Neidio i'r prif gynnwy

Mae dilyn gyrfa gyda Llywodraeth Cymru yn cynnig llawer o fuddion, gan gynnwys trefniadau gweithio hyblyg a chyfleoedd i hyfforddi.

Bandiau cyflog

LefelYstod cyflog
Band Tîm£27,302 i £29,291
Band Rheoli 3£30,754 i £34,997
Band Rheoli 2£37,111 i £45,378
Band Rheoli 1£47,675 i £56,445
Band Gweithredol 2£61,098 i £73,057
Band Gweithredol 1£76,715 i £88,023

Gwyliau

Mae gan weithwyr amser llawn hawl i 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol, yn ogystal â 11 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.

Hyfforddiant

Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod gan bob aelod o staff fynediad at gyfleoedd hyfforddi.

Gweithio hyblyg

Y tu allan i'r oriau'r craidd, mae ein staff yn rhydd i gyrraedd a gadael pan fyddant yn dewis. Rydym hefyd yn cynnig trefniadau gweithio yn ystod y tymor i staff sydd â chyfrifoldebau gofal plant.

Mae'r trefniadau gweithio hyblyg yn cynnwys:

  • 26 o wythnosau o absenoldeb mamolaeth gyda chyflog llawn
  • 15 o ddiwrnodau o absenoldeb rhiant gyda thâl
  • seibiannau gyrfa i astudio, teithio, neu wneud gwaith gwirfoddol.

Iechyd, diogelwch a lles

Mae gennym dimau Iechyd a Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol penodedig i roi cymorth i staff.

Undebau llafur

Mae 3 undeb llafur yn weithredol yn ein sefydliad: PCS, IPMS/Prospect a FDA.