Prentisiaethau: Stori Ellen
Prentis datblygu meddalwedd yn rhagori ar ddisgwyliadau rôl swydd ‘draddodiadol’.
Mae prentis TG uchelgeisiol wedi herio, a rhagori ar ddisgwyliadau’r rolau derbyniol sydd yn agored i ferched ym maes datblygu meddalwedd: diwydiant sydd, yn draddodiadol, yn un ble mae dynion yn dominyddu, ac mae hi’n awyddus i annog eraill i wneud yr un peth.
Roedd Ellen Briggs, 20, o Gaerdydd wedi bod â’i bryd ar ddilyn gyrfa mewn TG erioed, pwnc y mae’n teimlo’n angerddol amdano ers dyddiau ysgol, ond roedd yn nerfus am y cyfleoedd oedd ar agor iddi.
Dywedodd:
“Roeddwn i wrth fy modd gyda TG yn yr ysgol, roedd gen i athrawon gwych a ysbrydolodd fi i ddatblygu fy mrwdfrydedd dros y sector. Roeddwn i’n gwybod bod dysgu o fewn amgylchedd gwaith yn fy siwtio i’r dim, ac roeddwn yn awyddus i wneud fy astudiaethau a rhoi fy sgiliau ar waith ar yr un pryd.”
Manteision annisgwyl
“Cyn dechrau ar fy mhrentisiaeth, roeddwn yn swil ac ni fuaswn i byth wedi codi fy llaw i wneud unrhyw beth; roedd gen i ofn sefyll allan yn y dorf. Ond, ar ôl dim ond deg mis, rydw i wrthi’n gweithio tuag at ddyrchafiad. Mi fuaswn i’n dweud bod y cynnydd mewn hyder yn deillio o fedru treialu a phrofi fy sgiliau mewn sefyllfa go iawn. Wrth imi astudio datblygu meddalwedd yma yn CGI, mae fy rôl wedi esblygu, a bellach rwyf yn gweithio fel gweinyddwr newid busnes ac yn cael gweld sut mae ein technoleg yn gwneud bywydau yn haws a’r effaith go iawn mae’n ei chael. Rydw i’n defnyddio fy nealltwriaeth dechnegol o raglenni meddalwedd i helpu sefydliadau i adnabod a datrys amrywiaeth o broblemau TG, o brofi seiberddiogelwch i ddatblygu seilwaith.
“Mi fuaswn i’n annog unrhyw fyfyrwyr sydd yn derbyn eu canlyniadau eleni i ystyried prentisiaethau fel llwybr i yrfa lwyddiannus yn gwneud yr hyn rydych chi wrth eich bodd yn ei wneud.”
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.