Pwy sy'n cael ymgeisio?
nrhyw un yng Nghymru sy'n bodloni gofynion mynediad y brifysgol ar gyfer y brentisiaeth gradd. Fel rheol, mae hyn fel arfer yn golygu rhywun â chymwysterau ar Lefel 3 - sydd gyfwerth ag NVQ Lefel 3 neu basio 2 gymhwyster Safon Uwch - ar y fframwaith credydau a chymwysterau (FfCCh), ac/neu brofiad perthnasol o'r diwydiant. Gall y cyflogwr a'r brifysgol neu'r coleg sy'n cynnig y brentisiaeth gradd bennu pynciau a graddau penodol.
I ddechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen ichi:
- fod yn 16 oed neu'n hŷn - nid oes uchafswm oedran
- fod yn gweithio yng Nghymru 51% neu fwy o'r amser
- fod mewn swydd, neu gael eich recriwtio i swydd sy'n berthnasol i'r brentisiaeth
Gan gydweithio â'ch cyflogwr a phrifysgol yng Nghymru, byddwch chi'n cynllunio'r brentisiaeth gradd, boed hynny yn Gymraeg neu'n Saesneg. Drwy hynny, bydd modd teilwra'r brentisiaeth yn arbennig fel bod gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich swydd yn y presennol a'r dyfodol.
Bydd eich cyflogwr a'r brifysgol yn cytuno â chi ar y cymhwyster, ar y dulliau asesu ac ar y rhaglen waith.
Beth yw'r costau?
Ceir dwy gost yn gysylltiedig â phrentisiaeth gradd - costau eich cyflog a chostau ffioedd dysgu ar gyfer astudio addysg uwch. Eich cyflogwr sy'n talu'r gost gyntaf. Nid chi sy'n talu'r ail gost.
Llywodraeth Cymru sy'n talu costau'r ffioedd dysgu yn llawn.
Manteision prentisiaeth gradd
Developing your higher-level skills with industry-led degree apprenticeships can support you to succeed and innovate in your role.
Gall eich prentisiaeth gradd:
- Eich helpu i ennill wrth ddysgu, oherwydd bydd gennych swydd gyflogedig hyd ddiwedd eich cwrs.
- Arwain at gymhwyster lefel gradd a all hefyd gynnwys cymwysterau proffesiynol sy'n berthnasol i'r diwydiant.
- Eich galluogi i elwa ar gymorth parhaus ac wedi'i bersonoli gan gydweithwyr a staff addysgu sy'n brofiadol yn eu maes.
- Rhoi'r cyfle i gymhwyso'r hyn a ddysgwyd yn uniongyrchol i brosiectau byw yn y byd go iawn.
- Eich helpu i ddatblygu'r arbenigedd, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich gwaith.
- Cynnig ysgol o gyfleoedd i'ch helpu i wneud cynnydd yn eich gyrfa.
- Eich gwneud yn fwy cyflogadwy i gwmnïau yn y dyfodol a fydd yn gwerthfawrogi eich gwybodaeth a'ch profiad.
- Bod wedi'u cynllunio'n hyblyg i fodloni eich anghenion.
Cymorth a chefnogaeth
Os yw'r byd prentisiaethau yn newydd i chi, gallwch gael cymorth a chefnogaeth bellach drwy siarad yn uniongyrchol â'ch prifysgol leol.
Darllenwch restr lawn o brifysgolion a phrentisiaethau gradd ar wefan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Chwilio am swydd wag yn gysylltiedig â phrentisiaeth gradd
Bydd eich prifysgol leol yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am swyddi gwag presennol. Mewn rhai achosion, yn dibynnu ar natur y swydd, cewch hefyd wneud cais uniongyrchol i'r cyflogwr, neu chwilio am brentisiaeth drwy wasanaeth swyddi prentisiaeth Llywodraeth Cymru.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gyrsiau prifysgol, nid oes unrhyw amser penodol pan gaiff ymgeiswyr eu derbyn ar brentisiaeth gradd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio'n gyson, oherwydd gallai swyddi ddod i'r amlwg ar unrhyw bryd.