Sut y mae ystadegau Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod) yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, ymddiriedaeth ac ansawdd.
Cynnwys
Gwerth
Cyflwyniad o Dreth Trafodiadu Tir
Cyflwynon ni’r ystadegau hyn er mwyn diwallu gofyniad y defnyddiwr ar gyfer data Dreth Trafodiadau Tir, ar ôl sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Gweler rhagor o wybodaeth am y dreth trafodiadau tir.
Ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi yng ngwledydd eraill y DU
Mae Gyllid a Thollau EM a Cyllid yr Alban yn cyhoeddi ystadegau am y trethi cyfatebol yn Lloegr a’r Alban.
- Ystadegau Treth Dir y Dreth Stamp (gan gynnwys ystadegau blaenorol yng Nghymru)
- Ystadegau Trafodiadau Eiddo Msiol ar gyfer y Deyrnas Unedig
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ac Adeiladau Misol ar gyfer yr Alban
Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gallai nifer y trafodiadau yng Nghymru ym mis diweddaraf y cyhoeddiad Trafodiadau Eiddo Misol fod ychydig yn wahanol i’r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae hyn oherwydd yng nghyhoeddiad y DU, mae ffactor grosio wedi’i ddefnyddio ar yr amcangyfrifon cychwynnol ar gyfer y mis er mwyn amcangyfrif nifer y trafodiadau ar gyfer y mis hwnnw yn y pen draw.
Cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir â data gwerthu eiddo a ddefnyddir ym Mynegai Prisiau Tai y DU (HPI)
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cyhoeddi ystadegau misol ar brisiau tai yn y DU. Mae'r SYG yn defnyddio amryw o ffynonellau data i lunio Mynegai Prisiau Tai y DU (HPI). Mae hyn yn cynnwys data o Gofrestrfa Tir EM ar gofrestriadau tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Ochr yn ochr ag ystadegau HPI, mae'r SYG yn cyhoeddi niferoedd misol y gwerthiannau eiddo preswyl.
Rydym wedi cymharu nifer y gwerthiannau eiddo o'r ffynhonnell hon â'n hystadegau Treth Trafodiadau Tir ni. Er bod y tueddiadau’n weddol debyg yn y ddwy ffynhonnell, mae nifer y trafodiadau Treth Trafodiadau Tir preswyl yn gyffredinol uwch nag yn nata gwerthiannau’r HPI. Rydym yn credu mai'r prif reswm am y gwahaniaeth yw bod y SYG yn eithrio rhai trafodiadau penodol wrth gynhyrchu'r ystadegau HPI. Rydym yn credu mai'r ddwy brif ffactor yw:
- Trafodiadau masnachol eiddo preswyl (sef, pan fo'r prynwr neu'r gwerthwr yn gorff corfforaethol, yn gwmni neu’n fusnes). Gallwn roi cyfrif bras am y rhain yn y data Treth Trafodiadau Tir, a gellir gweld bod y trafodiadau hyn i gyfrif am rywfaint o'r gwahaniaeth.
- Gwerthiannau nad oeddent am werth llawn y farchnad. Er na allwn gyfrif am y rhain yn hawdd yn y data Treth Trafodiadau Tir, mae gwerth cyfartalog eiddo mewn trafodiadau Treth Trafodiadau Tir yn gyffredinol is nac yn yr ystadegau HPI (er bod nifer y trafodiadau’n uwch). Mae hyn yn awgrymu bod cynnwys trafodiadau gwerth is yn y data Treth Trafodiadau Tir yn cael effaith ar y gymhariaeth.
Mae'r trafodiadau uchod yn cael eu cynnwys yn ystadegau Treth Trafodiadau Tir, ond nid yn ystadegau’r HPI.
Mae'r SYG hefyd yn eithrio rhai trafodiadau eraill o'r HPI, sydd yn ein barn ni’n cael llai o effaith ar y gymhariaeth. Mae mwy o wybodaeth am yr eithriadau hyn ar gael yn adroddiadau ‘About the UK House Price Index’.
Dyddiadau a ddefnyddir yn ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir
Mae data sy’n cael ei gyflwyno yn ein datganiad ystadegol hwn yn seiliedig ar y dyddiad pryd daw’r trafodiad i rym. Y dyddiad dod i rym yw pryd mae’r dreth yn dod yn gymwys i’r thalu, fel arfer ar adeg cwblhau trafodiad ar eiddo. Er bod defnyddio’r dyddiad dod i rym wrth ddadansoddi yn gallu arwain at fwy o anwadalwch yn y data (er enghraifft, oherwydd newid yn y cyfraddau trethiant), a diwygiadau mewn datganiadau ac adroddiadau data wedi hynny, mae’r dyddiad hwn yn ymwneud ag adeg pryd digwyddodd y trafodiad ac nid yw’n rhyw ddyddiad yn y dyfodol pryd daeth y ffurflen dreth i law. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd y gyfres a grëwyd o’n dadansoddiad ni yn adlewyrchu newidiadau yn y cyfraddau treth a pholisi ar yr adeg pryd mae unrhyw newidiadau’n digwydd.
Rydyn ni’n ymwybodol fod rhai cyhoeddiadau yn y DU yn seilio eu dadansoddiadau ar ddyddiad cyflwyno’r ffurflen dreth. Rydym wedi felly yn cyhoeddi rhai ffigyrau y mae modd eu cymharu â gwledydd eraill y DU (gan ddefnyddio’r dyddiad cyflwyno) yn ein ystadegau Treth Trafodiadau Tir blynyddol.
Diwygiadau i ac amseru ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir
Mae ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd. Mae effaith y diwygiadau’n cael ei ddadansoddi mewn ystadegau Treth Trafodiadau Tir misol a chwarterol, a darperir sylwebaeth yn yr ystadegau Treth Trafodiadau Tir chwarterol.
Rydym yn egluro amseriad ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ein polisi ar allbynnau ystadegol.
Dibynadwyedd
Rydym wedi cynhyrchu yr ystadegau hyn yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Fel cynhyrchydd newydd o ystadegau swyddogol, rydym yn datblygu ein prosesau cyhoeddi ystadegol, a chyhoeddwyd yn blaenorol ein polisi ar allbynnau ystadegol. Mae hyn yn cynnwys:
- y safonau proffesiynol a ddilynwyd wrth greu’r ystadegau hyn;
- sut mae Swyddog Arweiniol Ystadegau yr Awdurdod yn rheoli cynnwys ac amseru’r allbynnau’n annibynnol;
- sut rydyn ni’n rhoi gwybod i ddefnyddwyr am allbynnau sydd ar y gweill;
- sut caiff data ei gasglu, ei storio a’i reoli; a
- bydd staff sy’n ymwneud â chynhyrchu ystadegau’n mynd drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus yn unol â fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil a fframwaith cymwyseddau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
Ansawdd
Rydym wedi asesu’r budd a’r pryderon posibl o ran ansawdd yn unol â chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddefnyddio data gweinyddol. Y tabl isod yw ein hasesiad cyfredol.
Ffynhonnell data | Proffil budd y cyhoedd | Lefel y risg o bryderon ynghylch ansawdd | Lefel yr wybodaeth sicrwydd a ddatblygir |
---|---|---|---|
Data cofrestru’r Dreth Trafodiadau Tir | Isel | Isel | A1 – sicrwydd sylfaenol |
Ffurflenni treth y Dreth Trafodiadau Tir | Canolig | Isel | A2 – sicrwydd uwch |
Er baratoi bob datganiad ystadegol, rydym wedi parhau i weithio’n agos gyda staff gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru i ganfod materion pellach yn ystod casglu data a phrosesu ffurflenni unigol. Rydym yn parhau i ddefnyddio systemau rheoli data sy'n dadansoddi ffurflenni treth yn syth ac sy'n tynnu sylw at feysydd a allai beri pryder. Pan mae ffurflen dreth yn cael ei newid gan dîm gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru, cysylltir â’r sefydliad sy’n llenwi'r ffurflen i gadarnhau'r newid.
Rydyn ni hefyd yn gweithio’n barhaus gyda chyd-weithwyr mewnol i ganfod opsiynau ar gyfer lliniaru’r materion hyn ar adeg casglu ffurflenni yn y dyfodol, a bydd hynny’n arwain yn anuniongyrchol at ansawdd gwell i ddata.
Mae tîm gweithrediadau’r Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn ystyried risgiau i’r dreth a gesglir. Gallai mynd i'r afael â risgiau wella ansawdd y data’n anuniongyrchol mewn rhai meysydd.
Mae’n werth nodi hefyd bod y rhan fwyaf o’r data am y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sy’n gweithio ar ran y trethdalwyr, gyda rhai ohonynt yn cyflwyno trafodiadau yn rheolaidd (mae tua 10 y cant o’r sefydliadau yn darparu pedair ran o bump o’r ffurflenni treth). Mae hyn wedi arwain at welliannau yn ansawdd y data wrth i’r Awdurdod Cyllid Cymru ddatblygu perthynas â nifer o sefydliadau.
Mae 3,300 o sefydliadau yn cofrestru ar gyfer cyflwyno’r Dreth Trafodiadau Tir ar-lein, gyda chyfanswm oddeutu 9,300 o ddefnyddwyr ar-lein wedi’u cofrestru. Rhoddir enghreifftiau isod o faterion ansawdd rydyn ni wedi’u canfod yn flaenorol, a’n hymateb hyd yma.
Yn ychwanegol i’r enghreifftiau hyn, rydym hefyd wedi ystyried yr adrodd cyfyngedig ar rai trafodiadau mwy, a allai fod mewn perygl o gael eu datgelu. Gydag unrhyw drafodiad o faint digonol, mae risg o ddatgelu rhywbeth amdanynt wrth gyhoeddi ystadegau cyfansymiol.
Ein dull ni yw cydbwyso'r risg honno yn erbyn yr angen i gyhoeddi ffigwr ystyrlon ar gyfer cyfanswm y dreth a godir o dan y Dreth Trafodiadau Tir.
Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi creu categori bwced ar gyfer pob blwyddyn, ac yn y categori hwn, dim ond cyfanswm y dreth sy'n ddyledus o'r holl drafodiadau hyn sy'n cael ei adrodd, wedi'i dalgrynnu â llai o fanylder (i'r miliwn o bunnoedd agosaf). Ni fydd y bwced hwn yn datgelu dim heblaw'r flwyddyn y digwyddodd y trafodiad.
Ni chyflwynir nifer y trafodiadau sy'n mynd i'r bwced, cyfanswm gwerth y tir/eiddo sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hynny, nac unrhyw ymdeimlad o ddosbarthiad y trafodiadau (e.e. rhwng preswyl ac amhreswyl).
Ystyriwyd dull gwahanol o adael y trafodiadau bwced hyn allan yn gyfan gwbl. Fodd bynnag, byddai hyn yn rhoi darlun anghyflawn o refeniw’r Dreth Trafodiadau Tir. At hynny, yn gyfreithiol bydd angen i unrhyw daliadau treth sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn ymddangos yng nghyfrifon blynyddol Awdurdod Cyllid Cymru. Byddai unrhyw wahaniaeth rhwng y cyfrifon hynny a'n hystadegau cyhoeddedig (pe byddem yn eithrio'r dreth sy'n ddyledus) yn datgelu gwerth y bwced gyda chywirdeb cyfyngedig beth bynnag. Felly, ystyrir bod y dull a fabwysiadwyd gennym o gynnwys y bwced yn un cymesur a chytbwys.
Yn ein dadansoddiad cyhoeddedig o drafodion yn ôl band gwerth cul, rydym wedi profi straen y defnydd o dalgrynnu i’r £100k agosaf ar rai o'r modelau rhagweld a chanfod nad oedd fawr o effaith pan ostyngwyd hyn i £10k.
Ansawdd y data daearyddol
Mae ein hystadegau blynyddol yn darparu dadansoddiad fesul ardal awdurdod lleol ac ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (Malc). Cyhoeddir y data hwn hefyd ar wefan StatsCymru ynghyd â data ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'n orfodol llenwi’r maes awdurdod lleol ar bob ffurflen dreth, tra bod y cod post yn faes dewisol ar y ffurflen dreth. Dim ond ar gyfer canfod yr etholaeth Cynulliad Cenedlaethol neu’r ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru lle digwyddodd y trafodiad y gallwn ddefnyddio’r cod post ar y ffurflen dreth. Mae'r cod post naill ai ar goll neu'n annilys ar bron i 5% o'r ffurflenni treth.
Yn ein dadansoddiad o ddata awdurdodau lleol, rydym yn codi'r awdurdod lleol o'r cod post drwy edrych ar Gronfa Ddata Codau Post y Swyddfa Ystadegau Genedlaethol (NSPD). Yna rydym yn cymharu'r wybodaeth hon â'r awdurdod lleol a ddewiswyd ar y ffurflen dreth.
- Mewn 95% o achosion, mae'r awdurdod lleol sy'n deillio o'r cod post yn cyfateb i'r awdurdod lleol a nodwyd ar y ffurflen dreth.
- Lle nad yw hyn yn wir, rydym yn edrych i weld a yw'r ddau awdurdod lleol yn gyfagos (er enghraifft, mae Caerdydd a Chasnewydd yn gyfagos):
- os ydynt (yn gyfagos), rydym yn defnyddio'r awdurdod lleol a nodwyd ar y ffurflen dreth ar gyfer ein hystadegau. Mae hyn yn wir am tua 0.2% o'r ffurflenni treth.
- os nad ydynt (yn gyfagos), rydym yn defnyddio'r awdurdod lleol a godwyd o’r cod post ar gyfer ein hystadegau. Mae hyn yn wir am llai na 0.1% o'r ffurflenni treth. Mewn amgylchiad fel hyn, rydym yn credu fod y cod post yn fwy tebygol o fod yn gywir a bod yr awdurdod lleol a nodwyd ar y ffurflen dreth yn fwy tebygol o fod wedi cael ei ddewis ar gam.
- Yn y 5% arall o achosion lle mae'r cod post ar goll neu'n annilys, rydym yn cymryd yr awdurdod lleol fel y'i nodwyd ar y ffurflen dreth.
Mae gan y rhan fwyaf o drafodiadau un eitem o dir yn gysylltiedig â nhw, er bod gan rai trafodiadau fwy nag un darn o dir yn gysylltiedig. Rhaid i ni ddefnyddio manylion pob eitem o dir i benderfynu ar yr awdurdod lleol. Er mwyn osgoi dyblygu trafodiadau sydd â mwy nag un darn o dir, mae ffracsiwn (sy’n hafal i un wedi'i rannu â nifer yr eitemau tir) wedi'i ddodi ar y trafodiad ac ar y dreth sy'n ddyledus ar gyfer pob un. Mae hyn yn sicrhau bod y data'n cael ei dosrannu rhwng yr awdurdodau lleol perthnasol tra'n sicrhau cysondeb â chyfanswm y trafodiadau a gwerth y dreth sy'n ddyledus ar lefel Cymru.
Yn ein datganiad ystadegol blynyddol, cyflwynir data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a’r dreth sy'n ddyledus, tra bod data awdurdodau lleol yn cael ei chyflwyno ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a bod risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain. Yn y dyfodol, byddwn yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.
Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol a Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Gan fod y cod post ar y ffurflen dreth yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo'r ddaearyddiaeth hon, rydym wedi canfod, pan nad yw'r cod post yn cael ei nodi, bod gogwydd clir tuag at drafodiadau amhreswyl mwy. Gan na ellir dyrannu'r trafodiadau hyn i un o etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol nac i ardal MALlC, nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.
Eiddo sydd wedi’i werthu fwy nag unwaith mewn blwyddyn
Mae’n hystadegau Treth Trafodiadau Tir i gyd yn cyfrif trafodiadau yn y cyfnod amser, cyfnod lle y gallai'r un eiddo neu ddarn o dir fod wedi'i werthu fwy nag unwaith. Ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn ystod Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Pryd mae prynwyr yn talu cyfraddau uwch?
Gall nifer o ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:
- prynu eiddo prynu-i-osod
- prynu ail gartref neu gartref gwyliau
- prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
- cwmnïau fel darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo
Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.
Fel ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol am bobl sydd ag ail gyfeiriad, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi bwletin ystadegol a set data ar y pwnc hwn gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2011.