Yn y canllaw hwn
6. Myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ddarparu cymorth i wladolion yr UE ac aelodau o'u teuluoedd nad ydynt wedi setlo yn y DU. Bydd y gwladolion hynny o’r UE a ddechreuodd gyrsiau cyn 1 Awst 2021 yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth ac i gael statws ffioedd cartref gydol eu cwrs.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac o’r Swistir sydd â hawliau dinasyddion o dan y gwahanol gytundebau ymadael, aelodau o deuluoedd pobl o Ogledd Iwerddon, plant gwladolion y Swistir, plant gweithwyr o Dwrci, gwladolion y DU sy’n byw yn yr AEE a’r Swistir, gwladolion y DU a’r UE sy’n breswylwyr yn Gibraltar, a dinasyddion Prydain ac Iwerddon o dan drefniant yr Ardal Deithio Gyffredin a fydd yn dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2021. Mae hon yn sefyllfa gymhleth iawn a chynghorir darpar fyfyrwyr i drafod eu hamgylchiadau gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru a'u Prifysgol.
Bydd y cymorth i rai grwpiau yn gyfyngedig i gyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2028. Rhoddir statws ffioedd cartref i bob grŵp yng Nghymru. Yn ogystal, bydd gwladolion y DU sy’n byw yn nhiriogaethau tramor Prydain yn gymwys am statws ffioedd cartref, yn ogystal â, tan 1 Ionawr 2028, wladolion y DU sy’n byw yn nhiriogaethau tramor yr UE. Yn unol â’r arfer, bydd yn rhaid bodloni’r amodau preswylio.
Dylai myfyrwyr gyfeirio at y canllaw ar y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i gael gwybod mwy am sut i wneud cais.