Swyddi gwag
Os ydych chi'n chwilio am yrfa newydd yna byddai swydd yn Llywodraeth Cymru yn lle gwych i ddechrau.
Mae gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil Cymru yn cynnig:
- cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru
- dysgu yn y swydd a chyfleoedd da i ddatblygu gyrfa
- oriau gweithio hyblyg a buddion cynhwysfawr.
Mae yna wahanol ffyrdd o ymuno â'r gwasanaeth sifil yng Nghymru.
Chwiliwch am swyddi
Ar gyfer contractau parhaol, tymor penodol, amser llawn neu ran-amser, chwiliwch am swyddi.
Ewch yn brentis
Fel prentis byddwch yn ennill cyflog wrth ichi hyfforddi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
Cynllun Llwybr Carlam i Raddedigion
Cynllun Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil i Raddedigion yw'r cynllun datblygu a hyfforddi i raddedigion.
Interniaethau
Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Cymrodoriaeth Windsor yn cynnig interniaeathau blwyddyn o hyd gyda thâl yn Llywodraeth Cymru ar gyfer unigolion sydd wedi graddio’n ddiweddar ac sy'n dod o gefndiroedd Du neu Asiaidd.
Mae Rhaglen Interniaethau Amrywiaeth yr Haf yn cynnig lleoliadau gwaith i is-raddedigion a graddedigion o wahanol gefndiroedd.
Bargyfreithwyr iau
Cyfle i fagu profiad cyfreithiol ymarferol nad yw’n ymwneud ag eiriolaeth mewn ystod o faterion cyfraith gyhoeddus a gweinyddol. Cysylltwch: LegalServices-CentralAdminTeamRequests@llyw.cymru
Cymhwystra
Os ydych yn ddisgybl 2nd (neu 3rd) sedd, neu'n aelod iau o'r bar ac heb eich penodi ar hyn o bryd i banel cwnsleriaid Iau y llywodraeth, rydych yn gymwys i wneud cais i gael eich cofrestru er mwyn cymryd rhan yn y cynllun uchod. Phrofiad blaenorol ym maes cyfraith gyhoeddus weinyddol nid yw yn offynol.
Cydraddoldeb
Mae ein polisi i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein busnes gan gynnwys penodiadau.
Croesawir ceisiadau gan unigolion beth bynnag fo’u hoedran, priodas (yn cynnwys cyfartal/un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth ryweddol, anabledd, hil, crefydd neu gred neu beichiogrwydd/mamolaeth
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn ein gweithlu, fel pobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl.
Rydym yn ymfalchïo bod yn gyflogwr o ddewis, sefydliad y mae pobl eisiau gweithio ac yn falch o weithio iddo. Am y rheswm hwn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.
Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth staff yn cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn Llywodraeth Cymru.
- Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS)
- Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN)
- PRISM (LGBT+)
- Rhwydwaith Menywod (Menywod Ynghyd)

Partneriaeth gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
- PCS
- Prospect
- FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
- cyflog
- telerau ac amodau
- polisïau a gweithdrefnau
- newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.