Prentisiaethau: Stori Nooh
Prentis o butetown nad oedd wedi chwarae rygbi o’r blaen am weld mwy o gymunedau amrywiol yn chwarae’r gêm.
Mae’r prentis o Gaerdydd, Nooh Omar Ibrahim, am greu cymuned rygbi gynhwysol newydd yng Nghymru ar ôl syrthio mewn cariad â’r gêm yn ystod ei brentisiaeth.
Mae Nooh, o Gaerdydd, wedi dwlu ar chwaraeon erioed, ond cafodd ei hun ar faes rygbi yn annisgwyl ar ôl cael trafferth i ymdopi yn y coleg.
“Pan ro’n i’n meddwl am fy nghamau nesaf yn yr ysgol, cefais fy annog i fynd am swydd ym maes TG, busnes neu wyddoniaeth hyd yn oed, fel llawer o bobl eraill. Ond pan es i ymlaen i astudio’r pynciau hyn i Safon Uwch, daeth y cyfnod clo, ac fe gafodd hyn effaith fawr arna i. Fe gollais i ddau aelod o’r teulu ar yr un pryd, ac ro’n i’n cael trafferth i ganolbwyntio yn y coleg.
“Ro’n i mewn penbleth braidd a ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda fy mywyd; ro’n i angen ffocws newydd. Fe gymerais i flwyddyn i ffwrdd a wnaeth i mi gwestiynu beth ro’n i’n teimlo’n angerddol amdano. Dyna pryd y gwelais gyfle fel Prentis Datblygu Rygbi.
“Do’n i erioed wedi chwarae rygbi a do’n i ddim yn gwybod dim am y gêm. Yn tyfu i fyny yn Butetown ro’n i ond yn adnabod llond llaw o bobl a oedd yn deall unrhyw beth am rygbi. Ond dwi wrth fy modd yn cadw’n heini ac rwy’n egnïol iawn. Roedd ymgeisio am y cyfle y tu allan i’r hyn ro’n i’n gysurus yn ei wneud ond ro’n i’n barod am her newydd.”
Ar ôl cyflwyno ei gais am brentisiaeth gwahoddwyd Nooh i fynychu rhaglen cyn-dethol am ddeuddydd gyda phobl ifanc eraill o bob cwr o Gymru.
“Ro’n i ar y dyddiau dethol gyda phobl a oedd wedi bod yn chwarae rygbi ers pan roedden nhw’n 5 oed. Ro’n i’n teimlo o dan anfantais, felly roedd yn rhaid i mi wneud yn siŵr mod i’n dangos fy angerdd tuag at chwaraeon a hyfforddi, a pharodrwydd i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd. Ro’n i wrth fy modd pan wnaethon nhw gynnig y swydd i fi, ac fe ysgogodd hyn fi i weithio’n galed yn fy mhrentisiaeth.
Mae’r rhaglen 12 mis yn cynnig cymhwyster Datblygu Chwaraeon Lefel 3 a sgiliau newydd a phrofiad yn y swydd i brentisiaid fel Nooh.
Ers dechrau ei brentisiaeth dyw Nooh heb edrych yn ôl ac mae’n ystyried pa mor bell mae wedi dod dros y 12 mis diwethaf.
“Mae fy mhrentisiaeth wedi rhoi’r hyder i mi wybod beth dwi’n gallu ei gyflawni – ro’n i angen yr hwb hynny. Os ydych chi’n gweithio’n galed ac yn barod i ddysgu fe allwch chi gyflawni unrhyw beth. Edrychwch arna i, amser yma y llynedd do’n i ddim yn gwybod beth oedd ‘ryc’, a nawr dwi’n hyfforddwr cymwysedig, yn ddyfarnwr, ac yn gweithio tuag at sefydlu tîm rygbi llawn yn Grangetown a Butetown.
“I unrhyw berson ifanc sy’n meddwl am ei gamau nesaf, os oes unrhyw gyfle yn dod i’ch rhan, byddwch yn barod a manteisiwch arno. Mae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i droi fy mrwdfrydedd am chwaraeon yn yrfa ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd fy her nesaf.”
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.