Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Gall mynd i addysg uwch wella eich cyfleoedd o ran eich gyrfa a'ch potensial i ennill cyflog da; ond mae'n golygu buddsoddiad ariannol.

Ers mis Medi 2018 maebydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf yn medru gwneud cais am becyn hael o gymorth er mwyn helpu i ariannu eu costau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio.

Mae myfyrwyr cyrsiau ôl-radd sy’n gymwys yn medru gwneud cais am fenthyciad sy'n cyfrannu at y costau. Ni fydd wedi’i ddyrannu’n benodol ar gyfer ffioedd a chostau byw.

Mae’r pecyn cymorth cyllid yn golygu y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a threulio llai o amser yn poeni am gael dau ben llinyn ynghyd. Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu dim ymlaen llaw am eu cwrs.

Mae'r holl ffigurau yn ddarostyngedig i reoliadau.