Y Gronfa Iach ac Egnïol: gwerthusiad proses (crynodeb)
Adroddiad yn asesu dyluniad a darpariaeth y Gronfa Iach ac Egnïol. Mae'n cwmpasu'r cyfnod o sefydlu'r Gronfa hyd at chwarter cyntaf gweithredu’r prosiectau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben a phartneriaid y rhaglen
Mae’r Gronfa Iach ac Egnïol (Y GIE) yn fuddsoddiad o £5miliwn mewn 17 o Brosiectau sy’n gyfle i fudiadau’r sector gwirfoddol a chyrff cyhoeddus i ymchwilio sut i gefnogi’r rheiny sy’n byw bywyd eisteddog i fynd ati i gadw’n heini. Cafodd y rhaglen ei dylunio a’i chyflawni gan bartneriaeth ar y cyd rhwng pedwar corff sef dau dîm polisi Llywodraeth Cymru (Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Changen Polisïau Chwaraeon yn yr Adran Diwylliant a Chwaraeon), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Mae’r GIE yn canolbwyntio ar bobl sy’n wynebu rhwystrau sylweddol rhag byw bywydau heini. Nod y rhaglen ydy cynyddu eu lefel o weithgarwch corfforol mewn ffordd gynaliadwy gan hefyd hybu eu lles meddyliol. Ni chafodd y gweithgareddau er mwyn cyflawni’r nodau eu presgripsiynu, felly roedd modd i ystod eang o fudiadau fanteisio ar Y GIE.
Proses ymgeisio a gwobrwyo
Aeth y pedwar partner cenedlaethol ati i geisio siapio a llywio’r Prosiectau, a bu i dîm Y GIE ymdrechu wedi hynny i gynorthwyo’r ymgeiswyr. Yn dilyn lansiad Y GIE ym mis Gorffennaf 2018 bu Galwad am Geisiadau (Hydref 2018) a cham ‘Datganiad o Ddiddordeb’ (DoDd) (gwelwch Ffigur 1). Yn dilyn y broses dewis a dethol hon, cafodd 43 o Brosiectau eu gwahodd i geisio am grant.
Bu i bartneriaid Y GIE siapio’r Prosiectau drwy’r canlynol:
- cyfarwyddyd penodol am nodweddion allweddol y deilliannau arfaethedig
- pwyslais ar bwysigrwydd partneriaeth ar lefel Prosiect
- defnyddio proses ‘dewis a dethol’ yn ystod y cam Datganiad o Ddiddordeb
- gofyniad i Brosiectau lunio achos busnes llawn
Nod y broses ymwybodol a llwyddiannus hon oedd:
- cynnig y Gronfa newydd i ystod eang o ymgeiswyr dichonol
- cyfarwyddo’r ymgeiswyr dichonol i gyflwyno ceisiadau a fyddai’n bodloni amcanion Y GIE
- dewis a dethol ceisiadau yn dilyn y cam rhagarweiniol ‘Datganiad o Ddiddordeb’
- cyfyngu ceisiadau llawn i’r rheiny fyddai’n gallu bodloni meini prawf y broses ymgeisio orau
- chynnal proses asesu a dewis trylwyr er mwyn penderfynu ar geisiadau llwyddiannus
Bu i’r GIE dderbyn dros 100 o ddatganiadau o ddiddordeb ac fe wahoddwyd 43 i gyflwyno cais llawn. Bu i Brosiectau ganmol prosesau marchnata a chyfathrebu’r GIE ar y cyfan ynghyd â’r cyfarwyddyd a chefnogaeth i ymgeiswyr. Roedd y meini prawf o ran asesu yn eglur a manwl ac roedd y broses asesu yn drylwyr. Bu i’r GIE geisio caniatáu cymryd risgiau wedi’u mesur yn fwriadol.
Bu i hyd yn oed mudiadau a oedd yn meddu ar brofiad o baratoi ceisiadau grant ystyried gofynion cyffredinol y broses yn hynod heriol. Fodd bynnag bu i Brosiectau llwyddiannus gydnabod y bu’n sylfaen iddyn nhw fynd ati gyda’r gwaith yn fwy effeithiol. Y prif bryder oedd yr amser a gymerwyd i hysbysu am benderfyniadau. Nid tîm Y GIE oedd yn gyfrifol am hyn ond bu iddo achosi cryn sgîl-effeithiau. Dywedodd ymgeiswyr aflwyddiannus nad oedden nhw’n credu bod yr adborth cawson nhw’n gymesur â’r holl amser ac ymdrech wnaethon nhw ei fuddsoddi yn y broses.
Elfen ychwanegol cyllid Y GIE
Bu i’r Prosiectau cafodd eu dewis i dderbyn cyllid yn cyd-fynd â’r ardaloedd y bu i’r GIE gyfeirio atyn nhw a bu’r Prosiectau hynny ar wasgar cytbwys ledled Cymru.
Bu cyllid Y GIE yn fodd i Brosiectau weithredu a rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ynghyd â chynnig cyfleoedd a gwasanaethau newydd i gynulleidfa ehangach. Roedd y broses yn ddigon hyblyg i addasu wrth i bwyntiau dysgu ddod i’r amlwg.
Monitro a gwerthuso
Roedd monitro a gwerthuso ar lefelau Prosiect a Rhaglen wrth wraidd dyluniad Y GIE ac roedden nhw’n rhan o’r prosesau gweithredu a chyflawni.
Barn gyffredinol y Prosiectau am y gofynion monitro a gwerthuso oedd eu bod yn heriol. Mae rhai Prosiectau yn meddu ar gynlluniau gwerthuso hollgynhwysol ac mae’n bosib y bydd y rhain yn cynnig tystiolaeth ychwanegol gwerthfawr ynghyd â dysgu y gellir ei rannu.
Y GIE a’r pum ffordd o weithio
Roedd y pum ffordd o weithio, wedi’u cefnogi gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn rhan annatod o’r GIE ar lefelau Rhaglen a Phrosiect. Mae’r rhai yn fwy amlwg na’i gilydd. Bu Cydweithio yn enwedig yn thema amlwg a chyson ar lefelau Rhaglen a Phrosiect. Bu i’r GIE ddangos gradd anarferol, os nad unigryw, o gydweithredu o fewn y Llywodraeth yng Nghymru, ac yn enwedig yn ymwneud â’r agwedd cyllidebau wedi’u rhannu.
Cynaladwyedd
Bu i nifer o’r Prosiectau gyfeirio at ‘chwilio am ffynonellau cyllid eraill’ er mwyn bod yn gynaliadwy. Fodd bynnag, mae yna ‘fathau’ eraill o gynaladwyedd, fel newidiadau i ymddygiad o ganlyniad ymysg buddiolwyr y Prosiect, ac a oes modd cynnig y gweithgareddau fel rhai prif ffrwd ai pheidio.
Cyflawni’r rhaglen yn effeithiol
Mae’r GIE yn meddu ar bob un o’r chwe galluogwr ar gyfer cyflawni’r Rhaglen yn effeithiol fel y gwelwch yn Ffigur 3, gan sicrhau’r deilliannau canolradd allweddol a gosod sylfaen i gyflawni’r deilliannau uchelgeisiol y mae wedi’i ddylunio i’w cefnogi.
Meysydd i’w gwella ymhellach
Ymysg y rhain mae:
- defnydd gwell o adroddi craff yn y ffurflenni cais, yn enwedig yn ystod y cam DoDd
- cynllunio graddfeydd amser ar gyfer y broses gyflawn, gan ddwyn i ystyriaeth y gofynion amser ar gyfer cymeradwyo penderfyniadau ar lefel uwch ar gyfer y gwahanol fudiadau
- trafod a chadarnhau dyraniadau cyllideb ar y cyd o’r cychwyn cyntaf
- adnoddau priodol ar gyfer y staff sy’n dylunio a gweinyddu grant newydd
- ystyried sut i barhau i weithredu’r pum ffordd o weithio yn ystod blynyddoedd 2 i 3
- gofalu bod cyswllt rhwng y gwerthusiadau lefel Rhaglen a lefel Prosiect
- rhannu’r gwersi cadarnhaol ar gyfer llywio dyluniad Rhaglenni yn y dyfodol
Rydym yn argymell y pynciau canlynol ar gyfer ymholiad thematig yn ystod cyfnod nesaf y gwerthusiad cyffredinol ar Raglen Y GIE.
- Beth oedd a fydd y goblygiadau’r pandemig coronafeirws ar Y GIE?
- Sut bu i (a sut bydd) gymryd rhan yn Y GIE effeithio ar ddull y mudiadau oedd yn cymryd rhan, ar lefelau partner Rhaglen a Phrosiect?
- Pa mor bwysig ydy ‘asiantaeth’ ac ymwneud â’r gymuned er mwyn i Brosiectau allu cydweithio’n llwyddiannus gyda’u grwpiau targed a beth ydy ei rôl yn hyn o beth? A oes modd i weithredu ar lefel Rhaglen gynorthwyo gyda hyn?
- Beth ydy amryw ystyron ‘cynaladwyedd’ a natur raddadwy Prosiectau wedi’u hariannu gan Y GIE? Sut gallai gweithredu ar lefel Rhaglen wella cynaladwyedd Prosiectau?
- Sut gallai Rhaglen Y GIE helpu i sicrhau bod y gwerthusiadau lefel Rhaglen a Phrosiect yn gyflenwol ac yn atgyfnerthu ei gilydd?
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: UK Research and Consultancy Services Ltd
Adroddiad ymchwil llawn: RCS, (Mawrth 2021). Sicrhau Newid. Y Gronfa Iach ac Egnïol: Gwerthusiad Proses. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, GSR adroddiad rhif 22/2021.
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Eleri Jones
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymu
ISBN digidol 978-1-80195-123-4