Penodiadau cyhoeddus
Mae Penodiadau Cyhoeddus yn eich rhoi wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, gan lunio sut mae gwasanaethau hanfodol yn cael eu rhedeg a sut mae polisïau'n cael eu datblygu.
Rydym am i'n byrddau gynrychioli Cymru gyfan: mae gan wahanol gefndiroedd, sgiliau a phrofiadau bywyd le wrth y bwrdd.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o eistedd ar fwrdd i wneud cais. Yr hyn sydd bwysicaf yw eich gallu i gyfrannu, gwrando a helpu i wneud penderfyniadau gwell i Gymru.
