Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn pennu’r egwyddorion cydweithredu sy’n sylfaen i’r berthynas rhwng llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Memorandwm cyd-ddealltwriaeth a chytundebau atodol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 270 KB

PDF
Saesneg yn unig
270 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban yn gosod y telerau cyffredinol ar gyfer sut bydd y pedair llywodraeth yn cydweithio ar faterion sydd o fudd i bob un ohonynt.

Nid yw'r Memorandwm yn rhwymo mewn cyfraith. Mae'n nodi gweithdrefnau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau rhynglywodraethol.Mae hefyd yn cynnwys cytundebau cyffredinol (concordatiau) ar:

  • gyd-drefnu materion polisi mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd
  • cymorth ariannol ar gyfer diwydiant
  • cysylltiadau rhyngwladol

Mae'r memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn gymwys ar yr un telerau i Lywodraeth y DU a'r tair gweinyddiaeth ddatganoledig. Caiff ei ategu gan gyfres o goncordatau dwyochrog rhwng pob un o'r gweinyddiaethau datganoledig a'r adrannau unigol yn y DU.