Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiad o'r termau allweddol a ddefnyddir yn ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod).

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd

Rhaid i drethdalwyr hysbysu Awdurdod Cyllid Cymru am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle mae rhai trafodiadau lesoedd penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTTT/6030 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Wrth ffeilio ffurflen dreth Treth Trafodiadau Tir, mae gan y sefydliad sy'n talu’r dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno’r ffurflen a thalu'r dreth. Dim ond ar drafodiadau a gyflwynir i ni y gallwn ni gyflwyno ystadegau. Bydd hyn yn cynnwys data ar drafodiadau nad oeddent, o bosibl, yn hysbysadwy, er bod hyn yn annhebygol ar y cyfan.

Treth sy'n ddyledus

Cyfrifir swm y Dreth Trafodiadau Tir sy'n ddyledus ar gyfer trafodiadau hysbysadwy sydd wedi’u cyflwyno Awdurdod Cyllid Cymru . Mae'n cyfrif gan ddefnyddio cyfraddau treth a bandiau treth y Dreth Trafodiadau Tir, sy'n amrywio yn ôl y math o drafodiad. 

Yn gyffredinol, bydd y dreth sy'n ddyledus yn berthnasol i'r data ar y trafodiadau sy'n digwydd. Nid yw hyn yr un fath â'r arian a dderbyniwyd mewn gwirionedd, a all gyrraedd hyd at 30 diwrnod (neu fwy yn achos datganiadau hwyr) wedi i’r trafodiad ddigwydd.

Gwerth yr eiddo a drethir

Er mwyn cyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus, bydd pris prynu'r trafodiad (a elwir hefyd yn gydnabyddiaeth) yn cael ei gasglu ar y ffurflen dreth. 

Pan fydd rhydd-ddaliad yn cael ei brynu, yn y rhan fwyaf o achosion, y gydnabyddiaeth yw pris prynu'r eiddo. O dan rai amgylchiadau, bydd gwerth yr eiddo ar y farchnad yn cael ei gofnodi yn hytrach na'r pris a dalwyd. 

Ar gyfer pryniannau lesoedd preswyl mae'r gydnabyddiaeth ar ffurf premiwm, sef gwerth yr eiddo fel arfer. 

Fodd bynnag, ar gyfer lesoedd amhreswyl sydd newydd gael eu rhoi, y gydnabyddiaeth yw’r premiwm ar gyfer caffael y les. Yn ogystal, pan fo rhent yn daladwy o dan delerau’r les, bydd y ffigurau rhent yn cael eu defnyddio ar gyfer cyfrifo gwerth presennol net y les, sy'n cael ei drethu.

Mae mwy o ganllawiau ar y gwerth presennol net ar gael ym mharagraff DTTT/4080 ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Trafodiadau preswyl

Pryniannau eiddo preswyl yw'r rhain. Diffinnir eiddo preswyl fel:

  • adeilad a ddefnyddir fel un annedd neu ragor, neu sy’n addas i’w ddefnyddio felly, neu sydd yn y broses o gael ei godi neu ei addasu i’w ddefnyddio felly;
     
  • tir sy’n ardd neu’n diroedd, neu’n ffurfio rhan o ardd neu diroedd adeilad o'r fath (gan gynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ar dir o'r fath); a
     
  • buddiant mewn tir neu hawl dros dir sy'n bodoli, neu a fydd yn bodoli, er budd adeilad o'r fath neu dir o'r fath.

Gall trafodiadau preswyl fod naill ai ar y:

  • brif gyfradd; fel arfer pan nad yw'r prynwr eisoes yn berchen ar unrhyw anheddau eraill, neu pan fo'r prynwr yn prynu prif breswylfa yn lle ei brif breswylfa;
     
  • cyfraddau uwch; fel arfer pan fo'r prynwr eisoes yn berchen ar anheddau eraill, neu os nad yw'r prynwr yn unigolyn (er enghraifft, cwmni).

Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTTT/1050 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Trafodiadau amhreswyl

Mae’r rhain yn unrhyw drafodiadau nad ydynt yn rhai preswyl, megis trafodiadau’n ymwneud â siopau, swyddfeydd, neu dir amaethyddol.

Mae ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru ar drafodiadau amhreswyl hefyd yn cynnwys eiddo nad yw'n breswyl yn gyfan gwbl (sef eiddo sydd ag elfennau preswyl a masnachol).

Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTT/1060 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Rhyddhad

Gellir hawlio rhyddhad ar trafodiadau preswyl ac amhreswyl. Mae rhyddhadau’n gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Dylid nodi bod modd rhoi sawl rhyddhad ar un trafodiad. Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus i sero (a elwir yn rhyddhad llawn) neu o ganran neu swm penodol (a elwir yn rhyddhad rhannol).

Y rhyddhadau mwyaf cyffredin a hawlir fel arfer yw: 

  • rhyddhad grŵp
  • caffaeliadau sy’n cynnwys nifer o anheddau
  • rhyddhad i elusennau. 

Mae mwy o wybodaeth am y rhyddhadau a pha bryd y gallant fod yn berthnasol i'w gweld yn y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod Cyllid Cymru.

Trafodiadau cysylltiol

Mae trafodiadau cysylltiol yn cynnwys nifer o drafodiadau rhwng yr un prynwyr a'r un gwerthwyr lle maent yn rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau. Gall y trafodiadau hyn a all ddigwydd naill ai ar yr un pryd neu beidio. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys prynu rhydd-ddaliad a les yn ymwneud â’r un eiddo, yn ogystal â sawl eiddo yn cael eu gwerthu gan yr un gwerthwr a'u prynu gan yr un prynwr dros gyfnod o amser.

Dylai’r trethdalwr ddarparu’r wybodaeth ynglŷn â pha drafodiadau sy’n drafodiadau cysylltiol ar y ffurflen dreth, ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Lle nad yw Awdurdod Cyllid Cymru yn cael y wybodaeth hon, gall effeithio ar ansawdd ein dadansoddiad ar drafodiadau cysylltiol o fewn ein data ehangach. Yn flaenorol, gwnaethom eithrio trafodiadau cysylltiol yn ein dadansoddiad o ryddhadau yn adran 5 o'r datganiad ystadegol blynyddol a chwarterol. Ar ôl cynnal dadansoddiad o'r trafodiadau cysylltiol wedi’u rhyddhau hyn, mae gennym bellach lefel resymol o hyder yn ansawdd y data hyn. Yn ein datganiad ym mis Ebrill 2020, gwnaethom ychwanegu'r trafodiadau cysylltiol wedi’u rhyddhau hyn yn ôl i'n dadansoddiad o ryddhadau.

Am fwy o wybodaeth am drafodiadau cysylltiol, gweler y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Ad-daliadau cyfraddau uwch

Os, o fewn tair blynedd i gwblhau trafodiad Treth Trafodiadau Tir cyfraddau uwch, bod y prynwr yn gwerthu ei brif breswylfa flaenorol, mae'n bosibl y bydd yn gymwys i gael ad-daliad o'r gyfradd uwch ychwanegol o Dreth Trafodiadau Tir. Mae'n ofynnol bod yr annedd a brynwyd wedi'i fwriadu i gymryd lle eu prif breswylfa flaenorol.

Am fwy o wybodaeth am gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir ac ad-daliadau, gweler y canllawiau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru.

Dyddiadau (dod i rym, cyflwyno, olaf, cymeradwyo ad-daliad)

Defnyddir gwahanol ddyddiadau yn ystadegau’r Awdurdod i gyflwyno data dros amser.

Dyddiad dod i rym

Mae hyn pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad yn cael ei gwblhau ar eiddo.

Rydym yn cyflwyno data yn ein datganiadau ystadegol yn seiliedig yn bennaf ar y dyddiad y daw’r trafodiad i rym. Tra bod defnyddio'r dyddiad dod i rym mewn dadansoddiad yn gallu arwain at fwy o anwadalrwydd yn y data (er enghraifft, oherwydd newid mewn cyfraddau treth), a diwygiadau mewn datganiadau ac adroddiadau data olynol, y dyddiad hwn yw’r pwynt y digwyddodd y trafodiad ac nid dyddiad tybiannol yn y dyfodol pan dderbyniwyd y ffurflen dreth. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd y gyfres a grëir o'n dadansoddiad yn adlewyrchu newidiadau mewn cyfraddau treth a pholisi ar yr adeg y gwneir unrhyw newidiadau.

Am fwy o wybodaeth, gweler paragraff DTTT/1040 yn ein canllawiau technegol Treth Trafodiadau Tir.

Dyddiad cyflwyno

Dyma'r dyddiad y cyflwynir ffurflen dreth i Awdurdod Cyllid Cymru. Mae cyhoeddiadau ystadegol eraill yn y DU yn defnyddio'r dyddiad cyflwyno i gynhyrchu eu hystadegau. Felly, rydym wedi cynnwys rhai ystadegau y gellir eu cymharu yn ôl dyddiad cyflwyno yn adran 10 ein datganiad ystadegol blynyddol.

Dyddiad olaf

Gellir cyflwyno ffurflenni Treth Trafodiadau Tir ar unrhyw adeg. Wrth gynhyrchu ein hystadegau misol, chwarterol a blynyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, rydym yn defnyddio trydydd dydd Llun y mis fel y 'dyddiad olaf'. Nid yw ffurflenni treth na diwygiadau a dderbynnir ar ôl yr amser hwn yn cael eu cynnwys yn ein hystadegau a gyhoeddir ar gyfer y mis hwnnw.

Dyddiad cymeradwyo ad-daliad

Yn adran 6 ein datganiad ystadegol blynyddol, rydym yn cynnwys rhai ystadegau ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl y dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan Awdurdod Cyllid Cymru.