Neidio i'r prif gynnwy

Daeth Manmeet i High Precision Wales am y tro cyntaf erioed ar brofiad gwaith. Erbyn hyn, mae wedi ennill gwobrau fel prentis ac yn cyflawni ei amcanion mewn gyrfa yn y Sector Peirianneg.

High Precision Wales

Mae Manmeet Singh, 19 oed o Tylorstown ym Mhontypridd wrthi'n astudio am ei NVQ lefel 3 mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol. Meddai:

“Fe wnes i brofiad gwaith yn High Precision Wales ac roeddwn i wrth fy modd fy mod i'n gwneud cymaint o'r gwaith cŵl. Mae'n anodd ond dw i'n mwynhau dysgu pethau newydd bob dydd a chael y cyfrifoldeb i roi cynnig ar bethau.” 

Mae llawer o brentisiaid yn symud ymlaen i gael swyddi llawn-amser yn y cwmni lle maent wedi gweithio fel prentis, ac mae amcanion Manmeet yn adlewyrchu hyn. Aeth yn ei flaen:

“Fy nghynllun yw gorffen fy mhrentisiaeth ac aros gyda’r cwmni, a’i helpu i gyrraedd ei nodau busnes.”

Ychwanegiad gwerthfawr

Yn gyn-brentis ei hun, dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Nicky Blake fod yna fwlch sgiliau ar gyfer peirianwyr cymwysedig yn y maes arbenigol maen nhw'n gweithio ynddo. 

Meddai Nicky, 50 oed o Gaerdydd:

Ar hyn o bryd rydym ni'n cyflogi dau brentis a chyn-brentis sydd wedi cymhwyso'n llawn ac sydd bellach yn rhedeg ei adran ei hun. Oherwydd ein bod ni'n gyflogwr mor arbenigol, dydych chi ddim yn dod o hyd i bobl sydd â'r sgiliau arbenigol hyn, felly dyma ni'n penderfynu cyflogi pobl ifanc sy'n awyddus i ddysgu a'u haddysgu nhw ein hunain. Trwy wneud hyn, rydym ni'n gallu eu hyfforddi mewn sgiliau penodol. Ein gwaith ni yw addysgu’r genhedlaeth iau a sicrhau bod ein crefft mewn dwylo diogel i’r dyfodol.

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.