Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn dileu hyd at £1,500 o ddyled myfyrwyr sy'n deillio o fenthyciad cynhaliaeth ar gyfer cwrs israddedig llawnamser. Caiff hyn ei wneud ar gyfer benthyciad cynhaliaeth cymwys, hy benthyciad cynhaliaeth cyntaf y myfyriwr a drefnwyd ar gyfer cwrs israddedig llawnamser. Caiff y cynllun dileu ei roi ar waith pan fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad.