Neidio i'r prif gynnwy

Y "plentyn oedd yn byw a bod yn yr adran grefft" bellach yn ennill ei bara menyn yn trwsio awyrennau.

Megan Christie

Yn y gornel grefftau, dyna'r lle i ddod o hyd i'r prentis peirianneg, Megan Christie, pan oedd hi yn yr ysgol gynradd, . Ers hynny, mae ei hangerdd at ddefnyddio'i dwylo, sydd wedi bod ganddi ar hyd ei thaith academaidd, wedi cael cryn ddylanwad ar ei dewis o yrfa a  hyd yn oed wedi ei helpu i ennill gwobrau.

Bellach, a hithau yn 21 oed, mae gyrfa Megan wedi cychwyn o ddifrif gyda GE Aerospace Wales yn Nantgarw. Mae hi'n aelod o dîm sy'n trwsio, yn cynnal a chadw ac yn atgyweirio peiriannau awyrennau masnachol - ac mae hyn i gyd yn deillio o'i chwilfrydedd naturiol. Mae hi hefyd yn llysgennad prentisiaeth peirianneg.

Roedd Megan, sy'n byw yn Georgetown, Tredegar gyda'i mam, Trina, wastad yn brysur gyda'i dwylo:

"Ro'n i wastad yn dod â phethau adref o'r ysgol i fy mam, roeddwn i hyd yn oed wedi gwneud bag llaw o lanhawyr pibelli rhyw dro! Roeddwn i'n fyfyriwr da; wrth fy modd yn dysgu. Ond roeddwn hefyd yn mwynhau defnyddio fy nwylo. Roedd pawb yn tynnu coes yn fy nhŷ i - adeg y Nadolig byddai Jordan, fy mrawd hŷn, yn cael setiau Lego a Meccano. Byddai'n diflasu arnyn nhw ymhen dim, yn colli diddordeb ac yn mynd i chwarae gemau ar-lein gyda'i ffrindiau. Yna, fe fyddwn i'n cymryd y Lego a'r Meccano ac yn eu gorffen cyn Gŵyl San Steffan. 

"Roeddwn i wastad yn gwybod fy mod i eisiau swydd ymarferol, ac roedd yr athrawon yn Ysgol y Brenin Harri VIII yn y Fenni - yn gefnogol iawn. Roedden nhw'n gallu gweld fy mod yn cael fy nhynnu at bynciau STEM ac roeddent yn fy annog i ddilyn fy ngreddf a'r hyn yr oedd gen i angerdd amdano."

Aeth Megan ymlaen i gwblhau prentisiaeth mewn Peirianneg Awyrenegol yng Ngholeg y Cymoedd. Er nad yw'r gair 'cwblhau' yn gwneud cyfiawnder yn llwyr â llwyddiannau Megan. Derbyniodd Megan ragoriaeth ar gyfer pob un o'i 40 asesiadau ar y cwrs. Mae bellach yn astudio ar gyfer Gradd Peirianneg gyda Gradd Meistr Integredig mewn Peirianneg Dylunio (MEng) drwy'r Brifysgol Agored a fydd yn arwain at ei nod yn y pen draw o fod yn Beiriannydd Siartredig mewn peirianneg dylunio.

Yn ei rôl fel llysgennad prentisiaeth, mae'n siarad mewn ysgolion a cholegau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM ac yn mynychu ffeiriau gyrfa i hyrwyddo peirianneg fel gyrfa. Mae hi hefyd yn mentora prentisiaid newydd yn GE Aerospace Wales.

Dywedodd: 

"Er nad oedd gen i neb yn fy nheulu â chefndir yn y maes hwn, mae mam wedi bod yn ysbrydoliaeth aruthrol i mi. Hi fagodd fi a fy mrawd ar ei phen ei hun, am flynyddoedd lawer, ac mae fy mrawd bellach yn yr RAF. Mae hi wedi bod yn gefn i mi o hyd, ac yn gefnogol o'r hyn ro'n i am ei wneud. 

"Mae bod yn llysgennad wedi rhoi cyfleoedd i mi fod yn gefn i'r genhedlaeth nesaf o brentisiaid sy'n cael eu meithrin.  Uchafbwynt personol i mi oedd pan gefais wahoddiad i siarad â pheirianwyr yn fy hen goleg. Roedd yn hyfryd gweld lle dechreuais a'r hyn yr oeddwn wedi'  gyflawni ers gadael fy ngholeg.

"Mae'r cyfuniad o astudiaethau a dysgu ymarferol wedi gweithio mor dda i mi; allwn i ddim canmol y llwybr ddigon i unrhyw un sy'n ansicr o'u camau nesaf."

Mae Megan yn defnyddio ei phrofiad, sy'n cynyddu bob dydd, i wneud cyfraniad cadarnhaol at nod ei chyflogwr, sef atgyweirio peiriannau yn y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel posibl. Mae ei hymroddiad at ei gwaith wedi talu ar ei ganfed gan iddi ennill gwobr Ysbrydoli Sgiliau Cymru a medal arian fel rhan o dîm yn Rownd Derfynol WorldSkills UK yn 2022, a Gwobr Brentisiaeth yng Ngholeg y Cymoedd y llynedd. Roedd Megan hefyd ar y rhestr fer fel Prentis y Flwyddyn yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 a gynhaliwyd ym mis Mawrth.

Mae'r sgiliau a ddysgais i drwy weithio mewn amrywiol weithdai trwsio peiriannau awyrennau fel rhan o'm prentisiaeth wedi fy ngalluogi i ennill gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy y byddaf yn eu defnyddio am weddill fy ngyrfa, ac mae'r diolch i gyd i'r brentisiaeth." 

Dywedodd Jake Thomas, arweinydd prentisiaid GE Aerospace Wales: 

"Mae Megan yn brentis gwych ac yn esiampl anhygoel. Mae hi wedi chwalu'r ystrydeb mai dim ond i ddynion mae peirianneg trwy arwain y ffordd gydag ansawdd ei gwaith a'i hagwedd gadarnhaol."