Neidio i'r prif gynnwy

“Prentisiaeth wedi rhoi ffocws newydd I mi ar ôl gorfod gwarchod yn ystod y pandemig”.

Mathew Clark

Dywed Mathew Clark, 20 oed, fod ei brentisiaeth wedi rhoi ffocws newydd iddo mewn bywyd ar ôl i’w ddyheadau gyrfa o ymuno â'r RAF gael eu chwalu oherwydd cyflwr meddygol.

I nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru 2022, mae'n annog Cymry ifanc eraill i barhau i ddilyn eu breuddwydion gyrfaol.

Roedd y Prentis Peiriannydd Traffig Awyr Lefel 2, sy'n gweithio ym Maes Awyr Gorllewin Cymru yng Ngheredigion, yn gwybod erioed ei fod eisiau gyrfa yn y diwydiant awyrennau.

“Fy nod oedd gweithio i'r RAF byth ers pan oeddwn i'n 10 oed. Roeddwn i'n gweithio'n galed yn yr ysgol, ond yn gwybod nad oeddwn am fynd i'r brifysgol ac eisiau ymuno â'r fyddin ar ôl gorffen ei arholiadau.

“Ond fe newidiodd pethau ar ôl cwblhau'r Safon Uwch, ac roeddwn ar fin dechrau hyfforddi pan es i'r ysbyty. Roedd angen i mi gael llawdriniaeth frys a olygai nad wyf bellach yn gallu ymuno â'r fyddin am resymau iechyd.

“Yn fuan wedyn, daeth y cyfnod clo cyntaf yn sgil pandemig y Coronafeirws. Roeddwn i'n dal i wella, a oedd yn golygu bod rhaid i mi warchod am chwe mis. Fel llanc 18 oed, ar fin dechrau ar yrfa gyffrous, roeddwn i'n teimlo mor ddigalon gan wybod na allwn adael pedair wal fy nghartref am fisoedd.

“Roedd y cyfnod clo yn anodd, ac fe ddirywiodd fy iechyd meddwl hefyd. Fe wnes i fynd o feddwl y gallwn gyflawni unrhyw beth i fod heb obaith o gwbl."

Gyda phrinder gyrwyr oherwydd y pandemig, gwnaeth Mathew gais am swydd gyda chwmni dosbarthu parseli.

“Bues i'n gweithio fel gyrrwr dosbarthu am chwe mis yn ystod yr ail gyfnod clo. Roeddwn i'n ddiolchgar am y cyfle, ond bob amser yn gwybod nad oedd yn mynd i fod yn swydd hirdymor.  

“Yna, fe welodd mam gyfle prentisiaeth gyda maes awyr lleol ar Facebook - synnais o weld bod cyfle unigryw o'r fath ar gael yn fy ardal leol, mewn diwydiant yr oeddwn wedi dyheu am weithio ynddo erioed. Fe wnes i gais amdano ar unwaith a bues i'n ddigon ffodus o gael y swydd.

Dechreuodd Mathew fwrw prentisiaeth gyda Maes Awyr Gorllewin Cymru, canolfan ar gyfer gweithrediadau system awyr di-griw yng Ngheredigion, ym mis Awst eleni.

“Fel Prentis Peiriannydd Traffig Awyr, dwi'n gyfrifol am gynnal a chadw'r offer arbenigol yn y tŵr rheoli, gan sicrhau bod systemau ar y safle yn rhedeg heb broblem a chwblhau gwiriadau dyddiol ar y system radio a'r orsaf dywydd i sicrhau eu bod nhw'n gywir. 

“Mae'r sgiliau a'r profiad rwy'n eu hennill yn eithaf arbenigol a dyna pam mae prentisiaeth yn llwybr gwych i'r diwydiant i mi. Chwe mis yn ddiweddarach, mae'r tîm eisoes yn ymddiried ynof i wneud rhai tasgau'n annibynnol a dwi hefyd yn gobeithio cwblhau cwrs pellach mewn cynnal a chadw offer.

“Nid swydd yn unig yw fy mhrentisiaeth, mae'n llwybr gyrfa cynaliadwy. Mae'r manteision yn ddiddiwedd – gallaf ddysgu gan weithwyr proffesiynol arbenigol a chael hyfforddiant ymarferol, i gyd wrth ennill cyflog. Mae gweithio mewn maes awyr yn eithaf cŵl a dwi'n teimlo llawn cyffro am fynd i'r gwaith wrth ddeffro yn y boreau. Beth arall sydd ei angen arnoch?”

Wrth edrych i'r dyfodol, mae Mathew yn cael ei gymell i barhau i ddatblygu ei hyfforddiant:

“Os bydda i'n pasio fy hyfforddiant, dwi'n sicr o gael swydd llawn amser ym Maes Awyr Gorllewin Cymru. Mae gwybod bod diogelwch a dilyniant yn y swydd yn fy ysgogi i barhau i weithio tuag at fy nghymhwyster.

“Fy nghyngor i unrhyw un sydd am roi hwb i'w gyrfa neu gael swydd newydd yw ei bod mor bwysig cadw'n bositif. Ar ôl deall na allwn i ymuno â'r fyddin, roedd fy nyheadau ar chwâl braidd, ond llwyddais i addasu a dilyn gyrfa fy mreuddwydion trwy fy mhrentisiaeth. Mae wedi hybu fy ngyrfa a rhoi ffocws i mi, gan ganiatáu i mi arbenigo ym maes electroneg yn y pen draw. Heb os, dwi'n argymell hwn fel llwybr gyrfa i bobl ifanc eraill.

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.