Mae 12.5 awr o ofal plant Dechrau'n Deg yn cael ei gyflwyno'n raddol i bob plentyn 2 oed ledled Cymru, gan ddechrau yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Mae teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig a chanddynt blant sy'n iau na 4 oed yn cael cymorth ychwanegol:
- gofal plant rhan-amser (12.5 awr yr wythnos) o ansawdd dda am ddim ar gyfer plant 2 oed.
- gwasanaeth estynedig gan ymwelwyr iechyd
- mynediad at gymorth rhianta
- cymorth ar gyfer datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu
Gwiriwch os gallwch gael help trwy gysylltu â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth Teulu.
