Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw'r aelodaeth yn dibynnu'n llwyr ar gyfrifoldebau gweithredol; y nod yw darparu cyngor a chymorth cytbwys i'r Ysgrifennydd Parhaol ac arweiniad ar y cyd i'r sefydliad cyfan.

Penodir Aelodau’r Bwrdd gan, ac yn ôl disgresiwn, yr Ysgrifennydd Parhaol.

Andrew Goodall

Ysgrifennydd Parhaol

Cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru, a hynny ers mis Mehefin 2014.

Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr yn y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd y bu ynddi ers dechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu'r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd.

Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau.

Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.

Gareth Lynn

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae Gareth yn weithiwr proffesiynol ym maes cyllid a busnes gyda thros 33 o flynyddoedd o brofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Cwblhaodd ei hyfforddiant cyfrifyddiaeth ffurfiol gydag Ernst & Young ac yn 1990 dechreuodd ei fusnes ei hun gyda chydweithwyr. Tyfodd y busnes gwasanaethau proffesiynol yn un o wasanaethau proffesiynol arweiniol Cymru ac yn Ebrill 2017 cafodd y cwmni ei gaffael gan Cogital Group, sef y grŵp gwasanaethau proffesiynol â'r twf cyflymaf yn y DU.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau ariannol, busnes a masnachol i'r sector preifat mae Gareth wedi gweithio ers llawer o flynyddoedd gyda nifer o gyrff hyd braich y sector cyhoeddus yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau archwilio mewnol, cyngor i ymgyngoriaethau a hyfforddiant rheoli risg.

Mae gan Gareth brofiad helaeth ym maes llywodraethu corfforaethol ac ar lefel bwrdd a bu ganddo sawl rôl gynghorol annibynnol, gan gynnwys cadeirio'r Pwyllgorau Archwilio a Risg, ar gyfer cyrff pwysig yn genedlaethol ac yn strategol gan gynnwys yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.

Mae ei rolau presennol yn cynnwys Cadeirydd Annibynnol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Spindogs Ltd (un o asiantaethau digidol gwasanaethau llawn arweiniol Cymru) ac ymgynghorydd i Baldwins Accountants, rhan o'r Cogital Group.

Aled Edwards

Cyfarwyddwr Anweithredol

Cafodd Aled Edwards ei fagu yn Nhrawsfynydd, Gwynedd. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1977, cwblhaodd ei hyfforddiant diwinyddol yng Ngholeg y Drindod, Bryste. Yn ddiweddarach penodwyd Aled yn Aelod o Bwyllgor Gweithredol Confensiwn Cymru Gyfan ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol (2008-09) a gwasanaethodd fel cynghorydd ar faterion datganoli ar y Comisiwn ar Fesur Hawliau'r DU a gyhoeddodd ei adroddiad yn 2012.

Mae Aled hefyd wedi gweithio'n helaeth ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol. Ar ôl gwasanaethu fel aelod o Bwyllgor Cynghori Cyfleoedd Cyfartal Cymru, fe'i penodwyd yn Gomisiynydd Cymru ar y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol (2006-07). Gwasanaethodd fel aelod o Bwyllgor statudol Cymru i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2007-2017) gan weithio fel cynrychiolydd Cymru ar Bwyllgor Anabledd statudol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Yn 2006, cafodd OBE am ei wasanaethau elusennol yng Nghymru a dyfarnwyd Gwobr Cydnabod Cyflawniad Llywodraeth Cynulliad Cymru iddo am wasanaethau i gysylltiadau cymunedol yng Nghymru yn 2010.

Carys Williams

Cyfarwyddwr Anweithredol

Am y rhan fwyaf o’i gyrfa broffesiynol, mae Carys wedi bod yn Uwch Weithredwr mewn gwasanaethau ariannol, gan weithio i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, Grŵp Bancio Lloyds a KPMG. Yn arbenigo mewn Strategaeth a Thrawsnewid Diwylliant, mae ei phrofiad yn cynnwys rheoli risg, llunio’r gweithlu ac arweinyddiaeth weithredol mewn amgylcheddau a reoleiddir ac sy’n destun craffu cyhoeddus.

Ar hyn o bryd mae Carys Williams yn Aelod Lleyg o Bwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin, yn Gadeirydd Age UK Dwyrain Sussex, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth Gofal Iechyd IBAS a Dwyrain Sussex.

Mike Usher

Cyfarwyddwr Anweithredol

Fe wnaeth Mike Usher ymddeol o Archwilio Cymru yn 2020. Yno, roedd yn aelod o’r Tîm Arwain Gweithredol ac yn arweinydd strategol ar gyfer gwaith archwilio allanol cyllid a gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredinol ar draws llywodraeth ganolog a GIG Cymru. Roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil, gyda chyfrifoldeb am archwilio pryderon a godwyd gan Aelodau’r Senedd, Aelodau Seneddol a’r cyhoedd ynghylch gwasanaethau cyhoeddus. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru ar ei sefydlu yn 2005, roedd Mike yn Gyfarwyddwr y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Mae Mike yn ymgynghorydd rheoli profiadol, yn fentor ac yn gyfarwyddwr anweithredol gydag arbenigedd penodol mewn llywodraethu corfforaethol, rheoli risg, newid diwylliant mewn sefydliadau, strategaeth ariannol ac ymddygiad priodol busnesau cyhoeddus. Yn flaenorol, gwasanaethodd fel Ymddiriedolwr y Sefydliad Ymchwil Canser yn Llundain, lle roedd hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

Yn ogystal â’i gyfrifoldebau yn Llywodraeth Cymru, mae Mike ar hyn o bryd yn aelod Bwrdd anweithredol ac yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn sefydliad Cartrefi Dinas Casnewydd. Mae Mike hefyd yn gwasanaethu ar y Panel Ymgynghorol a’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Amelia John

Cyfarwyddwr Dros Dro - Cymunedau a Threchu Tlodi

Cafodd Amelia ei phenodi'n Hyrwyddwr Cydraddoldeb Bwrdd Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2023. Ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2011 ac mae ganddi gefndir yn y gyfraith, cydraddoldeb, hawliau dynol, polisi cymunedau a thai. Cyn hynny, bu Amelia yn gweithio yn y Comisiwn Hawliau Anabledd a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.  A chyn hynny, roedd yn gyfreithiwr mewn practis preifat ac mewn canolfan gyfreithiol gymunedol.

Ar hyn o bryd mae Amelia yn Gyfarwyddwr Dros Dro i’r Grŵp Cymunedau a Threchu Tlodi. Mae hi wedi dal nifer o swyddi yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys bod yn Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Tim Moss

Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredu

Fel Prif Swyddog Gweithredu a Rheolwr Cyffredinol Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) y DU yn flaenorol, mae Tim wedi cael gyrfa 30 mlynedd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Cyn ymuno ag IPO, ef oedd Prif Weithredwr Tŷ'r Cwmnïau lle'r oedd ei rolau'n cynnwys arwain ar yr agenda ddigidol, darpariaeth weithredol, strategaeth fusnes, a pholisi corfforaethol. Mae ei yrfa hefyd yn cynnwys 12 mlynedd mewn rolau gweithredol uwch yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Dyfarnwyd CBE i Tim hefyd yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2016 am wasanaethau i'r economi a phobl Abertawe.

Gawain Evans

Cyfarwyddwr Cyllid

Cafodd Gawain ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyllid ym mis Hydref 2015, ar ôl treulio tair blynedd yn rôl dirprwy gyfarwyddwr rheolaeth ariannol. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yr Ysgrifennydd Parhaol ac uwch-swyddogion, i sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli a'i adrodd yn briodol ac nad yw'n mynd yn uwch na'r terfynau wedi'u cymeradwyo. Mae Gawain yn gweithio gyda Phennaeth Archwilio Mewnol i ddarparu cyngor i'r holl Swyddogion Cyfrifyddu ar reoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian ynghylch gweithgareddau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn glynu at y safonau uchaf o lywodraethu a rheoli risg. Gawain yw Pennaeth Proffesiwn i staff Cyllid a Chyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn aelod o'r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol sy'n cynghori Llywodraeth y DU ynglŷn â rhoi polisi cyfrifyddu ar waith, ac mae hefyd yn cadeirio Pwyllgor Archwilio Heddlu Dyfed Powys.

Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, bu Gawain yn gweithio yn y Weinyddiaeth Amddiffyn a hynny mewn amrywiaeth o feysydd. Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau yn Whitehall ac mewn Caffael Amddiffyniad; lle'r oedd yn bennaeth y timau cyllid ar gyfer y Carrier a'r Eurofighter ac yn gweithio o dan brif weithredwr ym myd diwydiant fel Cyfarwyddwr Cyllid y Carrier Alliance. Mae Gawain yn briod a chanddo un ferch.

Tracey Burke

Cyfarwyddwr Cyffredinol - Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Mae Tracey wedi ymwneud ag adfywio Cymru ac Iwerddon ers dros 20 mlynedd, a hynny yn Llywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU yn ogystal â gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.

Ganed Tracey yn y Sblot yng Nghaerdydd ac ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2006 o Awdurdod Datblygu Cymru. Ers hynny, bu gan Tracey swyddi mewn polisi economaidd a pholisi trafnidiaeth, yn ogystal â rôl strategol ehangach ar draws Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol.  Penodwyd Tracey i swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2017.

Andrew Slade

Cyfarwyddwr Cyffredinol - Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Dechreuodd Andrew yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol ym mis Ionawr 2018.

Cyn hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Arweiniol Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru, ac ar lefel gorfforaethol, ef oedd Pennaeth y Proffesiwn Polisi. Ymunodd Andrew â'r sefydliad yn 2012 lle gweithiodd i ddechrau ar raglenni'r UE ac yn ddiweddarach, fel Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Môr.

Cyn dod i Gymru, bu Andrew yn arwain y gwaith o sefydlu gwasanaeth datblygu gwledig cenedlaethol newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (Defra). Rhwng 2006 a 2011, gweithiodd yn Ne-orllewin Lloegr, yn gyntaf yn Swyddfa’r Llywodraeth fel Dirprwy Gyfarwyddwr Rhanbarthol yn gyfrifol am ddatblygu cynaliadwy, ac yna fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni a Phartneriaethau yn Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol De-orllewin Lloegr.

Roedd cefndir cynharach gyrfa Andrew yn Llywodraeth y DU (y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yna Defra) yn Llundain, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu mewn nifer o swyddi, gan gynnwys y Prif Ysgrifennydd Preifat i'r Ysgrifennydd Gwladol.

Mae Andrew yn dysgu Cymraeg.

Judith Paget

Cyfarwyddwr Cyffredinol - Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr, GIG Cymru

Penodwyd Judith dros dro i rôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi blaenoriaethau Gweinidogol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o fewn strwythurau’r Gwasanaeth Sifil, ac arweinyddiaeth a throsolwg o GIG Cymru.

Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd swydd flaenorol Judith. Ymunodd Judith â’r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau ar 1 Hydref 2009 ac yn ddiweddarach, daeth yn Brif Swyddog Gweithredu/Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol cyn iddi gael ei phenodi yn Brif Weithredwr ym mis Hydref 2014.

Mae Judith wedi gweithio yn y GIG ers 1980 ac mae hi wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gweithredol, cynllunio a chomisiynu yn nifer o gyrff y GIG ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru. Penodwyd Judith i’w rôl gyntaf fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Ebrill 2003. Mae gan Judith ddiddordeb brwd mewn gweithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus; gofal sylfaenol a datblygu cymunedol; gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth, datblygu staff a meithrin cysylltiadau â staff.

Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd i Judith yn 2012 ac ym mis Mehefin 2014 enillodd Wobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr –Cyfarwyddwr mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ym mis Mehefin 2019, dyfarnwyd CBE i Judith yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i gyflenwi a rheoli yn GIG Cymru.

David Richards

Cyfarwyddwr, Llywodraethu a Moeseg

Mae David Richards yn Gyfarwyddwr yn Llywodraeth Cymru. Ymunodd â'r Swyddfa Gymreig yn 1979 fel gwas sifil, gan weithio â chyfres o Weinidogion Cymru ar ystod o faterion polisi.

Bu'n Gyfarwyddwr Cyllid o 1996 hyd at 2006, ac yn rhan o'r uwch-dîm rheoli a weithiodd ar gyflwyno'r ddeddfwriaeth a'r trefniadau a oedd yn sail i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Arweiniodd y prosiect llwyddiannus i godi adeilad y Senedd, a bu'n arwain ar sefydlu corff archwilio ac Archwilydd Cyffredinol i Gymru sy’n gweithredu ar wahân i’r Llywodraeth. Bu hefyd yn arwain adolygiad Wanless o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Yn fwy diweddar mae David wedi bod yn rhan o ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac wedyn yn Gyfarwyddwr Buddsoddi Strategol, gan edrych ar sut y gallai'r sector cyhoeddus ddefnyddio mwy o ddulliau cyllido arloesol i wella'r seilwaith cyhoeddus. Ei rôl bresennol yw Cyfarwyddwr Llywodraethu, ac yn rhinwedd y rôl honno mae’n rhoi sicrwydd i'r Ysgrifennydd Parhaol am yr holl faterion Llywodraethu ar draws Llywodraeth Cymru.

Bu David hefyd yn cadeirio Bwrdd Llywio Swyddfa Eiddo Deallusol y DG am ddeng mlynedd hyd at fis Mawrth 2011.

Dom Houlihan

Cyfarwyddwr, Pobl a Lleoedd

Dom yw Cyfarwyddwr Pobl a Lleoedd, gan arwain cyfarwyddiaeth sy'n cynnwys Adnoddau Dynol, Ystadau, Diogelwch, Cyrff Cyhoeddus a'r Gwasanaeth Cyfieithu. Daeth Dom i Lywodraeth Cymru o Weinyddiaeth Tŷ'r Arglwyddi lle'r oedd yn Gyfarwyddwr Gweithredol ac yn aelod o'r bwrdd ar gyfer Adnoddau Dynol. Roedd yn gyfrifol am ystod o wasanaethau pobl ar draws Tŷ'r Arglwyddi yn ogystal â materion ehangach yn ymwneud â'r ddwy siambr. 

Cyn hynny, roedd Dom yn rhan o fwrdd gweithredol Swyddfa Eiddo Deallusol y DU yn rhinwedd ei swydd yn Gyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau (gan gwmpasu Adnoddau Dynol, Ystadau, Diogelwch a Llywodraethiant) . Yn ogystal, mae Dom wedi gweithio mewn amryw o swyddi Adnoddau Dynol ar draws y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chomisiwn y Senedd. Mae Dom yn Gymrawd Siartredig o'r CIPD ac yn byw gyda'i ŵr a'u mab ifanc yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn ddysgwr Cymraeg brwd.