Neidio i'r prif gynnwy

3. Israddedigion rhan-amser

Gall israddedigion rhan-amser cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf wneud cais am gymorth ariannol bob blwyddyn i helpu gyda’u costau byw a'u ffioedd dysgu. Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio cwrs sydd â dwysedd o 25% o leiaf i fod yn gymwys am gymorth. 

Costau byw

Mae grant a benthyciad cynhaliaeth ar gael ar gyfer costau byw. Mae'r cymorth yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr, fel arfer mewn 3 rhandaliad, ar ôl iddo gofrestru ar y cwrs ac ar ôl i'r brifysgol neu'r coleg gadarnhau ei bresenoldeb bob tymor.

Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs i gael mynediad at fenthyciad cynhaliaeth myfyriwr israddedig. Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran i gael grant cynhaliaeth ar gyfer costau byw. 

Bydd swm y grant cynhaliaeth a'r benthyciad yn dibynnu ar pa mor ddwys yw'r cwrs ac incwm yr aelwyd.

Ffioedd dysgu

Gall myfyrwyr rhan-amser cymwys sy'n astudio ar ddwysedd cwrs o leiaf 25% wneud cais am fenthyciad i dalu eu ffioedd dysgu. Caiff Benthyciadau Ffioedd Dysgu eu talu mewn tri rhandaliad yn uniongyrchol i'r brifysgol neu goleg ar ôl i bresenoldeb y myfyriwr gael ei gadarnhau.

Ni fydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr rhan-amser dalu unrhyw beth ymlaen llaw am eu cwrs. Os bydd prifysgol neu goleg yn codi tâl sy'n fwy na'r Benthyciad Ffioedd Dysgu sydd ar gael, bydd rhaid i'r myfyriwr ariannu'r gwahaniaeth (gallai hyn ddigwydd mewn prifysgolion neu golegau a gaiff eu hariannu'n breifat).

Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru wneud cais am Fenthyciad Ffioedd Dysgu rhan-amser.

Nid yw Benthyciad Ffioedd Dysgu yn seiliedig ar incwm yr aelwyd ac nid oes cyfyngiad oedran.

Cymorth ychwanegol

Ochr yn ochr â chymorth ar gyfer costau byw a ffioedd dysgu, efallai y bydd myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio ar ddwysedd o 25% neu fwy yn gallu cael cymorth ariannol ychwanegol yn dibynnu ar eu sefyllfa bersonol:

  • Grant Gofal Plant: gallai myfyrwyr dderbyn grant fel cyfraniad tuag at gost eu gofal plant os oes ganddynt blant mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Bydd y swm y gall myfyrwyr ei dderbyn hefyd yn dibynnu ar ddwysedd eu cwrs ac incwm eu haelwyd, hyd at yr uchafswm symiau rhan-amser sydd ar gael. Ni fydd myfyrwyr yn gymwys os yw'r myfyriwr neu'i bartner eisoes yn derbyn yr elfen gofal plant o Gredyd Treth Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, Lwfans Gofal Plant y GIG, neu Ofal Plant Di-dreth gan CThEF.
  • Lwfans Dysgu i Rieni - gall myfyrwyr dderbyn cymorth ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chwrs astudio os oes ganddynt blentyn neu blant dibynnol. Bydd yr uchafswm sydd ar gael yn dibynnu ar incwm aelwyd y myfyriwr a dwysedd eu cwrs.
  • Grant Oedolion Dibynnol - gall myfyrwyr wneud cais am grant os bydd ganddynt bartner neu oedolyn arall sy'n dibynnu'n ariannol arnynt. Bydd yr uchafswm sydd ar gael yn dibynnu ar incwm aelwyd y myfyriwr a dwysedd eu cwrs.
  • Mae Grant Myfyrwyr Anabl ar gael i fyfyrwyr sydd ag anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anabledd dysgu. 

Faint o gyllid y byddaf yn ei gael

Mae'r symiau cyllid diweddaraf ar gyfer myfyrwyr cymwys yn cael eu cyhoeddi yn y 'Cyfraddau cymorth i fyfyrwyr israddedig', sydd ar gael drwy dudalen Hysbysiadau Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru ar y we. Mae'r tablau yn darparu enghreifftiau dangosol yn unig a bydd y swm a dderbynnir yn cael ei gadarnhau gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Sut y galla i wneud cais

Dylid gwneud ceisiadau am gyllid drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar X (Twitter) ac Facebook am y newyddion diweddaraf. 

Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau

Efallai y bydd rhai prifysgolion a cholegau yn cynnig eu bwrsariaethau, ysgoloriaethau a chronfeydd caledi eu hunain. Gall Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr roi gwybod i fyfyrwyr pa gymorth ariannol ychwanegol a allai fod ar gael gan eu prifysgol neu goleg. 

Mae'n bosibl y gall myfyrwyr rhan-amser sy'n astudio cwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd, gael bwrsariaeth gan y GIG. Ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau i Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth. Nid yw myfyrwyr rhan-amser yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr os ydynt yn cael bwrsariaeth y GIG.