Neidio i'r prif gynnwy

7. Gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr

Caiff cyllid i fyfyrwyr o Gymru, neu, mewn rhai achosion, sy’n astudio yng Nghymru, sy'n mynd i addysg uwch yn y DU ei ddarparu drwy Gyllid Myfyrwyr Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Gallwch wneud cais am grantiau a benthyciadau i helpu gyda'ch costau byw, a benthyciad i dalu am eich ffioedd dysgu.

Grant a benthyciadau cynhaliaeth

Bydd pob myfyriwr israddedig cymwys llawn-amser sy’n fyfyriwr am y tro cyntaf yn cael grant o £1,000 y flwyddyn o leiaf i helpu gyda chostau byw, a benthyciad ar ben hynny os bydd angen. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn cael cymorth cyfatebol ar sail pro rata.

Efallai y bydd myfyrwyr o aelwydydd sydd ar incwm is yn gymwys am grant mwy.  Defnyddir prawf modd i benderfynu pwy sy'n gymwys am gymorth ychwanegol, ac ystyrir incwm yr aelwyd. Bydd y swm y gall myfyrwyr rhan-amser ei gael yn seiliedig hefyd ar ddwyster eich astudiaethau.

Mae’n bosibl y caiff hyd at £1,500 ei dynnu oddi ar falans benthyciad cynhaliaeth myfyrwyr amser llawn pan wneir yr ad-daliad cyntaf o dan gynllun canslo rhannol Llywodraeth Cymru.

Benthyciadau ffioedd dysgu

Bydd pob myfyriwr israddedig cymwys sy'n dechrau mewn addysg uwch ers mis Medi 2018 yn gallu gwneud cais am fenthyciad i dalu am ffioedd dysgu. Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dcalu dim ymlaen llaw am eu cwrs.

Pryd i wneud cais

Gall cais am gyllid myfyrwyr gael ei wneud yn uniongyrchol drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Gallwch wneud cais drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Bydd y system ymgeisio ar-lein ar gyfer astudiaethau llawn-amser yn 2024 i 2025 yn agor ym mis Mawrth.

Bydd y systemau ymgeisio ar gyfer astudiaethau rhan-amser ac ôl-radd yn 2024 i 2025 yn agor yn yr haf.

Mae’n well gwneud cais yn gynnar i sicrhau bod eich cyllid wedi’i drefnu ar gyfer dechrau’r tymor. Nid oes angen i’ch lle ar y cwrs fod wedi’i gadarnhau cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr. Gallwch ddiweddaru’ch cais pan fyddwch yn gwybod ble fyddwch yn astudio, neu dynnu’r cais yn ôl os oes angen.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y gallwch wneud cais, dilynwch Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter a Facebook neu gosodwch nod tudalen i’r wefan. Cyhoeddir y dyddiadau cau yn ystod y cyfnod ymgeisio i roi gwybod ichi pryd i wneud cais i sicrhau eich cyllid ar gyfer dechrau'r tymor. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau gallwch wneud cais o hyd. Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybod sut i gyflwyno cais ar ôl y dyddiad cau neu ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd.

Mae'r holl ffigurau yn ddarostyngedig i reoliadau.