Neidio i'r prif gynnwy

5. Grantiau Dysgwyr Anabl

Mae'r rhain ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig cymwys i dalu am y costau ychwanegol sy'n gysylltiedig ag astudio y gallech eu cael o ganlyniad uniongyrchol i anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol. Nid yw'r swm a gewch yn seiliedig ar incwm eich aelwyd. Mae'n seiliedig ar eich anghenion unigol.

Uchafswm y grant yn 2024 i 2025 fydd £33,460 ac mae’n cwmpasu’r gwariant canlynol:

  • helpwr anfeddygol
  • cyfarpar arbenigol mawr
  • gwariant arall sy'n gysylltiedig ag anabledd

Bydd lwfans teithio ar wahân heb ei gapio hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd yn ysgwyddo costau teithio ychwanegol sy’n gysylltiedig ag astudio o ganlyniad i anabledd.

I gael gwybod am gyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru.