Prentisiaethau: Stori John
Mae gan ddyn ifanc sydd â llygad craff am fanylion ac uchelgais gadarn i symud ymlaen trwy ei rôl mewn gweinyddiaeth neges i bawb sy'n dymuno dechrau eu gyrfa, 'byddwch yn hyderus yn eich gwaith'.

Fel cyflogwr mawr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn gwybod pa mor bwysig yw cael ystod eang o dalentau ymhlith ei staff. Mae'n annog pobl sy'n niwroamrywiol ac unigolion sy’n dysgu mewn ffyrdd gwahanol i wneud cais am rolau.
Mae John yn 18 oed, ac yn byw gyda'i fam yng Nghaerdydd. Mae John yn cofio ei flynyddoedd cynnar, ac yntau'n fachgen naturiol swil:
Roeddwn i'n lwcus iawn fy mod wedi mwynhau fy addysg. Roeddwn i'n hoffi ieithoedd, mathemateg a chwaraeon. Roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael cefnogaeth, roedd gen i gynorthwywyr addysgu da a oedd yn fy annog i ymuno â chlybiau ar ôl ysgol, ac i gymryd rhan mewn pêl-fasged a pŵl yn ystod amser cinio.
Wrth dyfu i fyny, roedd John yn ei chael hi'n anodd integreiddio â grwpiau o fewn neu y tu allan i'w ysgol a fyddai'n ei helpu i wneud ffrindiau ac roedd yn cael trafferth dod o hyd i bethau yr oedd yn teimlo'n angerddol amdanynt.
Fe wnes i ffrindiau yn yr ysgol breswyl ac er i ni golli cysylltiad am gyfnod, ar ôl i mi adael y coleg fe wnes i ailgysylltu â nhw ar Facebook. Ni'n cadw mewn cysylltiad nawr - dwi'n teimlo mod i wedi dod yn well am gadw mewn cysylltiad gyda phobl.
Wrth chwilio am swydd ar ôl y coleg, cofrestrodd John gyda gwasanaeth o'r enw Project Search i gael profiad a dod o hyd i waith.
Dywedodd:
Cefais interniaeth ac ar ôl chwe mis cefais gynnig swydd. Catherine oedd fy mentor, hi wnaeth fy nghynnig ar gyfer y swydd ac mae hi'n dal i fy helpu i symud ymlaen.
Fe aethon ni i ffair swyddi yng Ngwesty'r Hilton yng Nghaerdydd a chael sgwrs ag Emma o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Dywedodd wrtha i ei bod yn chwilio am brentisiaid a dywedodd y byddai ganddi ddiddordeb mewn gweithio gyda mi. Dechreuais fy mhrentisiaeth gyda hi, ac ym mis Chwefror es ymlaen i swydd lawn amser ym Mand 2. Hoffwn ddatblygu fy sgiliau a symud ymlaen i frig y band.
Mae cydweithwyr John yn gwerthfawrogi ei waith, yn enwedig y gofal mae'n ei gymryd ym mhob tasg.
Dywedodd ei reolwr Tarig Azouz:
Mae John yn mynd o nerth i nerth yn ei rôl o fewn tîm datblygu Cofnodion Iechyd Ddigidol. Mae ei sylw i fanylion yn arbennig o drawiadol ac mae ei waith manwl yn helpu i gynnig gofal i gleifion mewn ffordd amserol ac yn llyfnhau'r llif gwaith ar gyfer y timau meddygol. Mae John yn benderfynol o ddatblygu ei yrfa. Gweithiodd yn galed ar ddysgu sut i drin cofnodion o wahanol arbenigeddau meddygol ac, yn fwy diweddar, ysgwyddodd gyfrifoldeb sganio brys i'r Arholwr Meddygol.
Trwy ddeialog agored am wahanol anghenion ac arddulliau o weithio, mae'r tîm wedi datblygu arferion mwy cynhwysol sy'n helpu John a holl aelodau'r tîm i weithio'n effeithiol".
Mae'r tîm wedi creu amgylchedd cynhwysol trwy roi egwyddorion dylunio cyffredinol ar waith wrth hyfforddi, gan gynnwys arweiniad strwythuredig ac amseru hyblyg. Mae'r addasiadau hyn yn y gweithle wedi gwella effeithiolrwydd y tîm cyfan gan sicrhau y gall pawb weithio yn ôl eu cryfderau.
Ychwanegodd Tarig:
Rwy'n falch o'i gynnydd a'r effaith gadarnhaol y mae wedi'i chael o fewn y tîm Cofnodion Iechyd Digidol.
Mae'r Cydlynydd Prentisiaethau ac Ehangu Mynediad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Emma Bendle wedi gweld manteision cyflogi pobl ifanc niwroamrywiol, a phobl ag anableddau dysgu. Mae hi eisiau annog cyflogwyr eraill yng Nghymru i recriwtio o'r gronfa dalent hon hefyd:
Yn y byd amrywiol sydd ohoni mae'n bwysig bod yn gyflogwr cyfle cyfartal. Rydym am sicrhau bod ein gweithlu presennol a'n gweithlu yn y dyfodol yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg a heb ragfarn. I ni, rhaid i'n gweithlu fod yn gynrychiolaeth o'n poblogaeth leol ac mae cynnwys pobl o bob cefndir yn allweddol i hyn.
Mae gan bawb rywbeth arbennig i'w roi. Rydym yn creu cyfleoedd lle gall pawb gyfrannu at gymdeithas a sicrhau rôl a fydd yn rhoi boddhad yn eu bywydau ac yn cyflawni eu nodau eu hunain. Mae gan bawb sgiliau sy’n cynnig safbwyntiau gwahanol a gwerthfawr.
Pe bawn i'n cynnig unrhyw gyngor i gyflogwyr eraill, byddwn yn eu hannog i recriwtio o'r gronfa dalent hon. Dechreuwch nawr, crëwch weithlu amrywiol a gadewch i ymgeiswyr y dyfodol wybod mai dyma lle maen nhw eisiau gweithio, gan eu sicrhau y byddan nhw'n cael eu trin yn deg waeth beth fo'u cefndir.
Gan weithio mewn tîm cefnogol, mae John yn mynd o nerth i nerth. Mae'n cadw ei hun ar y trywydd iawn drwy gadw cyngor pwysig mewn cof:
Pe bawn i'n gallu siarad â fy hun pan oeddwn yn iau, byddwn i'n dweud paid ag ofni gofyn cwestiynau, bydd yn hyderus yn dy waith ac yn dy hun. Yn gyffredinol, bydd yn garedig i eraill, hyd yn oed os mai pethau bach yn unig ydyn nhw.
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.