Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynnydd dros dro i fand cyfradd sero’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl yng Nghymru o 27 Gorffennaf 2020.
Mae'r newid hwn yn golygu, o 27 Gorffennaf 2020:
- Bydd y band cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfradd yn cynyddu o £180,000 i £ 250,000, dylai'r holl drafodiadau sy'n cwblhau cyn hynny ddefnyddio'r cyfraddau a'r bandiau cyfredol
- Bydd y cyfraddau a'r bandiau newydd yn berthnasol tan 31 Mawrth 2021
Nid yw’r dreth a delir ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch neu drafodiadau amhreswyl wedi newid.
Cyfraddau a Bandiau
Gweinidogion Cymru sy'n pennu'r cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Maent yn cael eu cymeradwyo gan Senedd Cymru.
Gallwch ddefnyddio'r tabl isod i weithio allan faint o TTT sy'n ddyledus o 27 Gorffennaf 2020. Rydym hefyd wedi diweddaru’n tudalen gyfraddau a bandiau TTT.
Gallwch gyfrifo faint o TTT rydych yn ei thalu ar hyn o bryd drwy ddefnyddio’n cyfrifiannell dreth swyddogol.
Rydym yn diweddaru ein cyfrifiannell dreth, yn ogystal â gwasanaethau ar-lein eraill fel blaenoriaeth. Byddwn yn cadarnhau pan fydd ein gwasanaethau wedi’u diweddaru.
Trothwy pris | Prif Gyfradd Breswyl |
---|---|
Y gyfran hyd at |
0% |
Y gyfran dros £250,000 |
5% |
Y gyfran dros £400,000 |
7.5% |
Y gyfran dros £750,000 |
10% |
Y gyfran dros £1,500,000 |
12% |
Trothwy pris | Cyfradd Breswyl Uwch |
---|---|
Y gyfran hyd at |
3% |
Y gyfran dros £180,000 |
6.5% |
Y gyfran dros £250,000 |
8% |
Y gyfran dros £400,000 |
10.5% |
Y gyfran dros £750,000 |
13% |
Y gyfran dros £1,500,000 |
15% |
Trothwy pris | Cyfradd Amhreswyl |
---|---|
Y gyfran hyd at |
0% |
Y gyfran dros £150,000 |
1% |
Y gyfran dros £250,000 |
5% |
Y gyfran dros £1,000,000 |
6% |
Trothwy gwerth presennol net (NPV) | Cyfradd rhent amhreswyl |
---|---|
Y gyfran hyd at |
0% |
Y gyfran dros £150,000 |
1% |
Y gyfran dros £2,000,000 |
2% |
Gwybodaeth a chefnogaeth
I gael mwy o wybodaeth am TTT, darllenwch ein Canllaw Treth Trafodiadau Tir neu gallwch gysylltu â ni.