Neidio i'r prif gynnwy

Prentisiaid o gymru yn helpu I fynd I’r afael â phrinder staff yn y diwydiant gofal cymdeithasol.

Chloe Paterson

Mae Brexit a phandemig y coronafeirws wedi effeithio ar filoedd o fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf, ond un diwydiant sy’n bendant wedi’i effeithio yn fwy nag eraill yw’r diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol.

Un ateb sy’n amhrisiadwy yn ei ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio yw Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig cyfle i’r rhai sy’n gadael yr ysgol a’r rhai sydd am newid gyrfa i ddysgu sgiliau yn y gwaith ac ennill cymwysterau cenedlaethol, ac ennill cyflog ar yr un pryd.

Mae Chloe Paterson, 23, o Bontypridd, wedi cwblhau ei Diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae bellach yn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol Cymorth Dydd. Meddai:

“Cefais fy ysbrydoli yn y lle cyntaf i ystyried gyrfa ym maes gofal cymdeithasol ar ôl cael trafferth ffurfio perthynas glos a chyfathrebu gyda fy mrawd awtistig. Penderfynais ddilyn cwrs llwybr yng Ngholeg y Cymoedd i ddysgu mwy am anableddau a buan y sylweddolais fy mod am ddilyn gyrfa a oedd yn helpu unigolion a theuluoedd i feithrin perthynas ag eraill.

“Nid yn unig wnaeth fy mhrentisiaeth fy helpu i benderfynu beth roeddwn am ei wneud yn fy ngyrfa, roedd o fudd enfawr i mi’n bersonol a dysgodd i mi sut i gymdeithasu a rhyngweithio o gwmpas pobl anabl - rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei gael yn anodd ei wneud ac sydd angen ceisio ei wneud yn well.”

Ar ôl gadael yr ysgol, roedd Chloe yn gwybod nad addysg bellach oedd y llwybr iawn iddi a phenderfynodd bod prentisiaeth yn cynnig y profiad ymarferol yr oedd wedi bod yn dyheu amdano.

Meddai Chloe:

“Doedd yr ysgol ddim i mi, ac roeddwn i’n aml yn colli diddordeb yn fy mhynciau, ond rwyf wedi gweld fy mhrentisiaeth yn llawer mwy hylaw a diddorol gan fy mod wedi cael  hyfforddi ac ennill arian yr un pryd.

“Roedd yn sicr yn well gen i ddysgu yn y swydd. Roedd mor ddefnyddiol gallu gofyn cwestiynau i aelodau staff profiadol mewn asesiadau a thraethodau, yn hytrach nag astudio ar ben fy hun drwy’r amser. Helpodd i mi fagu hyder gan nad oedd ofn arnaf i ofyn cwestiynau neu ofyn am gymorth a chyngor.”

Ar ôl creu gyrfa lwyddiannus ym maes gofal cymdeithasol ers cwblhau ei phrentisiaeth, mae Chloe yn edrych ymlaen at ddal ati i weithio mewn diwydiant a rôl sy’n gwella bywydau'r rhai mae’n eu cynorthwyo.

Aeth Chloe ymlaen:

“Yr elfen rwy’n ei mwynhau fwyaf am fy swydd yw’r teimlad ei bod hi’n swydd gwerth ei gwneud. Mae gweld unigolion yn cyflawni pethau nad oedden nhw’n credu oedd yn bosibl a’u gweld yn gadael gyda gwên ar eu hwynebau yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud yn foddhaol iawn.

“Does dim dwywaith amdani, mae fy mhrentisiaeth wedi fy nghymell i wella o ddydd i ddydd ac rwy’n credu bod yr hyn dw i wedi’i gyflawni yn dangos hynny. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, rydw i wedi mynd o fod yn fyfyriwr a chwblhau dau ddiploma, i fod yn aelod parhaol o’r tîm, ac yn y pen draw cael fy nyrchafu i fy rôl bresennol fel arweinydd tîm.

“Byddwn yn sicr yn argymell prentisiaeth fel llwybr i yrfa ym maes gofal cymdeithasol oherwydd y profiad y mae rhywun yn ei ennill wrth weithio tuag at gymhwyster. Mae’r diwydiant gofal cymdeithasol angen doniau newydd, a phobl sy’n barod i ofalu am eraill a’u cymell. Mae gweithio yn y diwydiant hwn yn teimlo fel eich bod yn gweithio gyda theulu agos, a byddwch wastad yn mynd adref yn gwybod eich bod wedi helpu i wella bywyd unigolyn.”

Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth

P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.