynas yr oeddent wedi'i ffurfio gyda phlant a phobl ifanc.

Ymhlith yr argymhellion a ddeilliodd o'r ymchwil i wella'r ddarpariaeth yn y dyfodol roedd:

  • cadw'r ffocws ar hwyl a chwarae
  • buddsoddiad tymor hwy mewn darpariaeth gydol flwyddyn i blant a phobl ifanc
  • cynnwys darpariaeth bwyd neu luniaeth ysgafn
  • caniatáu digon o amser i gynllunio a sefydlu rhaglenni'n effeithiol
  • cryfhau'r gefnogaeth i awdurdodau lleol
    • eglurhad ar y defnydd o gyllid ar gyfer gofal plant, darpariaeth mynediad agored neu wedi'i thargedu
    • cyfleoedd i awdurdodau lleol rannu dysgu ac arfer da
    • cymorth ar gyfer marchnata a brandio rhaglenni
    • symleiddio prosesau adrodd a gwerthuso
  • mireinio dulliau penodi darparwyr, y cymorth a roddir a'r cyflwyniad
    • helpu darparwyr cenedlaethol i gefnogi'r rhaglen yn well
    • cryfhau sicrwydd ansawdd y ddarpariaeth
    • lle i rieni yn y ddarpariaeth
  • gwella cyrhaeddiad a chynwysoldeb i bobl ifanc 16 i 25 oed, plant ag ADY ac anableddau a darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Manylion cyswllt

Awduron: Valdeep Gill, Erica Bertolotto, Helen Bickley, Natasha Burnley, Gabriela Freitas a Katharine Mckenna

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Faye Gracey
E-bost: cyfleoeddchwarae@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 81/2021
ISBN digidol: 978-1-20391-469-5

Image
GSR logo