Neidio i'r prif gynnwy

Sut y mae ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, ymddiriedaeth ac ansawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:
Gweld hanes diweddaru

Gwerth

Cyflwyniad o Dreth Trafodiadu Tir

Cyflwynon ni’r ystadegau hyn er mwyn diwallu gofyniad y defnyddiwr ar gyfer data Dreth Trafodiadau Tir, ar ôl sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Gweler rhagor o wybodaeth am y dreth trafodiadau tir.

Ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi yng ngwledydd eraill y DU

Mae Gyllid a Thollau EM a Cyllid yr Alban yn cyhoeddi ystadegau am y trethi cyfatebol yn Lloegr a’r Alban.

Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gallai nifer y trafodiadau yng Nghymru ym mis diweddaraf y cyhoeddiad Trafodiadau Eiddo Misol fod ychydig yn wahanol i’r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae hyn oherwydd yng nghyhoeddiad y DU, mae ffactor grosio wedi’i ddefnyddio ar yr amcangyfrifon cychwynnol ar gyfer y mis er mwyn amcangyfrif nifer y trafodiadau ar gyfer y mis hwnnw yn y pen draw.

Cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir â data gwerthu eiddo a ddefnyddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU (HPI)

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi ystadegau misol ar brisiau tai yn y DU. Mae'r SYG yn defnyddio amryw o ffynonellau data i lunio Mynegai Prisiau Tai y DU (HPI). Mae hyn yn cynnwys data o Gofrestrfa Tir EM ar gofrestriadau tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Ochr yn ochr ag ystadegau HPI, mae'r SYG yn cyhoeddi niferoedd misol y gwerthiannau eiddo preswyl.

Rydym wedi cymharu nifer y gwerthiannau eiddo o'r ffynhonnell hon â'n hystadegau Treth Trafodiadau Tir ni. Er bod y tueddiadau’n weddol debyg yn y ddwy ffynhonnell, mae nifer y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir preswyl yn gyffredinol uwch nag yn nata gwerthiannau’r HPI. Rydym yn credu mai'r prif reswm am y gwahaniaeth yw bod y SYG yn eithrio rhai trafodiadau penodol wrth gynhyrchu'r ystadegau HPI. Rydym yn credu mai'r ddwy brif ffactor yw:

  1. Trafodiadau masnachol eiddo preswyl (sef, pan fo'r prynwr neu'r gwerthwr yn gorff corfforaethol, yn gwmni neu’n fusnes). Gallwn roi cyfrif bras am y rhain yn y data Treth Trafodiadau Tir, a gellir gweld bod y trafodiadau hyn i gyfrif am rywfaint o'r gwahaniaeth.
  2. Gwerthiannau nad oeddent am werth llawn y farchnad. Er na allwn gyfrif am y rhain yn hawdd yn y data Treth Trafodiadau Tir, mae gwerth cyfartalog eiddo mewn trafodiadau Treth Trafodiadau Tir yn gyffredinol is nac yn yr ystadegau HPI (er bod nifer y trafodiadau’n uwch). Mae hyn yn awgrymu bod cynnwys trafodiadau gwerth is yn y data Treth Trafodiadau Tir yn cael effaith ar y gymhariaeth.

Mae'r trafodiadau uchod yn cael eu cynnwys yn ystadegau Treth Trafodiadau Tir, ond nid yn ystadegau’r HPI.

Mae'r SYG hefyd yn eithrio rhai trafodiadau eraill o'r HPI, sydd yn ein barn ni’n cael llai o effaith ar y gymhariaeth. Mae mwy o wybodaeth am yr eithriadau hyn ar gael yn adroddiadau ‘About the UK House Price Index’.

Dyddiadau a ddefnyddir yn ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae data sy’n cael ei gyflwyno yn ein datganiad ystadegol hwn yn seiliedig ar y dyddiad pryd daw’r trafodiad i rym. Y dyddiad dod i rym yw pryd mae’r dreth yn dod yn gymwys i’r thalu, fel arfer ar adeg cwblhau trafodiad ar eiddo. Er bod defnyddio’r dyddiad dod i rym wrth ddadansoddi yn gallu arwain at fwy o anwadalwch yn y data (er enghraifft, oherwydd newid yn y cyfraddau trethiant), a diwygiadau mewn datganiadau ac adroddiadau data wedi hynny, mae’r dyddiad hwn yn ymwneud ag adeg pryd digwyddodd y trafodiad ac nid yw’n rhyw ddyddiad yn y dyfodol pryd daeth y ffurflen dreth i law. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd y gyfres a grëwyd o’n dadansoddiad ni yn adlewyrchu newidiadau yn y cyfraddau treth a pholisi ar yr adeg pryd mae unrhyw newidiadau’n digwydd.

Rydyn ni’n ymwybodol fod rhai cyhoeddiadau yn y DU yn seilio eu dadansoddiadau ar ddyddiad cyflwyno’r ffurflen dreth. Rydym wedi felly yn cyhoeddi rhai ffigyrau y mae modd eu cymharu â gwledydd eraill y DU (gan ddefnyddio’r dyddiad cyflwyno) yn ein ystadegau Treth Trafodiadau Tir blynyddol.

Diwygiadau i ac amseru ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir

Mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd. Mae effaith y diwygiadau’n cael ei ddadansoddi mewn ystadegau Treth Trafodiadau Tir misol a chwarterol, a darperir sylwebaeth yn yr ystadegau Treth Trafodiadau Tir chwarterol.

Rydym yn egluro amseriad ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ein polisi ar allbynnau ystadegol.

Dibynadwyedd

Rydym wedi cynhyrchu yr ystadegau hyn yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Fel cynhyrchydd newydd o ystadegau swyddogol, rydym yn datblygu ein prosesau cyhoeddi ystadegol, a chyhoeddwyd yn blaenorol ein polisi ar allbynnau ystadegol. Mae hyn yn cynnwys:

  • y safonau proffesiynol a ddilynwyd wrth greu’r ystadegau hyn;
  • sut mae Swyddog Arweiniol Ystadegau yr Awdurdod yn rheoli cynnwys ac amseru’r allbynnau’n annibynnol;
  • sut rydyn ni’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr am allbynnau sydd ar y gweill;
  • sut caiff data ei gasglu, ei storio a’i reoli; a
  • bydd staff sy’n ymwneud â chynhyrchu ystadegau’n mynd drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil a fframwaith cymwyseddau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.

Ansawdd

Rydym wedi asesu’r budd a’r pryderon posibl o ran ansawdd yn unol â chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddefnyddio data gweinyddol. Y tabl isod yw ein hasesiad cyfredol.

Ffynhonnell data Proffil budd y cyhoedd Lefel y risg o bryderon ynghylch ansawdd Lefel yr wybodaeth sicrwydd a ddatblygir
Data cofrestru’r Dreth Trafodiadau Tir Isel Isel A1 – sicrwydd sylfaenol
Ffurflenni treth y Dreth Trafodiadau Tir Canolig Isel A2 – sicrwydd uwch

Er baratoi bob datganiad ystadegol, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda staff gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru i ganfod materion pellach yn ystod casglu data a phrosesu ffurflenni unigol. Rydym yn parhau i ddefnyddio systemau rheoli data sy'n dadansoddi ffurflenni treth yn syth ac sy'n tynnu sylw at feysydd a allai beri pryder. Pan mae ffurflen dreth yn cael ei newid gan dîm gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru, cysylltir â’r sefydliad sy’n llenwi'r ffurflen i gadarnhau'r newid.

Rydyn ni hefyd yn gweithio’n barhaus gyda chyd-weithwyr mewnol i ganfod opsiynau ar gyfer lliniaru’r materion hyn ar adeg casglu ffurflenni yn y dyfodol, a bydd hynny’n arwain yn anuniongyrchol at ansawdd gwell i ddata. 

Mae tîm gweithrediadau’r Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn ystyried risgiau i’r dreth a gesglir. Gallai mynd i'r afael â risgiau wella ansawdd y data’n anuniongyrchol mewn rhai meysydd.

Mae’n werth nodi hefyd bod y rhan fwyaf o’r data am y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sy’n gweithio ar ran y trethdalwyr, gyda rhai ohonynt yn cyflwyno trafodiadau yn rheolaidd (mae tua 10 y cant o’r sefydliadau yn darparu pedair ran o bump o’r ffurflenni treth). Mae hyn wedi arwain at welliannau yn ansawdd y data wrth i’r Awdurdod Cyllid Cymru ddatblygu perthynas â nifer o sefydliadau. 

Mae 3,300 o sefydliadau yn cofrestru ar gyfer cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir ar-lein, gyda chyfanswm oddeutu 9,300 o ddefnyddwyr ar-lein wedi’u cofrestru. Rhoddir enghreifftiau isod o faterion ansawdd rydyn ni wedi’u canfod yn flaenorol, a’n hymateb hyd yma.

Enghraifft 1

Wrth sicrhau ansawdd y datganiad hwn fe wnaethom astudio trafodiadau amhreswyl oherwydd ansefydlogrwydd y data, yn enwedig wrth ystyried yr is-setiau bach sydd yn y datganiad. Gwnaethom adolygu’r rhesymau dros yr ansefydlogrwydd sydd fel arfer yn gysylltiedig â nifer fach o drafodiadau gwerth uchel a all ddigwydd unrhyw adeg ond sydd ddim yn digwydd bob mis. Gan fod trafodiadau amhreswyl o werth gymharol isel fel arfer, mae’r trafodiadau gwerth uchel yn cael effaith mawr ar sefydlogrwydd. 

Rydym wedi dod i’r casgliad canlynol. Tra nad oes unrhyw bryder uniongyrchol gyda’r data o ganlyniad i’r ymarfer hwn, bydd yn werthfawr cyflwyno dadgyfuniad pellach o’r data newydd. Rydym wedi cyhoeddi’r rhain fel rhan o’n datganiad blynyddol a thablau StatsCymru.

Enghraifft 2

Drwy asesu'r dreth sy’n ddyledus o gymharu â’r data a gyflwynwyd am bob trafodiad, rydyn ni wedi gallu canfod rhai gwallau yn y data. Mae hyn wedi arwain at rai cywiriadau i'r trafodiadau, ar y cyd â’r asiantiaid sydd wedi’u cyflwyno.

Un enghraifft yw adeg pryd rydyn ni wedi gwirio a oedd yr opsiwn gorau ar gyfer y math o drafodiad wedi cael ei ddewis wrth ffeilio. 

Gall trafodiad fod yn breswyl neu'n amrheswyl (sy'n cynnwys achosion lle nad yw eiddo yn gyfan gwbl yn un preswyl). Hefyd, gall cyfradd uwch fod yn berthnasol i eiddo preswyl gan ddibynnu ar rai ffactorau. Gweler ein canllawiau technegol am fwy o wybodaeth.

Drwy ddadansoddi'r dreth sy’n ddyledus, a data atodol, rydyn ni wedi gallu canfod achosion pryd mae’r math anghywir o drafodiad wedi cael ei ddewis ac wedi’i gywiro’n ddiweddarach. Cyflwynir y data yn ôl math o drafodiad yn Nhabl 2 yn ystadegau misol a chwarterol.

Pam rydyn ni wedi gwneud hyn?

Os yw’r prynwr, cyn pen tair blynedd ar ôl trafodiad ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfraddau uwch, yn gwerthu ei brif breswylfa flaenorol, gallai fod yn gymwys i gael ad-daliad o'r gyfradd uwch ychwanegol o'r Dreth Trafodiadau Tir. Felly, mae’n bwysig gallu amcangyfrif y ffigur hwn mor gywir ag y bo modd.

Enghraifft 3

Rydym wedi gwneud sawl newid i'n tablau data yn y datganiad hwn, yn seiliedig ar adborth defnyddwyr ac i gywiro materion ansawdd a gwella gwerth y data a gyflwynwyd yn flaenorol

Ar 22 Chwefror 2019, fe wnaethom adolygiad bychan am i lawr i dreth sy'n ddyledus drwy ‘refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch’ yn Nhabl 1 yn ein ystadegau misol. Gwnaethpwyd yr adolygiad hwn yn ein datganiad data yn unig ar gyfer ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tirlenwi ym mis Ionawr 2019, a gyhoeddwyd ar wefan StatsCymru. Yn flaenorol, roeddem wedi tybio bod y refeniw ychwanegol o gyfraddau uwch yn 3 y cant o'r ystyriaeth (ar gyfer pob trafodiad cyfradd uwch). Fodd bynnag, nid yw hyn yn wir bob amser - er enghraifft, os oes gostyngiadau yn y trafodiad sy'n lleihau neu'n clirio'r rhwymedigaeth treth.

Mae gan drafodion prydlesi dibreswyl naill ai (neu’r naill a’r llall):

  • gwerth di-rent (neu bremiwm); a
  • gwerth rhent (sy'n ymwneud â hyd a thelerau'r brydles).

Mae'r ddwy elfen hon yn cyfrannu'n wahanol at y dreth sy'n ddyledus ar drafodiad prydles. Yn flaenorol, roedd Tabl 4 (trafodion dibreswyl yn ôl gwerth) yn ein ystadegau misol a chwarterol, yn dosbarthu trafodion yn ôl y gwerth nad yw'n werth rhentu yn unig.

Cawsom adborth gan ddefnyddwyr y dylai Tabl 4 gynnwys gwerth rhent trafodion dibreswyl (lle bo'n berthnasol) wrth ddosbarthu'r trafodion. Gan hynny, rydym wedi datblygu ein dulliau i'n galluogi i ychwanegu'r dadansoddiad hwn. Mae hyn wedi cynnwys hollti'r dreth sy'n ddyledus ar drafodion dibreswyl i ddwy elfen pro rata’r gwerthoedd rhent a heb fod yn rhent, a chyflwyno'r rhain mewn colofnau ar wahân. Mae hyn yn cyflwyno rhywfaint o gyfrif dwbl yn y colofnau a ddangosir yn y tabl, a dylid cymryd gofal wrth adio'r colofnau (fel yr eglurir yn nhroednodiadau’r tabl). Rydym hefyd wedi ychwanegu gwerth rhent eiddo amhreswyl i Dabl 1.

Enghraifft 4

Yn ein dadansoddiad o ryddhadau, rydym wedi dod o hyd i nifer o drafodiadau a ymddangosent fel nad oedd y rhyddhadau fel petaent yn cael unrhyw effaith ar y dreth a oedd yn ddyledus. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi bod yn edrych ar pam fod hyn yn digwydd ac wedi ceisio lleihau'r achosion lle’r oedd y rhyddhad yn cael ei hawlio’n ddiangen. Mewn rhai achosion, gwyddom fod y rhyddhad wedi'i hawlio'n anghywir ac mae ein tîm gweithrediadau wedi gweithio gyda'r asiantau sy'n cyflenwi'r data er mwyn cywiro'r trafodiadau sylfaenol, gyda gwelliant cymesur i'n data.

Mewn achosion eraill, fodd bynnag, rydym yn gwybod bod y rhyddhad wedi'i hawlio ond bod agweddau eraill ar y trafodiad yn anghywir, a arweiniodd at y dybiaeth na chafodd y rhyddhad unrhyw effaith. Gan fod y trafodiadau sylfaenol yn aros i gael eu cywiro, rydym wedi gwneud rhai addasiadau er mwyn adlewyrchu'r cywiriadau y credwn y dylid eu gwneud fel rhan o'r broses o ddeillio ein hystadegau.

Mae'r ddwy set hyn o addasiadau wedi arwain at leihad yn nifer y trafodiadau nad oedd y rhyddhad, i bob golwg, yn cael unrhyw effaith ar y dreth a oedd yn ddyledus, ac mewn nifer o achosion mae wedi ychwanegu at swm y dreth a ddangoswyd fel rhyddhad yn adran 5 y datganiad ystadegol blynyddol.

Rydym yn parhau i edrych ar y categori hwn o ryddhad ac mae'n debygol y bydd addasiadau pellach yn cael eu gwneud dros y flwyddyn nesaf.

Enghraifft 5

Ym Mehefin 2019, gwnaethom ddarganfod naw trafodiad cysylltiol lle'r oedd y gydnabyddiaeth a nodwyd ar gyfer y trafodiadau’n anghywir. Roedd pob un o’r trafodiadau hyn yn nodi cyfanswm y gydnabyddiaeth a oedd yn berthnasol i'r naw trafodiad gyda’i gilydd, yn hytrach na chydnabyddiaeth pob trafodiad yn unigol, a ddylai fod wedi gwneud y cyfanswm hwnnw gyda’i gilydd. O’r herwydd, gwnaethom gyfri cyfanswm y trafodiadau cysylltiol yma naw gwaith (wyth gwaith yn fwy nac y dylid fod wedi ei gyfri). Wedi i ni ddarganfod y camgymeriad hwn, gwnaethom gysylltu â'r asiant a ddiwygiodd pob trafodiad er mwyn nodi’r cydnabyddiaethau unigol.

Enghraifft 6

Rydym wedi canfod nifer o ffurflenni treth lle mae'r gydnabyddiaeth 100 gwaith yn uwch na'r hyn y dylai fod wedi bod. Mae’n bosibl bod hyn oherwydd bod asiantau’n defnyddio meddalwedd trydydd parti i gwblhau a chyflwyno'r ffurflenni treth. Yn yr achosion hynny yr ydym wedi’u canfod, rydym wedi cysylltu â'r asiantau i ofyn iddynt wirio hyn a chyflwyno ffurflen ddiwygiedig os oes angen. Mae'r mater hwn wedi effeithio ar rai o'n hystadegau ar werth eiddo a hefyd ar ein hystadegau rhyddhadau (pan fo rhyddhad wedi'i hawlio ar y trafodiadau hyn).

Yn ychwanegol i’r enghreifftiau hyn, rydym hefyd wedi ystyried yr adrodd cyfyngedig ar rai trafodiadau mwy, a allai fod mewn perygl o gael eu datgelu. Gydag unrhyw drafodiad o faint digonol, mae risg o ddatgelu rhywbeth amdanynt wrth gyhoeddi ystadegau cyfansymiol.

Ein dull ni yw cydbwyso'r risg honno yn erbyn yr angen i gyhoeddi ffigwr ystyrlon ar gyfer cyfanswm y dreth a godir o dan y Dreth Trafodiadau Tir.

Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi creu categori bwced ar gyfer pob blwyddyn, ac yn y categori hwn, dim ond cyfanswm y dreth sy'n ddyledus o'r holl drafodiadau hyn sy'n cael ei adrodd, wedi'i dalgrynnu â llai o fanylder (i'r miliwn o bunnoedd agosaf). Ni fydd y bwced hwn yn datgelu dim heblaw'r flwyddyn y digwyddodd y trafodiad.

Ni chyflwynir nifer y trafodiadau sy'n mynd i'r bwced, cyfanswm gwerth y tir/eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hynny, nac unrhyw ymdeimlad o ddosbarthiad y trafodiadau (e.e. rhwng preswyl ac amhreswyl).

Ystyriwyd dull gwahanol o adael y trafodiadau bwced hyn allan yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, byddai hyn yn rhoi darlun anghyflawn o refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir. At hynny, yn gyfreithiol bydd angen i unrhyw daliadau treth sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn ymddangos yng nghyfrifon blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru. Byddai unrhyw wahaniaeth rhwng y cyfrifon hynny a'n hystadegau cyhoeddedig (pe byddem yn eithrio'r dreth sy'n ddyledus) yn datgelu gwerth y bwced gyda chywirdeb cyfyngedig beth bynnag. Felly, ystyrir bod y dull a fabwysiadwyd gennym o gynnwys y bwced yn un cymesur a chytbwys.

Yn ein dadansoddiad cyhoeddedig o drafodion yn ôl band gwerth cul, rydym wedi profi straen y defnydd o dalgrynnu i’r £100k agosaf ar rai o'r modelau rhagweld a chanfod nad oedd fawr o effaith pan ostyngwyd hyn i £10k.

Ansawdd y data daearyddol

Mae ein hystadegau blynyddol yn darparu dadansoddiad fesul ardal awdurdod lleol ac ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc). Cyhoeddir y data hwn hefyd ar wefan StatsCymru ynghyd â data ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae'n orfodol llenwi’r maes awdurdod lleol ar bob ffurflen dreth, tra bod y cod post yn faes dewisol ar y ffurflen dreth. Dim ond ar gyfer canfod yr etholaeth Cynulliad Cenedlaethol neu’r ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru lle digwyddodd y trafodiad y gallwn ddefnyddio’r cod post ar y ffurflen dreth. Mae'r cod post naill ai ar goll neu'n annilys ar bron i 5% o'r ffurflenni treth.

Yn ein dadansoddiad o ddata awdurdodau lleol, rydym yn codi'r awdurdod lleol o'r cod post drwy edrych ar Gronfa Ddata Codau Post y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (NSPD). Yna rydym yn cymharu'r wybodaeth hon â'r awdurdod lleol a ddewiswyd ar y ffurflen dreth.

  • Mewn 95% o achosion, mae'r awdurdod lleol sy'n deillio o'r cod post yn cyfateb i'r awdurdod lleol a nodwyd ar y ffurflen dreth.
  • Lle nad yw hyn yn wir, rydym yn edrych i weld a yw'r ddau awdurdod lleol yn gyfagos (er enghraifft, mae Caerdydd a Chasnewydd yn gyfagos):
    • os ydynt (yn gyfagos), rydym yn defnyddio'r awdurdod lleol a nodwyd ar y ffurflen dreth ar gyfer ein hystadegau. Mae hyn yn wir am tua 0.2% o'r ffurflenni treth.
    • os nad ydynt (yn gyfagos), rydym yn defnyddio'r awdurdod lleol a godwyd o’r cod post ar gyfer ein hystadegau. Mae hyn yn wir am llai na 0.1% o'r ffurflenni treth. Mewn amgylchiad fel hyn, rydym yn credu fod y cod post yn fwy tebygol o fod yn gywir a bod yr awdurdod lleol a nodwyd ar y ffurflen dreth yn fwy tebygol o fod wedi cael ei ddewis ar gam.
  • Yn y 5% arall o achosion lle mae'r cod post ar goll neu'n annilys, rydym yn cymryd yr awdurdod lleol fel y'i nodwyd ar y ffurflen dreth.

Mae gan y rhan fwyaf o drafodiadau un eitem o dir yn gysylltiedig â nhw, er bod gan rai trafodiadau fwy nag un darn o dir yn gysylltiedig. Rhaid i ni ddefnyddio manylion pob eitem o dir i benderfynu ar yr awdurdod lleol. Er mwyn osgoi dyblygu trafodiadau sydd â mwy nag un darn o dir, mae ffracsiwn (sy’n hafal i un wedi'i rannu â nifer yr eitemau tir) wedi'i ddodi ar y trafodiad ac ar y dreth sy'n ddyledus ar gyfer pob un. Mae hyn yn sicrhau bod y data'n cael ei dosrannu rhwng yr awdurdodau lleol perthnasol tra'n sicrhau cysondeb â chyfanswm y trafodiadau a gwerth y dreth sy'n ddyledus ar lefel Cymru.

Yn ein datganiad ystadegol blynyddol, cyflwynir data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a’r dreth sy'n ddyledus, tra bod data awdurdodau lleol yn cael ei chyflwyno ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a bod risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain. Yn y dyfodol, byddwn yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.

Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Gan fod y cod post ar y ffurflen dreth yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r ddaearyddiaeth hon, rydym wedi canfod, pan nad yw'r cod post yn cael ei nodi, bod gogwydd clir tuag at drafodiadau amhreswyl mwy. Gan na ellir dyrannu'r trafodiadau hyn i un o etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol nac i ardal MALlC, nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.

Eiddo sydd wedi’i werthu fwy nag unwaith mewn blwyddyn

Mae’n hystadegau Treth Trafodiadau Tir i gyd yn cyfrif trafodiadau yn y cyfnod amser, cyfnod lle y gallai'r un eiddo neu ddarn o dir fod wedi'i werthu fwy nag unwaith. Ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?

Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • prynu eiddo prynu-i-osod
  • prynu ail gartref neu gartref gwyliau
  • prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
  • cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo

Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.

Fel ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol am bobl sydd ag ail gyfeiriad, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi bwletin ystadegol a set data ar y pwnc hwn gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2011.