Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data a Swyddog Arweiniol Ystadegau, Awdurdod Cyllid Cymru.
Yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), mae ein tîm dadansoddi data bach yn cefnogi'r sefydliad yn fewnol - gan rannu data i hysbysu ein timau gweithredol, sy'n rheoli ein gwasanaethau treth. Mae ein tîm hefyd yn cyhoeddi ystadegau swyddogol am y ddwy dreth Gymreig ddatganoledig yr ydym yn eu casglu a'u rheoli, Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Mae'r coronafirws (COVID-19) yn gryn her i'n sefydliad ni, fel sefydliadau llywodraeth ehangach eraill yng Nghymru. Gall effeithio ar weithrediadau arferol ACC, gan gynnwys ein gallu i gyhoeddi ystadegau swyddogol.
Rydym yn gobeithio dilyn ein hamserlen a gyhoeddwyd ymlaen llaw ar gyfer cyhoeddi ystadegau. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni leihau neu newid y cynnwys, yn enwedig os yw ein hadnoddau staff yn cael eu lleihau oherwydd salwch neu'n cael eu defnyddio mewn mannau arall i gefnogi sefydliad ehangach Llywodraeth Cymru.
Os bydd angen i ni leihau cynnwys neu newid ein hamserlen, byddwn yn dryloyw ynglŷn â hyn. Byddwn yn defnyddio ein calendr rhyddhau i egluro'r newidiadau hynny. Er efallai y bydd yn rhaid i ni roi llai o rybudd o newidiadau nag arfer, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Byddwn yn sicrhau bod ein hystadegau o werth cyhoeddus, o ansawdd uchel a’u bod yn ystadegau y gellir ymddiried ynddynt.
Rydym yn cynhyrchu ein hystadegau gan ddefnyddio data o'r system ddigidol sy'n sail i'r trethi. Ar gyfer un o'n trethi, Treth Trafodiadau Tir, gallem weld gostyngiad yn nifer y trafodiadau eiddo wrth i fesurau ymbellhau cymdeithasol ddod i rym. Bydd hyn yn ei dro yn effeithio ar ein hystadegau. Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cynnwys gwybodaeth am unrhyw newidiadau yn ein datganiad ym mis Ebrill 2020. Byddwn yn adolygu cyhoeddiadau’r dyfodol ar ôl hynny.
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau hefyd wedi cyhoeddi datganiad am ei dull o reoleiddio ein gwaith ystadegol yn ystod y cyfnod hwn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol am ein hystadegau, anfonwch e-bost atom trwy data@acc.llyw.cymru.