Gwybodaeth rydym yn ei darparu fel mater o drefn fel bod pobl yn gallu deall pwy ydym, beth rydym yn ei wario a beth rydym yn ei gyflawni.
Cynnwys
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Ailddefnydd o Wybodaeth Sector Cyhoeddus 2015 yn annog awdurdodau cyhoeddus i fod yn rhagweithiol yn y modd y maent yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i’r cyhoedd.
O dan y ddeddf, mae’n ofynnol i ni fabwysiadu cynllun cyhoeddi sy’n cynnwys gwybodaeth rydym yn ei darparu’n rheolaidd. Rydym yn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn unol â’r cynllun. Mae'r wybodaeth wedi ei threfnu mewn ‘dosbarthiadau o wybodaeth’ fel a ganlyn.
1. Pwy ydym ni a beth a wnawn: gwybodaeth am y sefydliad, strwythurau, lleoliadau a chysylltiadau
2. Beth a wariwn a sut yr ydym yn ei wario: gwybodaeth ariannol am incwm a gwariant amcan estynedig a gwirioneddol, caffael, contractau ac archwiliad ariannol
Cyfrifon Cyfunol Blynyddol Llywodraeth Cymru
Cyhoeddi gwariant dros £25,000
Treuliau'r Ysgrifennydd Parhaol ac aelodau’r Bwrdd
Cyflogau, treuliau, buddiannau ariannol a safonau
Lwfansau Aelodau (Senedd Cymru)
Recriwtio a Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil
Datganiad Ysgrifenedig ar Gynghorwyr Arbennig
Datganiad polisi caffael Cymru
Contractau Dysgu Seiliedig ar Waith (WBL) 2015 i 2019
Contract gwasanaethau meddygol cyffredinol: Fframwaith ansawdd a chanlyniadau
3. Ein blaenoriaethau a sut yr ydym yn dod yn ein blaenau: strategaethau a chynlluniau, dangosyddion perfformiad, archwiliadau, arolygiadau ac adolygiadau
4. Sut rydym yn gwneud penderfyniadau: prosesau penderfynu a chofnod o benderfyniadau
5. Ein polisïau a’n gweithdrefnau: protocolau ysgrifenedig cyfredol, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cyflawni gwasanaethau a chyfrifoldebau
6. Rhestri a chofrestri
7. Y gwasanaethau a chynigwn
Mae Cylchlythyrau i’w chael o dan ardal Pynciau o’r wefan.
Taflenni, llyfrynnau a chylchlythyrau
Cyngor a Chyfarwyddid
Datganiad i’r wasg
Dosbarthiadau eraill
Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yw:
- bod yn dryloyw yn y ffordd rydym yn gweithredu
- gweithio at gyhoeddi data lle mae’n bosib yn ddiofyn
- cyhoeddi data yn ôl egwyddorion data cyhoeddus
- sicrhau bod ein setiau data ar gael, ac mewn fformat lle y gellir ei hailddefnyddio, lle mae hyn yn rhesymol ac ymarferol
- adolygu ein data er mwyn archwilio a gwella swm ac amlder y data sy’n cael ei rhyddhau i’r cyhoedd
- cysylltu’r holl setiau data sydd wedi ei gyhoeddi ar data.gov.uk ac StatsCymru
Ni fyddwn fel arfer yn cyhoeddi gwybodaeth lle:
- wedi’i gwarchod rhag cael ei datgelu
- ar ffurf ddrafft
- ddim ar gael yn hawdd bellach
Mae’r holl gynnwys ar gael drwy Drwydded Llywodraeth Agored v3.0, oni bai y nodir yn wahanol.
Gofyn am wybodaeth, rhoi adborth a rhagor o wybodaeth
Rydym yn sicrhau bod swm sylweddol o wybodaeth ar gael drwy ein cynllun. Manteision hyn yw bod y wybodaeth i’w chael yn hawdd ac yn ddi-dâl. Mae hyn yn golygu, mewn nifer o achosion, y bydd yr wybodaeth rydych am ei chael eisoes ar gael ac ni fydd angen ichi wneud cais ffurfiol o dan y Ddeddf.
Cewch wneud cais am wybodaeth drwy e-bost gan gynnwys y geiriau ‘Cynllun Cyhoeddi’ yn y testun. Nid chodir tâl am wybodaeth a ddarperir yn electronig.
Efallai y bydd angen codi tâl os gwnewch gais am gopi caled o’r wybodaeth sydd ar ein gwefan. Caiff pob cais ei ystyried yn unigol. Er enghraifft, os fydd angen llawer o lungopïo, neu os yw cost cludiant yn uchel iawn oherwydd bod llawer iawn o waith papur.
Bydd y rhan fwyaf o’r wybodaeth yn ein cynllun yn gyfredol. Er hynny, ar gyfer dosbarthiadau penodol o wybodaeth, efallai y bydd angen cyhoeddi’r wybodaeth yn ddiweddarach.
Nid fydd yr wybodaeth ar gael drwy’r cynllun cyhoeddi am gyfnod amhenodol. Rydym yn ymroddedig i ddarparu i’r cyhoeddi cymaint o wybodaeth â phosibl i’r cyhoedd. Mae yn bwysig fod y wybodaeth ai ddarparwn yn berthnasol ac yn gyfredol.
Rydym yn croesawi eich adborth ar ein cynnydd a’ch awgrymiadau am ddata y byddech yn dymuno eu cael.
Cewch hefyd wneud unrhyw sylwadau ar setiau data penodol ar data.gov.uk ac StatsCymru. Mae y Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn annog awdurdodau cyhoeddus i fod yn rhagweithiol yn y modd y maent yn sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i’r cyhoedd.
Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy y Dîm Cyhoeddiadau’r Ganolfan Cyswllt Cyntaf fel a ganlyn:
Drwy e-bost
cymorth@llyw.cymru
Dros y ffôn:
0300 060 4400
Rhif ymholiadau rhyngwladol: (+44) 1443 845500
Drwy’r Post:
Y Ganolfan Cyswllt Cyntaf
Tîm Cyhoeddiadau
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ