Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

Rydym yn cyflwyno'r ystadegau hyn yw ar gyfer drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir yr ydym ni (Awdurdod Cyllid Cymru) wedi'u derbyn erbyn 21 Mehefin 2021.

Gweler prif bwyntiau ein hystadegau awdurdodau lleol ar ddechrau adran 8 yn y datganiad hwn. Gwelwch dran 9 o’r datganiad hwn am dadansoddiad ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl lefel yr amddifadedd. Mae’r dadansoddiad hwn yn defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC).

Mae Ffigur 1.1 isod yn dangos:

  • yr amcangyfrifon o’r data blynyddol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021
  • y newid o ran canran ar gyfer y rhifau pennawd hyn yn erbyn ein hamcangyfrifon blaenorol ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (a wnaed ym mis Mehefin 2020)

Rydym yn egluro pam y gwneir y cymariaethau hyn yn adran 1 y datganiad hwn (‘Cymariaethau â’r un cyfnod flwyddyn ynghynt’).

Ffigur 1.1 Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, y dreth sy'n ddyledus a’r newid canran o’r amcangyfrif blaenorol flwyddyn ynghynt [1] [2]
Math o drafodiad Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (r) Newid canran (o gymharu â Ebrill 2019 i Mawrth 2020) [6]
Trafodiadau (nifer)
Preswyl 48,140 -13%
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl 11,860 -13%
Amhreswyl [3] 5,270 -14%
Pob trafodiadau [4] 53,410 -13%
Treth yn ddyledus (£ miliwn)
Preswyl 158.7 -4%
o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r breswyl cyfraddau uwch  [5] 70.3 10%
Amhreswyl [3] 58.1 -15%
Pob trafodiadau [4] 216.8 -8%

[1] Mae'r gwerthoedd yn y tabl hwn wedi cael eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf a’r £0.1 miliwn agosaf ar gyfer treth yn ddyledus.
[2] Sylwch fod y tabl hwn yn gwahardd unrhyw dreth yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.
[3] Mae’r categori ‘eiddo amhreswyl’ yn cynnwys eiddo nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl (sef, y rheini sy’n cynnwys elfennau preswyl a masnachol).
[4] Mae’r cyfanswm wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[5] Nodwch mai dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[6] Amcangyfrifon ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 a wnaed ym mis Mehefin 2020.
(r) Mae’r gwerth wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ffigur 1.2 Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym (£ miliwn)
  2018-19 2019-20 2020-21
Trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr [1] . 28.2 .
Trafodiadau ychwanegol gyda manylion cyfyngedig (er mwyn gwarchod cyfrinachedd) [2] . 2 0

[1] Nifer fechan o drafodiadau sector cyhoeddus a dim arall yw’r ‘trafodiadau annodweddiadol o fawr’ yn 2019-20. Mae’r trafodiadau hyn yn ymwneud â phryniant ased rheilffordd Prif Linellau’r Cymoedd yng Nghymru gan Drafnidiaeth Cymru oddi wrth Network Rail. Cyflwynir manylion y trafodiadau hyn yma er mwyn sicrhau tryloywder y trafodiad sector cyhoeddus mawr hwn, gyda chytundeb y prynwr (Trafnidiaeth Cymru) a'r gwerthwr (Network Rail). Mae mwy o wybodaeth am y trafodiadau hyn ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

[2] Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw gwybodaeth heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Mae'r rhain wedi'u talgrynnu i'r miliwn o bunnoedd agosaf er mwyn gwarchod cyfrinachedd ymhellach. Dylid eu cynnwys dim ond os ydych am gael gwerth cyfanswm refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn.

. Amherthnasol

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy’n ddyledus gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig ar StatsCymru

Gan gymharu Ebrill 2020 i Fawrth 2021 gyda Ebrill 2019 i Fawrth 2020:

  • gostyngodd pob trafodiadau a threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 13% a 8% yn y drefn honno
  • gostyngodd trafodiadau preswyl a threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 13% a 4% yn y drefn honno
  • gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 13%
  • gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch gan 10%, er y dylid trin y gymhariaeth hon yn ofalus
  • bu gostyngiad mewn trafodiadau anhreswyl, i lawr 14%. Gostyngodd y dreth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 15%

Nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys y trafodiadau ychwanegol a gyflwynir yn Ffigur 1.2 uchod. Dylid defnyddio'r gwerthoedd yn Ffigur 1.2 os am gael gwerth ar gyfer cyfanswm y refeniw Treth Trafodiadau Tir yn y flwyddyn, yn unig.

Ym mis Ebrill 2020, gwelwyd cwymp sydyn mewn trafodiadau preswyl ac amhreswyl yn fuan wedi cyflwyno'r cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19) cyntaf yn y Deyrnas Unedig. Cynyddodd niferoedd y trafodiadau’n raddol trwy gydol gweddill y flwyddyn ariannol, er bod nifer blynyddol y trafodiadau preswyl ac amhreswyl wedi aros yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Roedd y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 hefyd yn is na'r flwyddyn flaenorol, ac eithrio'r refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch (a gynyddodd 10%). Fel y soniwyd uchod, dylid bod yn ofalus gyda’r gymhariaeth flynyddol hon ar gyfer refeniw ychwanegol o drethi preswyl cyfraddau uwch. Mae hyn oherwydd newidiadau i’r cyfraddau Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf 2020 a mis Rhagfyr 2020, a eglurir yn yr adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’, ddilynol. Cafodd y gostyngiad dros dro mewn cyfraddau, a gafodd ddylanwad ar refeniw prif gyfraddau, hefyd yr effaith o ysgiwio mwy o'r dreth breswyl oedd yn ddyledus tuag at y refeniw ychwanegol. Yn ogystal, gwnaeth y cynnydd yng ngwerth trafodiadau eiddo preswyl a gwblhawyd gyfraniad cadarnhaol o ran faint o dreth oedd yn ddyledus ym mhob rhan o Gymru.

Nôl i dop y dudalen

Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir

Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.

Arweiniodd cynfyngiadau cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin 2020. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud tŷ os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Ar 3 Mawrth 2021, cyhoeddwyd y byddai'r cyfnod lleihau treth dros dro yn cael ei ymestyn 3 mis, i ddod i ben ar 30 Mehefin 2021.

Er bod gyfyngiadau lleol a chyfyngiadau cenedlaethold pellach wedi'u cyflwyno ers y newidiadau cychwynnol yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ym mis Gorffennaf 2020, fe ymddengys na chafodd y rhain unrhyw effaith ar nifer y trafodiadau.

Daeth newidiadau pellach i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir i rym o 22 Rhagfyr 2020. Mae’r newidiadau hyn wedi ei gwneud hi’n angenrheidiol golygu ein tablau data amhreswyl gan gyflwyno rhaniad mwy manwl o fandiau treth gwerth is.

Sylwch y bydd rhai trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl yn dod i rym ym mis Rhagfyr 2020 wedi cael eu codi ar y cyfraddau a fodolai cyn 22 Rhagfyr, a rhai ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr. Rydym yn amcangyfrif bod tua 100 o drafodiadau cyfraddau uwch a 10 o drafodiadau amhreswyl o fewn y data mis Rhagfyr 2020 hynny eu cyhuddo ar y cyfraddau ar ôl 22 Rhagfyr.

Effaith y newidiadau yng nghyfraddau y Dreth Trafodiadau Tir

Nid yw'n bosibl ynysu effaith y newidiadau yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir oddi wrth yr adferiad cyffredinol sy'n debygol o fod wedi digwydd oherwydd lleddfu cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19). Fodd bynnag, gallwn feintioli’r effaith ar fesul y trafodiad.

Roedd y newid cyntaf yn berthnasol i drafodiadau preswyl ar y brif gyfradd yn unig. Nid oedd newid yn y cyfraddau ar gyfer trafodiadau preswyl cyfradd uwch a thrafodiadau amhreswyl. Ar gyfer y trafodiadau prif gyfradd hyn, codwyd y trothwy ar gyfer codi cyfraddau Treth Trafodiadau Tir o £180,000 i £250,000, fel bod y dreth ar bob trafodiad sydd â gwerth o £250,000 neu lai yn cael ei gostwng i sero. Er bod y cyfraddau Treth Trafodiadau Tir ar werth eiddo uwch na £250,000 yn ddigyfnewid, mae'r trafodiadau ar y brif gyfradd hynny hefyd yn elwa o'r trothwy uwch ar £250,000 cyntaf eu gwerth. Yn yr achosion hyn, mae Treth Trafodiadau Tir yn cael ei ostwng £2,450 o'i gymharu â'r hyn a fyddai wedi'i godi’n flaenorol.

Cyflwynodd yr ail newid mewn cyfraddau o 22 Rhagfyr 2020 y canlynol:

  • cynnydd o 1% ar draws yr holl fandiau ar gyfer y cyfraddau treth preswyl uwch
  • ar gyfer trafodiadau amhreswyl, cynyddodd y band cyfradd sero a godir ar bremiymau lesoedd ac aseiniadau, a throsglwyddiadau eiddo rhydd-ddaliadol o £150,000 i £225,000
  • cynyddodd band cyfradd sero y dreth a godir ar elfen rent lesoedd amhreswyl o £150,000 i £225,000

Gellir gweld effaith gyfunol y pandemig coronafeirws a'r newid cyntaf yn y gyfradd yn Ffigur 2.1. Yn dilyn cwymp sydyn i ddechrau ym mis Ebrill a mis Mai 2020, bu adferiad cyson yn nifer y trafodiadau ers hynny. Roedd 2,130 o drafodiadau preswyl ac amhreswyl mewn grym ym mis Ebrill 2020, a oedd ychydig yn llai na hanner y nifer a welwyd ym mis Ebrill 2019. Gwelodd yr adferiad yn y farchnad eiddo a ddilynodd, drafodiadau preswyl yn cynyddu ond maent yn parhau i fod yn is na lefelau 2019-20, hyd at ddiwedd Medi 2020. Ers mis Hydref 2020, ac yn enwedig yn rhan olaf 2020-21, mae'r niferoedd wedi bod yn uwch nag yn yr un misoedd mewn blynyddoedd blaenorol, sy'n adlewyrchu'r adferiad y cyfeiriwyd ato uchod.

Yn wahanol i'r set cyntaf o gyfyngiadau COVID-19 cenedlaethol a gyflwynwyd ym mis Mawrth 2020, caniatawyd i'r farchnad eiddo barhau i gryn raddau yn y gyfyngiadau o bythefnos ddiwedd mis Hydref 2020 a’r cyfyngiadau pellach a gyflwynwyd ar 20 Rhagfyr 2020. Nid yw'r gostyngiad mewn trafodiadau eiddo a welwyd yn y set cyntaf o gyfyngiadau ym mis Mawrth 2020 wedi'i weld i'r un graddau eto yn ystod y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn fwy diweddar.  

Nôl i dop y dudalen

1. Ynglŷn â’r ystadegau yma

Cyflwyniad o Dreth Trafodiadau Tir

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl  y math o drafodiad.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp. Mae gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth. Er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir.

Gwerth ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae gwybodaeth amserol am weithgaredd yn y farchnad eiddo yn bwysig ar gyfer y rhai sy’n llunio polisi. Wrth ffeilio ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiad eiddo, mae gan y sefydliad sy'n talu'r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu unrhyw treth yn ddyledus. Felly mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn gymharol amserol.

Rhagweld refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon Treth Trafodiadau Tir i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Data ar gael ar gyfer Treth Trafodiadau Tir

Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.

Gyda’r datganiad ystadegol hwn, rydym yn cyhoeddi setiau data daearyddol ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar wefan StatsCymru. Mae hyn yn cynnwys data blynyddol yn ôl:

  • awdurdod lleol
  • etholaeth y Senedd (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
  • lefel amddifadedd, yn ddefnyddio’r Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
  • ardaloedd adeiledig (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig)
  • parciau Cenedlaethol (ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig). Cyhoeddwyd y data hwn ym mis Awst 2021.

Rydym yn darparu dolenni i'r setiau data StatsCymru perthnasol trwy gydol y datganiad hwn.

Amseriad a diwygiadau i ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae’r diagram ar y dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn esbonio amseriad ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn cyflwyno amcangyfrifon dros dro ar gyfer Mai 2021 a amcangyfrifon wedi’u diwygio ar gyfer cyfnodau cynharach. Byddwn yn diwygio y data dros dro yn y dyfodol. Nad yw pob ffurflen dreth ar gyfer y cyfnodau hyn wedi dod i law eto.

Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn diwygio ystadegau ar gyfer cyfnodau cynharach, er mwyn rhoi cyfrif am unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau a ffurflennau treth neywdd yn cael eu derbyn. Bydd hyn, yn fwyaf arbennig, oherwydd bod:

  • ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu gwneud am sawl blwyddyn ar ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol
  • trethdalwyr yn anfon ffurflenni treth sy'n ymwneud â thrafodiadau eiddo yng Nghymru i Gyllid a Thollau EM ar gam. Ar ôl sylweddoli eu camgymeriad, gall gymryd peth amser i'r trethdalwr anfon y ffurflen yn gywir i Awdurdod Cyllid Cymru

Cymhariaethau â'r un cyfnod flwyddyn ynghynt

Gall fod patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gyda lefelau uwch o weithgaredd i'w gweld yn gyffredinol yn yr haf ac yn yr hydref, ac lefelau is yn a gaeaf a gwanwyn. Fodd bynnag, fe ymddengys bod effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r adferiad dilynol yn ffactor mwy blaenllaw o fewn y tueddiadau yn 2020-21, Serch hynny, gall fod yn ddefnyddiol cymharu'r cyfnod cyfredol â data am yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Fodd bynnag, yn ein hystadegau misol a chwarterol, rydym yn raddol ddiwygio am i lawr y dreth sy’n ddyledus am gyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch yn cael eu talu bob mis (ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a oedd mewn grym mewn cyfnodau cynharach, yn ôl i Ebrill 2018).

Bydd gwerth Ebrill 2019 i Fawrth 2020 eisoes wedi bod yn destun rhywfaint o ddiwygio am i lawr, ond nid yw’r ffigur cyfatebol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021 wedi cael ei ddywygio cymaint. Hefyd, yn y dyfodol, bydd rhywfaint o ddiwygiadau am i fyny i werth Ebrill 2020 i Fawrth 2021 oherwydd trafodiadau hwyr.

Felly yn y datganiad hwn, rydym yn cymharu:

  • data Ebrill 2020 i Fawrth 2021 yn erbyn
  • ein hamcangyfrifon blaenorol a gyhoeddwyd ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (a gymerwyd ym mis Mehefin 2020)

Mae hyn yn caniatáu’r cymariaethau tecaf dros amser. Fodd bynnag, dylid ystyried pob cymhariaeth o ddata 2020-21 yn erbyn data 2019-20 yng ngoleuni effeithiau coronafeirws (COVID-19) a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir.

Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:

  • rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad
  • mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd

Eiddo neu dir a werthir fwy nag unwaith

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn fis, chwarter neu blwyddyn penodol. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn yr amser hynny. Os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau.

Er eingraifft, yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 4% a 5% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.

Nôl i dop y dudalen

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ryddhau diweddariad ar gyhoeddi ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gwnaethom nodi y byddem, yn ein datganiad ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, yn edrych ar unrhyw effeithiau posibl y coronafeirws (COVID-19) ar ein hystadegau.

Er mwyn deall yr effeithiau ar nifer y trafodiadau, y dreth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn.

Image
Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru bob wythnos rhwng Ebrill 2019 i Orffennaf 2021. Sylwch fod y siart hon yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2021.

Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (MS Excel)

Mae Ffigur 2.1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer bob blwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’26.6’ yn 2021-22 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 26 Mehefin i 3 Gorffennaf 2021 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr un wythnos yn 2020-21 yn rhedeg rhwng 27 Mehefin i 3 Gorffennaf 2020 (yn gynwysedig).

Sylwch fod Ffigur 2.1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn.

Roedd y nifer wythnosol o drafodiadau a gyflwynwyd rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 yn amrywio rhwng 40% a 60% o'r nifer a welwyd yn yr un wythnos yn 2019 ac ar gyfartaledd o tua 50% dros y cyfnod cyfan. Ers hynny, bu adferiad mewn trafodiadau, gyda lefelau’n debyg neu'n uwch na'r rhai a welwyd yn y flwyddyn flaenorol o fis Hydref 2020 ymlaen. Yn benodol, bu cynnydd sydyn yn y trafodiadau a gyflwynwyd tua diwedd Mehefin 2021. Mae'r cynnydd hwn yn debygol o fod yn gysylltiedig â'r cyfnod lleihau treth dros dro a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2021.

Image
Mae Ffigur 2.2 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl y flwyddyn y daeth y trafodiad i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Ar ddiwedd 21 Mehefin 2021, derbynion ni manylion o 53,410 drafodiadau hysbysadwy oedd â dyddiad dod i rym ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Mae hyn 13% yn llai na'n hamcangyfrif ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (a gwneud ym mis Mehefin 2020).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer trafodiadau preswyl, trafodiadau preswyl cyfraddau uwch a thrafodiadau amhreswyl oedd yn debygol: gostyngiad o 13%, gostyngiad o 13% a gostyngiad o 14%, yn y drefn honno. Yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, mae Ffigurau 2.5a a 2.5b yn dangos y gostyngiad sydyn mewn trafodiadau pan gyflwynwyd cyfyngiadau COVID-19 gyntaf. Cynyddodd niferoedd y trafodiadau’n raddol trwy gydol y flwyddyn ond arhosodd y cyfansymiau blynyddol yn is na'r flwyddyn flaenorol.

Yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, roedd 90% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 10% yn rhai amhreswyl. Mae’r rhain yn canrannau tebyg i blynyddoedd blaenorol.

Image
Mae Ffigur 2.3 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl y flwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.3 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Mae cyfanswm y dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 oedd £216.8 miliwn. Mae gwerth hyn 8% yn is na'n hamcangyfrif cyntaf ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (a wnaed ym mis Mehefin 2020 – gweler Ffigur 1.1).

Y newidiadau cyfatebol ar gyfer treth breswyl oedd yn ddyledus, refeniw ychwanegol o dreth breswyl cyfraddau uwch, a threth amhreswyl oedd yn ddyledus oedd lleihad o 4%, cynnydd o 10%, a lleihad o 15%, yn y drefn honno. Mae'r sylwebaeth ar Ffigur 2.6a yn ddiweddarach yn yr adran hon yn trafod y gwahanol dueddiadau yn ystod Ebrill 2020 i Fawrth 2021 ar gyfer yr holl dreth breswyl oedd yn ddyledus a’r refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch. Yn yr un modd, mae'r sylwebaeth o dan Ffigur 2.6b yn rhoi mewnwelediad i'r tueddiadau mewn treth amhreswyl oedd yn ddyledus.

Fel y nodwyd yn Ffigur 2.3 uchod, nid yw'r cymariaethau hyn yn cynnwys unrhyw dreth oedd yn ddyledus o'r trafodiadau ychwanegol a ddangosir yn Ffigur 1.2.

Image
Mae Ffigur 2.4 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y flwyddyn y daeth y trafodiad i rym. Mae Ffigur 2.4 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl, a ffigurau ar wahân ar gyfer gwerth rhentu ar gyfer.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru

Gwerth yr eiddo a drethwyd yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 oedd £11.8 biliwn, yn fwy na’r £12.2 biliwn a welwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020. Mae hyn yn gyson â'r lleihad mewn trafodiadau preswyl ond wedi'i dymheru gyda chynnydd yng ngwerth y trafodiadau hynny (a ddisgrifir o dan Ffigur 2.6a). Mae Adran 3 y datganiad hwn yn disgrifio tueddiadau mewn trafodiadau preswyl a’r dreth sy'n ddyledus yn ôl gwerth.

Ar wahân i hynny, yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £1.1 biliwn. Roedd y ffigur cyfatebol yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 yn £1.4 biliwn.

Image
Mae Ffigur 2.5a yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Fawrth 2021, ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Mae Ffigur 2.9 yn yr adran hon yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Yn dilyn cyfyngiadau COVID-19 sy’n cael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2020, gostyngodd nifer misol y trafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ebrill 2020. Ers hynny, mae wedi adfer yn raddol, gan godi uwchlaw'r niferoedd a welwyd yn y flwyddyn flaenorol rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020. Ym mis Ionawr 2021, gostyngodd y niferoedd ond ers hynny maent wedi codi eto yn uwch na'r niferoedd a welwyd yn y flwyddyn flaenorol. O fewn y nifer hwn, mae trafodiadau preswyl cyfradd uwch wedi adfer.

Image
Mae Ffigur 2.5b yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Fawrth 2021, ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Ym mis Mawrth 2020 ac ym mis Mawrth 2021, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror) mewn trafodiadau amhreswyl. Gellir disgwyl hyn, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae’n fwy anodd gweld effaith cyfyngiadau COVID-19 mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer is o drafodiadau’n gyffredinol, a hefyd bod nifer y trafodiadau wedi dal ei dir yn well na nifer y trafodiadau preswyl a’r natur afreolaidd o’r sector amrheswyl.

Image
Mae Ffigur 2.6a yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2019 a Fawrth 2021, ar gyfer trafodiadau preswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau, er y bu adferiad hyd yn oed yn fwy mewn refeniw ychwanegol ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch nag ar gyfer pob trafodiad preswyl yn 2020-21.

Ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2020, roedd y refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl uwch wedi adfer i gryn dipyn yn uwch na'r lefel a welwyd yn yr un misoedd yn 2019, er y bydd yn lleihau ychydig wrth i ad-daliadau sydd heb gael eu hawlio eto, gael eu prosesu. Yn Ionawr, Chwefror a Mawrth 2021, mae refeniw preswyl wedi parhau i godi i'r lefelau uchaf erioed, gyda dylanwad trafodiadau prif gyfraddau’n cynyddu o'i gymharu â chwarteri blaenorol.

Cafodd y codiadau preswyl eu hachosi'n rhannol gan y cynnydd mewn trafodiadau ond hefyd gan gynnydd yng ngwerth y trafodiadau hynny, a oedd yn fwy na gwrthbwyso'r gostyngiad dros dro mewn cyfraddau a gafodd effaith ar refeniw prif gyfraddau (gweler ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’).

Mae'r cynnydd mewn refeniw yn bennaf oherwydd y gyfradd dreth uwch a godwyd ar eiddo prisiau uwch o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Sylwer, bod y cynnydd o 10% mewn refeniw ychwanegol (a ddangosir yn Ffigur 1.2) wedi'i chwyddo rhywfaint gan y gostyngiad dros dro yn y prif gyfraddau gan na chymhwyswyd y gostyngiad hwnnw i drafodiadau cyfraddau uwch hefyd. Y canlyniad yw, ers mis Gorffennaf 2020, bod yr holl refeniw o gyfraddau uwch yn cael ei ddosbarthu fel refeniw “ychwanegol”, ond yn yr un cyfnod yn 2019, na fyddai'r elfen “ychwanegol” wedi cynnwys unrhyw elfennau prif gyfraddau.

Er enghraifft, roedd y gydran dreth a oedd yn ddyledus yn y band £180,000 i £250,000 yn flaenorol yn 3% o werth yr eiddo (ar gyfer trafodiadau preswyl prif gyfraddau a oedd mewn grym hyd at 26 Gorffennaf 2020). Rhwng 27 Gorffennaf 2020 a 30 Mehefin 2021, newidiodd hyn i 0%, ond ar gyfer trafodiadau preswyl ar y cyfraddau uwch, roedd y gydran dreth oedd yn ddyledus ar y band hwn yn ddigyfnewid ar 6.5% hyd at 21 Rhagfyr 2020 (a 7.5% rhwng 22 Rhagfyr 2020 a 30 Mehefin 2021). Felly, ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae'r holl refeniw yn y band hwn bellach yn cael ei gyfrif fel refeniw ychwanegol.

Yn yr achos hwn, felly mae'n fwy diogel canolbwyntio ar y cynnydd mewn treth ar draws yr holl drafodiadau preswyl wrth wneud y cymariaethau yn Ffigur 1.2. Roedd y ffaith bod nifer gyffredinol y trafodiadau preswyl wedi gostwng yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol) yn dangos bod cymysgedd o nifer a gwerth y trafodiadau hynny ar waith.

Image
Mae Ffigur 2.6b yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng mis Ebrill 2019 a mis Fawrth 2021, ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)

Roedd refeniw amhreswyl yn gyson ym mis Ebrill 2020, oherwydd nifer fach o drafodiadau mawr ym y fis hon. Roedd refeniw amhreswyl yn disgyn i'r lefel isaf a welwyd hyd yma ym mis Mai 2020 (£1.5 miliwn), cyn gwella'n gyffredinol yng ngweddill 2020. Ym mis Chwefror a mis Mawrth 2021, mae refeniw wedi cynyddu uwchlaw'r lefelau a welwyd yn 2020.

Mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol, nag ar gyfer trafodiadau preswyl. Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.

Image
Mae Ffigur 2.7 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd, ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl math o drafodiad a disgrifiad o’r trafodiad ar StatsCymru

Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod Ebrill 2020 i Fawrth 2021 yn £11.3 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.7).

Roedd y mwyafrif o’r trafodiadau hyn yn gysylltiedig â thrawsgludo neu drosglwyddo perchnogaeth. Roedd y ffigur hwn yn 95% ar gyfer trafodiadau preswyl a 68% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.

Rhoddwyd les newydd mewn 28% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).

Gwelir canrannau tebyg ar gyfer blynyddoedd blaenorol.

Dadansoddiad yn ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen dreth

Rydym yn ymwybodol bod rhai cyhoeddiadau ystadegol eraill yn y DU yn seilio eu dadansoddiad ar y dyddiad y cyflwynir y ffurflen dreth. Felly rydym wedi cynhyrchu rhai ffigurau y gellir eu cymharu â gwledydd eraill y DU (gan ddefnyddio dyddiad cyflwyno) ac wedi cymharu'r rhain â'n hystadegau dyddiad dod i rym ni.

Image
Mae Ffigur 2.8 yn dangos nifer misol y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd, o fis Ebrill 2018 i fis Mai 2021.

Trafodiadau yr hysbyswyd Awdurdod Cyllid Cymru ohonynt, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym/y’i cyflwynwyd, Ebrill 2018 i Fai 2021 (MS Excel)

Fel y gellid disgwyl, mae'r tueddiad misol yn eithaf tebyg ar y cyfan ar gyfer y ddwy gyfres am drafodiadau wedi’u cyflwyno a trafodiadau yn ôl dyddiad dod i rym. er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar. Yn yr achosion hyn, mae dyddiad dod i rym yn cael mwy o effaith ar y data misol na dyddiad cyflwyno. Mae hyn oherwydd Ffigur 2.9 yn yr adran hon yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener.

Gellir egluro gwahaniaethau eraill rhwng y ddwy gyfres fel a ganlyn:

  • yn Ebrill 2018, roedd 1,360 yn fwy o drafodiadau mewn grym nag a gyflwynwyd. Y rheswm pennaf am hyn yw oherwydd nad oedd unrhyw drafodiadau Treth Trafodiadau Tir a fyddai wedi bod mewn grym ym mis Mawrth 2018 i wrthbwyso rhai a oedd mewn grym ym mis Ebrill a dderbyniwyd ym mis Mai 2018. Roedd y trafodiadau Mawrth 2018 hyn yn dal i gael eu cyflwyno i CThEM o dan gyfundrefn dreth flaenorol Treth Dir y Dreth Stamp
  • yn ystod misoedd Rhagfyr ac Ionawr, gellir gweld gwahaniaethau o hyd at 600 o drafodiadau. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd gwyliau'r Nadolig ac oedi o ran cyflwyno trafodiadau yr adeg hon o’r flwyddyn
Image
Mae Ffigur 2.9 yn dangos canran y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd ar wahanol ddyddiau'r wythnos. Mae'r data yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym ym Ebrill 2020 i Fawrth 2021, a thrafodiadau a gyflwynwyd i’r Awdurdod rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021.

Trafodiadau yr hysbyswyd Awdurdod Cyllid Cymru ohonynt, yn ôl diwrnod yr wythnos a dyddiad daeth y trafodiad i rym/y’i cyflwynwyd, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (MS Excel)

Dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd ar gyfer cyflwyno’r ddau drafodiad ac i'r trafodiadau ddod i rym, gydag ond ychydig iawn ar benwythnosau. Mae hyn yn adlewyrchiad o wythnos waith arferol asiantau sy'n cwblhau ffurflenni Treth Trafodiadau Tir.

Daeth bron i hanner y trafodiadau i rym yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 ar ddydd Gwener. Er bod cyfran uwch na'r cyfartaledd o'r ffurflenni treth wedi cael eu cyflwyno ar ddydd Gwener, mae'r gwahaniaeth yn llawer llai amlwg nag ar gyfer y dyddiad dod i rym. Mae hyn yn awgrymu nad yw ffurflenni'n cael eu cyflwyno’n gyffredinol ar yr un diwrnod ag y mae'r trafodiadau’n cael eu cwblhau.

Er na ddangosir hynny uchod, mae tystiolaeth yn y data hefyd bod cynnydd hyd yn oed mwy amlwg yn nifer y cyflwyniadau ar ddydd Gwener olaf pob mis.

Nôl i dop y dudalen

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a’r flwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 3.2 yn dangos y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a'r flwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 3.1 a 3.2 yn dangos y tueddiadau blynyddyol o ran nifer y trafodiadau preswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £400,000.

Cyflwynir dadansoddiad o dueddiadau chwarterol yn ôl band treth yn ein datganiadau chwarterol. Bu cryn amrywiad yn ystod Ebrill 2020 i Fawrth 2021, a ddadansoddwyd ar gyfer pob un o’r bandiau treth yn Adran 2 y datganiad hwn ac yn fwy cyffredinol yn yr adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir’.

O ystyried data’n flynyddol, gostyngodd nifer y trafodiadau preswyl eiddo hyd at a chan gynnwys £180,000 yn sydyn yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Gwnaeth nifer y trafodiadau mewn bandiau treth gwerth uwch naill ai ostwng ryw ychydig neu gynyddu ychydig.

Ar gyfer trafodiau eiddo preswyl hyd at a chan gynnwys £180,000, dim ond ychydig o ostyngiad fu yn y dreth oedd yn ddyledus yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Bu cwymp sydyn yn y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo yn yr ail fand treth (pris prynu £180,001 i £250,000) rhwng y cyfnodau hyn o amser (gweler Ffigur 3.3 hefyd). Cynyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar eiddo yn y tri band mwyaf (dros £400,000) oddeutu traean yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Image
Mae Ffigur 3.3 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru

Yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, roedd 55% o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am 17% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.

Roedd yr 20% o drafodiadau yn yr ail fand treth (pris prynu £180,001 i £250,000) i gyfrif am gyfran is o'r dreth oedd yn ddyledus (9%) na'r hyn a welwyd mewn chwarteri cynharach (tua 15% yn flaenorol). Byddai disgwyl yr effaith hon oherwydd y newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar 27 Gorffennaf 2020.

Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 7% o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am 46% o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, y gyfran uchaf blynyddol hyd yn hyn.

Nôl i dop y dudalen

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Image
Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.
Image
Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Dangosir data ar gyfer y flwyddyn yr oedd y trafodiad mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 4.1 a 4.2 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.

Mae Ffigur 4.1 yn dangos bod nifer y trafodiadau ym mhob band gwerth wedi gostwng i'r gwerthoedd chwarterol isaf a welwyd hyd yma yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Er mwyn deall y tueddiadau hyn, dylai defnyddwyr gyfeirio at adran ‘Effeithiau coronafeirws (COVID-19) a’r newidau yng nghyfraddau y Dreth Trafodiadau Tir’ y datganiad hwn. Mae data chwarterol wedi amrywio'n sylweddol, a chyflwynir dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol.

Ym mhob blwyddyn, mae tua 60% i 70% y dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan drafodiadau sydd â gwerth nad yw'n werth rhent o fwy na £1 miliwn. Ym mhob blwyddyn, mae tua 10% i 20% o'r dreth sy’n ddyledus wedi'i chyfrannu gan werth rhent eiddo amhreswyl.

Image
Mae Ffigur 4.3 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau y dod i rym yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021.
Image
Mae Ffigur 4.4 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau y dod i rym yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru

Mae Ffigur 4.3 yn dangos yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, 5% o'r trafodiadau amhreswyl hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn. Roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 69% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4).

Mae Ffigur 4.3 hefyd yn dangos, yn achos 24% o drafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hyn, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).

Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 12% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.4). Mae hon yn ganran is na'r 18% yn y flwyddyn flaenorol o Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Nôl i dop y dudalen

5. Rhyddhadau

Sylwch fod pob dadansoddiadau yn adran 5 yn gwahardd y trafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr a rhai gyda manylion cyfyngedig (dangosir yn Ffigur 1.1 yn yr adran ‘Prif bwyntiau’ o’r datganiad hwn).

Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.

Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:

  • I sero, a elwir yn rhyddhad llawn
  • Neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Image
Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl, yn ôl y flwyddyn y daeth y trafodiad i rym.
Image
Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym, yn ôl y flwyddyn y daeth y trafodiad i rym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Roedd 1,140 o drafodiadau yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na'r dwy blynedd flaenorol. Mae'r effeithiau hyn yn gyson â thueddiadau diweddar yn niferoedd y trafodiadau yn eu cyfanrwydd a dylid eu darllen yng nghyd-destun yr adran gynharach ar effaith y coronafeirws (COVID-19) ar lefelau trafodiadau a'r newidiadau i gyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae data chwarterol wedi amrywio'n sylweddol, a chyflwynir dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol.

Ar gyfartaledd, ym mhob blwyddyn mae tua 400 i 600 o ryddhadau’n cael eu hawlio nad ydynt yn cael effaith ar y dreth sy’n ddyledus. Nid yw’r rhain rhyddhad yn cael eu cynnwys yn Ffigur 5.1. Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth.

Er enghraifft, mae rhai o'r rhain rhyddhadau a hawliwyd drwy gamgymeriad yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.

Bob blywddyn, cafodd nifer uwch o ryddhadau eu hawlio ar drafodiadau preswyl nag ar drafodiadau amhreswyl. Mewn cyferbyniad, cyfrannodd gwerth y rhyddhadau a hawlir oddeutu dwy ran o dair, neu uwch, i gyfanswm gwerth y rhyddhadau a hawliwyd. Fodd bynnag, dangosodd dadansoddiad yn ein datganiadau chwarterol amrywiad sylweddol ar gyfer cyfnodau o dri mis. Er enghraifft, bu rhai cyfnodau o dri mis lle cyfrannodd ychydig o drafodiadau preswyl mawr at ryddhadau preswyl sylweddol fwy na'u cymheiriaid amhreswyl.

Image
Mae Ffigur 5.3 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, yn ôl y math o ryddhad. Dangosir ffigur ar wahân ar gyfer nifer y rhyddhadau lle na chafodd y rhyddhad effaith ar y dreth a oedd yn ddyledus.
Image
Mae Ffigur 5.4 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, yn ôl y math o ryddhad.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru

Y math o ryddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 oedd rhyddhad grŵp, sy’n ymwneud trafodiadau amhreswyl yn bennaf. Roedd y rhyddhad hwn i gyfrif ycyhydig dros hanner o gyfanswm y dreth a gafodd ei rhyddhau.

Roedd y cyfanswm gwerth y rhyddhadau a gafodd eu hawlio yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021 ar gyfer trafodiadau yn £48.3 miliwn. Mae hyn yn llai na’r £51.1 miliwn a gafodd eu hawlio yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020, a sylweddol yn is na’r £68.1 miliwn a gafodd eu hawlio yn Ebrill 201 i Fawrth 2019.

Nôl i dop y dudalen

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan Awdurdod Cyllid Cymru hyd at a chan gynnwys 21 Mehefin 2021.

Image
Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl y flwddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

(heb ei ddangos yn Ffigur 6.1) Yn ngronnol, roedd 4,270 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym ers Ebrill 2018, gyda £36.2 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Mae gan drethdalwyr hyd at dair blynedd i werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad. Felly, bydd yr holl gwerthoedd yn Ffigur 6.1 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at y cyfanswm y dreth yn tablau a siartau eraill yn lleihau.

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021 yn is nag ar gyfer blynyddoedd cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â blynyddoedd cynharach, mae amser yn byrrach wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl, yn ôl dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad

Mae Ffigur 6.2 isod yn dangos ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch, gan ddefnyddio'r dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Image
Mae Ffigur 6.2 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl a roddwyd, yn ôl y flwyddyn y cymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru

Cynyddodd nifer yr ad-daliadau a gymeradwywyd (a gwerth yr ad-daliadau hynny) bob blwyddyn yn ystod Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Byddai disgwyl hyn, gan fod mwy o amser wedi mynd heibio i geisiadau gael eu gwneud.

Adlewyrchir hyn eisoes yn y flwyddyn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, lle mae llawer o ad-daliadau eisoes wedi'u cymeradwyo yn y cyfnod 1 Ebrill i 21 Mehefin 2021. Does wybod eto ai cynnydd dros dro yw hwn yn dilyn y nifer fwy o drafodiadau a dderbyniwyd yn y misoedd diweddar, neu a yw’n arwain at lefel uwch fwy parhaol o weithgaredd ad-dalu cyfraddau uwch.

Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl (ar sail arian parod)

Mae rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, i'w gweld drwy ddilyn y ddolen isod.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Yn bennaf, caiff y data ychwanegol hyn eu darparu er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Bwriad i hawlio ad-daliad o’r elfen cyfraddau uwch

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod oddeutu dwy ran o dair o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

Nôl i dop y dudalen

7. Treth a dalwyd

Image
Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru, ar gyfer Ebrill 2018 i Fai 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru

Ac eithrio trafodiad prif llinellau’r cymoedd, yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, derbyniodd Awdurdod Cyllid Cymru £201.8 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir.

Oherwydd ei faint annodweddiadol, nid yw'r gymhariaeth uchod yn cynnwys y £28.2 miliwn a dalwyd gan Drafnidiaeth Cymru am brif linellau’r cymoedd yn y ddata. Dylid nodi, er i’r trafodiad ddod i rym ym Mawrth 2020, talwyd y dreth yn y flwyddyn ariannol canlynol (Ebrill 2020).

Mae'r gwerthoedd hyn yn wahanol na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.3 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'). Mae hyn yn wahanol i ddata cynharach yn y datganiad hwn sy'n seiliedig ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.

Mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018 gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.

Sylwch hefyd fod y data yn Ffigur 7.1 yn cael ei gyflwyno’n net o ad-daliadau cyfradd uwch sy'n cael eu talu mewn mis penodol.

Roedd y derbyniadau misol uchaf a welwyd hyd yma ym mis Ebrill 2021 (£40.9 miliwn). Dylanwadwyd ar hyn yn bennaf gan y lefel fisol uchaf erioed o'r dreth a adroddwyd amdani ym mis Mawrth 2021.

Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Gall trafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir gael eu diwygio am amryw o resymau, er enghraifft yn dilyn adolygiad i'w cywirdeb, neu roi ad-daliadau cyfraddau uwch. Gan fod y data yn y datganiad hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar y dyddiad y daeth y trafodiadau i rym, sydd fel arfer yn aros yr un fath, yna gall llawer o'r data a gyhoeddir yma am cyfnodau blaenorol newid o hyd.

Er y dylai bron pob trafodiad sy’n ymwneud â 2020-21 fod wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn (oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers diwedd y flwyddyn), ni fydd y data ar gyfer 2018-19 i 2020-21 wedi’i gwblhau'n llawn hyd nes bod y cyfnod ar gyfer adolygu wedi dod i ben. Yn achos ad-daliadau cyfradd uwch, gall hyn fod gyhyd â thair blynedd ar ôl y trafodiad gwreiddiol, gyda ffenestr hirach o bosibl ar gael ar gyfer rhai trafodiadau eraill, megis y rhai y mae’r Awdurdod yn dewis agor ymchwiliad iddynt.

At ddibenion cyfrifo a rhagfynegi, mae angen creu ffigur terfynol ar lefel Cymru ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus am bob blwyddyn. Er bod gwerth yr arian a dderbyniwyd yn Ffigur 7.1 yn cael ei bennu cyn gynted ag y daw pob cyfnod i ben, mae hyn yn rhy syml ar gyfer y diben hwn. Er enghraifft, nid yw Ffigur 7.1 yn nodi'r flwyddyn dreth y mae’r trafodiadau’n ymwneud â hi.

Yn hytrach, diffinnir ffigur cyfrifyddu terfynol hwn a gyfer 2020-21 drwy gynnwys trafodiadau (neu unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau) a dderbyniwyd hyd at 30 Ebrill 2021 oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2020-21. Nid yw unrhyw drafodiadau a dderbyniwyd (neu ddiwygiadau a wnaed) ers 30 Ebrill 2021, neu sydd eto i'w derbyn, wedi'u cynnwys. Mae’r data hwn wedi’i gyhoeddi’n ffurfiol fel rhan o adroddiad a chyfrifon blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2020-21, fel y’u gosodwyd gerbron Senedd Cymru.

Ffigur 7.2: Refeniw a gyflwynir yn y Gyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru (£ miliwn), yn ôl blwyddyn
Math o drafodiad 2018-19 2019-20 2020-21
Preswyl 155.4 163.4 152.1
Amhreswyl  72.4 96.9 58.4
Cyfanswm 227.8 260.3 210.5

Ffynhonnell: Cyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru

Mae gwahaniaeth allweddol rhwng cyfanswm y refeniw ar gyfer bob blwyddyn (Ffigur 7.2) a'n hystadegau ehangach yn ymwneud ag ad-daliadau cyfraddau uwch. Er enghraifft, bydd trafodiadau a ad-dalwyd yn ystod 2020-21 (sy'n ymwneud â thrafodiad gwreiddiol yn 2018-19 neu 2019-20) yn cael effaith ar werth 2020-21 yn Ffigur 7.2, ond ar werthoedd 2018-19 neu 2019-20 yn ein hystadegau ehangach.

Nôl i dop y dudalen

8. Dadansoddiad o fewn Cymru

Prif bwyntiau yn yr adran hon

Mae ein hystadegau blynyddol ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021 yn ôl awdurdod lleol yn dangos:

  • ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£7,470) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£920). Ar gyfer trafodiadau amhreswyl, roedd y ffigur hwn ar ei uchaf yng Nghaerdydd (£27,310) ac ar ei isaf yng Nghonwy (£2,850)
  • ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£311,000) ac ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£114,000)
  • roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio rhwng 18% yn Sir y Fflint a 38% yng Ngwynedd

Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau er enghraifft darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Data yn ôl awdurdod lleol

Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (ar sail flynyddol yn unig). Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a threth sy'n ddyledus.

Hefyd, rydym yn cyflwyno data awdurdodau lleol ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain.

Yn y dyfodol, byddwn yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.

Data yn ôl etholaeth y Senedd ac ardal adeiledig

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau blynyddol ar gyfer etholaethau'r Senedd ac ardaloedd adeiledig. Nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu dadansoddi yn y datganiad hwn ond maent ar gael ar y gwefan StatsCymru. Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig.

Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd neu ardal adeiledig.

Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd lleol, nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer etholaethau'r Senedd ac ardaloedd adeiledig.

Cyflwyno cyfartaleddau yn yr adran hon

Lle caiff cyfartaleddau Cymru eu cyflwyno yn yr adran hon, mae'r rhain yn gymedrau wedi’u pwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd o drafodiadau ym mhob awdurdod lleol.

Mae ffigurau 8.1 i 8.3 a 8.5 yn rhoi cymarebau (er enghraifft, treth sy'n ddyledus fesul trafodiad neu drafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau). Mae angen y defnydd hwn o gymarebau er mwyn creu data y gellir ei gymharu ar draws yr holl awdurdodau lleol, gan y bydd y cysyniadau unigol yn aml yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau lleol oherwydd yr amrywiaeth o ran eu maint a'u poblogaeth.

Er enghraifft, ystyriwch Ffigur 8.1. Ymhlith awdurdodau lleol Cymru, Caerdydd oedd â’r swm uchaf o dreth breswyl yn ddyledus a nifer uchaf y trafodiadau preswyl. Oherwydd eu maint, byddai hyn yn atal cymhariaeth ystyrlon ar draws awdurdodau lleol, ond wrth edrych ar dreth a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl, awdurdod llawer llai (Sir Fynwy) oedd yn â’r swm uchaf, gyda'r swm cymaradwy yng Nghaerdydd y pumed fwyaf.

Image
Mae Ffigur 8.1 yn dangos ar gyfer trafodiadau preswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.1 yn dangos, ar gyfer trafodiadau preswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£7,470) a Bro Morgannwg (£6,430).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£920) a Chastell-nedd Port Talbot (£2,180).

Ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i'r flwyddyn flaenorol.

Yn y mwyafrif o awdurdodau lleol (ond nid ym mhob un), cynyddodd y dreth gyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Image
Mae Ffigur 8.2 yn dangos ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch: swm y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.2 yn cyflwyno data tebyg i Ffigur 8.1, heblaw bod Ffigur 8.2 yn canolbwyntio ar y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus o drafodiadau cyfraddau uwch (nid cydran prif gyfradd y trafodiadau hynny). Cyfrifir y refeniw cyfartalog fesul y nifer o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch ym mhob awdurdod lleol.

Mae trefn yr awdurdodau lleol yn gyffredinol debyg yn Ffigur 8.1 ac 8.2, ond mae yna rai gwahaniaethau. Er enghraifft, dim ond 6ed uchaf yw Sir Benfro yn Ffigwr 8.1 ond mae’n 3ydd uchaf yn Ffigur 8.2.

Yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, roedd y refeniw ychwanegol cyfartalog oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch ar ei uchaf yn Sir Fynwy (£9,400) ac Ynys Môn (£9,240), ac isaf ym Mlaenau Gwent (£2,890) a Merthyr Tudfil (£3,090).

Ym mhob awdurdod lleol, cynyddodd y refeniw ychwanegol oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl cyfraddau uwch ym mis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Image
Mae Ffigur 8.3 yn dangos ar gyfer trafodiadau amhreswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.3 yn dangos, ar gyfer trafodiadau amhreswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yng Nghaerdydd (£27,310).

Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl ar ei isaf yng Nghonwy (£2,850).

Yn yr un modd â thrafodiadau preswyl, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau unigol mewn awdurdod lleol yn amrywio'n fawr o amgylch y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru.

Er bod y patrymau a welir ar gyfer preswyl a amhreswyl yn eithaf tebyg, mae rhai gwahaniaethau clir yn nhrefn yr awdurdodau lleol rhwng y ddau siart.

Ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021, mae’r safle gymharol yn y siart ar gyfer rhai awdurdodau lleol wedi newid yn sylweddol (o'i chymharu ag Ebrill 2019 i Fawrth 2020). Er enghraifft, mae Sir Ddinbych wedi codi o'r 16eg uchaf i'r 3ydd uchaf, tra bod Caerffili wedi cwympo o'r 2il uchaf i'r 11eg uchaf. Mae hyn yn dangos anwadalrwydd y data amhreswyl o flwyddyn i flwyddyn.

Image
Mae Ffigur 8.4 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Mae Ffigur 8.4 yn dangos yr amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol o ran lefel y trafodiadau preswyl cyfradd uwch. Cyflwynir y data hwn fel canran o'r holl drafodiadau preswyl.

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn gofyn y cwestiwn). Fodd bynnag, mae dadansoddiad yn adran 9 y datganiad hwn (yn ôl amddifadedd) yn ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Cyflwynir rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ystadegau ar gyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau Tir yn yr erthygl sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.

Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn fwy cyffredin yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yng Ngwynedd (38%), Ynys Môn (34%) ac Abertawe (31%).

Gwelwyd y canrannau isaf yn Si y Fflint (18%) a Phowys (19%).

Ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg i Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (data extracted in June 2020). Ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg i Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (data wedi’i echdynnu fis Mehefin 2020). O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf rhwng un flwyddyn a’r llall oedd:

  • Merthyr Tudful (cynnydd o 5 pwynt canran)
  • Torfaen (cynnydd o 4 pwynt canran)
  • Conwy, Wrecsam a Chaerdydd (y tri â gostyngiad o 3 phwynt canran)
Image
Mae Ffigur 8.5 yn dangos gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru, Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru

Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y gwerthoedd eiddo cyfartalog (neu gydnabyddiaeth) uchaf, fesul trafodiad yn Sir Fynwy (£311,000) a Bro Morgannwg (£277,000), ac yr isaf ym Mlaenau Gwent (£114,000) a Merthyr Tudful (£135,000).

Mae'n rhy syml trin y ffigurau uchod fel prisiau eiddo cyfartalog ynddynt eu hunain, neu er mwyn canfod twf prisiau mewn awdurdod lleol penodol. Bydd rhai trafodiadau mawr yn bresennol a all achosi tuedd yn y data hyn ac efallai na fydd cyfansoddiad y trafodiadau mewn unrhyw gyfnod penodol yn gynrychioliadol o'r stoc gyfan, na'r newid yn y stoc. Yn hytrach dylid defnyddio'r data i nodi tueddiadau ehangach ym mhrisiau tai ledled Cymru, ac ym mhle yng Nghymru mae'r prisiau isaf neu uchaf yn gyffredinol.

Fel y gwelwyd mewn tueddiadau ehangach yn y farchnad eiddo, mae gwerth cyfartalog eiddo preswyl wedi’i drethu wedi cynyddu ym mhob awdurdod lleol yn Ebrill 2020 i Fawrth 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ac ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021, mae trefn a dosbarthiad yr awdurdodau lleol yn y siart hon yn debyg iawn i'r flwyddyn flaenorol.

Nôl i dop y dudalen

9. Dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Yn yr adran hon o’r datganiad, rydym yn dadansoddi Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ardaloedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos lefel y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer ardaloedd MALlC ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r ardal MALlC. Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd MALlC nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer ardaloedd MALlC.

Beth yw MALlC a sut yr ydym yn ei ddefnyddio?

Mae MALlC wedi'i gynllunio er mwyn nodi’r ardaloedd bychain hynny o Gymru sydd fwyaf difreintiedig. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol faes (neu fath) o amddifadedd. Mae pob maes wedi'i lunio o ystod o wahanol ddangosyddion. Yr wyth maes yw incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, diogelwch cymunedol, yr amgylchedd ffisegol a thai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we MALlC.

Pan fo wedi’i gofnodi, rydym wedi cysylltu'r cod post o’r ffurflen dreth i tua 1,900 o ardaloedd bychain yng Nghymru. Caiff yr ardaloedd bychain hyn eu rhestru gan MALlC o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u rhannu'n ddeg band cyfartal eu maint o'r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig (a elwir yn 'ddegfedau').

Diweddarwyd safleoedd MALlC yn ddiweddar (2019). Rydym wedi defnyddio'r safleoedd MALlC diweddaraf hyn yn y datganiad hwn. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu tair i chwe blynedd. Pan wnaethom gyhoeddi'r dadansoddiad hwn dwy flynedd yn ôl, gwnaethom ddefnyddio safleoedd MALlC 2014.

Lle caiff cyfartaleddau eu cyflwyno yn yr adran hon, mae hwn yn gymedr wedi’i bwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd y trafodiadau ym mhob degfed MALlC.

Mae'n bwysig nodi mai mesuriad ar sail ardal yw MALlC. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, nid yw pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn ddifreintiedig. Yn yr un modd, gall rhai o'r boblogaeth sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fod yn ddifreintiedig.

Mae’n bwysig nodi bod MALlC yn canolbwyntio ar amddifadedd cymharol yn unig, felly nid yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fydd y rhai mwyaf cefnog o reidrwydd. Dylai cyfeiriad y symudiad a nodir yma gael ei ystyried fel y symudiad o’r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig ac nid o’r difreintiedig i’r cefnog.

Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o'r amrywiad o ran amddifadedd i'w weld yn y degfedau mwyaf difreintiedig. Mae'r gwahaniaeth (mewn amddifadedd cymharol) rhwng y degfed mwyaf difreintiedig a'r ail fwyaf difreintiedig yn fwy nag ydyw ym mhen arall y dosbarthiad.

Image
Mae Ffigur 9.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac ar y cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.
Image
Mae Ffigur 9.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl a’r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl mesur ac ardal amddifadedd ar StatsCymru

Gan fod pob un o'r degfedau hyn o faint tebyg o ran poblogaeth, gallwn ddadansoddi'r data heb eu graddio ar gyfer eu maint , fel yr oedd yn angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol (gweler y blwch gwyrdd yn Adran 8 y datganiad hwn). Mae hyn yn ein galluogi i ystyried nifer y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus ar wahân yn hytrach na'r gymhareb rhwng y ddwy eitem a ddadansoddwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol.

Mae Ffigur 9.2 yn dangos, fel y gellid disgwyl, bod cyfanswm y dreth breswyl sy'n ddyledus yn tyfu'n sylweddol ac yn eithaf unffurf drwy'r ystod o ardaloedd (o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig). Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaethau tebygol yng ngwerth eiddo yn yr ardaloedd hyn.

Fodd bynnag, mae Ffigur 9.1 hefyd yn dangos fod nifer y trafodiadau preswyl ar ei isaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gyrraedd uchafbwynt tua chanol a thug at ran olaf y dosbarthiad, a gostwng ychydig ar gyfer y degfed lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn awgrymu bod amddifadedd nid yn cysylltu â’r prisiau ond hefyd i’r lefel y gweithgaredd yn y farchnad dai yng Nghymru.

Yn gyffredinol, mae'r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch hefyd yn tyfu o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hyd at ddiwedd y dosbarthiad, cyn disgyn yn y degfed lleiaf difreintiedig.

Ar gyfer data Treth Trafodiadau Tir Ebrill 2020 i Fawrth 2021 (gan ddefnyddio safleoedd MALlC 2019), mae'r patrwm a welir yn Ffigurau 9.1 a 9.2 yn debyg yn fras i ddadansoddiad y llynedd o ddata Ebrill 2019 i Fawrth 2020 (gan ddefnyddio safleoedd MALlC 2019 hefyd).

Image
Mae Ffigur 9.3 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn ôl ardal amddifadedd a math o drafodiad ar StatsCymru

Mae Ffigur 9.3 yn dangos canran y trafodiadau cyfraddau uwch o fewn cyfanswm y trafodiadau preswyl ar gyfer pob degfed MALlC. Yn gyffredinol, mae cyfran y trafodiadau preswyl sy'n cael eu trethu ar y cyfraddau uwch yn disgyn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (gyda rhai eithriadau).

Mae'r duedd yn y canrannau (gan fynd o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig) yn llyfnach ar y siart hon na'r dadansoddiad a gyhoeddwyd y llynedd ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019 (gan ddefnyddio data MALlC 2014). Mae hyn yn debygol o fod oherwydd bod mwy o aliniad rhwng dyddiad y trafodiadau a'r dyddiad sy'n berthnasol i’r dadansoddiad MALlC (2019).

Fel y nodwyd yn Adran 8 y datganiad hwn, mae amryw o resymau am godi’r cyfraddau treth uwch, dau o'r rhain yw pryniant eiddo prynu-i-osod a phrynu ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae Ffigur 9.3, ynghyd â ffigur 9.1 (sy'n dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn nifer y trafodiadau cyfraddau uwch rhwng degfedau MALlC), yn gallu rhoi cipolwg ar y cydbwysedd rhwng y ddwy eitem hyn.

Gan dybio bod eiddo prynu-i-osod yn fwy tebygol o gael ei brynu mewn ardaloedd mwy difreintiedig, tra bod ail gartrefi neu dai gwyliau yn fwy tebygol o gael eu prynu ymhellach i fyny'r dosbarthiad, yna gellir dod i gasgliad petrus bod eiddo prynu-i-osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi. Mae'n bwysig, felly, peidio â thybio mai unrhyw ffactor unigol yw achos codi’r gyfradd uwch.

Image
Mae Ffigur 9.4 yn dangos y nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiadau yn dod i rym o Ebrill 2018 i Fawrth 2021, yn ôl degfed MALlC

Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar ad-daliadau cyfraddau uwch ardal amddifadedd a dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru

Mae Ffigur 9.4 yn dangos data yn ôl degfed MALlC ar ad-daliadau cyfraddau preswyl uwch a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym yn ystod y 3 blynedd Ebrill 2018 i Fawrth 2021. Disgwylir gwneud rhagor o ad-daliadau yn y dyfodol. ar gyfer trafodiadau a ddaeth i rym yn y cyfnod hwn. Cyflwynir dadansoddiadau eraill o ad-daliadau yn ôl dyddiad dod i rym yn Ffigur 6.1 yn gynharach yn y datganiad hwn.

Mae Ffigur 9.4 yn dangos cymharol ychydig o ad-daliadau, a gwerth yr ad-daliadau hynny, yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Gall hyn gryfhau’r casgliad petrus o dan Ffigur 9.3 bod prynu-i-osod yn ffactor o ran pam y codir cyfraddau treth uwch.

Nôl i dop y dudalen

Atodiad A: Dadansoddiad o ddiwygiadau

Rydym yn dadansoddi yma yr effaith y diwygiadau rheolaidd a wneir i ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir. Rydym yn dadansoddi'r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon cyntaf, ail a thrydydd a gyhoeddwyd ar gyfer mis. Mae hyn ar gyfer nifer y trafodiadau a’r dreth sy'n ddyledus.

Er enghraifft, cyhoeddon ni tri amcangyfrif ar gyfer mis Mawrth 2021. Fe wnaethom gyhoeddi’r amcangyfrif cyntaf ar 29 Ebrill 2021, yr ail amcangyfrif ar 21 Mai 2021 a'r trydydd amcangyfrif ar 25 Mehefin 2021.

Image
Mae Ffigur A1 yn dangos ar gyfer y nifer y trafodiadau, y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl y mis dod i rym.
Image
Mae Ffigur A2 yn dangos ar gyfer y treth yn ddyledus, y newid canrannol rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl y mis dod i rym.

Canran y newid rhwng yr amcangyfrif cyntaf a’r ail amcangyfrif, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym (MS Excel)

Mae Ffigurae A1 ac A2 yn dangos bod lefelau uwch o adolygiadau i’w gweld yn gyffredinol yn y misoedd cynharaf y dechreuodd Awdurdod Cyllid Cymru gasglu Treth Trafodiadau Tir. Felly y mae pethau, yn arbennig ar gyfer y dreth sy’n ddyledus ar drafodiadau sydd â’r dyddiad dod i rym ym mis Ebrill 2018, pan roedd 30% o gynnydd yn amcangyfrif y dreth sy’n ddyledus (o’r amcangyfrif cyntaf i’r ail amcangyfrif am y mis). Disgwylid diwygio ym mis Ebrill 2018 oherwydd byddai defnyddwyr yn llai cyfarwydd â’r system, a hefyd oherwydd bod dyddiad terfynol cynharach wedi cael ei ddefnyddio yn y mis canlynol i echdynnu’r data.

Fodd bynnag, mae’r ffigwr ar gyfer Ebrill 2018 o 30% yn y dreth sy’n ddyledus lawer yn uwch na’r ffigwr cyfatebol yn nifer y trafodiadau (11%). Yr esboniad yw nad oedd Awdurdod Cyllid Cymru wedi cael gwybod am rai trafodiadau mawr, sydd â dyddiad dod i rym yn hwyr ym mis Ebrill 2018, tan yn ddiweddarach ym mis Mai (cyn y terfyn llenwi, sef 30 diwrnod, ond ar ôl y dyddiad terfynol ar gyfer eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2018).

Mae Ffigurae A1 ac A2 hefyd yn dangos bod lefelau’r diwygiadau wedi gostwng yn gyffredinol dros amser. Ers mis Hydref 2018, mae'r adolygiadau rhwng yr amcangyfrif misol cyntaf a'r ail yn gyffredinol wedi bod i fyny a rhwng 0 a 5%. Yr eithriadau diweddar oedd:

  • Mis Ebrill 2019 pan oedd y dreth yn ddyledus yn adolygu i lawr 3% rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif.
  • Mis Mehefin 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 9%)
  • Mis Medi 2019 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 16%)
  • Mis Ionawr 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 27%)
  • Mis Mawrth 2020 (adolygwyd y dreth oedd yn ddyledus i fyny 6%)

Yn gyffredinol, mae’r eithriadau hyn oherwydd nifer fechan o ffurflenni gwerth mwy yn cyrraedd tua diwedd y cyfnod hysbysu 30 diwrnod.

Mae’r lefel is o ddiwygiadau a welir yn gyffredinol yn debygol fod hyn wedi digwydd yn rhannol am fod cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy’n llenwi’r ffurflenni yn dod yn fwy cyfarwydd â’r system. Mae hyn yn gyson â gostyngiad cyffredinol yn yr amser mae’n ei gymryd i anfon adroddiadau at Awdurdod Cyllid Cymru dros yr un cyfnod (nid yw hyn wedi’i ddangos yn y tablau na’r siartiau).

Gallai rhai materion tymhorol ddylanwadu ar ddiwygiadau i’r data. Er i ni weld diwygiadau uwch ar gyfer amcangyfrifon Gorffennaf 2018 na’r misoedd o’i gwmpas, nid ydym yn gweld unrhyw debygrwydd amlwg yn y data ar gyfer 2019. Ac ynmhellach, mae effeithiau coronafirws (COVID-19) wedi effeithio’n sylweddol ar ddata ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021. Felly, bydd angen gwerth blwyddyn arall o ddata arnom er mwyn asesu unrhyw ddiwygiadau o ran effeithiau tymhorol.

Diwygiadau rhwng yr ail a thrydydd amcangyfrifon cyhoeddedig

Mewn taenlen a gyhoeddir ochr yn ochr â’r datganiad ystadegol hwn, mae Tablau 1 a 2 yn dangos y gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon cyhoeddegig cyntaf, ail a thrydydd ar gyfer mis.

Rydym yn gweld cynnydd cymharol fach a rhwng yr ail amcangyfrif a’r trydydd amcangyfrif am fis. Yn gyffredinol, felly y mae pethau hefyd gyda’r amcangyfrifon hwyrach am fis (ni ddangosir hyn yn y tablau). Fodd bynnag, gwellir gweld gostyngiadau yn yr ail amcangyfrif, y trydydd amcangyfrif a’r amcangyfrifon hwyrach o’r dreth sy’n ddyledus am fis. Y rheswm am hyn yw bod y data’n cael ei ddangos yn net o unrhyw ad-daliadau am drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Gellir hawlio’r ad-daliadau hyn sawl blwyddyn ar ôl y dyddiad pryd daw’r trafodiad gwreiddiol i rym. Rydym yn dadansoddi ad-daliadau yn adran 6 o'r datganiad ystadegol hwn.

Yn y dyfodol, gallen ni fod yn ystyried cymhwyso ffactor grosio i amcangyfrifon cyntaf mis. Gallai hyn fod yn gymorth i ostwng nifer y diwygiadau sydd eu hangen ar amcangyfrif cyntaf y mis. Gan fod y data’n ymddangos yn anwadal hyd yma, mae’n debygol y bydd angen i ni gael sawl blwyddyn o ddata Treth Trafodiadau Tir i gyfrifo ffactorau grosio priodol.

Yn gyffredinol, rydym yn gweld diwygiadau mwy o faint yn y data ar drafodiadau amhreswyl nag ar drafodiadau preswyl. Mae hyn yn adlewyrchu natur anwadal y trafodiadau amhreswyl, a’r ffaith eu bod yn fwy o faint yn aml.

Nôl i dop y dudalen

Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau

Ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.

Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Nôl i dop y dudalen

Adborth a manylion cyswllt

Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.

Dave Jones

Rhif ffôn: 03000 254 729

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image
Awdurdod Cyllid Cymru / Welsh Revenue Authority logo