Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y gweinidog

Ym mis Hydref, cyhoeddais gynigion mewn cynllun drafft i drechu tlodi tanwydd yng Nghymru. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Rhagfyr a chafwyd 57 o ymatebion unigol.  Yn ogystal, cymerodd mwy na 75 o randdeiliaid o bob cwr o Gymru ran mewn gweithdai rhithwir a gynhaliwyd gan National Energy Action Cymru, i drafod ein cynigion.

Ynghyd â'r Adroddiad Tirwedd ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ym mis Hydref 2019 a'r adroddiad ar ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd i dlodi tanwydd a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2020, mae'r cynllun wedi'i lywio gan gyfoeth o wybodaeth gan randdeiliaid a'u profiad sylweddol o weithio i drechu tlodi o ddydd i ddydd. Mae'r cynllun rwy'n ei gyflwyno wedi'i gynllunio i adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed dros y deng mlynedd diwethaf ac i roi cymorth gwell fyth i'n partneriaid ar draws y trydydd sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.

Llwybr ansicr sydd o'n blaenau ar hyn o bryd ond mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'w llwybr. Mae'r brechlynnau yn erbyn y coronafeirws yn cael eu dosbarthu'n gyflym fel rhan o ymateb sydd ymhlith y gorau yn y byd yn erbyn y pandemig ofnadwy hwn – pandemig sydd wedi effeithio ar ormod o deuluoedd dros y deuddeg mis diwethaf.  Wrth i ni ddod drwy'r pandemig, mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein hymdrechion i drechu tlodi tanwydd hefyd yn cefnogi adferiad economaidd glân, gwyrdd a chynaliadwy, er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau i ddatgarboneiddio tai yng Nghymru wrth i ni symud tuag at gyflawni sefyllfa sero-net erbyn 2050. Mae gan ein cartrefi ddiben llawer amlycach yn ein bywydau ers dechrau'r pandemig. Yr her yn y byrdymor yw sicrhau ein bod yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd talu'r costau sy'n gysylltiedig â byw mewn cartref diogel a chyfforddus, gan ofalu ar yr un pryd nad ydym yn anghofio am ein huchelgeisiau tymor hwy. 

Lesley Griffiths AC/AM

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyflwyniad

  1. Dylid darllen y cynllun hwn ar y cyd â'r adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r asesiad effaith integredig a gyhoeddwyd i ategu'r cynllun hwn.
     
  2. Mae'r cynllun yn pennu targedau ar gyfer trechu tlodi tanwydd, ynghyd â deg o gamau gweithredu byrdymor i'w cyflawni gan Lywodraeth Cymru, ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, dros y ddwy flynedd nesaf.
     
  3. Cynhelir adolygiad o'r camau gweithredu fel rhan o adolygiad ac adroddiad eilflwydd Llywodraeth Cymru ar dlodi tanwydd. Cynhelir yr adolygiad cyntaf yn 2023.  Caiff y cynllun gweithredu ei ddiwygio fel y bo'n briodol, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

Diffiniad o dlodi tanwydd

4     At ddiben y cynllun hwn ac fel y'i diffinnir yn Neddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000, dylid ystyried bod aelwyd yn byw “mewn tlodi tanwydd” os yw aelod o'r aelwyd yn byw ar “incwm is” mewn cartref na ellir ei gadw'n “gynnes” am “gost resymol”.

Targedau

5.     Mae'n rhaid i'n cynllun trechu tlodi gynnwys targedau clir sy'n bodloni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000. Gallu cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar benderfynyddion ehangach tlodi tanwydd. Mae ein cynllun yn cynnwys targedau ystyrlon ond ymestynnol sy'n ystyried y gwersi a ddysgwyd dros y deng mlynedd diwethaf a'r sylwadau a gyflwynwyd i ni yn ystod yr ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd, a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

 

6.     Erbyn 2035:

  • Amcangyfrifir nad oes unrhyw aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus[1] cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;
     
  • Amcangyfrifir nad oes mwy na 5% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw adeg benodol cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol;
     
  • Bydd nifer yr aelwydydd sydd “mewn perygl” o fyw mewn tlodi tanwydd wedi mwy na haneru yn seiliedig ar amcangyfrif 2018[2]

 

7.     Caiff y tri tharged hyn eu defnyddio i benderfynu pa mor llwyddiannus y bu Llywodraeth Cymru o ran cyflawni'r amcan statudol.  Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith ymchwil pellach i dargedau interim a allai gael eu cyflwyno fel rhan o'r adolygiad cyfnodol cyntaf yn 2023.

Rhoi'r cynllun ar waith: sut y gallwn  gyflawni ein hamcan

8. Er mwyn cyflawni ein hamcan o leihau tlodi tanwydd ymhellach rhwng 2020 a 2035, byddwn yn cymryd camau gweithredu sy'n gysylltiedig â phedwar nod polisi sydd o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru:

Nod 1: Nodi

Mynd ati i nodi pobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd, er mwyn sicrhau y bydd y cymorth a roddir gennym o fudd i bobl sy'n byw ar incwm is.

Nod 2: Blaenoriaethau a diogelu

Gwaethaf eu Byd Gyntaf: Sicrhau bod pobl sydd â'r angen mwyaf yn cael y pecyn cymorth mwyaf priodol fel y gallant barhau i wresogi eu cartrefi bob amser.

Nod 3: Datgarboneiddio

Adeiledd yn gyntaf: Gwella effeithlonrwydd thermol ac ynni cartrefi incwm is yn y sector perchen-feddianwyr a'r sector rhentu preifat, gan lleihau biliau ynni a gollyngiadau carbon niweidiol

Nod 4: Dylanwadu

Defnyddio ein dylanwad er mwyn sicrhau bod Llywodraeth y DU, y Rheoleiddwyr Ynni a chwmnïau ynni yn rhoi ystyriaeth i bobl sy'n byw yng Nghymru ac yn diwallu eu hanghenion.

Diffiniadau   

9.     Incwm is – Mae adroddiad Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog[3] (HBAI) yn cyflwyno gwybodaeth am safonau byw yn y DU yn seiliedig ar fesurau sy'n ymwneud ag incwm y cartref. Darperir amcangyfrifon ar gyfer incwm cyfartalog, anghydraddoldeb incwm a nifer a chanran y bobl sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel. At ddiben y cynllun hwn, diffinnir incwm is fel llai na 60% o incwm cyfartalog canolrifol cymharol y cartref cyn costau tai, fel y'i cyhoeddir yn flynyddol yn adroddiad HBAI.
 

10.    System wresogi foddhaol – ”system wresogi foddhaol” yw 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd â phobl hŷn neu anabl. Ar gyfer aelwydydd eraill, ystyrir bod tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr o bob 24 awr yn ystod yr wythnos, ac 16 awr o bob 24 awr ar benwythnosau yn foddhaol[4]. Fodd bynnag, bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu cyngor i benderfynu a yw'r diffiniad cyfredol yn briodol er mwyn sicrhau y gellir cadw pobl yn gyfforddus ac yn dddiogel.

 

11.     Aelwyd agored i niwed yw aelwyd sy'n cynnwys

  • person 60 oed[5] neu drosodd,
  • a/neu blentyn neu blant dibynnol o dan 16 oed,
  • person sengl o dan 25 oed,
  • person sy'n byw gyda salwch hirdymor neu sy'n anabl.

12.     Tlodi tanwydd difrifol – Aelwydydd y mae angen iddynt dalu mwy nag 20% o incwm llawn y cartref er mwyn cynnal system wresogi foddhaol.

13.     Tlodi tanwydd – Aelwydydd y mae angen iddynt dalu mwy na 10% o incwm llawn y cartref er mwyn cynnal system wresogi foddhaol.

14.     Mewn perygl o dlodi tanwydd – Aelwydydd y mae angen iddynt dalu mwy nag 8% ond llai na 10% o incwm llawn y cartref er mwyn cynnal system wresogi foddhaol.

15.     Tlodi tanwydd parhaus – Aelwydydd yr oedd angen iddynt dalu mwy na 10% o incwm llawn y cartref er mwyn cynnal system wresogi foddhaol am ddwy o'r tair blynedd flaenorol[6].

16.     Yng Nghymru, bydd lefelau amcangyfrifedig o dlodi tanwydd yn parhau i gael eu nodi yn seiliedig ar y diffiniadau uchod, gan ddefnyddio'r fethodoleg incwm llawn. Ystyr incwm llawn yw:

  • Incwm yr Uned Budd-daliadau Sylfaenol (PBU), sydd yn cael ei gyrfio drwy adio incwm personol pawb yn yr aelwyd (16 oed a throsodd) at ei gilydd, ac ychwanegu unrhyw fudd-dal neu daliadau incwm eraill y mae'r aelwyd yn eu cael (o incwm a enillir, budd-daliadau'r wladwriaeth, cynilion ac ati).
  • Incwm o budd daliadau eraill
  • Budd-daliadau Taliad Tanwydd Gaeaf, os yw'n gymwys,
  • Incwm sy'n gysylltiedig â thai, gan gynnwys budd-daliadau tai a Budd-dal Treth Gyngor. Caiff unrhyw Dreth Gyngor sy'n daladwy ei didynnu ohono.   Dyma ‘Incwm llawn y cartref’.

17.     Bydd Llywodraeth Cymru yn nodi amcangyfrifon o dlodi tanwydd yn seiliedig hefyd ar Fesurau Incwm Isel Cost Uchel neu Incwm Isel Effeithlonrwydd Ynni Isel, sef y fethodoleg a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU. Bydd yr amcangyfrifon tlodi tanwydd a nodir gan Lywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys dadansoddiad o'r bwlch o ran tlodi tanwydd, neu ddyfnder tlodi tanwydd, sef y gwahaniaeth cyfartalog o ran cost sydd ei angen er mwyn i bobl dalu llai na 10% o'u hincwm ar gyfer eu costau ynni cartref.

18. Caiff amcangyfrifon o dlodi tanwydd eu paratoi a'u cyhoeddi ar gyfer pob aelwyd, a'u dadgyfuno i ddangos aelwydydd uwchlaw ac islaw'r trothwy incwm isel.

19.     Tystysgrifau Perfformiad Ynni Effeithlonrwydd Ynni – Y Weithdrefn Asesu Safonol (SAP) yw'r fethodoleg a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU i asesu a chymharu perfformiad ynni a pherfformiad amgylcheddol cartrefi. Ei nod yw cynnig asesiad cywir a dibynadwy o berfformiad ynni cartrefi. Mae'r broses asesu hon yn ategu mentrau polisi ynni ac amgylcheddol.  Rhoddir tystysgrifau perfformiad ynni i gartrefi yn seiliedig ar fethodoleg SAP.Bydd methodoleg SAP yn parhau i gael ei defnyddio ar gyfer Arolwg Cyflwr Tai Cymru ac ar gyfer pennu targedau effeithlonrwydd ynni domestig ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd.

20.     Oriau Cilowat (kWh) – Defnyddir awr cilowat (kWh) i fesur faint o ynni a ddefnyddir. Uned mesur ydyw sy'n nodi'r ynni a ddefnyddir os caiff dyfais 1,000 wat ei defnyddio am awr.  Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n anelu at drechu tlodi tanwydd drwy wella effeithlonrwydd ynni cartrefi, yn ceisio sicrhau gostyngiad o 21%[7], a heb fod yn llai na 15%[8], yn yr ynni sydd ei angen mewn cartrefi i gynnal system wresogi foddhaol. Mewn achosion lle ceir tystiolaeth o hunan-ddatgysylltu neu hunan-ddogni ynni, caiff gwelliannau eu mesur yn erbyn lefelau defnydd nodweddiadol wedi'u modelu ar gyfer yr aelwyd sy'n fuddiolwr.

[1] Ystyr tlodi tanwydd parhaus yw bod yn dlawd o ran tanwydd am ddwy o'r tair blynedd flaenorol

[2] Amcangyfrif o 144,504 o aelwydydd mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru, yn gwario rhwng 8% a 10% o incwm y cartref ar gostau tanwydd. Mae hyn yn cyfateb i 11% o aelwydydd yng Nghymru.

[3] https://www.gov.uk/government/statistics/households-below-average-income-199495-to-201819

[4] Fel yr argymhellwyd yn “Understanding the characteristics of low income households most at risk from living in a cold home” a gyhoeddwyd 11 Gorffennaf 2016 SRN/41/2016

[5] Diffinnir person 60 oed neu drosodd fel person hŷn at ddiben y cynllun hwn

[6] Yn ôl y Comisiwn Metrigau Cymdeithasol, tlodi parhaus yw bod yn dlawd am ddwy o'r tair blynedd ddiwethaf.  

[7] https://www.theccc.org.uk/wp-content/uploads/2019/05/Net-Zero-Technical-report-CCC.pdf – tudalen 79

[8] Yn seiliedig ar argymhelliad yn adroddiad UKCCC Homes Fit for the Future? Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019

Trechu tlodi tanwydd: camau gweithredu â blaenoriaeth ar gyfer 2021 hyd at 2023

Cam gweithredu

Disgrifiad

Pryd

Nodau Polisi

Rhaglen cartrefi clyd   

1 Parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni cartref a chyflawni'r gwelliannau hynny er mwyn helpu aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fyw mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys drwy raglen Cartrefi Clyd. 

Parhaus 

Mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2023

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio
2 Ymgynghori ar drefniadau diwygiedig ar gyfer cyflwyno mesurau i drechu tlodi tanwydd y tu hwnt i fis Mawrth 2023. Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno'r mesurau gan gynnwys: 
  
  • Yr amcanion polisi i'w cyflawni drwy fuddsoddiad parhaus mewn gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni cartref, fel cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio tai, twf glân, llesiant a thlodi tanwydd 
  • Diwygiadau arfaethedig i Reoliadau Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 
  • Y ffactorau llwyddiant hanfodol a ddefnyddir i ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol (CCERA [9]  – Argymhelliad 7) 
  • Cynigion ar gyfer diwygio'r meini prawf a ddefnyddir i nodi cymhwysedd i gael cymorth, gan gynnwys cyflyrau iechyd ac incwm is  (CCERA – Argymhelliad 10)
  • Mesurau effeithlonrwydd ynni cartref a gwaith galluogi i'w cynnwys o fewn cwmpas cynlluniau i wella effeithlonrwydd ynni cartref, gan gynnwys dull egwyddorol o arloesi 
  • Lefel y cymorth ariannol a gynigir i fuddiolwyr y rhaglen, yn enwedig deiliaid tai sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru (CCERA – Argymhelliad 18) 
  • Gwelliant parhaus i dechnegau sicrhau ansawdd mewn perthynas â gwaith ôl-osod tai er mwyn rhoi sicrwydd i ddeiliaid tai bod y gwaith yn cyrraedd y safonau uchaf (PAS2035/2030) 

Cynllun blwyddyn 1 

Mis Mehefin 2021 i fis Rhagfyr 2021

Blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio
Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar Effeithlonrwydd Ynni Cartref, cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad a rhoi ein canfyddiadau ar waith o fis Ebrill 2023

Cynllun blwyddyn 2 

Mis Mawrth 2022 i fis Mawrth 2023

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio

Gwasanaethau cyngor a chymorth effeithlonrwydd ynni domestig

3

Yn seiliedig ar ganlyniad ein prosiect peilot cyngor a chymorth (CCERA – Argymhelliad 13)  a gyhoeddwyd ym mis Medi 2020, byddwn yn ymgynghori ar Wasanaethau Cyngor a Chymorth Ynni Domestig. Bydd y trefniadau hyn yn helpu pobl i arbed arian a lleihau'r ynni a ddefnyddir ganddynt drwy: 

  • Sicrhau bargen ynni well
  • Sicrhau eu bod yn cael popeth y mae ganddynt yr hawl i'w gael gan Lywodraeth y DU neu gwmnïau ynni
  • Mabwysiadu technolegau newydd fel mesuryddion deallus
  • Symud i ffwrdd oddi wrth fesuryddion rhagdalu
  • Gwneud cais am fesurau effeithlonrwydd ynni cartref

Cynllun blwyddyn 1

Mis Mehefin 2021 i fis Rhagfyr 2021

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio
Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar Wasanaethau Cyngor a Chymorth Ynni Domestig, byddwn yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad ac yn rhoi ein canfyddiadau ar waith o fis Ebrill 2023

Cynllun blwyddyn 2 

Mis Mawrth 2022 i fis Mawrth 2023

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio
4

Paratoi, cyhoeddi ac adolygu'n barhaus gynllun i wella cydnerthedd yn ystod y gaeaf ar gyfer pobl sy'n ei chael hi'n anodd talu am eu hanghenion tanwydd domestig ac sydd mewn perygl o gael salwch y gellir ei osgoi neu farw'n gynamserol am eu bod yn byw mewn cartref oer. Bydd y cynllun yn disgrifio'r trefniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i wneud y canlynol: 

  • Helpu aelwydydd incwm is i dalu cost mân atgyweiriadau i foeleri gwres canolog yn ystod yr hydref a'r gaeaf 
  • Gwneud taliadau brys er mwyn galluogi aelwydydd incwm is i ychwanegu arian at fesuryddion rhagdalu, gan osgoi effeithiau negyddol hunan-ddogni a hunan-ddatgysylltu ynni 
  • Helpu perchen-feddianwyr sy'n byw mewn tlodi tanwydd i wneud mân atgyweiriadau neu waith galluogi i'w cartref er mwyn cynnal neu wella effeithlonrwydd ynni (CCERA – Argymhelliad 11)  

Cynllun blwyddyn 1 

Medi 2021

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, datgarboneiddio

Monitro, gwerthuso ac adrodd

5 Mewn ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori gweinyddol ar dlodi tanwydd i fonitro ac adolygu hynt y camau a gymerir i drechu tlodi tanwydd yng Nghymru (CCERA – Argymhelliad 4) 

Cynllun blwyddyn 1

Mehefin 2021

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu
Paratoi a chyhoeddi data ar ynni domestig yng Nghymru yn flynyddol er mwyn ein helpu ni a'n partneriaid i ganolbwyntio ar y cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf o fyw mewn tlodi tanwydd (CCERA – Argymhelliad 8) 

Cynllun blwyddyn 2 

Gorffennaf 2022

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu
7 Cyhoeddi adolygiad eilflwydd o berfformiad tuag at gyflawni ein hamcanion ar gyfer 2035, a fydd yn cynnwys cyhoeddi amcangyfrifon o dlodi tanwydd ar gyfer Cymru (CCERA – Argymhelliad 4) 

Cynllun blwyddyn 2 

Gorffennaf 2022

Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu

Gweithio gyda'n partneriaid 

Annog Llywodraeth y DU, y Rheoleiddiwr Ynni a chyflenwyr ynni i sicrhau bod llai o orddibyniaeth ar osod mesuryddion rhagdalu fel dull o adennill ôl-ddyledion sy'n arwain at hunan-ddogni a hunan-ddatgysylltu  Parhaus  Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu
 Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu
9    Cefnogi'r broses o roi fframwaith mesuryddion deallus ar waith erbyn 2024 (CCERA – Argymhelliad 15) 
Parhaus  Nodi, blaenoriaethu a diogelu, dylanwadu
10 Cefnogi'r broses o ddatblygu a gweithredu cynllun Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni a mentrau eraill Llywodraeth y DU mewn perthynas â Chymru (CCERA – Argymhelliad 14)  Parhaus  Dylanwadu, datgarboneiddio

[9] Ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i Dlodi Tanwydd a gyhoeddwyd 24 Ebrill 2020

Rhestr termau

BRE                                        Sefydliad Ymchwil Adeiladu

DAF                                        Cronfa Cymorth Dewisol

ECO                                       Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni

EPC                                        Tystysgrif Perfformiad Ynni

EUP                                        Cynhyrchion sy'n Defnyddio Ynni 

EWI                                        Inswleiddio Waliau Allanol

HBAI                                       Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog

KWh                                       Oriau Cilowat

LHA                                        Awdurdod Tai Lleol

LIHC                                       Incwm Isel Cost Uchel

LILEE                                     Incwm Isel Effeithlonrwydd Ynni Isel

LSVT                                      Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr

MRA                                       Lwfans Atgyweiriadau Mawr

PAS                                        Manyleb sydd ar gael i'r Cyhoedd (PAS2035/2030) 

PRS                                        Sector Rhentu Preifat

RdSAP                                   Gweithdrefn Asesu Safonol Data Gostyngol

RSL                                        Landlord Cymdeithasol Cofrestredig

SAC                                        Swyddfa Archwilio Cymru 

SAP                                        Gweithdrefn Asesu Safonol

SATC                                     Safonau Ansawdd Tai Cymru

SBRI                                       Menter Ymchwil Busnesau Bach

SMC                                       Comisiwn Metrigau Cymdeithasol

UKCCC                                  Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar Newid Hinsawdd

WHCS                                    Arolwg Cyflwr Tai Cymru

WHD                                      Gostyngiad Cartrefi Clyd

WHP                                       Rhaglen Cartrefi Clyd