Prentisiaethau: Stori Tiffany
Sut gwnaeth prentisiaeth ddatgloi drws i newid gyrfa mewn peirianneg.
Roedd Tiffany Evans yn gweithio mewn canolfan gyswllt pan sylweddolodd ei bod am newid gyrfa a bod yn beiriannydd.
Roedd y ferch 27 mlwydd oed o Gastell-nedd am ddysgu sgiliau newydd i ddatblygu ei gyrfa, fodd bynnag doedd hi ddim yn siŵr a fyddai hi’n gallu fforddio mynd yn ôl i fywyd myfyriwr.
Wedi siarad â’i chydweithwyr yn adran beirianneg ei chwmni, cafodd Tiffany wybod y gallai ddilyn gyrfa fel peiriannydd telegyfathrebu gyda Openreach drwy brentisiaeth: gan olygu y byddai modd iddi ddatblygu sgiliau newydd gan barhau i ennill cyflog.
Profi heb fethu
Dywedodd Tiffany:
“Roeddwn i’n gwybod mai prentisiaeth oedd y llwybr cywir i mi, ond doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth oedd gwaith peiriannydd o ddydd i ddydd. Cefais ambell sgwrs gyda rai o beirianwyr Openreach, gan ein bod ni’n gweithio yn yr un adeilad, ac fe ges i gynnig mynd ar ddiwrnod prawf i weld beth yn union oedd y gwaith.
“Drwy allu gweld y rhwydwaith telegyfathrebu llawn a gwaith amrywiol y peirianwyr, roeddwn i'n gallu penderfynu a fedrwn i weld fy hun yn gwneud y swydd amser llawn. Ac mi fedrwn. Mi wnes i fwynhau’n ofnadwy ac roeddwn i am ddysgu mwy, felly fe ddechreuais ar y broses o geisio am brentisiaeth.
Ar ôl cwblhau asesiadau ar-lein, cyfweliadau a mynd i ddiwrnod asesu, cafodd Tiffany wybod bod ei chais yn llwyddiannus.
Dywedodd:
“Mae Openreach yn cynnig lle i ryw 3,000 o brentisiaid bob blwyddyn, ond mae’n dal i fod yn gystadleuol iawn ac roeddwn i’n teimlo’n nerfus ynghylch beth wnawn i pe na bawn i’n llwyddiannus. Roeddwn i'n awyddus iawn i fanteisio ar y cyfle yma. Cefais wybod fy mod wedi cael lle ym mis Awst 2018 a dechrau’n fuan wedi hynny. Roedden ni’n treulio ein hamser rhwng y ganolfan hyfforddi ger Birmingham a’n hardaloedd lleol ein hunain. Cawsom ein rhoi mewn grwpiau o bobl o’r un ardal, oedd yn ddefnyddiol iawn am ein bod ni’n gallu rhannu straeon a helpu’n gilydd. Fe wnaethom ni ddysgu pob sgil ar wahân: er enghraifft, byddem ni’n treulio wythnos yn dysgu sut i weithio ar uchder yn y ganolfan hyfforddi, gan gymhwyso’r wybodaeth honno wrth weithio gartref. Roedd hyn yn golygu ein bod ni’n gallu canolbwyntio ar berffeithio pob sgil newydd a ddeall yn llawn sut i’w defnyddio mewn amgylchedd gwaith go iawn.”
O brentis i weithiwr amser llawn
Ers cwblhau ei phrentisiaeth y llynedd, mae Tiffany bellach yn gweithio’n amser llawn fel peiriannydd telegyfathrebu Openreach, ac yn rhoi’r sgiliau a ddysgodd yn ystod ei phrentisiaeth ar waith.
“Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd nawr, rydw i’n ymweld â chwsmeriaid ac yn trwsio namau neu’n gwella eu galluedd band eang. Mae fel gwneud pos, mae’n rhaid i chi ddod o hyd i’r nam mewn milltiroedd a milltiroedd o geblau ond dyna sy’n gwneud y gwaith yn ddiddorol - nid yw’r un diwrnod yr un fath. Pe bai'n rhaid imi roi cyngor i unrhyw un, dilyn eich greddf a gofyn cwestiynau fyddai hynny. Fyddwn i byth wedi cael y cyfle yma pe bawn i wedi anwybyddu’r teimlad bach yna oedd yn dweud nad oedd fy hen swydd yn iawn i mi.”
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.